Siaradwch am roi organau: Gareth Evans
Roeddwn i’n benderfynol o guro’r clefyd
Mae Gareth Evans, 44 oed, yn dathlu blwyddyn ers cael trawsblaniad yr afu, yn dilyn blynyddoedd o alcoholiaeth.
Aeth y gweithiwr cyfryngau proffesiynol llwyddiannus yn gaeth i alcohol y tu hwnt i’w ofnau gwaethaf yn 2012 ar ôl hunanfeddyginiaethu i guddio problemau iechyd meddwl, gyda hyn yn arwain at ddibyniaeth a oedd yn bygwth ei fywyd.
Meddai:
Ro’n i’n yfed llawer. Cyn pen dim, ro’n i ar 2 litr o wirodydd y dydd o leiaf; yn yfed amser brecwast, cinio a swper. Dwi’n cofio un noson, cydweithiwr a minnau’n mynd allan ar ôl gwaith – ro’n i’n byw ym Manceinion ar y pryd, ac ro’n i wedi yfed cymaint o alcohol fel i mi gael ffitiau ar y tram ar y ffordd i’r dref.
Ym mis Tachwedd 2017, cafodd Gareth ddiagnosis o glefyd yr afu datblygedig iawn, ar ôl i’w ŵr, Stephen ddod adref a chanfod bod y gwythiennau o amgylch pibell fwyd Gareth wedi byrstio a gwaed wedi gollwng i’r corff.
Siaradodd y meddyg â mi am ddifrifoldeb fy sefyllfa, ac fe gliciodd rhywbeth, ac ro’n i’n gwybod mod i angen curo’r clefyd hwn, neu ro’n i’n mynd i farw. Fe wnes i roi’r gorau i yfed ac fe aeth fy enw ar y rhestr drawsblaniadau. Roedd angen i mi droi fy euogrwydd yn ddiolchgarwch a chanolbwyntio ar y dyfodol wrth i mi ddechrau fy nhaith i wella.
Ro’n i’n marw’n araf ac ar ôl tair wythnos cefais yr alwad ro’n i’n aros amdani – roedd yna afu ar gael i mi. Don i ddim yn teimlo mod i’n ei haeddu ar y dechrau, ond ro’n i’n gwybod bod angen i fi fod yn gadarnhaol. Aeth fy mhartner, Stephen, a minnau ar y daith bryderus ar hyd y draffordd i Ysbyty Queen Elizabeth ond roedd yr alwad yn un o bedair ‘ymarfer’ a gefais. Roedd pob afu’n anaddas, naill ai oherwydd eu hiechyd neu eu maint.
Ym mis Gorffennaf 2019, cafodd Gareth drawsblaniad 12 awr ac afu newydd. Ar ôl misoedd o wrthod a chymhlethdodau, mae organ Gareth bellach yn gweithio, ac mae’n gadarnhaol a gobeithiol iawn am y dyfodol.
Meddai:
Fel claf trawsblaniad afu, mae rhoi organau’n rhywbeth anferth sy’n newid bywydau’r derbynnydd a theulu’r rhoddwr. Ro’n i’n ei chael hi’n anodd dod i delerau â’r syniad o achub bywyd ond dwi’n gadarnhaol nawr a byddaf yn cofio’r rhodd mae’r rhoddwr wedi’i roi i mi bob amser.
Nid gêm ddyfalu yw eich penderfyniad i roi organau
Gwnewch benderfyniad, cofrestrwch y penderfyniad hwnnw, dywedwch wrth eich teulu.