Cyhoeddwyd fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu (WGC 009/2024)
Mae fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cylchlythyr rheoliadau adeiladu
Rhif y cylchlythyr: WGC 009/2024
Dyddiad cyhoeddi: 02/08/2024
Statws: Er gwybodaeth
Titl: Cyhoeddwyd fersiynau diwygiedig o'r safonau, y rheolau a'r codau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
Cyhoeddwyd gan: Simon Jones, Rheolwr Cymhwysedd a Safonau Rheoli Adeiladu
Cyfeirir at:
Prif Weithredwyr yr Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Rheoli Adeiladu Awdurdodau Lleol
Cymdeithas Cymeradwywyr Rheolaeth Adeiladu
I'w anfon at:
Swyddogion Rheoli Adeiladu yr Awdurdodau Lleol
Aelodau o’r Senedd
Crynodeb:
Mae fersiynau wedi'u diweddaru o'r codau, y safonau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r Cylchlythyr hwn yn manylu ar y newidiadau sylweddol a wnaed.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
Y Tîm Rheoliadau Adeiladu
2il Llawr
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Llinell uniongyrchol: 0300 060 4400
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Gwefan: adeiladu a chynllunio
Cylchlythyr
Hysbysiad Cymeradwyo: codau, safonau a rheolau diwygiedig ar gyfer y professiwn rheolaeth adeiladu
- Fe'm cyfarwyddir gan Weinidogion Cymru i'ch hysbysu o gyhoeddi fersiynau diwygiedig o'r safonau, y codau a'r rheolau ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu, sef:
- Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2
- Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2
- Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2
- Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru) 2024
- Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru)
Cwmpas y cylchlythyr hwn
- Mae'r cylchlythyr hwn yn berthnasol i'r proffesiwn rheolaeth adeiladu yng Nghymru.
Hysbysiad am safonau, codau a rheolau diwygiedig ar gyfer y proffesiwn rheolaeth adeiladu
- Gellir gweld fersiynau diwygiedig o'r dogfennau safonau, codau a rheolau ar gyfer Cymru yn adran Adeiladu a chynllunio gwefan Llywodraeth Cymru yma: www.llyw.cymru/safonau-codau-rheolau-ar-gyfer-y-proffesiwn-rheoli-adeiladu
- Bydd unrhyw ddiwygiadau yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar yr un wefan a chyhoeddir hysbysiad.
- Mae mwyafrif y diweddariadau a wneir i'r fersiynau drafft yn fân newidiadau i eiriad er mwyn eglurder a chysondeb. Ceir manylion am newidiadau sylweddol isod ac mae dogfennau gyda'r holl newidiadau wedi'u tracio yn Gymraeg a Saesneg ar gael ar gais.
- Ar gyfer Fframwaith Cymhwysedd Arolygwyr Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2, dyma'r newidiadau sylweddol:
- diwygiadau i'r disgwyliadau ar gyfer hyfforddi a goruchwylio Dosbarth 1: Arolygwyr Adeiladu o dan Hyfforddiant. Mae bellach yn gliriach bod yn rhaid goruchwylio unigolion o dan hyfforddiant dros gyfnod eu hyfforddiant
- mae rhestrau o sgiliau ar gyfer arolygwyr Dosbarth 1 a Dosbarth 2 bellach yn gynhwysfawr. Noder, bod y rhestrau cyfatebol ar gyfer arolygwyr Dosbarth 3 a Dosbarth 4 yn parhau i fod yn ddangosol oherwydd cwmpas ehangach y rolau hynny
- Ar gyfer Rheolau Ymddygiad Proffesiynol ar gyfer Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2, dyma'r newidiadau sylweddol:
- eglurhad ar sut y dylid ymdrin â gwrthdaro buddiannau
- gofyniad i bersonau sy'n ymgymryd â gwaith ar ran Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu hysbysu'r Cymeradwywr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu am newidiadau i gyfyngiadau ac amodau a allai fod yn berthnasol iddynt
- mae'r rheolau cofrestru wedi'u cyfuno yn Atodiad 1 o Atodiad 3
- adolygwyd nifer o'r amserlenni ar gyfer hysbysu'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu, megis hysbysiad o dorri'r gwahanol safonau, codau a rheolau
- Ar gyfer y Cod Ymddygiad ar gyfer Arolygwyr Cofrestredig Adeiladu (Cymru) 2024 fersiwn 2, dyma'r newidiadau sylweddol:
- eglurhad ar sut y dylid ymdrin â gwrthdaro buddiannau
- newid i'r gofyniad am weithdrefnau cwynion ar gyfer arolygwyr adeiladu sy'n hunangyflogedig
- eglurhad ar gyfer monitro cymhwysedd y rhai y maent yn eu rheoli a/neu'n eu goruchwylio ar gyfer Dosbarth 4: Arolygwyr Adeiladu - Rheolwyr Technegol
- mae'r rheolau cofrestru wedi'u cyfuno yn Atodiad 1 o Atodiad 3
- adolygwyd nifer o'r amserlenni ar gyfer hysbysu'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu, megis hysbysiad o dorri'r gwahanol safonau, codau a rheolau
- Ar gyfer Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru) dyma'r newidiadau sylweddol:
- diweddariad ar sut y bydd Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu yn cyflwyno eu data perfformiad i'r Rheoleiddiwr Diogelwch Adeiladu
- Noder bod y Rheolau Safonau Gweithredol: Trefniadau Monitro (Cymru) yn parhau i fod yn berthnasol i Gymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu yn unig ac nid awdurdodau lleol yng Nghymru.
- Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol o ran Rheolau Safonau Gweithredol (Cymru) 2024 o'r fersiwn a gyhoeddwyd yn flaenorol. Mae'r diwygiadau a wnaed yn bennaf er mwyn sicrhau cysondeb o ran cyfeiriadau at y safonau, y codau a'r rheolau eraill.
Ymholiadau
Dylid anfon unrhyw ymholiadau mewn perthynas â'r Cylchlythyr hwn i'r cyfeiriad canlynol:
Rheoliadau Adeiladu, 2il lawr, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ
E-bost: enquiries.brconstruction@llyw.cymru
Yn gywir
Mark Tambini
Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu