Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn rhoi diweddariad ar y canfyddiadau adolygiad o’r prosiect masnachol ar gyfer yr A465, adran 2.

Rydych yn ymwybodol, rwy’n siŵr, bod Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfres o welliannau hynod uchelgeisiol i ddeuoli 40km o’r A465 rhwng y Fenni a Hirwaun. Mae’r prosiect yn cynnwys cynllun i ledu’r ffordd rhwng Gilwern a Bryn-mawr - Adran 2.

Mae Adran 2 yn brosiect heriol iawn, sy'n cynnwys lledu 8km o’r A465 bresennol, ochr yn ochr â thraffig byw, o fewn safle cyfyng iawn drwy Gwm Clydach sy'n serth ac yn ardal amgylcheddol sensitif. Dechreuwyd ar y cynllun hwn yn nechrau 2015 gan y contractwr dylunio ac adeiladu Costain Ltd. Roedd y cynllun i fod i gael ei gwblhau erbyn 2018. Yn ddiweddarach newidiwyd hyn i 2019.

Mae topograffi’r safle, y gofynion rheoli traffig a’r amgylchiadau cymhleth ar y tir, wedi golygu bod y prosiect yn llawer anos i Costain nag a dybiwyd ac a gynlluniwyd yn wreiddiol. O'r herwydd, gofynnais am adolygiad cynhwysfawr o'r prosiect masnachol. Mae fy swyddogion bellach wedi cynnal yr adolygiad ac wedi dweud wrthyf mai fel hyn y mae sefyllfa'r prosiect:

  1. Mae'r prosiect yn cael ei gyflawni yn unol â'r disgwyliadau cymdeithasol ac amgylcheddol ac o ran cyflogaeth.
  2. Bydd y prosiect cyfan yn cael ei gwblhau yn ystod tymor yr hydref 2019.

    Er mwyn sicrhau bod manteision y prosiect yn cael eu gweld cyn gynted â phosibl, mae tîm y prosiect yn edrych ar yr opsiwn o gwblhau hanner dwyreiniol y prosiect erbyn mis Hydref 2018. Yna, eir ati i gwblhau'r adran dechnegol heriol yng Nghwm Clydach ac ardal Bryn-mawr yn yr amser sy'n weddill.

    Er mwyn llwyddo yn hyn o beth, bydd angen cau'r ffordd dros nifer benwythnosau yn 2018, yr un fath ag eleni, er mwyn gwneud gwaith pwysig yng Nghwm Clydach.

  3. Rhagwelir y bydd y prosiect ar hyn o bryd 23% dros y gyllideb a gymeradwywyd.

Mae hyn yn destun siom i mi wrth reswm ond mae fy swyddogion wrthi'n rheoli'r gorwariant er mwyn cael gweld a oes modd adfer sefyllfa y prosiect. Yn unol â hynny, mae Llywodraeth Cymru yn dadlau â Costain ar hyn o bryd, a hynny am nifer o faterion. Un o'r rhain yw'r dyraniad risg yn y contract er mwyn sicrhau nad oes swm sy’n fwy na’r hyn y mae ganddynt hawl iddo o dan y contract yn cael ei dalu iddynt.

Rwy'n deall bod hyn yn peri pryder i’r trigolion sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac rwy’n ddiolchgar iddynt am eu hamynedd a'u dealltwriaeth wrth i ni weithio i gwblhau’r cynllun. Bydd yr Arddangosfeydd Cyhoeddus yn dechrau heddiw yn swyddfeydd y safle yng Ngilwern. Bydd aelodau o dîm y prosiect ar gael i roi manylion diweddaraf y cynllun i randdeiliaid a rhoi cyfle iddynt fynegi'u pryderon a mynd ar drip o gwmpas y safle i weld y gwaith sydd wedi'i wneud hyd yn hyn.

Er yn sylweddol, mae’n rhaid cydbwyso’r effeithiau tymor byr hyn yn erbyn manteision tymor hir y cynllun pwysig hwn, unwaith y bydd wedi ei gwblhau. Mae nodweddion trawiadol i’r cynllun hwn, yn enwedig felly rai o’r pontydd sy’n cael eu hadeiladu a’r mesurau amgylcheddol sy’n cael eu rhoi yn eu lle. Wedi iddo gael ei orffen, bydd yn edrych yn rhyfeddol. Hyderaf y bydd yn dod â gwelliannau go iawn i’r ardal o ran llif y traffig, diogelwch a hygyrchedd.