Jane Hutt, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip
Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad Ysgrifenedig hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar sut rydym yn adnewyddu ein hymrwymiad hirdymor i gefnogi gwasanaethau gwybodaeth a chyngor.
Mae gwasanaethau gwybodaeth a chyngor yn hanfodol i helpu pobl, ac yn aml y rhai sydd leiaf abl i helpu eu hunain, i gael mynediad at eu hawliau cyfiawnder cymdeithasol. Mae buddsoddi yn y gwasanaethau hyn yn rhoi gwerth am arian i'r pwrs cyhoeddus. Os na chaiff problemau ym maes tai eu datrys, gall budd-daliadau lles a chynnal ymrwymiadau ariannol wthio pobl i dlodi, gweithredu fel rhwystr i gyflogaeth, arwain at ddigartrefedd ac effeithio'n negyddol ar iechyd corfforol a meddyliol.
Ers i Gronfa Gynghori Sengl Llywodraeth Cymru gael ei chyflwyno ym mis Ionawr 2020, mae'r gwasanaethau wedi helpu 280,000 o bobl i ddelio â mwy na miliwn o broblemau lles cymdeithasol. Mae pobl hefyd wedi cael cymorth i hawlio incwm ychwanegol gwerth £137 miliwn a chael dyledion gwerth £38.5 miliwn wedi'u dileu. Mae hyn wedi'u gwneud nhw, a'r cymunedau lleol lle maent yn tueddu i wario eu harian ychwanegol, yn fwy gwydn yn ariannol.
Mae'r gwasanaethau a ddarperir trwy'r Gronfa Gynghori Sengl yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl yng Nghymru ac rwy'n falch o gyhoeddi y byddaf yn darparu £36 miliwn o gyllid grant ar gyfer gwasanaethau gwybodaeth a chyngor drwy'r Gronfa Gynghori Sengl dros y tair blynedd ariannol nesaf. Mae'r cyllid tymor hwy yn golygu y gall y rhai sy'n cael grantiau gynllunio eu gwasanaethau'n fwy effeithiol, buddsoddi mewn gweithio mewn partneriaeth, a chynnig sefydlogrwydd i'w gwasanaethau yn ystod cyfnod pan fydd mwy o bobl angen eu help.
Bydd ceisiadau am gyllid yn cael eu rheoli drwy broses ymgeisio am grant a fydd yn agored a cystadleuol. Bydd y broses ymgeisio yn cael ei lansio heddiw (25 Gorffennaf) a bydd ymgeiswyr yn cael cyfnod o 12 wythnos i ymchwilio a datblygu eu cynigion ar gyfer darparu gwasanaethau cyngor hygyrch ac integredig sy'n cyrraedd pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig ac ymylol. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: yma. Bydd y gwasanaethau a ariennir yn dechrau ar 1 Ebrill 2025.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i fynd i'r afael â thlodi a gwneud y mwyaf o incwm aelwydydd drwy roi arian ym mhocedi pobl. Rwyf hefyd yn darparu £300,000 i barhau i ddarparu sesiynau hyfforddi am ddim i weithwyr rheng flaen. Mae'r sesiynau hyn yn helpu i ddatblygu eu gwybodaeth am systemau cymorth ariannol a'u dealltwriaeth o sut i helpu defnyddwyr eu gwasanaeth i gael incwm ychwanegol. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf mae dros 6,000 o weithwyr rheng flaen o'r sectorau Gofal Cymdeithasol, Tai, Iechyd, Addysg a Chyngor wedi bod mewn sesiwn hyfforddi am rhad ac ddim, ac roedd 70% yn cadarnhau eu bod wedi defnyddio eu gwybodaeth i helpu defnyddwyr eu gwasanaeth i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i hawlio incwm ychwanegol.
Rwy'n falch o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i ariannu gwasanaethau gwybodaeth a chyngor. Mae'n bwysicach nag erioed bod gennym sector cyngor ar les cymdeithasol yng Nghymru sy'n defnyddio adnoddau mor effeithiol â phosibl, lle mae darparwyr sydd wedi'u sicrhau o ran ansawdd yn cyflwyno gwasanaethau wedi'u targedu at bobl yn ein cymunedau sydd eu hangen fwyaf. Ynghyd â'r gwaith yr ydym yn ei arwain i gynyddu incwm aelwydydd, mae ein prosiectauyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.