Neidio i'r prif gynnwy

Diogelu

Ein dull gweithredu

Fel rhan o ymateb ehangach GIG Cymru ac ymateb amlasiantaethol i ddiogelu, mae gan wasanaethau nyrsio ysgol rôl bwysig wrth hyrwyddo, amddiffyn a diogelu iechyd a lles plant a phobl ifanc. Sefydlwyd y dull o ddiogelu ar gyfer gwasanaethau nyrsio ysgolion drwy gyfres o safonau gofynnol yn y fframwaith ar gyfer nyrsio mewn ysgolion 2017 ac mae byrddau iechyd wedi monitro cydymffurfiaeth â'r safonau hyn ac aliniad â'r gweithdrefnau diogelu Cymru gyfan amlasiantaethol dilynol 2019.

Mae gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion ddull iechyd ar sail y boblogaeth o gyflawni, sy'n golygu nad oes ganddynt lwyth achosion yn yr un modd â gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, fel ymwelwyr iechyd, neu ymarferwyr gwasanaethau cyhoeddus eraill, fel gweithwyr cymdeithasol. Beth mae hyn yn ei olygu’n ymarferol yw efallai na fydd plentyn / person ifanc sydd â phryder diogelu yn hysbys i wasanaethau nyrsio ysgolion, felly mae'n bwysig bod GIG Cymru’n nodi'r arweinydd iechyd cywir yn gynnar i ddarparu'r ymateb diogelu gorau gan GIG Cymru. At ddibenion y model gweithredu hwn, mae'r llwybr canlynol wedi'i ddatblygu i gefnogi'r safonau gofynnol presennol yn y fframwaith ar gyfer nyrsio mewn ysgolion, er mwyn nodi'n glir beth fydd gwasanaethau nyrsio ysgolion yn ei ddarparu mewn perthynas â diogelu ar gyfer yr achosion penodol hynny pan nodir yn gywir mai'r gwasanaethau nyrsio ysgolion yw arweinydd GIG Cymru, oherwydd eu gwybodaeth a/neu eu hymwneud parhaus â phlentyn / person ifanc a'i deulu.

Adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol

Yn unol â Rhaglen Plant Iach Cymru, tynnir sylw’r gwasanaethau nyrsio ysgol at bob plentyn sy'n 5 mlwydd oed sydd â phryderon diogelu, pan gânt eu trosglwyddo yn ystod yr adolygiad iechyd cychwyn yn yr ysgol.

Pryderon diogelu newydd

Lle mae pryderon diogelu newydd wedi'u nodi yn ystod taith plentyn neu berson ifanc drwy oedran ysgol, bydd y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn cynnal asesiad iechyd gyda'r plentyn neu berson ifanc cyn y gynhadledd achos gychwynnol i nodi unrhyw anghenion iechyd. Os yw'r hysbysiad i wasanaethau nyrsio ysgolion yn cael ei ohirio ac na ellir gwneud hyn, rhaid cynnal yr asesiadau iechyd ddim hwyrach na'r cam allweddol cyntaf. Y cyfeirir ato gan weithwyr proffesiynol fel y cyfarfod "grŵp craidd cyntaf".

Asesiad iechyd

Bydd yr asesiad iechyd hwn yn llywio'r adroddiad a gyflwynir i'r gynhadledd. Bydd yn canolbwyntio ar y plentyn a bydd yn cynnwys y plentyn neu berson ifanc yn uniongyrchol ymlaen llaw. Bydd yr adroddiad yn cynnwys teimladau a dymuniadau'r plentyn neu berson ifanc, a'r canlyniadau a ddymunir ganddo a'r hyn sy'n bwysig iddo, gan gynnwys unrhyw anghenion iechyd heb eu diwallu. Yna bydd penderfyniad proffesiynol a arweinir gan yr asesiad iechyd yn cael ei wneud, drwy'r gynhadledd achos, ynghylch a oes angen unrhyw gyfranogiad parhaus mewn unrhyw adolygiadau neu grwpiau craidd dilynol. Bydd cyfranogiad yn ailgychwyn os daw pryderon newydd i'r amlwg.

Mae'r asesiad iechyd yn hanfodol wrth nodi pryderon a phroblemau iechyd posibl, gan sicrhau bod ymyriadau amserol yn cael eu cynllunio a chan hyrwyddo unrhyw ddulliau atal. Mae'n rhoi cyfle i addysg iechyd mewn perthynas â themâu craidd gan gynnwys:

  • maeth
  • ymataliaeth
  • imiwneiddiadau
  • materion deintyddol
  • cymorth i'r plentyn / person ifanc a'i deulu

Gweithiwr iechyd proffesiynol arweiniol

Bydd gan bob plentyn oed ysgol waeth beth fo'i leoliad addysgol y gweithiwr iechyd proffesiynol mwyaf priodol yn rhan o'r broses. Er enghraifft:

  • pediatregydd
  • nyrs mewn ysgol arbennig
  • ymarferydd cyffredinol (GP)
  • gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd
  • nyrs plant gymunedol
  • nyrs iechyd y cyhoedd gymunedol arbenigol (nyrsio ysgolion)
  • gweithiwr proffesiynol y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed

Ni ddylai'r rôl broffesiynol iechyd arweiniol sy'n cydlynu a mynychu pob cynhadledd achos ar ran GIG Cymru gael ei chyflawni gan y gwasanaethau nyrsio ysgolion yn ddiofyn. Rhaid bod gan y gweithiwr iechyd proffesiynol arweiniol sy'n mynychu'r gynhadledd gyfraniad ystyrlon a sylweddol i'w wneud o amgylch y teulu a'r plentyn / person ifanc. Mae'n eithriadol o bwysig bod y gweithiwr iechyd proffesiynol arweiniol yn y gynhadledd ddiogelu yn adnabod y plentyn, person ifanc a'r teulu lle y bo hynny'n briodol, er mwyn sicrhau'r canlyniadau diogelu gorau i'r plentyn neu berson ifanc.