Gall siaradwyr Cymraeg sydd mewn perygl o golli eu llais oherwydd rhesymau meddygol fel clefyd Motor Niwron neu ganser y gwddf barhau i gyfathrebu yn Gymraeg, diolch i ddatblygiad technolegol arloesol sydd wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru drwy’r Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg.
Mae Lleisiwr yn galluogi pobl i ‘fancio’ eu llais ac yna’n creu llais synthetig personol ar eu cyfer.
Yn ôl Mrs Roberts, un o ddefnyddwyr y system:
“Mae Lleisiwr wedi bod yn gaffaeliad i mi gan ei fod yn golygu bod modd i mi barhau i gyfathrebu gan ddefnyddio llais synthetig sy’n swnio fel fi.”
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Mark Drakeford:
“Does dim dwywaith bod colli’ch llais yn ergyd anferthol i bobl, ac mae datblygiadau technolegol yn gallu eu helpu i gyfathrebu unwaith eto yn ystod y cyfnod bregus hwn.
“Cyn hyn, doedd dim modd bancio eich llais yn Gymraeg. Rwy’n hynod o falch o gefnogi prosiect sy’n galluogi pobl i barhau i gyfathrebu â’u ffrindiau a’u teuluoedd yn eu hiaith eu hun.”
Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor sy’n gyfrifol am ddatblygu Lleisiwr. Dywedodd Arweinydd Technolegau Iaith y Ganolfan, Gruffudd Prys:
“Mae mor bwysig i'r lleisiau hyn fod yn ddwyieithog oherwydd ein bod yn tueddu i newid yn ôl ac ymlaen rhwng ein hieithoedd drwy’r dydd. Rwy'n credu'n gryf na ddylech orfod newid eich meddalwedd bob tro y byddwch am newid eich iaith.
"Rydym am i safon recordiadau llais fod gystal ag y bo modd, ac felly rydym yn awyddus iawn i gleifion gysylltu â ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddatblygu'r gwasanaeth. Os byddai aelod o'r teulu neu ffrind i chi yn elwa o hyn, rhowch wybod iddynt."
Mae technoleg Gymraeg yn elfen allweddol o strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Fel rhan o’r gwaith hwn, caiff grantiau eu dyrannu tuag at brosiectau arloesol gyda'r nod o gynyddu defnydd pobl o'r iaith o ddydd i ddydd ac i hybu technoleg sy'n cefnogi defnydd o’r Gymraeg.