Siaradwch am roi organau: Mike Stephens
Diwrnod ym mywyd llawfeddyg trawsblannu
Mike Stephens yw llawfeddyg trawsblannu blaenllaw Cymru.
Gyda mwy na 14 blynedd o brofiad yn arwain tîm yn Ysbyty Athrofaol Cymru, mae Mike wedi chwarae rôl flaenllaw yn trawsnewid bywydau pobl.
“Mae bod yn llawfeddyg trawsblaniadau yn rhoi gymaint o foddhad i fi. Mewn meysydd arbenigedd eraill, unwaith mae’r llawdriniaeth wedi gorffen a’r claf wedi gwella, mae’r claf fel arfer yn gadael gofal y llawfeddyg, ond dydi hyn ddim yn digwydd gyda llawdriniaeth trawsblannu.”
“Mae angen dilyniant gydol oes ar gleifion sy’n golygu ein bod ni’n cael y fraint o weld eu bywydau’n datblygu ac o glywed sut mae eu trawsblaniad wedi gwella pethau iddyn nhw dros y blynyddoedd.”
“Rydyn ni’n datblygu perthynas agos â nhw a dwi’n dod yn rhan o’u bywydau, yn eu gweld yn priodi, yn cael plant neu’n mynd trwy brofiadau anodd bywyd, fel colled ac ysgariad.”
“Mae’n bwysig dweud nad iachâd ydi trawsblaniad. Mae’n ffordd o wella ac ymestyn bywyd, ond mae’n dod â’i beryglon ei hun ac mae’r meddyginiaethau angenrheidiol i gadw’r trawsblaniad yn iach yn gallu arwain at sgil-effeithiau difrifol.”
“Mae’r penderfyniad os mai trawsblaniad yw’r peth iawn i unrhyw glaf yn dibynnu ar lawer o ffactorau, sawl un ohonynt ddim yn ‘feddygol’ fel y cyfryw ond sy’n ymwneud yn fwy â ffordd o fyw, blaenoriaethau a chynlluniau i’r dyfodol. Felly, rydyn ni angen darganfod beth sy’n bwysig i’r unigolyn er mwyn helpu gwneud y penderfyniad ai trawsblaniad yw’r dewis gorau iddyn nhw.”
Ychwanegodd Mike:
“Gyda’r da, daw’r drwg. Weithiau, mae’n rhaid dweud wrth y claf nad yw’r trawsblaniad wedi gweithio ac, fel y dywedais i, rydym yn meithrin partneriaethau agos gyda’r derbynwyr a’r rhoddwyr byw ac i orfod dweud hynna, mae’n ddigon i dorri eich calon.”
“Ond yr hyn rydw i wedi dod i sylweddoli ydi bod rhoi organau yn gallu digwydd i unrhyw un, dydy organ yn methu ddim yn dibynnu ar le rydych chi’n byw, beth yw eich oedran, pa gar rydych chi’n ei yrru neu liw eich croen.”
“Mae rhoddion yn newid bywydau yn y bôn, diolch i garedigrwydd dynolryw, ac mae’r swydd hon yn gwneud i mi gredu bod pobl yn dda – ac fe fyddaf yn dragwyddol ddiolchgar am hynny.”
Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.