Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Cyflwyniad

Mae’r dolenni’n rhoi manylion fel cwmpas, cryfder a chyfyngiadau’r data, a hefyd y prosesau a ddefnyddir i gynhyrchu a chyhoeddi’r setiau data y tu ôl i’r ystadegau a ddyfynnwyd yn yr adroddiad cynnydd, a’r adroddiad atodol ar ethnigrwydd.

Er bod y rhan fwyaf o’r naratif yn adroddiad Llesiant Cymru yn dod o ddangosyddion cenedlaethol, mae rhywfaint o’r data cyd-destunol yn dod o ystadegau swyddogol eraill neu ystadegau a datganiadau ffeithiol sy’n gysylltiedig â pholisïau neu raglenni penodol, lle’r ydym o’r farn eu bod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. 

Mae data o ffynonellau ac eithrio Ystadegau Swyddogol yn cael eu defnyddio yn yr adroddiad Llesiant Cymru ar gyfer cyd-destun, ond ni allwn bob amser sicrhau ansawdd data yn drylwyr. Gan fod y data yn yr adroddiad cynnydd wedi dod o amrywiaeth o setiau data, bydd lefel yr wybodaeth o ansawdd sydd ar gael yn amrywio ym mhob achos. Lle bo gan y ffynonellau data gwreiddiol adroddiadau ansawdd manwl, rydym wedi darparu dolenni i’r adroddiadau hynny. Lle nad oes adroddiadau ansawdd ar gael ar gyfer ffynhonnell, mae gwybodaeth ychwanegol, lle bo ar gael, wedi ei chynnwys yn y ddogfen hon.

Mae’r Adroddiad Ansawdd ar gyfer y Dangosyddion Cenedlaethol yn cynnwys gwybodaeth am ansawdd y data a ddefnyddir ar gyfer y dangosyddion. Gan hynny, nid yw’r ffynonellau data hynny wedi eu cynnwys yn y ddogfen hon.

Dolenni defnyddiol

Cyflawniad academaidd disgyblion 4 i 14 oed mewn pynciau craidd

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer

Mae adran 82 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 (deddfwriaeth gan y DU) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol adolygu’r ansawdd aer presennol a’r ansawdd aer tebygol yn ei ardal yn y dyfodol. Mae adran 83 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddynodi ardal rheoli ansawdd aer pan na fydd amcan ansawdd aer cenedlaethol yn cael ei gyflawni, neu pan na fydd yn debygol o gael ei gyflawni. Mae adran 84 wedyn yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer yr Ardal.

Mae’r tabl cysylltiedig yn crynhoi’r awdurdodau lleol ledled Cymru sydd wedi datgan bod ganddynt ardaloedd rheoli ansawdd aer gweithredol.

Adroddiad ar beryglon cemegol a gwenwynau (Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU)

Adroddiadau blynyddol (y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus)

Mae gan y Comisiynydd ddyletswydd statudol i gyhoeddi’r mewnlif o bobl a benodir i swyddi cyhoeddus a’r data amrywiaeth a ddatganwyd ganddynt. Mae’r data llif hwn yn ategu’r data ‘stoc’ mae Tîm Polisi Penodiadau Cyhoeddus Swyddfa’r Cabinet yn ei gyhoeddi ar y rhai a benodir yn eu swyddi ar 31 Mawrth bob blwyddyn. Nid oedd data stoc ar gyfer y flwyddyn 2019-20 ar gael pan ysgrifennwyd adroddiad blynyddol 2019/20.

Mae rhagor o fanylion am y broses o gasglu a chyhoeddi data amrywiaeth ymgeiswyr, cyfweleion a phenodeion ar gyfer penodiadau cyhoeddus ar gael yn adran amrywiaeth mewn penodiadau cyhoeddus yr adroddiad.

Mae ystadegau penodiadau cyhoeddus ar gyfer Llywodraeth Cymru ar gael yn nhablau 62 i 73 yr adroddiad.

Arolwg blynyddol o oriau ac enillion

Daw’r data hyn o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG), ac maent yn cael eu cyhoeddi fel Ystadegau Swyddogol Achrededig.

Gweler yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, Cyflogau Isel a Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am ganlyniadau pensiwn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (SYG) am ragor o wybodaeth.

Data bwydo ar y fron

Gweler adroddiad ansawdd y datganiad am ragor o wybodaeth.

Arolwg adar nythu (Ymddiriedolaeth Adareg Prydain (BTO))

Mae’r arolwg adar nythu yn gynllun monitro gwyddoniaeth y bobl sydd wedi bod ar waith ers 1994. Edrychwch ar y dudalen methodoleg a dylunio arolygon (BTO) i gael rhagor o wybodaeth.

Genedigaethau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adrannau mesur y data a chryfderau a chyfyngiadau yn y datganiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Y cyfrifiad o'r boblogaeth (Llywodraeth Cymru a'r Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Cynhelir y cyfrifiad bob 10 mlynedd. Cynhaliwyd y cyfrifiad diweddaraf ar 21 Mawrth 2021. Gweler adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg Cyfrifiad 2021 (SYG) am ragor o wybodaeth.

Ceir hefyd ystyriaethau ansawdd penodol ar gyfer gwybodaeth Cyfrifiad 2021 a gasglwyd ynghylch grŵp ethnig, pobl anabl a chyfeiriadedd rhywiol a hunaniaeth rhywedd (SYG)

Arolwg omnibws plant 2023 (Cyngor Celfyddydau Cymru)

Gweler adran methodoleg arolwg Omnibws plant 2023: Adroddiad presenoldeb a chyfranogiad cyffredinol i gael rhagor o wybodaeth. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol.

Chwyddiant Prisiau Defnyddwyr (SYG)

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adrannau mesur y data a chryfderau a chyfyngiadau yn y datganiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Troseddau yng Nghymru a Lloegr: Tablau data fesul Ardal Heddlu (SYG)

Mae’r tablau data hyn yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â’r bwletin Troseddau yng Nghymru a Lloegr, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2024. Nid yw data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig.

Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (SYG)

Mae statws Ystadegau Swyddogol Achrededig amcangyfrifon Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi ei atal dros dro oherwydd effaith bosibl cyfraddau ymateb is ar ansawdd data ar ôl pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg data Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gael yn yr adran Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr yn yr Arweiniad i Ddefnyddwyr ar ystadegau troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr: Mawrth 2024 (SYG).

Tablau Tueddiadau a Demograffig Blynyddol (SYG)

Am nodiadau esboniadol ar yr ystadegau hyn, gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar ystadegau troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr: Mesur troseddu yn ystod pandemig COVID-19 (SYG).

Tablau data canfyddiadau eraill (SYG)

Mae’r ffolder ZIP y gellir ei lawrlwytho ar gyfer y tablau Canfyddiadau Eraill yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau tabl agored CSEW sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.

Nifer yr achosion o droseddau personol (SYG)

Mae’r ffolder ZIP y gellir ei lawrlwytho ar gyfer y tablau nifer yr achosion o droseddau personol yn cynnwys dogfen gyfarwyddiadau tabl agored CSEW sy’n cynnwys rhagor o wybodaeth am ddiffiniadau.

Tablau data agored troseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu (y Swyddfa Gartref)

Ystadegau swyddogol ar droseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu, gan gynnwys canllaw i ddefnyddwyr.

Ystadegau Troseddau Casineb (y Swyddfa Gartref))

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Canlyniadau arholiadau

Oherwydd y tarfu ar ysgolion o ganlyniad i bandemig COVID-19, cadarnhaodd y Gweinidog Addysg na fyddai Llywodraeth Cymru yn cyfrifo nac yn cyhoeddi mesurau perfformiad yn 2021/22 ar gyfer carfannau Blwyddyn 11 a chweched dosbarth. Parhaodd hyn â’r trefniadau rhwng 2019/20 a 2020/21.

Roedd cyfnod arholiadau 2022 yn flwyddyn bontio lle’r oedd disgyblion o Gymru yn dychwelyd i sefyll arholiadau ysgrifenedig. O ran arholiadau, nid oedd pethau wedi dychwelyd i union fel yr oeddent cyn y pandemig. Er mwyn gwneud iawn am unrhyw darfu ar amserlen yr ysgol, cafodd disgyblion a safodd arholiadau yn 2022 ddewis ehangach o gwestiynau o’r maes llafur, gyda Cymwysterau Cymru yn gosod canlyniadau hanner ffordd yn fras rhwng 2019 (y tro diwethaf i arholiadau gael eu sefyll) a chanlyniadau 2021. Yn y flwyddyn ysgol 2022/23, gwelwyd newid pellach yn ôl i'r trefniadau asesu cyn y pandemig (gan gadw rhywfaint o gymorth ar gyfer dysgwyr). Roedd y cymorth hwn ar ffurf gwybodaeth ymlaen llaw a dull cefnogol o bennu graddau. Yn 2022/23, gosododd Cymwysterau Cymru y canlyniadau ar lefel genedlaethol oddeutu hanner ffordd rhwng deilliannau 2018/19 a 2021/22.

Cafodd disgyblion a gafodd gymhwyster yn ystod cyfnodau haf 2020 a 2021 raddau ar sail model graddau a bennwyd gan y ganolfan neu a aseswyd gan y ganolfan. Cafodd graddau eu pennu gan ysgolion a cholegau, ar sail eu hasesiad o waith dysgwyr, gan ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth (gan gynnwys asesiadau heb fod yn arholiad, ffug arholiadau, a gwaith dosbarth).

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler adran Gwybodaeth Ansawdd Allweddol y datganiad ystadegol blynyddol ar ganlyniadau Arholiadau.

Ystadegau'r Uned Priodasau dan Orfod

Mae’r Uned Priodasau Dan Orfod yn uned ar y cyd rhwng y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu a’r Swyddfa Gartref sy’n gweithio ar bolisi priodas dan orfod, gwaith maes a gwaith achos y llywodraeth. Mae’n gweithredu y tu mewn i’r Deyrnas Unedig, lle darperir cymorth i unrhyw unigolyn, a thramor, lle darperir cymorth conswlaidd i ddinasyddion Prydain, gan gynnwys dinasyddion deuol.

Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar: Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod ar gyfer gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion fesul awr ar gyfer gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser) (StatsCymru)

Daw’r data o’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, sy’n cael ei redeg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyhoeddir y rhain fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y tabiau Gwybodaeth gryno a Gwybodaeth am ansawdd ystadegau ar y dudalen Y gwahaniaeth cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru yn ôl blwyddyn (canolrif enillion fesul awr ar gyfer gweithwyr llawn amser heb gynnwys goramser) (£) (StatsCymru)

Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang, dadansoddiad a ddarparwyd gan CBAC (gweler y tablau data cyfatebol)

Dadansoddiad a ddarparwyd gan CBAC ar gyfer cynhyrchu’r adroddiad llesiant.

Incwm gwario gros aelwydydd (SYG)

I gael golwg gyffredinol ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio allbynnau cyfrifon rhanbarthol, darllenwch y Canllaw methodoleg cyfrifon rhanbarthol (SYG). Bwriad y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth i’r defnyddiwr o’r hyn sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifon rhanbarthol y Deyrnas Unedig, sut mae amcangyfrifon rhanbarthol o GVA(I), GVA(P), GVA(B), GDHI a GFCF yn cael eu llunio, y gwahanol ddata sy’n cael eu defnyddio i gasglu’r amcangyfrifon, a’r cysyniadau sy’n sail i’r broses gyfan.

Incwm gwario gros rhanbarthol aelwydydd, bwletinau ystadegol y Deyrnas Unedig (SYG)

Mae incwm gwario gros rhanbarthol aelwydydd wedi ei ddynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y ddogfen Gwybodaeth ansawdd a methodoleg incwm gwario gros rhanbarthol aelwydydd (SYG).

Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gweler y “ddogfen dechnegol” y gellir ei lawrlwytho oddi ar y dudalen we. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi’r SII ar lefel genedlaethol fel rhan o’i datganiad ar ddisgwyliad oes a chyflwr iechyd (SYG).

Ystadegau digartrefedd

Gweler Digartrefedd: adroddiad ansawdd am wybodaeth am yr ystadegau hyn; defnyddwyr a defnydd; cylch prosesu'r data; safonau; ac ansawdd.

Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan

Mae manylion am ansawdd yr ystadegau ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y cyhoeddiad.

Aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog: ar gyfer blynyddoedd ariannol a ddaeth i ben rhwng 1995 a 2023 (yr Adran Gwaith a Phensiynau)

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y gyfres aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog: adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben yn 2021 (yr Adran Gwaith a Phensiynau) am ragor o wybodaeth.

Ystadegau mewnfudo a ffoaduriaid (y Swyddfa Gartref)

Daw’r data hyn o ddata gweinyddol y Swyddfa Gartref, a gyhoeddir fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y Canllaw i Ddefnyddwyr ar gyfer Ystadegau Mewnfudo (y Swyddfa Gartref) am wybodaeth ynghylch ansawdd a methodoleg data’r Swyddfa Gartref.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn nhabiau Nodiadau’r tablau data.

Tablau a ddefnyddiwyd:

Asy_D11 – ystadegau mewnfudo 

Res_D01 – ystadegau ffoaduriaid

Gwella cydraddoldeb hiliol ym maes trosedd a chyfiawnder (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)

Myfyrwyr rhyngwladol, canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy’n fyfyrwyr rhyngwladol, StatsCymru a dadansoddiad data'r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn adroddiad ansawdd Cofnod Myfyrwyr yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol.

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Chwyddiant a chostau byw yn ôl grwpiau aelwydydd, y Deyrnas Unedig (SYG)

Mae hwnyn rhoi gwybodaeth am effaith chwyddiant ar wahanol fathau o aelwydydd.

Gweler adran ffynhonnell data ac ansawdd yr adroddiad.

Y farchnad lafur yn rhanbarthau'r Deyrnas Unedig (SYG)

Mae’r bwletin hwn yn defnyddio data a gasglwyd o’r Arolwg o’r Llafurlu, a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n deillio ohono, sef yr arolwg mwyaf o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol Achrededig. 

Mae gwybodaeth ansawdd a methodoleg am gryfderau, cyfyngiadau a defnyddiau priodol, ar gael yn y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am yr Arolwg o’r Llafurlu (y Swyddfa Ystadegau Gwladol). Mae adroddiadau monitro ansawdd a pherfformiad yr Arolwg o'r llafurlu (y Swyddfa Ystadegau Gwladol) yn darparu data ar gyfraddau ymateb a materion yn ymwneud ag ansawdd.

Trosolwg o'r farchnad lafur

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd yn yr adroddiad misol diweddaraf.

Ystadegau'r farchnad lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Disgwyliad oes (SYG)

Mae data disgwyliad oes iechyd wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adrannau mesur y data a chryfderau a chyfyngiadau yn y bwletin am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut mae’r data wedi cael eu creu ar gael yn y ddogfen Disgwyliadau oes iechyd, Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg y Deyrnas Unedig (SYG).

Disgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae’r cyhoeddiad Disgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru yn disgrifio tueddiadau mewn disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a marwolaethau, ynghyd â dadansoddiad dadelfeniad disgwyliad oes yng Nghymru. 

Mae’r adrannau nodiadau yn rhoi arweiniad pellach ar ddiffiniad y dangosydd, unrhyw gafeat, a’r dulliau a’r ffynonellau data a ddefnyddir. Nid yw rhai o’r ffynonellau data a ddefnyddir yn Ystadegau Swyddogol.

Amddifadedd materol ac incwm isel

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn defnyddio’r Arolwg o Adnoddau Teulu i gyhoeddi ystadegau am blant a phensiynwyr mewn amddifadedd materol yn ei hadroddiad Aelwydydd Islaw’r Incwm Cyfartalog (yr Adran Gwaith a Phensiynau), wedi ei ddadansoddi ar gyfer gwledydd y Deyrnas Unedig a rhanbarthau Lloegr.

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y gyfres aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog: adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg (yr Adran Gwaith a Phensiynau) am ragor o wybodaeth.

Ystadegau mamolaeth a genedigaethau

Mae’r datganiad hwn yn canolbwyntio ar ystadegau ar gyfer genedigaethau gan ddefnyddio data a gafwyd o set ddata Dangosyddion Mamolaeth a’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r set ddata Dangosyddion Mamolaeth yn cyfuno cofnod geni’r plentyn â chofnod o asesiad cychwynnol y fam (pan fo modd). Mae’r holl ystadegau a gynhyrchir o’r ffynhonnell hon yn ystadegau arbrofol (GSS) gan fod y set ddata yn dal yn gymharol newydd ac nad oes gan bob eitem ddata ganran uchel o ddata dilys wedi ei gofnodi.

Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Caethwasiaeth Fodern, ystadegau Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol (y Swyddfa Gartref)

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. 

Mae ystadegau marwolaeth Cymru a Lloegr wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Mae gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ystadegau marwolaethau ar gael yn yr Wybodaeth ansawdd a methodoleg ystadegau marwolaethau yng Nghymru a Lloegr (SYG) a’r Canllaw Defnyddwyr i Ystadegau Marwolaethau (SYG). Mae ffynonellau ychwanegol o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer yr ystadegau marwoldeb a ddefnyddiwyd yn adroddiad Llesiant Cymru wedi eu rhestru isod.

Marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi ym Mhrydain Fawr (SYG)

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael yn yr adrannau mesur data, cryfderau a chyfyngiadau yn y datganiad.

Marwolaethau sydd wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Ystadegau cryno ar farwolaethau sydd wedi eu cofrestru (SYG)

Marwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr (SYG)

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael yn yr Wybodaeth ansawdd a methodoleg am farwolaethau cysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr (SYG).

Anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o ran marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi yng Nghymru (SYG)

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg o ran cryfderau, cyfyngiadau, defnyddiau priodol, a sut mae’r data wedi cael eu creu ar gael yn yr Wybodaeth ansawdd a methodoleg anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o ran marwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi yng Nghymru (SYG).

Ystadegau cynllun nawdd Wcráin, y Swyddfa Gartref a'r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau)

Gweinyddiaethau datganoledig ar lefel awdurdodau lleol (yr Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau)

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adroddiadau ansawdd ar gyfer canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y dudalen Gwybodaeth Dechnegol.

I gael gwybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddir yn yr adroddiad Tlodi ac Amddifadedd (Arolwg Cenedlaethol Cymru): Ebrill 2022 i Fawrth 2023, gweler yr adroddiad technegol Dadansoddiad atchweliad, Ebrill 2021 i Fawrth 2022.

Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a'r farchnad lafur: 2021 a 2022 (dros dro)

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd yn y datganiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Canran y bobl sy’n weddol fodlon neu’n fodlon iawn ar eu swyddi yn ôl oedran (StatsCymru)

Cesglir y data hyn fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Gweler adran gwybodaeth ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn (SYG)

Tlodi parhaus

Daw data ar dlodi parhaus yng Nghymru gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Gweler Dynameg Incwm: gwybodaeth gefndir a methodoleg (yr Adran Gwaith a Phensiynau) i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr

Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r ystadegau gwaelodlin ar ddysgu ôl-16 ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd ethnig gwahanol fel y gellir adnabod a monitro anghydraddoldebau yn y dyfodol. Gweler Adran 13 (Gwybodaeth ansawdd a methodoleg) yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Llesiant personol ac economaidd (SYG)

Mae’r dadansoddiad a gyflwynir yn y cyhoeddiad hwn yn seiliedig ar ddwy ffynhonnell ddata wahanol, sef yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth ac Effeithiau Trethi a Budd-daliadau.  Gweler yr adran ansawdd a methodoleg yn y datganiad am ragor o wybodaeth. Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y ffynonellau data ar gael yn yr Wybodaeth am ansawdd a methodoleg yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG) ac Effeithiau trethi a budd-daliadau ar incwm aelwydydd (SYG).

Cerbydau gwasanaeth cyhoeddus

Mae’r data hyn yn deillio o ddatganiadau blynyddol a wnaed i’r Adran Drafnidiaeth gan sampl o 700 o ddeiliaid trwyddedau gweithredwyr Cerbydau Gwasanaeth Cyhoeddus (‘yr arolwg PSV’). Mae’r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth am siwrneiau teithwyr, milltiroedd cerbydau, derbynebau teithwyr a chostau gweithredu. Mae arolygon llai, ar wahân sy’n cael eu rheoli gan yr Adran Drafnidiaeth yn casglu gwybodaeth am newidiadau mewn prisiau, dibynadwyedd y gwasanaeth a nawddogaeth chwarterol gan y cwmnïau bysiau mwy.

Mae manylion llawn y ffynonellau data a'r dulliau a ddefnyddiwyd i'w gweld yn y canllawiau (yr Adran Drafnidiaeth).

Cyflog Byw Gwirioneddol (Living Wage Foundation)

Mae’r Living Wage Foundation yn sefydliad ymgyrchu yn y Deyrnas Unedig sy’n ceisio perswadio cyflogwyr i dalu cyflog byw. Gweler adran 4 (methodoleg) yr adroddiad ar gyfrifo Cyflog Byw Gwirioneddol 2023 (Living Wage Foundation) am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Cynhyrchiant rhanbarthol ac is-ranbarthol yn y Deyrnas Unedig: 2022 (SYG)

Gweler yr adrannau Mesur y data a Chryfderau a chyfyngiadau yn yr adroddiad i gael gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi ei gydbwyso) y pen ac elfennau incwm (SYG)

I gael golwg gyffredinol ar y fethodoleg a ddefnyddiwyd i lunio allbynnau cyfrifon rhanbarthol, darllenwch y Canllaw methodoleg cyfrifon rhanbarthol (SYG). Bwriad y canllaw hwn yw rhoi dealltwriaeth i’r defnyddiwr o’r hyn sydd wedi ei gynnwys yng nghyfrifon rhanbarthol y Deyrnas Unedig, sut mae amcangyfrifon rhanbarthol o GVA(I), GVA(P), GVA(B), GDHI a GFCF yn cael eu llunio, y gwahanol ddata sy’n cael eu defnyddio i gasglu’r amcangyfrifon, a’r cysyniadau sy’n sail i’r broses gyfan.

Mae amcangyfrifon Gwerth Ychwanegol Gros Rhanbarthol (wedi eu cydbwyso) wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr Wybodaeth Ansawdd a Methodoleg Gwerth ychwanegol gros rhanbarthol (wedi ei gydbwyso) (SYG).

Ystadegau rhanbarthol y farchnad lafur yn y Deyrnas Unedig: bwletinau ystadegol (SYG)

Mae’r bwletin hwn yn defnyddio data a gasglwyd o’r Arolwg o’r Llafurlu, a’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth sy’n deillio ohono, sef yr arolwg mwyaf o aelwydydd yn y Deyrnas Unedig. Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig.

Mae gwybodaeth ansawdd a methodoleg am gryfderau, cyfyngiadau a defnyddiau priodol, ar gael yn y ddogfen Gwybodaeth Ansawdd a Methodoleg am yr Arolwg o’r Llafurlu (SYG). Mae adroddiadau monitro ansawdd a pherfformiad yr Arolwg o'r llafurlu (SYG) yn darparu data ar gyfraddau ymateb a materion yn ymwneud ag ansawdd.

Tlodi incwm cymharol

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler y gyfres aelwydydd islaw’r incwm cyfartalog: adroddiad gwybodaeth am ansawdd a methodoleg (yr Adran Gwaith a Phensiynau) am ragor o wybodaeth.

Traffig ffyrdd

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr wybodaeth ansawdd i gael rhagor o wybodaeth.

Canlyniadau'r cyfrifiad ysgolion

Ystadegau ar ysgolion, athrawon a disgyblion gan gynnwys data ar gyfer awdurdodau lleol a Chymru bob blwyddyn. Cynhelir y Cyfrifiad Ysgolion ym mis Ionawr bob blwyddyn fel arfer ond yn 2021 a 2022 fe'i cynhaliwyd ym mis Ebrill a mis Chwefror yn y drefn honno yn sgil pandemig COVID-19. Mae data'r cyfrifiad ysgolion wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler yr adran ansawdd a methodoleg yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Cyfrifiad Gweithlu Ysgolion

Cyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol sy'n cael eu datblygu. Gweler adran methodoleg yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Arolwg Sgiliau a Chyflogaeth: Gweithio yng Nghymru, 2006 i 2017

Ni chyhoeddir y data hyn fel Ystadegau Swyddogol. Gweler adran methodoleg yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2020 (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n llunio’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol. 

Gweler SoNaRR 2020: Ein Dull (Cyfoeth Naturiol Cymru) am drosolwg o’r dull mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ddefnyddio i asesu llwyddiant Cymru o ran Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.

Mae rhagor o wybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gael yn y penodau sy’n cyfateb i’r wyth ecosystem eang (Cyfoeth Naturiol Cymru) a’r wyth thema drawsbynciol (Cyfoeth Naturiol Cymru) a ddefnyddir yn SoNaRR2020.

Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr (Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion)

Mae’r arolwg yn cael ei gynnal gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion (SHRN), sy’n bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru; Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cancer Research UK; Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD); a Phrifysgol Caerdydd. Cynhelir yr arolwg bob dwy flynedd, ac mae’n rhoi ciplun rheolaidd o ymddygiadau iechyd pobl ifanc rhwng 11-16 oed yng Nghymru. Mae’r arolwg yn cael ei gwblhau ar-lein yn yr ystafell ddosbarth. Yn 2019/20, roedd bron i 120,000 o fyfyrwyr wedi cymryd rhan yn yr arolwg.

Gweler adran Dulliau yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg. 

Cyfraddau hunanladdiad yn y Deyrnas Unedig - Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg (y Swyddfa Ystadegau Gwladol)

Ystadegau Trafnidiaeth Prydain Fawr (yr Adran Drafnidiaeth)

Mae gwybodaeth am yr ystadegau trafnidiaeth ar gael ar eu tudalen arweiniad (yr Adran Drafnidiaeth), gan gynnwys dogfennau ffynhonnell, nodiadau cysylltiedig a diffiniadau a dogfennau technegol ategol. Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig.

Cynllun Monitro Glöynnod Byw y Deyrnas Unedig (UKBMS)

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol. 

Ystadegau'r Deyrnas Unedig ar wastraff (Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig)

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol. Gweler yr adran methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Ystadegau cerbydau allyriadau isel iawn (yr Adran Drafnidiaeth)

Daw bron yr holl ystadegau yn y gyfres ystadegau trwyddedu cerbydau o gronfa ddata cerbydau'r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA). Prif bwrpas y gronfa ddata yw gweinyddu cofnodion cofrestru a thrwyddedu cerbydau (ar gyfer Prydain cyn mis Gorffennaf 2014, ac ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ers y dyddiad hwn).

Mae’r holl ystadegau sy’n deillio o gronfa ddata trwyddedu cerbydau DVLA wedi eu dynodi’n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Gweler Ystadegau Trwyddedu Cerbydau: Nodiadau a Diffiniadau (DVLA) ar gyfer gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Nifer y plant a gafodd frechlynnau yng Nghymru (Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Mae data am y niferoedd sy’n cael brechiadau yn cael eu darparu gan gynllun cenedlaethol COVER Iechyd Cyhoeddus Cymru. Ni chyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol. Mae’r cynllun gwyliadwriaeth hwn, sy’n cael ei redeg gan Raglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r Ganolfan Arolygu Clefydau Trosglwyddadwy, yn cyfrifo’r ddarpariaeth brechu gan ddefnyddio data o’r Gronfa Ddata Genedlaethol ar Iechyd Plant Cymunedol. Mae’r Gronfa yn cael ei chynnal gan Wasanaeth Gwybodaeth GIG Cymru ac mae’n cynnwys cofnodion wedi eu hechdynnu o gronfa ddata swyddfeydd Iechyd Plant yr holl fyrddau iechyd ledled Cymru. Mae’r Gronfa yn cael ei hadnewyddu bob chwarter.

Enwadur y cyfrifiadau defnyddio a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad COVER blynyddol yw nifer y plant a gofrestrwyd gyda swyddfeydd Iechyd Plant a gyrhaeddodd benblwyddi mesur allweddol yn ystod y flwyddyn rhwng Ebrill a Mawrth ac a oedd yn byw ac yn preswylio yn ardaloedd byrddau iechyd Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn. Tybir bod y plant wedi eu brechu erbyn oedran mesur os oes ganddynt ddyddiad brechu wedi ei gofnodi yn eu cofnod iechyd plentyn, sydd cyn y pen-blwydd perthnasol.

Gall ansawdd y data yn y Gronfa fod yn llai yn achos plant hŷn sy’n cael cyswllt llai aml â gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd, ac y gallai eu cofnodion iechyd plant fod yn cael eu diweddaru yn llai aml.

Adroddiad ansawdd dŵr ymdrochi Cymru (Cyfoeth Naturiol Cymru)

Gweler yr adran ar fonitro a dosbarthu yn 2022 yn yr adroddiad am wybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Arolwg Cyflwr Tai Cymru (asesiad o elfennau o'r Safon Ansawdd Tai Cymru):Ebrill 2017 i Mawrth 2018

Mae’r datganiad hwn yn edrych ar asesiad o rai elfennau o Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC) fel sy’n cael eu mesur gan Arolwg Cyflwr Tai Cymru 2017-18. Dylai defnyddwyr sy’n dymuno edrych ar dueddiadau o ran cyrraedd y safon ansawdd ar gyfer tai cymdeithasol dros amser ddefnyddio Ystadegau Swyddogol Safon Ansawdd Tai Cymru. Dylai’r rhai sy’n dymuno cymharu ar draws deiliadaeth ddefnyddio adroddiad SATC Arolwg Cyflwr Tai Cymru (gan nodi mai dim ond is-set o elfennau sydd wedi cael eu mesur). Nid oes modd cymharu’r ddwy ffynhonnell ddata yn uniongyrchol. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am sut mae’r arolwg wedi asesu Safon Ansawdd Tai Cymru yn Adroddiad Technegol SATC.

Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae’r ystadegau swyddogol hyn yn cyflwyno gwybodaeth o’r casgliad data blynyddol sy’n mesur y cynnydd mae landlordiaid cymdeithasol yn dweud eu bod yn ei wneud o ran cyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru yn gysylltiedig â’u stoc. Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ansawdd yr ystadegau hyn yn Adroddiad Ansawdd SATC.

Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth

Mae'r data hyn wedi eu dynodi'n Ystadegau Swyddogol Achrededig. Mae gwybodaeth am gyd-destun, ansawdd a methodoleg ar gael yn y tabiau gwybodaeth gryno a gwybodaeth am ansawdd ystadegau yn y tablau am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (StatsCymru)

Y SYG sy’n cynnal yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Mae manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei ddatblygu a’i gynnal ar gael yn adroddiad Gwybodaeth am ddull ac ansawdd yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (SYG).