Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd y Prif Weinidog Vaughan Gething yn cynrychioli Cymru mewn digwyddiad yn Ffrainc i nodi 80 mlynedd ers D-Day.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y Prif Weinidog yn bresennol yn y digwyddiad coffa cenedlaethol yn safle'r Gofeb Brydeinig yn Ver-sur-Mer, Normandi lle bydd cyn-filwyr D-Day a 2,000 o westeion yn talu teyrnged i'r rhai a fu farw.

Wedi hynny, bydd yn ymweld â thref Asnelles i dalu teyrnged wrth y gofeb i Gyffinwyr De Cymru, yr unig uned Gymreig i lanio ar D-Day. Ochr yn ochr â Maer Asnelles, bydd y Prif Weinidog yn cymryd rhan mewn digwyddiad coffa a bydd yn gosod torchau ar gyfer Cyffinwyr De Cymru a Chatrawd y Cymry Brenhinol - catrawd sy'n olrhain ei gwreiddiau yn ôl i Gyffinwyr De Cymru.

D-Day oedd ymosodiad llwyddiannus y cynghreiriaid ar draethau Normandi ar 6 Mehefin 1944. Gyda'r enw cod Ymgyrch Neptune, glaniadau Normandi oedd yr ymosodiad mwyaf ar y môr mewn hanes. Gwnaeth yr ymgyrch hon chwarae rhan dyngedfennol i ryddhau gorllewin Ewrop o feddiannaeth y Natsïaid.

Dywedodd y Prif Weinidog:

Heddiw, rydyn ni'n cofio am bawb a wnaeth wasanaethu yn ymgyrch Normandi, a oedd yn ymdrech ryngwladol ac yn allweddol i sicrhau diwedd ar y rhyfel. Bydd gan lawer o deuluoedd yng Nghymru gysylltiad â'r achlysur coffa heddiw, drwy straeon teuluol sydd wedi'u rhannu o un genhedlaeth i'r llall.

"Wrth gwrs, rydyn ni'n cofio am y cynifer o filwyr o Gymru a frwydrodd yn y Rhyfel, gan gynnwys Cyffinwyr De Cymru, sef yr uned a aeth, yn arwrol, bellaf i'r tir o'r rhai a laniodd ar draethau Normandi ar D-Day.

"Mae hefyd yn anrhydedd imi heddiw gael cyfarfod â rhai o'r cyn-filwyr a oedd yn gwasanaethu adeg D-Day yn 1944. Gwnaeth eu haberth nhw arwain at yr heddwch cymharol rydyn ni'n byw ynddo heddiw. Am hynny, byddwn ni'n ddiolchgar iddyn nhw am byth."

Dywedodd yr Uwch-frigadwr Chris Barry CBE, Cyrnol Catrawd y Cymry Brenhinol:

"Mae'n anrhydedd mawr i'r Cymry Brenhinol y bydd y Prif Weinidog yn gosod torch wrth Gofeb 2il Fataliwn Cyffinwyr De Cymru yn Asnelles i gofio am eu glaniad ar D-Day ar 6 Mehefin 1944.

"Ar ôl glanio, gwnaeth yr 2il Fataliwn gyflawni eu hamcanion milwrol yn llwyddiannus gan wneud y cynnydd mwyaf ar ddiwrnod cyntaf yr ymgyrch i adennill tir i'r Cynghreiriaid. Nid yw ond yn iawn ac yn briodol ein bod yn anrhydeddu'r Rhyfelwyr Cymreig hynny o'r gatrawd a wnaeth yr aberth mwyaf erioed i adfer heddwch i Ewrop."