Mae Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd wedi penodi Cadeirydd newydd ar gyfer y Panel Cynghori ar Aer Glân.
Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS wedi penodi'r Athro Paul Lewis yn Gadeirydd Annibynnol newydd y Panel Cynghori ar Aer Glân (CAAP).
Mae'r Panel Cynghori ar Aer Glân yn darparu cyngor ac argymhellion ar sail tystiolaeth i Lywodraeth Cymru ar faterion ansawdd aer yng Nghymru, gan helpu i gefnogi penderfyniadau Gweinidogion Cymru. Mae'r Panel yn llywio dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o lygredd yn yr awyr yng Nghymru, gan gefnogi datblygiad polisïau i ysgogi gwelliannau mewn ansawdd aer yng Nghymru. Mae aelodaeth o'r Panel yn cynnwys llunwyr polisi amlddisgyblaethol, y byd academaidd ac ansawdd aer ac ymarferwyr iechyd cyhoeddus.
Nod y Cynllun Aer Glân yw gwella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, bioamrywiaeth, yr amgylchedd naturiol a'n heconomi.
Strategaeth ansawdd aer genedlaethol bresennol Llywodraeth Cymru, Cynllun Aer Glân Cymru: Aer Iach, Cymru Iach, ei chyhoeddi yn 2020. Mae'n nodi camau gweithredu eang i wella ansawdd aer yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu mwy o dystiolaeth ansawdd aer gronynnog ac ychwanegu at wybodaeth bresennol i gefnogi datblygiad polisi a deddfwriaethol yng Nghymru. Mae cyngor y Panel yn cefnogi cyflawni'r gwaith hwn.
Mae'r Athro Paul Lewis yn docsicolegwr genetig sy'n arbenigo mewn asesu effeithiau llygredd aer ar iechyd. Ar ôl gyrfa hir mewn ymchwil academaidd ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe, mae bellach yn gweithio yn Arloesi Anadlol Cymru ac yn Athro Emeritws yn Ysgol Feddygaeth Abertawe. Ers 2021, ef yw Pencampwr Rhanbarthol Rhaglen Aer Glân UKRI yng Nghymru, gan helpu i gefnogi ymdrechion i godi ymwybyddiaeth o ansawdd aer gwael drwy drafod â'r byd academaidd, diwydiant, llywodraeth leol, gofal iechyd, y sector addysgol a sefydliadau'r trydydd sector.
Bu yn aelod o Banel Cynghori ar Aer Glân Llywodraeth Cymru ers 2020, gan gadeirio is-grwpiau ar dargedau llygryddion ac effeithiau iechyd. Yn 2020, arweiniodd adroddiad y Panel ar 'Effeithiau pandemig Covid-19 ar ansawdd aer yng Nghymru'. Mae wedi cyflwyno'r cysylltiadau rhwng ansawdd aer a iechyd ar ran Llywodraeth Cymru mewn digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus i baratoi ar gyfer Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024. Bu hefyd yn aelod o Banel Adolygu Annibynnol Cyfarwyddyd Ansawdd Aer Llywodraeth Cymru ers 2018 ac mae'n aelod o Grŵp Trawsbleidiol Senedd Cymru - Deddf Aer Glân i Gymru. Mae pob cyhoeddiad gan y Panel ar gael ar wefan Ansawdd Aer yng Nghymru.
Mae'r penodiad hwn wedi'i wneud ar gyfer tymor presennol y Senedd (hyd at fis Mawrth 2026) yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, ac ar sail teilyngdod yn dilyn proses agored, gystadleuol.