Sut rydym yn sicrhau ein bod yn recriwtio'r nifer cywir o fyfyrwyr i'n rhaglenni hyfforddi athrawon ar gyfer pob blwyddyn academaidd.
Cynnwys
Cyflwyniad
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig wrth reoli'r cyflenwad o athrawon ysgol. Rydym yn gwneud hyn trwy gyrsiau addysg gychwynnol athrawon sy'n dyfarnu statws athro cymwysedig (SAC). Llywodraeth Cymru sy'n pennu'r nifer o athrawon sydd eu hangen bob blwyddyn ar lefel genedlaethol. Ein nod yw:
- bodloni'r galw gan ysgolion am athrawon
- sicrhau defnydd effeithlon o arian cyhoeddus
- lleihau'r potensial i athrawon ysgol fethu dod o hyd i rôl addysgu
Y Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon
Mae'r Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon yn amcangyfrif nifer yr athrawon dan hyfforddiant sydd eu hangen bob blwyddyn. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn yr adran Methodoleg y Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon.
Mae'r Model yn defnyddio amcanestyniadau cyfredol o niferoedd disgyblion a data ynghylch y gweithlu athrawon. Mae'n cynhyrchu un ffigur ar gyfer y sector cynradd ac un ar gyfer y sector uwchradd. Rydym yn rhoi gwybod i Gyngor y Gweithlu Addysg (CGA) am y ffigurau cenedlaethol. Wedyn maent yn:
- dyrannu'r ffigurau hyn i raglenni AGA unigol
- rhoi gwybod i'r Partneriaethau AGA am eu dyraniad blynyddol
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am broses ddyrannu CGA yn Dyraniadau derbyn addysg gychwynnol athrawon (ewc.cymru).
Rhoi gwybod am nifer yr athrawon dan hyfforddiant sydd eu hangen ar gyfer 2024 i 2025
Ein llythyr yn rhoi gwybod i CGA am y ffigurau cenedlaethol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024 i 2025.
Achredu rhaglenni AGA i alluogi recriwtio
Rhaid achredu pob cymhwyster AGA sy'n dyfarnu SAC yng Nghymru. Yng Nghymru maent wedi'u hachredu gan Fwrdd Achredu AGA CGA. Mae hyn yn rhan o gyfrifoldebau statudol CGA.
Mae Partneriaethau AGA yn gofyn am ddyraniad fderbyn pan fyddant yn cyflwyno eu cais am achrediad. Wedyn mae'r Bwrdd Achredu AGA yn ystyried:
- p'un a ydynt yn darparu profiad o ansawdd uchel i athrawon dan hyfforddiant
- a ydynt yn gynaliadwy yn ariannol
- y cyfraddau recriwtio hanesyddol ar gyfer cyfnod y rhaglen a'r math o raglen
- y lefelau cenedlaethol o alw mewn ysgolion a gynhelir a'r cyflenwad presennol o athrawon
Y Brifysgol Agored yw'r bartneriaeth AGA dynodedig sy'n darparu cymwysterau AGA 'amgen'. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- TAR Rhan-amser
- TAR Cyflogedig
Y TAR Cyflogedig yw cymhwyster addysg athrawon ar sail cyflogaeth Llywodraeth Cymru sy'n arwain at SAC. Rydym yn pennu'r dyraniadau recriwtio i'r rhaglenni hyn ar wahân bob blwyddyn.
Hyrwyddo'r proffesiwn addysgu: cefnogi recriwtio i AGA
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi recriwtio i AGA a'r gweithlu addysgu ysgolion.
Mae'r cynlluniau canlynol ar waith gennym:
- Cynllun Recriwtio Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ar gyfer Addysg Gychwynnol i Athrawon
- Cynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg
Rydym yn rhedeg ymgyrch recriwtio 'Addysgu Cymru' ac yn cefnogi'r ymgyrch drwy ein gwefan Addysgwyr Cymru. Rydym yn gweithio gyda CGA sy'n hyrwyddo'r proffesiwn trwy eu gwaith eiriolaeth mewn ysgolion, chweched dosbarth, colegau a phrifysgolion.
Methodoleg y Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon
Mae'r Model Cynllunio a Chyflenwi Athrawon yn fodel ystadegol. Mae'n cyfrif nifer y lleoedd sydd eu hangen ar gyrsiau AGA ar gyfer rhaglenni:
- israddedig cynradd
- cynradd ôl-raddedig
- uwchradd ôl-raddedig
Rydym yn defnyddio'r niferoedd hyn i nodi nifer yr athrawon newydd sydd eu hangen yng Nghymru ar gyfer:
- ysgolion cynradd a gynhelir gan awdurdodau lleol
- ysgolion uwchradd a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru (gan gynnwys ysgolion gydol oes)
Rydym yn cynnwys y niferoedd ar gyfer ysgolion arbennig yn y model. Rydym yn rhannu hyn yn gyfrannol rhwng y cyfrifiadau cynradd ac uwchradd.
Nid yw'r Model yn cwmpasu:
- athrawon heb gymhwyso
- athrawon mewn unedau cyfeirio disgyblion (UCD)
- athrawon mewn ysgolion annibynnol
- cynorthwywyr addysgu neu gynorthwywyr cymorth dysgu
Amcangyfrif yr angen am athrawon
Mae'r model yn cyfrifo nifer yr athrawon sydd eu hangen ('y nifer dymunol') fesul cam. Wedyn mae'r model yn amcangyfrif sut y bydd y Gymhareb Disgybl Athro yn newid wrth i niferoedd y disgyblion newid. Mae'r model yn gwneud hyn gan ddefnyddio:
- nifer y disgyblion ar sail data o'r cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion (CYBLD).
- ffigurau amcanestyniadau disgyblion
Yna mae'r model yn cyfrifo nifer yr athrawon sydd eu hangen i gynnal neu newid y Gymhareb Disgybl Athro. Mae awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir yn gwneud penderfyniadau sy'n pennu'r union gymarebau athrawon disgyblion.
Rydym yn cael nifer yr athrawon sydd 'mewn swydd' o Gofrestr Ymarferwyr Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA). Rydym yn gwahanu hyn yn ôl cyfnod ysgol, rhyw ac oedran. Mae hyn yn ein galluogi i ddadansoddi a gwneud rhagamcanion o:
- ddemograffeg y boblogaeth athrawon
- symudiadau athrawon rhwng cyfnodau ysgol ac allan ohonynt
Mae athrawon 'nad ydynt yn y gwasanaeth' wedi'u cofrestru gyda'r CGA ond nid ydynt mewn swydd addysgu barhaol mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Y 'gyfradd ymadael' yw nifer yr athrawon sy'n gadael y proffesiwn. Mae'r model yn cyfrifo hyn fel cyfran yr athrawon 'mewn swydd' 'nad ydynt yn y gwasanaeth' yn y flwyddyn ganlynol. Rydym yn defnyddio cyfartaledd 3 blynedd ar gyfer y 'gyfradd ymadael'. Mae hyn yn lleihau effaith unrhyw anwadalrwydd yn y data oherwydd amrywiadau blynyddol.
Mae'r model yn tynnu'r gyfradd ymadael a'r gyfradd ymddeol o'r 'stoc dymunol'. Dyma'r diffyg o ran athrawon yng Nghymru a'r nifer sydd angen ymuno â'r proffesiwn.
Mynd i addysgu
Dyma'r nifer sydd angen ymuno â'r proffesiwn. Mae'r model yn rhannu nifer yr athrawon newydd sydd eu hangen yn ddau grŵp:
- athrawon cymwysedig sy'n ail-ymuno
- myfyrwyr sy'n cwblhau cymwysterau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA)
Cyfrifir 'cyfraddau ail ymuno' o Gofrestr Ymarferwyr CGA. Dyma gyfran yr athrawon cymwysedig 'nad ydynt yn y gwasanaeth' yn y flwyddyn flaenorol sydd bellach yn 'mewn swydd'. Cymhwysir cyfartaledd tair blynedd o ganran yr ymgeiswyr sy'n cael eu llenwi gan athrawon sy'n ail-ymuno i ragweld nifer yr athrawon fydd yn ail-ymuno yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r model yn cyfrifo nifer y newydd-ddyfodiaid sydd eu hangen o AGA. Dyma'r gwahaniaeth rhwng y diffyg disgwyliedig o athrawon a nifer yr athrawon sy'n ail-ymuno.
Cyfrifo nifer y lleoedd sydd eu angen ar gyfer cyrsiau AGA
Rydym yn defnyddio data hanesyddol gan yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA) am:
- nifer y myfyrwyr sy'n cael eu derbyn i gyrsiau AGA
- nifer y myfyrwyr sy'n ennill cymhwyster AGA
Gan ddefnyddio'r data, mae'r model yn cyfrifo'r canlynol ar gyfer pob math o gwrs AGA:
- cyfraddau cwblhau
- cyfraddau derbyn
Rydym yn defnyddio data o Arolwg Cyrchfannau Ymadawyr Addysg Uwch HESA. Mae hyn yn darparu'r canran y rhai sy'n cyflawni cyrsiau AGA sy'n chwilio am waith yng Nghymru. Rydym yn rhannu hyn yn ôl cyfnod ysgol a'r math o gwrs (graddedig/ôl-raddedig). Mae hyn yn rhoi syniad o faint o fyfyrwyr a allai ddod yn gymwysedig a chwilio am waith yng Nghymru.
Rydym yn defnyddio'r wybodaeth hon i gynyddu'r ffigurau ar gyfer ymgeiswyr AGA. Mae hyn yn cyfrif y myfyrwyr sy'n gadael yn ystod eu cwrs AGA a'r rhai nad ydynt yn chwilio am waith.
Mae'r model yn addasu'r ffigurau i gyfrif am y nifer cyfartalog gwirioneddol sy'n cael eu derbyn i gyrsiau AGA. Mae'r model yn gwneud hyn ar gyfer nifer y lleoedd a ddyrennir yn ôl cyfnod ysgol a'r math o gwrs. Mae hyn yn darparu'r dyraniadau AGA ar lefel Cymru gyfan ar gyfer y cyfnodau cynradd ac eilaidd.
Ystadegau a data
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ystadegau sy'n ymwneud â recriwtio athrawon a gweithlu'r ysgol yn y dolenni isod: