Cynllun Cynllunio Creu Coetir (ffenestr 3): llyfryn rheolau
Cadwch at y rheolau hyn ar gyfer ffenestri 3 o'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad: Cefnogi'r economi wledig a'r newid i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn nodi ein hymrwymiadau i barhau i gefnogi perchnogion tir a rheolwyr tir, gan gynnwys ffermwyr, i gynhyrchu bwyd a ffeibr mewn ffordd gynaliadwy, gan gymryd camau hefyd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a helpu i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Darperir cymorth ariannol i ffermwyr, rheolwyr tir a sectorau gwledig cysylltiedig drwy fframwaith cymorth hyblyg, ac mae cynlluniau – gan gynnwys y Cynllun Cynllunio Creu Coetir – yn cyfrannu at y themâu canlynol:
- rheoli tir ar lefel fferm
- gwelliannau amgylcheddol ar ffermydd
- effeithlonrwydd ac arallgyfeirio ar ffermydd
- rheoli tir ar lefel tirwedd
- coetiroedd a choedwigaeth
- cadwyni cyflenwi bwyd a ffermio
Nod y fframwaith yw cefnogi camau gweithredu mewn ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd ar gael dros y tair blynedd nesaf, a llywio’r gwaith parhaus o ddatblygu’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy – cynllun a fydd yn gwobrwyo ffermwyr am y gwaith y maent yn ei wneud ar hyn o bryd i leihau eu hôl troed carbon, gwella'r amgylchedd a chynhyrchu bwyd mewn ffordd gynaliadwy.
Mae rhagor o wybodaeth am y themâu a'r cynlluniau sy'n cael eu datblygu ar gael yn: https://businesswales.gov.wales/walesruralnetwork/cy
Y prif bwyntiau
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu planiau ar gyfer creu coetiroedd newydd.
Mae taliadau creu coetir ar gyfer plannu coed, codi ffensys da byw, gatiau a gwaith cynnal a chadw wedi cynyddu. Mae ffensys ceirw wedi’u cynnwys hefyd.
Bydd y taliadau creu coetir yn helpu ffermwyr i newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS). Ni fydd anfantais o ran bod yn gymwys am yr SFS o fod wedi gwneud y gwaith plannu coed cyn dechrau’r cynllun.
Rhaid i Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ddilysu’r planiau i sicrhau eu bod yn bodloni Safon Coedwigaeth y DU (UKFS) a rheolau'r cynllun. Pan fydd plan wedi cael ei ddilysu bydd yn gymwys ar gyfer Grant Creu Coetir.
Rhaid i chi ddefnyddio cynllunydd creu coetir i ddatblygu plan creu coetir drwy ddefnyddio templed. Bydd angen cynnwys fwy o wybodaeth yn y templed os oes angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol a gaiff hyn ei gytuno ar mewn trafodaeth cyn ymgeisio orfodol gyda CNC.
Rhaid datgan diddordeb ar gyfer Plan Creu Coetir sy'n cynnwys 0.25 hectar o leiaf. Os ydych am blannu llai na dau hectar ar dir wedi'i wella'n amaethyddol neu ar dir isel ei werth amgylcheddol yng Nghymru, cewch wneud cais i'r cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir.
Pan fydd plan wedi cael ei ddilysu, bydd yn gymwys ar gyfer gwneud cais am Grant Creu Coetir am bum mlynedd o ddyddiad y dilysu. Bydd hyn yn caniatáu i reolwr tir wneud cais am gyllid yn y dyfodol i greu coetir heb yr angen i fynd drwy'r broses ddilysu eto, ar yr amod nad yw'r Plan Creu Coetir wedi cael ei newid. Bydd cyfnodau ymgeisio am y Grant Creu Coetir (WCG) yn agor yn rheolaidd o hyn ymlaen, yn dibynnu ar y cyllid sydd ar gael.
Trosolwg o broses y Cynllun Cynllunio Creu Coetir
- Cyngor cyn ymgeisio
Caiff unrhyw un sydd â diddordeb ofyn am gyngor gyn ymgeisio i gwiriocynlluncoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Bydd tîm Rhaglen Coetir CNC yn gobeithio ateb pob cam am gyngor cyn ymgeisio o fewn 28 diwrnod. - Datgan diddordeb
Rhaid Datgan Diddordeb mewn plan coetir sydd o leiaf 0.25 hectar o faint. Os ydych am blannu llai na 2 hectar ar dir wedi'i wella'n amaethyddol neu ar dir o werth amgylcheddol isaf, gallwch wneud cais yn lle hynny am gynllun Grantiau Bach - Creu Coetir. - Plan
Mae'r WCPS yn rhoi arian ar gyfer defnyddio cynllunydd coetir cyfrestredig i ddatblygu creu coetir gan ddefnyddio templad. Rhaid cynnwys gwybodaeth ychwanegol yn y templed os oes angen Asesu Effaith Amgylcheddol, a chytunir ar hyn mewn trafodaeth cyn ymgeisio orfodol gydach CNC. - Dilysu
Rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru ddilysu planiau i wneud yn siwr ei bod yn bodloni Safon Goedwigaeth y DU (UKFS). Ar ôl i blan gael ei ddilysu, bydd yn gymwys am y Grant Creu Coetir (WCG).
Adran A: cyflwyniad
Fel rhan o’n cynllun i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, mae angen i Gymru blannu 43,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2030. I helpu i gyflawni hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir newydd.
Mae'r cynllun hwn ar gael drwy gydol y flwyddyn, ac mae'n cynnig grantiau rhwng £1,000 a £5,000 i ddatblygu planiau ar gyfer creu coetir newydd.
Mae cynllun ar wahân drwy'r Grant Creu Coetir yn cynnig cyllid i ffermwyr a rheolwyr tir ar gyfer plannu coed a gosod ffensys a gatiau, pan fydd eich plan ar gyfer creu coetir wedi cael ei gymeradwyo. Mae’r Grant Buddsoddi mewn Coetir yn cynnig arian ychwanegol ar gyfer safleoedd y Goedwig Genedlaethol.
Isod mae proses gam wrth gam y cynnig newydd:
- caiff unrhyw berchennog tir neu reolwr tir yng Nghymru wneud cais drwy RPW Ar-lein. Cewch ddewis defnyddio cynllunydd coetiroedd cofrestredig i wneud cais ar eich rhan.
- dewisir cynlluniau ar sail sgoriau’r Map Cyfleoedd Coetiroedd.
- rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio cynllunydd cofrestredig i gwblhau Plan Creu Coetir, a fydd yn cael ei anfon at CNC i’w wirio i sicrhau ei fod yn cyd-fynd â Safon Coedwigaeth y DU.
- bydd trafodaeth cyn ymgeisio orfodol rhwng CNC a'r cynllunydd cofrestredig am y cynnig i greu coetir cyn cyflwyno’r Datganiad o Ddiddordeb.
- pan fydd cynllun wedi cael ei ddilysu, bydd rheolwyr tir yn gymwys i wneud cais am Grant Creu Coetir Llywodraeth Cymru am bum mlynedd o ddyddiad y dilysu.
- bydd rheolwyr tir yn cael taliad o hyd at £5,000, yn seiliedig ar arwynebedd y plan. Ni fydd taliadau’n cael eu gwneud ar gyfer cynlluniau nad ydynt wedi cael eu dilysu, er bydd cymorth ar gael o hyd ar gyfer arolygon y gofynnwyd amdanynt.
- bydd planiau sy'n bodloni un o'r categorïau coetir a gefnogir yn gymwys ar gyfer gwneud cais am Grant Creu Coetir ar gyfer plannu coed.
- Bydd rheolwyr tir yn gyfrifol am roi gwybod i RPW drwy eu cyfrif RPW Ar-lein os byddant yn dewis plannu’r coetir heb gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy
Bydd yr arian yn helpu ffermwyr i newid i’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) newydd sydd yn yr arfaeth, gan y bydd coed a blennir nawr yn cyfrif at y Weithred Sylfaenol o ran gorchudd coed ar ffermydd yn yr SFS. Ni fydd anfantais o ran bod yn gymwys am yr SFS o fod wedi gwneud y gwaith plannu coed cyn dechrau’r cynllun.
Adran B: pwy sy’n gymwys
I fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir rhaid bodloni'r meini prawf canlynol:
- bod wedi’ch cofrestru fel cwsmer gydag RPW ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN).
- rhaid ichi fod yn ddeiliad tir cyhoeddus neu breifat neu’n gyngor neu’n gymdeithas, gan gynnwys grwpiau cymunedol sy'n plannu ar dir cyhoeddus. Rhaid ichi fod â rheolaeth lwyr dros y tir.
- rhaid i denantiaid fod â rheolaeth lwyr dros y tir a bod wedi derbyn cytundeb y landlord i gymryd rhan yn y cynllun.
- bydd landlordiaid yn cael gwneud cais i'r cynllun os ydynt yn gallu dangos eu bod wedi cadw rheolaeth lwyr dros y tir. Ni fydd landlordiaid yn cael gwneud cais am gyllid ar gyfer unrhyw dir sydd wedi bod yn destun anghytundeb ynghylch tenantiaethau o fewn y 12 mis diwethaf.
- Rhaid ichi fod â rheolaeth lwyr dros y tir a chadw rheolaeth lwyr nes i'r hawliad gael ei dalu. Rhaid ichi fod wedi cofrestru eich tir gyda System Adnabod Parseli Tir Taliadau Gwledig Cymru a bod â rheolaeth lwyr dros y tir pan fyddwch yn cyflwyno eich cais. Nid oes angen ichi fod yn ffermwr i wneud hyn.
- Nid yw Adrannau’r Llywodraeth na’u hasiantiaid yn gymwys ar gyfer taliad.
Gofynion cymhwysedd
Rhaid i dir fodloni'r meini prawf canlynol:
- bod wedi'i gofrestru gyda System Adnabod Parseli Tir Taliadau Gwledig Cymru.
- bod wedi'i wneud o barseli cae sy'n 0.1 hectar neu'n fwy ac wedi'i leoli yng Nghymru – nid yw'r term parsel cae yn golygu bod rhaid iddo fod yn dir amaethyddol.
- rhaid iddo beidio â bod yn goetir sydd eisoes yn bodoli. Mae hyn yn cynnwys ardaloedd a ddangosir ar Restr Goedwigoedd Genedlaethol Forest Research – Y Rhestr Genedlaethol o Goetiroedd a Choed | MapDataCymru
- os yw'r tir yn dir comin cofrestredig, rhaid naill ai dderbyn caniatâd o dan adran 38 o Ddeddf Tiroedd Comin 2006, neu gadarnhad ysgrifenedig nad oes angen caniatâd o dan adran 38 gan Weinidogion Cymru, cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb. Os bydd angen caniatâd, mae angen caniatâd o dan adran 38 cyn cyflwyno datganiad o ddiddordeb.
Adran C: grantiau sydd ar gael
Planiau Creu Coetir
Telir grant o £1,000 o leiaf ar gyfer pob Plan Creu Coetir sy'n cael ei gwblhau. Ar gyfer arwynebeddau o goetir dros 20 hectar, telir £50 fesul hectar cyfan, hyd at uchafswm o £5,000 fesul plan, i gynnwys unrhyw arolygon arbenigol. Er enghraifft, byddai plan ar gyfer 15 hectar yn derbyn taliad o £1,000, a byddai plan ar gyfer 35.5 hectar yn derbyn taliad o £1,750 (£1,000 + (15 x £50)).
Rhaid i'r plan gael ei ddilysu gan CNC cyn y gellir hawlio taliad.
Os nad yw'r plan yn cael ei ddilysu, ni wneir unrhyw daliad, er y gellir hawlio am arolygon arbenigol o hyd. Yr arwynebedd sy'n gymwys ar gyfer taliad fydd arwynebedd terfynol y plan, fel y mae wedi cael ei ddilysu gan CNC. Mae'n bosibl y bydd hwn yn wahanol i'r arwynebedd a gyflwynwyd yn y datganiad o ddiddordeb os bydd newidiadau yn ystod y broses ddilysu. Ni ddylid cynnwys arwynebedd unrhyw fannau agored sy'n fwy na 0.5 hectar wrth gyfrifo arwynebedd y coetir.
Rhaid i'ch Plan Creu Coetir gynnwys cais ar gyfer un neu fwy o'r categorïau coetir yn Nhabl 1. Yn y dyfodol, mae'n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn dewis newid y categorïau coetir, ond byddwn yn sicrhau y bydd planiau a gafodd eu dilysu cyn i'r categorïau gael eu newid yn parhau i fod yn gymwys i wneud cais am gyllid. Caiff ymgeiswyr ddewis cwblhau plan nad yw’n perthyn i un o’r categorïau creu coetir hyn ond efallai na fydd yn gymwys am arian creu coetir yn y dyfodol.
Mae'r categorïau o goetir sy'n gymwys ar gyfer y Grant Creu Coetir yn cael eu hamlinellu yn y tabl isod, ynghyd â gwerthoedd y grant os ydych yn gwneud cais i'r cynllun ac yn cael eich dewis.
Tabl 1 – Y Categorïau Coetir | |||||
---|---|---|---|---|---|
Categori o Goetir | Rhif Gwaith Cyfalaf | Manyleb | Taliad am blannu coetir newydd (£) | Taliad cynnal a chadw blynyddol/ha (£) am 12 mlynedd | Taliad premiwm blynyddol/ha am 12 mlynedd |
Coetir cymysg gwell | P004 |
| 5,146 | Gweler y tabl isod | 350 |
Coetir brodorol – carbon | P003 |
| 6,170 | Gweler y tabl isod | 350 |
Coetir brodorol – bioamrywiaeth (1,600) | P002 |
| 4,550 | Gweler y tabl isod | 350 |
Coetir brodorol – bioamrywiaeth (1,100) | P005 |
| 3,302 | Gweler y tabl isod | 350 |
Amaeth-goedwigaeth – coed gwasgarog | P001 |
| 1,600 | 30 (5 mlynedd) | Amherthnasol |
Ffensys pyst a weiar gyda netin | P595 | Ffensys pyst a weiar gyda netin stoc |
8.32 | ||
Ffensys ceirw | P518 | Ffensys i amddiffyn rhag ceirw yn pori | 11.93 | ||
Giât safonol (metel) | P590 | £221.00 | |||
Gât Safonol (pren caled) | P599 | £669.41 | |||
Gât safonol (pren meddal) | P600 | 291.75 | |||
Gât ceffylau bren â physt | P516 | Gatiau ceffylau i roi mynediad i gerddwyr a phobl ar geffylau ar hawliau tramwy cyhoeddus. Cydymffurfio â BS5709. | 220.83 | ||
Gât mochyn bren â physt | P517 | Gatiau moch i alluogi cerddwyr i groesi ffiniau caeau ar hawliau tramwy cyhoeddus. Cydymffurfio â BS 5709. | 237.80 |
Cyfraddau cynnal a chadw am 12 mlynedd (ddim yn cynnwys Amaeth-goedwigaeth) – Taliad fesul Hectar
Bl1 | Bl2 | Bl3 | Bl4 | Bl5 | Bl6 | Bl7 | Bl8 | Bl9 | Bl10 | Bl11 | Bl12 |
£400 | £300 | £250 | £70 | £70 | £70 | £70 | £70 | £70 | £70 | £70 | £70 |
Mae'r taliad Cynnal a Chadw ar gael i gynnal gwaith plannu newydd drwy gydol cyfnod y contract - gweler y tabl uchod. Mae hyn yn dechrau’n ddwys i gydnabod y costau uwch yn y blynyddoedd cynnar ar ôl plannu er mwyn darparu'r cyllid pan fo angen. Mae taliad ar gyfer y categori Amaeth-goedwigaeth am 5 mlynedd (£30/ha/blwyddyn) ac nid yw ar gael ar dir sy’n eiddo cyhoeddus.
Arolygon arbenigol
Os bydd CNC yn cynghori bod angen arolwg arbenigol o gynefinoedd neu rywogaethau fel rhan o’r cyngor cyn ymgeisio, cewch hawlio 80% o gost yr arolwg hwn yn ychwanegol at eich hawliad am gymorth ar gyfer y plan. Ar gyfer arolygon â chyfanswm cost o lai na £5,000 bydd angen cyflwyno un dyfynbris. Ar gyfer unrhyw arolygon â chyfanswm cost rhwng £5,000 a £24,999, bydd angen ichi gyflwyno tri dyfynbris ar gyfer yr arolwg i ddangos gwerth am arian. Bydd y taliad yn seiliedig ar 80% o'r dyfynbris isaf. Mae’r mathau o arolygon arbenigol y mae cyllid ar gael ar eu cyfer yn cynnwys:
- ystlumod a phili-palod
- mawn
- adar sy'n bridio
- llystyfiant / cynefinoedd
- archeoleg
Y grant mwyaf y gellir ei hawlio (gan gynnwys unrhyw arolwg arbenigol) yw £5,000.
Os bydd arolwg arbenigol yn dangos na chewch blannu ar unrhyw ran o’r cynllun, bydd dal gofyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Ar ôl ei gyflwyno, gall Llywodraeth Cymru dalu am yr arolwg arbenigol.
Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth sy'n cael ei chasglu fel rhan o arolygon ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cael ei chadw gan CNC neu Lywodraeth Cymru i ddiweddaru eu sail gwybodaeth amgylcheddol.
Ffynonellau cyllid eraill
Pan fyddwch yn gwneud cais ar gyfer eich Plan Creu Coetir, bydd angen ichi ystyried a fyddech yn gymwys i dderbyn cyllid ar gyfer plannu coed yn y dyfodol drwy'r Grant Creu Coetir.
Glastir Uwch
Os bydd y coed yn cael eu plannu cyn i gontract Glastir Uwch ddod i ben, ni fydd unrhyw ran o barsel sydd o dan opsiwn rheoli ar gael i’w phlannu. Dim ond y rhan sy’n weddill, nad yw o dan opsiwn rheoli, y gellir ei hystyried o dan gynnig i blannu coed.
Os bydd y coed yn cael eu plannu ar ôl i gontract Glastir Uwch ddod i ben, gall y parsel cyfan gael ei gyflwyno, ei sgorio a'i ystyried ar gyfer ei ddewis. Os yw'n cael ei ddewis ac mae'r plan dilynol yn cael ei ddilysu, ni chewch wneud unrhyw waith a allai niweidio'r opsiwn rheoli, pan fydd yn cael ei gefnogi o dan y contract Glastir Uwch.
Gallai gwneud gwaith sy’n mynd yn groes i gontract Glastir Uwch cyfredol arwain at gosbi unrhyw daliadau sy’n cael eu gwneud fel rhan o’r opsiwn hwnnw.
Glastir Organig a’r Cynllun Troi’n Organig
Os oes gennych dir o dan gontract Glastir Organig neu gontract y cynllun Troi’n Organig, os ydych am blannu coed rhaid ichi ofyn i'r tir gael ei dynnu o'ch contract Glastir Organig neu gontract Troi’n Organig, drwy RPW Ar-lein. Os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymeradwyaeth, bydd y tir yn cael ei dynnu o'r contract Glastir Organig neu Droi'n Organig, a dim ond ar ôl i'r tir gael ei dynnu y cewch ddechrau plannu coed.
Tyfu er mwyn yr Amgylchedd
Os oes gennych dir o dan gontract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, gallwch ei gynnwys yn eich contract Grant Creu Coetir. Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr ofyn i'r tir gael ei dynnu o'u contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd drwy eu cyfrif RPW Ar-lein. Os bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi cymeradwyaeth, bydd y tir yn cael ei dynnu o'r contract Tyfu er mwyn yr Amgylchedd, a dim ond ar ôl i'r tir gael ei dynnu y cewch ddechrau plannu coed.
Gwaith cyfalaf a gafodd ei ariannu o’r blaen
Os yw'r gwaith cyfalaf plannu coed neu godi ffensys eisoes wedi derbyn cyllid o dan unrhyw rai o'r cynlluniau isod, nid yw'n gymwys ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir
- y Cynllun Rheoli Cynaliadwy
- holl gynlluniau Glastir
- Grantiau Bach – yr Amgylchedd
Adran D: cyn gwneud cais
Gwnewch yn siŵr bod eich tir yn addas ar gyfer creu coetir
Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod yn gwirio a yw eich tir yn addas ar gyfer plannu coed gan ddefnyddio'r Map Cyfleoedd Coetir. Mae hyn yn dangos unrhyw gyfyngiadau neu sensitifeddau sy'n gysylltiedig â safle plannu newydd. Mae ar gael yma: Map Cyfleoedd Coetir. Nid yw sensitifeddau bob amser yn golygu nad yw plannu coed yn bosibl, ond mae'n golygu bod ffactorau y mae angen eu hystyried neu ymgynghori yn eu cylch. Er na ellir defnyddio'r map i wneud penderfyniad terfynol, mae'n ddefnyddiol ar gyfer nodi ardaloedd lle mae'n debygol y bydd sensitifeddau, fel y gallwch ystyried a mynd i'r afael â’r rhain ar ddechrau eich cynllunio.
Byddwn hefyd yn argymell siarad â chynllunydd cofrestredig, sy'n gallu rhoi cyngor ar faint priodol, lleoliad ac opsiwn plannu ar gyfer eich cynigion. Fe welwch restr o gynllunwyr coetir cofrestredig yn Cynllunwyr coetir cofrestredig: manylion cyswllt.
Bydd templed plan coetir i gynllunwyr cofrestredig ei gwblhau. Os fydd angen barn Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar eich cynllun, fe fydd gofyn i chi arlwyo fwy o wybodaeth. Bydd hefyd ymweliad safle gorfodol ar gyfer planiau creu coetir sydd angen barn Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn ystod y cam cyn ymgeisio.
Cael cyngor cyn ymgeisio
Mae cael trafodaeth cyn ymgeisio ag CNC yn rhan orfodol o’r broses. Gall unrhyw un sydd â diddordeb wneud cais am drafodaeth cyn ymgeisio am ddim trwy GwirioCynllunCoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk. Bydd tîm Rhaglen Coetir CNC yn gobeithio ateb pob cais am gyngor cyn ymgeisio o fewn 28 diwrnod. Os bydd angen ymweld â safle, cewch ateb o fewn 28 diwrnod ar ôl yr ymweliad.
Rhaid gofyn am gyngor cyn ymgeisio cyn cyflwyno’ch Datganiad o Ddiddordeb.
Adran E: sut i wneud cais
Mae'r datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar gael drwy Daliadau Gwledig Cymru Ar-lein. Mae rhagor o fanylion ynghylch sut i gofrestru isod os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny.
Cyflwyno datganiad o ddiddordeb
Rhaid ichi gwblhau datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Os oes gennych Gyfeirnod Cwsmer (CRN) eisoes, dylech fod wedi cael llythyr gyda’ch Cod Actifadu arno fel y gallwch agor cyfrif. Os ydych wedi’i golli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 a rhoi eich CRN i’r cysylltydd. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Bydd Cod Actifadu newydd yn cael ei anfon atoch.
I gofrestru manylion eich busnes am y tro cyntaf, mae angen ichi gwblhau’r ffurflen gofrestru ar-lein. Gwelwch y canllawiau ar sut i gofrestru am ragor o fanylion yn RPW Ar-Lein: defnyddio 'rheoli fy nhir'. Mae modd gwneud y rhan fwyaf o newidiadau i fanylion busnes ar-lein. Fodd bynnag, mae'n bosibl y bydd angen dweud wrth Lywodraeth Cymru am unrhyw newidiadau mawr. Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid am ragor o wybodaeth
Ar ôl cofrestru, gallwch ddefnyddio eich cyfrif Taliadau Gwledig Cymru (RPW) Ar-lein. Mae'r datganiad o ddiddordeb ar gyfer y Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar gael yn adran “Ceisiadau a Hawliadau” eich cyfrif.
Os oes gennych asiant yn gweithio ar eich rhan, bydd angen iddo gofrestru fel asiant gydag RPW. Os nad ydych wedi gwneud hyn eto, dylech gwblhau copi ar-lein neu gopi caled o’r ffurflen Manylion Cwsmer Asiant / Undeb Amaeth (Cymru) ar unwaith. Mae’r ffurflen ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Pan fyddwn wedi derbyn y ffurflen, byddwn yn anfon Cyfeirnod Cwsmer Asiant (CRN Asiant) a Chod Actifadu Ar-lein RPW. Hefyd, bydd angen ichi gwblhau Ffurflen Rhoi Caniatâd i Asiant ar ôl cofrestru gyda Thaliadau Gwledig Cymru Ar-lein. Darllenwch ein canllawiau ar sut i gofrestru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am gofrestru gydag RPW Ar-lein neu am gwblhau eich datganiad o ddiddordeb, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg. Byddant yn gallu eich cynghori a rhoi gwybod ichi ble gallwch fynd i gael cymorth digidol.
Mae rhagor o wybodaeth am RPW Ar-lein ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Y Broses ddethol
Bydd Llywodraeth Cymru yn sgorio datganiadau o ddiddordeb bob chwe wythnos. Os nad oes digon o arian i gynnig cyllid i bob datganiad o ddiddordeb, cynigir y cyllid i'r datganiadau sy'n derbyn y sgôr uchaf. Dyma'r un dull ag a ddefnyddir ar gyfer dyrannu cyllid ar gyfer creu coetir. Nid oes sgôr isaf ar gyfer derbyn cyllid, gan fod hyd yn oed ardaloedd y tu allan i ardaloedd sy'n derbyn sgôr uchel yn debygol o gynnwys safleoedd sy'n addas ar gyfer creu coetir a fydd yn darparu manteision i'r cyhoedd. Os nad yw eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis, byddwn yn parhau i'w ystyried ar gyfer cyllid yn y dyfodol oni bai eich bod yn dewis ei dynnu'n ôl.
Mae’r sgôr yn cael ei chyfrifo ar sail ffiniau’r parseli tir sydd wedi’u cynnwys yn eich datganiad o ddiddordeb, a nifer o haenau data sy’n sgorio pob ardal yng Nghymru ar sail potensial coetiroedd i ddarparu manteision i’r cyhoedd, fel casglu carbon, atal llifogydd a gwella ansawdd aer. Gallwch weld yr haenau data hyn ar y Map Cyfleoedd Coetir a gwirio pa sgôr mae eich datganiad o ddiddordeb yn debygol o'i dderbyn.
Ar ôl y broses ddethol, bydd neges yn cael ei hanfon i’ch cyfrif RPW Ar-lein yn cadarnhau a ydych chi wedi cael eich dewis. Os dewisir eich datganiad o ddiddordeb, byddwch yn cael eich gwahodd i gyflwyno Plan Creu Coetir i'w ddilysu.
Os nad ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, byddwn yn egluro’r rheswm ar eich cyfrif RPW Ar-lein. Os bydd gwerth y ceisiadau’n fwy na gwerth y gyllideb, y prosiectau sy'n sgorio uchaf fydd yn cael eu dewis. Mae rhagor o wybodaeth am y broses sgorio ar gael yn y Cynllun Cynllunio Creu Coetir.
Adran F: cyflwyno’r cynllun creu coetir
Os ydych chi wedi bod yn llwyddiannus, bydd angen ichi ddefnyddio cynllunydd coetiroedd cofrestredig i gwblhau Plan Creu Coetir. Mae rhestr o gynllunwyr coetir cofrestredig ar gael yn Cynllunwyr coetir cofrestredig: manylion cyswllt.
Bydd y cynllunydd coetiroedd yn ysgrifennu Plan Creu Coetir sy’n nodi’r cynnig ar gyfer y coetir newydd a sut bydd yn cael ei weithredu yn unol â rheolau Safon Coedwigaeth y DU a’r cyngor y bydd CNC wedi’i roi. Rhaid cyflwyno’r cynllun o fewn 12 wythnos ar ôl ichi gael cadarnhad bod eich Datganiad o Ddiddordeb wedi bod yn llwyddiannus.
Dim ond o dan amgylchiadau eithriadol iawn y gellir rhoi estyniad i’r dyddiad cau. Os na fydd modd cynnal arolwg o fewn 12 wythnos, rhad gofyn yn ysgrifenedig am estyniad trwy’ch cyfrif RPW Ar-lein cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r plan. Os na fyddwch wedi cyflwyno’r plan a heb ofyn i’r RPW am estyniad o fewn 12 wythnos, caiff eich cais ei ddileu a bydd yn rhaid i chi aros am 12 mis ar ôl dyddiad dileu’ch cais cyn y cewch wneud cais arall.
Yn eich gohebiaeth, bydd shapefile sy’n cynnwys y parseli tir a ddilysir yn eich datganiad o ddiddordeb, y bydd angen i’ch cynlluniwr cofrestredig eu defnyddio i lunio eich plan.
Bydd angen i’ch cynllunydd cofrestredig newid y shapefile â’ch bwriadau ar gyfer plannu, ffensys, gatiau a thir agored drwy ei System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS). Bydd angen dychwelyd y shapefile wedi’i diweddaru i Lywodraeth Cymru ochr yn ochr â’r plan wedi’i gwblhau a’r holl ddogfennau ategol eraill.
Bydd templedi a chanllawiau creu coetir a chanllawiau mapio ar gael ar RPW Ar-lein. Ni allwn dderbyn templedi planiau a mapiau eraill – bydd cyflwyno dogfennau o’r fath yn golygu nad yw eich datganiad o ddiddordeb yn gymwys.
Rhaid cyflwyno eich plan wedi’i gwblhau a’r shapefile i Lywodraeth Cymru drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd eich plan yn cael ei anfon at CNC i gwblhau’r broses ddilysu er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni gofynion Safon Coedwigaeth y DU. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael isod.
Cyn cyflwyno, rhaid i chi, neu asiant awdurdodedig sy’n gweithredu ar eich rhan, a’ch cynllunydd cofrestredig lofnodi’r plan wedi’i gwblhau. Wrth lofnodi datganiad eich plan, rhaid ichi sicrhau bod y plan wedi’i gwblhau ym mhob ffordd a’i fod yn adlewyrchu eich cynigion plannu arfaethedig yn gywir. Gallai methu â bodloni’r gofynion hyn arwain at Lywodraeth Cymru yn gwrthod y cynllun.
Bydd eich Cynllunydd Coetir Cofrestredig yn cael trafodaeth cyn ymgeisio orfodol ag CNC cyn cyflwyno'r plan wedi'i gwblhau i Lywodraeth Cymru. Dylech drafod yr adborth â’ch cynllunydd cofrestredig cyn penderfynu a ddylid cyflwyno’r Plan Creu Coetir wedi’i gwblhau.
Yr arwynebedd lleiaf ar gyfer plannu coed newydd
Yr arwynebedd lleiaf y gallwch gael cymorth ar ei gyfer i blannu coetir newydd arno yw 0.25 hectar. Rhaid ffensio’r gwaith plannu newydd a rhaid i ddyluniad y coetir fod yn gyson â Safon Coedwigaeth y DU a rheolau’r cynllun. Nid oes cyfyngiad ar faint mwyaf y safle.
Ni chewch gyflwyno dau ddatganiad o ddiddordeb ar gyfer yr un safle yn yr un flwyddyn galendr, felly dylai’ch cais ymdrin â’r arwynebedd cyfan ar y safle rydych am blannu coed arno. Nid oes rhaid ichi wneud cais am gyllid i blannu holl goetir y plan ar yr un pryd. Cewch ei blannu bob yn damaid dros amser os hoffech (cyn belled â bod pob darn yn bodloni gofynion y cynllun).
Y Grant Amaeth-goedwigaeth (80 coeden/hectar)
Mae'r opsiwn amaeth-goedwigaeth yn darparu ar gyfer sefydlu 80 o goed gwasgarog fesul hectar ar laswelltir parhaol sydd hefyd yn cael ei bori, i o leiaf lefelau stocio arferol ar gyfer y tir dan sylw, drwy gydol gyfnod y contract.
Mae cyfradd y grant yn seiliedig ar blannu, ffensio coed unigol, gan ddefnyddio gardiau tir parc, diogelu'r nifer gofynnol o goed unigol, a chynnal y coed hyn i sicrhau eu bod yn cael eu sefydlu yn llawn. Rhaid cynnal y gweithgareddau amaethyddol ar yr arwynebedd ar gyfer cyfnod llawn y contract.
Gellir hawlio taliad cynnal a chadw am y pum mlynedd gyntaf. Ni fydd y taliad premiwm yn cael ei dalu ar gyfer yr arwynebeddau hyn gan y bydd cynhyrchu amaethyddol yn parhau i gael ei gynnal arnynt.
Gwrychoedd (Perthi)
Caiff ymgeiswyr wneud cais i blannu gwrych ar ffin y coetir fel rhan o'u Plan Creu Coetir. Rhaid i'r Plan Creu Coetir egluro'r amcanion ar gyfer plannu a chynnal a chadw'r gwrych. Mae angen i'r gwrych fodloni'r meini prawf canlynol:
- Plannu cymysgedd o goed a llwyni sy'n cynnwys o leiaf tair rhywogaeth o wrych, heb yr un rhywogaeth yn cyfrannu dros 65% o'r cyfanswm. Ni ddylid cynnwys unrhyw goed ynn fel rhan o unrhyw gymysgedd plannu oherwydd clefyd y coed ynn (Hymenoscyphus fraxinea).
- Plannu gwrychoedd newydd ar ddwysedd o saith coeden y metr mewn rhes ddwbl bob yn ail, gyda 20cm rhwng pob rhes.
Bydd yr arwynebedd sy'n cael ei orchuddio â'r gwrych yn derbyn yr un taliad â gweddill y coetir. Ni fydd coed a llwyni sy'n cael eu plannu yn y gwrych yn effeithio ar y fanyleb ar gyfer gweddill y coetir (h.y. ni ddylid eu cynnwys mewn cyfrifiadau ar gyfer dwysedd stocio, canrannau o rywogaethau coed neu lwyni prennaidd). Rhaid i linell y gwrych fod yn rhan o blan creu coetir y Cynllun Cynllunio Creu Coetir. Mae cyllid sydd ar gael ar gyfer gwrychoedd yn unig ar gael drwy'r cynllun Grantiau Bach – yr Amgylchedd.
Ffensys
Nid oes rhaid i leoliad gwaith cyfalaf ffensio ddilyn perimedr y polygon cynllunio, ond ni ddylai hyd y ffensio fod yn fwy na pherimedr y polygon plannu a rhaid sicrhau bod ffens da byw yn amgáu’r coetir sydd wedi’i greu. Nid oes rhaid i ffensys gael eu gosod yn yr un parsel cae â'r plannu newydd. Rhaid i'r ffensio fod mewn parsel y mae gan y cwsmer reolaeth lwyr drosto, a rhaid i'r parsel fodloni holl ofynion y cynllun.
Gatiau
Cewch ddewis cynnwys gât safonol (metel neu bren) i alluogi mynediad at yr ardal creu coetir, a gatiau (gât wiced hunan-gau) ar gyfer hawliau tramwy cyhoeddus a llwybrau caniataol. Gellir cynnwys y rhain yn y contract Gwaith Cyfalaf.
Mannau a gored
Gall hyd at 15% o’r tir rydych yn plannu arno fod yn dir agored gwasgaredig na ellir plannu arno a gall lleiniau o dir agored na ellir plannu arnynt fod hyd at 0.5ha o faint. Ni chaniateir darnau unigol o dir agored yn y cynllun plannu sy’n fwy na 05ha. Bydd angen ichi newid y bylchau rhwng y coed ar rannau o’r safle i gyfri’r tir na allwch blannu arno a gwneud yn siŵr bod y nifer o goed sydd ar eich contract yn cael eu plannu (gweler Tabl 2).
Tabl 2 – Bylchau ar gyfer canrannau amrywiol o ddwysedd stocio mannau agored o 2,500 o gyffion fesul hectar (cymysgedd carbon brodorol a choetir cymysg gwell) | ||
---|---|---|
% mannau agored | bylchau m x m | Cyffion/hectar ar yr arwynebedd net |
0% | 2.00 | 2,500 |
5% | 1.95 | 2,631 |
10% | 1.90 | 2,777 |
15% | 1.84 | 2,941 |
Gellir cynyddu'r dwysedd stocio ar gyfer Bioamrywiaeth Frodorol – 1,600 o gyffion/hectar a Bioamrywiaeth Frodorol – 1,100/hectar drwy osod coed yn agosach i ganiatáu ar gyfer tir agored.
Coed a llwyni gwasgarog sy’n bodoli eisoes
Mae gwerth amgylcheddol mawr i’r coed a’r llwyni gwasgarog sy’n bodoli eisoes ac ni ddylech eu clirio ar gyfer plannu coed newydd, ond dylech eu hymgorffori yn eich cynllun plannu. Bydd angen mapio’r llwydni prennaidd a’r coed gwasgarog os yw’r arwynebedd yn fwy na 0.5 hectar.
Adran G: dilysu gan CNC
Bydd CNC yn gwirio bod y Plan Creu Coetir yn cydymffurfio â Safon Coedwigaeth y DU. Os nad yw'r Plan Creu Coetir yn bodloni'r gofynion hyn, bydd CNC yn ei ddychwelyd i'r cynllunydd cofrestredig fel y gall wneud newidiadau. Gallai methu ymateb i sylwadau dilysu CNC o fewn amserlen resymol arwain at eich plan yn cael ei ddychwelyd heb gael ei ddilysu.
Safon Coedwigaeth y DU
Safon Coedwigaeth y DU yw safon y DU ar gyfer coedwigaeth gynaliadwy. Mae manylion y Safon ar gael ar wefan Forest Research: Safon Coedwigaeth y DU (ar gov.uk)
Mae rhai ardaloedd yng Nghymru yn cynnwys nodweddion sensitif sy’n galw am ystyriaeth ac ymgynghori arbennig wrth ddylunio Planiau Creu Coetiroedd. Mae canllawiau CNC ar gyfer cynllunwyr coetiroedd ar gael yma: Help i gynllunio’ch Coetir ar Gyfoeth Naturiol Cymru. Wrth ddilysu cynlluniau, mae’n ofynnol i CNC gyflawni ei amcan Rheoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu canllawiau ar sut mae hyn yn berthnasol i goetiroedd, sydd ar gael yma: Creu coetir: darparu tystiolaeth o Reoli Adnoddau Naturiol yn Gynaliadwy.
Ni ddylai’r plan gynnwys plannu llarwydd, ynn na rhywogaethau eraill sydd mewn perygl uniongyrchol o glefyd.
Ni ddylai’r cynllun gynnwys tyfu coed Nadolig na chnwd biomas cylchdro byr. Ni ellir defnyddio coed Nadolig fel cnwd blynyddol i sefydlu cnwd parhaol. Mae cylchdro byr yn golygu llai nag wyth mlynedd.
Ymgynghori
Mae Safon Coedwigaeth y DU yn nodi bod ymgynghori cyhoeddus a statudol yn agwedd bwysig ar y cynigion i greu coetiroedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol ymgynghori â nifer o ymgyngoreion gorfodol, os yw nodwedd sensitif yn dod o fewn neu wrth ymyl yr arwynebedd arfaethedig ar gyfer creu. Bydd gofyn i’r cynllunydd coetiroedd ddarparu ymatebion gan ymgyngoreion gorfodol fel rhan o’r cynllun (neu dystiolaeth nad ydynt wedi ymateb o fewn 28 diwrnod).
Bydd angen i gynllunwyr hefyd gael caniatâd gan sefydliadau perthnasol wrth blannu mewn safle dynodedig, fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) neu ger Heneb Restredig. Efallai y bydd angen ichi gael caniatadau eraill hefyd os yw eich cynnig plannu yn cael effaith bosibl ar nodwedd fel rhywogaeth a warchodir neu gorff dŵr. Mae Nodyn Cyfarwyddyd CNC GN002 yn rhoi gwybodaeth a chyngor ynghylch gan bwy y dylech gael y rhain, ac yn ystod pa gam o’r broses y dylid gwneud hynny.
Mae cysylltu â chymdogion sydd â diddordeb yn gynnar yn y broses o gynllunio i greu coetiroedd yn gyfle i roi gwybodaeth am y cynnig ac osgoi gwrthdaro posibl. Dylai hyn gynnwys ymgynghori ag unrhyw unigolion y mae eu heiddo’n cydffinio â’r gwaith plannu newydd. Argymhellir cynnal digwyddiad cyfranogiad y cyhoedd ar gyfer cynlluniau creu coetiroedd, yn enwedig planiau sydd wedi’u lleoli’n agos at gymuned.
Os yw’r cynllun creu coetir dros y trothwy ar gyfer Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol, rhaid ichi neu’r cynllunydd coetiroedd roi gwybod i’r Cyngor Cymuned neu’r Cyngor Plwyf am eich Plan Creu Coetir cyn gynted ag y bo modd. Argymhellir hefyd eich bod hefyd yn ymgynghori â phartïon sydd â diddordeb e.e. cymdeithasau genweirio lleol a grwpiau cymunedol 'cyfeillion'. Mae codi posteri mewn mannau allweddol neu mewn siopau/swyddfeydd post lleol yn ffordd effeithiol arall o ymgysylltu â'r cyhoedd.
Rhaid cwblhau'r holl ymgynghori cyhoeddus cyn cyflwyno plan. Ni fydd Llywodraeth Cymru nac CNC yn ymgynghori’n uniongyrchol â thrydydd partïon, ac eithrio pan na ellid datrys pryderon sy’n ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd. Rhaid i chi, neu’r cynllunydd cofrestredig sy’n gweithio ar eich rhan, gynnwys adroddiad ar gyfranogiad y cyhoedd ochr yn ochr â’r cynllun. Dylai hyn dynnu sylw at y ffaith eich bod chi neu’r cynllunydd coetiroedd wedi ymgynghori ag unigolion neu bartïon sydd â diddordeb, sut yr ymgynghorwyd â nhw (e.e. digwyddiad cyhoeddus, taflenni, mynd o ddrws i ddrws), am faint o amser y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a phwy ymatebodd. Rhaid darparu tystiolaeth i CNC fod ymgais resymol a chymesur wedi’i wneud i gysylltu ag unigolion perthnasol, fel anfon llythyr a chaniatáu 28 diwrnod i ymateb.
Os nad oes modd mynd i’r afael â phryderon partïon sydd â diddordeb cyn cyflwyno, dylid eu cyflwyno gyda’r plan beth bynnag, ynghyd â’r rhesymau dros fethu mynd i'r afael â nhw. Fel rhan o’r broses ddilysu, bydd CNC yn ystyried y pryderon ac o bosibl drwy drafod ag eraill, yn rhoi gwybod a yw’r pryder yn ddilys ai peidio.
Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (EIA) ac Asesiad y Rheoliadau Cynefinoedd
Mae’r Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) (ar Cyfoeth Naturiol Cymru) yn golygu bod angen cael barn ar bob Plan Creu Coetir sydd ar neu dros y trothwy ar gyfer Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol (Coedwigaeth) cyn y gellir bwrw ymlaen â’r gwaith plannu newydd. Bydd gofyn rhoi gwybodaeth ychwanegol yn y plan creu coetir os fydd barn EIA ei angen. Cytunir ar hyn mewn trafodaeth cyn ymgeisio orfodol ag CNC. Bydd Planiau Creu Coetir sydd dros drothwy’r EIA nad ydynt yn 100% o rywogaethau brodorol, yn gorfod cyflwyno map Dylunio’r Tirwedd fydd yn dangos gwasgariad y rhywogaethau ar draws y safle, fel rhan o’u cyflwyniad.
Ar ôl cwblhau’r gwaith dilysu, bydd Tîm Rhaglen Coetiroedd CNC yn trosglwyddo eich plan ac unrhyw ddogfennau ategol yn awtomatig i Wasanaeth Trwyddedu CNC, a fydd yn asesu’r prosiect ac yn ceisio rhoi gwybod ichi a fydd angen Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol ar eich prosiect o fewn 28 diwrnod.
Gallai unrhyw achos o dorri Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol (Coedwigaeth) rhwng cyflwyno’r datganiad o ddiddordeb a dechrau’r contract arwain at y contract yn cael ei dynnu’n ôl. Gellir cyfeirio unrhyw ddifrod amgylcheddol hefyd at yr awdurdod perthnasol mewn achosion posibl o dorri’r rheoliadau.
Bydd gofyn i unrhyw gynnig a allai effeithio ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) neu Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) gydymffurfio â Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 sy’n golygu y bydd angen cynnal Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Bydd CNC yn dweud wrthych os bydd angen HRA ar gyfer eich achos chi ac mae’n debygol y gofynnir am ragor o wybodaeth er mwyn cefnogi CNC i gynnal HRA cysgodol ar ran Llywodraeth Cymru.
Cwblheir y plan creu coetir pan geir cadarnhad o benderfyniad EIA ac y bydd Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (HRA) wedi’i gwblhau.
Newid rheolau
Ambell waith bydd rhesymau amgylcheddol a choedwigol da dros beidio â chadw at y rheolau safonol, er enghraifft newid lleoliad ffensys i ymgorffori perthi/gwrychoedd fel rhan o blanhigfeydd coetir. Yn yr achosion hyn, rhaid cofnodi'r bwriad i ddilyn trywydd gwahanol yn glir ar y cynllun coetir fel y gall CNC ei ddilysu fel arfer coedwigo cynaliadwy y gellir ei gyfiawnhau. Ni ddylai’r ffens fod yn hirach na pherimedr y polygon plannu.
Pan fydd eich plan wedi cael ei ddilysu gan CNC, byddwch yn gymwys i neud cais am y Grant Creu Coetir ar gyfer creu coetir am bum mlynedd heb unrhyw ddilysu pellach, oni bai bod newidiadau i'r plan.
Os nad yw Plan Creu Coetir yn cael ei ddilysu, bydd yn cael ei ddychwelyd i CNC i'w wrthod, a gellir gwahardd yr ymgeisydd rhag gwneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir am ddwy flynedd.
Adran H: hawlio
Planiau Creu Coetir
Ar ôl i CNC ddilysu eich Plan Creu Coetir, bydd y cynllun wedi’i ddilysu’n cael ei anfon atoch chi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Bydd ffurflen hawlio yn cael ei hanfon atoch i’w llenwi drwy eich cyfrif RPW Ar-lein. Pan fydd y ffurflen hon wedi cael ei derbyn, bydd eich hawliad yn cael ei ddilysu a’i brosesu ac, os yw’n gymwys, bydd y taliad yn cael ei brosesu a’i wneud drwy BACS.
Dim ond os bydd CNC wedi dilysu’r cynllun wedi’i gwblhau y bydd taliadau’n cael eu gwneud. Bydd y swm a delir yn seiliedig ar arwynebedd terfynol y coetir yn y plan ar ôl ei ddilysu. Anfonir y gymeradwyaeth drwy eich cyfrif RPW Ar-lein.
Arolwg Arbenigol
Bydd angen cyflwyno anfoneb a chyfriflen banc gyda phob hawliad am arolygon arbenigol, i ddangos bod taliad o’r fath wedi cael ei wneud.
Os bydd arolwg arbenigol y bydd CNC wedi gofyn amdano yn dangos na chewch blannu ar unrhyw ran o’r cynllun, bydd dal gofyn cyflwyno Datganiad o Ddiddordeb. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, gall Llywodraeth Cymru dalu am yr arolwg arbenigol.
Adran I: gwerthuso a chadw cofnodion
Rhaid ichi gadw’r holl gofnodion a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir.
Ar ôl gwerthu neu drosglwyddo tir sy’n rhan o’r plan wedi’i ddilysu, er mwyn i’r meddiannydd newydd wneud gwaith plannu, rhaid rhoi gwybod i Lywodraeth Cymru cyn gwneud cais am gostau plannu. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gallu rhannu copi o’r Plan Creu Coetir â rheolwr tir nad yw’n ymgeisydd gwreiddiol.
Adran J: apeliadau
Nid oes sail dros apelio os na fydd eich datganiad o ddiddordeb yn cael ei ddewis.
Mae’r broses apelio yn cynnwys dau gam:
- cam 1: adolygiad gan RPW
- cam 2: adolygiad gan y Panel Apelio Annibynnol (os ydych yn anfodlon â’r ymateb yng Ngham 1).
Mae’r Panel Annibynnol yn gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru, sy’n gwneud y penderfyniad terfynol a yn dod â’r broses i ben.
Nid oes tâl am gynnal Cam 1 y broses ond mae tâl am gynnal Cam 2 – £50 am wrandawiad ysgrifenedig neu £100 am wrandawiad llafar. Byddwn yn ad-dalu’r costau hyn yn llawn os bydd Cam 2 yr apêl yn llwyddiannus neu’n rhannol lwyddiannus.
Rhaid i apeliadau, gan gynnwys y dystiolaeth, gael eu cyflwyno drwy RPW Ar-lein o fewn 60 diwrnod i ddyddiad y llythyr sy’n amlinellu'r penderfyniad rydych am apelio yn ei erbyn.
Mae croeso ichi ohebu â ni yn y Gymraeg a byddwn yn ateb unrhyw lythyr Cymraeg yn y Gymraeg. Ni fydd hyn yn arwain at unrhyw oedi.
Mae rhagor o fanylion ynglŷn â'r broses apelio a sut i gyflwyno apêl, gan gynnwys defnyddio'r ffurflen apelio ar-lein, ar gael gan y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid neu ar ein gwefan Apeliadau Grantiau a Thaliadau Gwledig: Canllawiau.
Adran K: cwynion
Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cwyn ar gael gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:
Llywodraeth Cymru
Adeiladau'r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Ffôn: 03000 251378. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
E-bost: cwynion@llyw.cymru
Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru
Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:
1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed,
CF35 5LJ
Ffôn: 0300 790 0203
Gwefan: www.ombwdsmon.cymru
Adran L: hysbysiad preifatrwydd – grantiau Llywodraeth Cymru
Sut byddwn yn ymdrin ag unrhyw ddata personol rydych yn ei roi mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid grant.
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata a roddwch mewn perthynas â’r cais am grant neu gyllid grant. Bydd y wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o'n gorchwyl cyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid.
Cyn inni roi cyllid grant ichi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae'n ofynnol inni rannu data personol amdanoch chi ag asiantaethau atal twyll trydydd parti.
Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei dderbyn.
Bydd yr asiantaethau atal twyll yn cadw cofnod o unrhyw risg o dwyll neu wyngalchu arian, a gall hyn arwain at eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth ichi.
Er mwyn asesu cymhwyster efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy'n ymwneud â'ch cais ag awdurdodau rheoleiddio, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyllid a Thollau ei Mawrhydi, Awdurdodau Lleol, yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.
Mae’n bosibl y bydd aelod arall o’r cyhoedd yn gofyn i weld eich gwybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth bersonol. Wrth ymateb i geisiadau o’r fath, efallai y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ryddhau gwybodaeth, gan gynnwys eich gwybodaeth bersonol, er mwyn cyflawni ei rhwymedigaethau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Deddf Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 neu Ddeddf Diogelu Data 2018.
Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw data. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, yna bydd eich data personol yn cael ei gadw am ddeng mlynedd o ddiwedd unrhyw ddyfarniad cymorth. Os na fyddwch yn llwyddiannus, bydd eich manylion yn cael eu cadw am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.
O dan ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl i wneud y canlynol:
- gweld y data personol mae Llywodraeth Cymru yn ei gadw amdanoch chi;
- gofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
- (o dan rai amgylchiadau) gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data;
- (o dan rai amgylchiadau) gofyn i’ch data gael ei ‘ddileu’;
- cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
I gael rhagor o fanylion am y wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu er mwyn arfer eich hawliau o dan y GDPR, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.
Adran M: deddfwriaeth
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cyflawni yn erbyn amrywiaeth o ymrwymiadau ac amcanion y Llywodraeth. Maent wedi’u rhestru isod ynghyd â’r ddeddfwriaeth a’r prosesau llywodraethu perthnasol.
Mae’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir yn cael ei reoli gan Reoliadau Cyngor Cyfraith yr UE a Ddargedwir (REUL) Rhifau. 1305/2013, 1303/2013 a 1306/2013, Rheoliad Gweithredu Rhif 808/2014 a rhif 809/2014 a Rheoliad Dirprwyedig 640/2014 ac 807/2014 (fel y cânt eu diwygio o bryd i'w gilydd).
Rhoddir cyfraith yr UE a ddargedwir ar waith yng Nghymru drwy’r gyfraith ddomestig ganlynol (fel y caiff ei diwygio o bryd i’w gilydd), gan gynnwys drwy’r Rheoliadau Cymorth Amaethyddol (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021/400 (Cy.129):
- Rheoliadau Rhaglenni Datblygu Gwledig (Cymru) 2014/3222 (Cy.327)
- Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (System Integredig Gweinyddu a Rheoli a Gorfodi a Thrawsgydymffurfio) (Cymru) 2014/3223 (Cy.328)
Mae'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir ar gael i reolwyr tir a busnesau ffermio ledled Cymru, a'i nod yw cyflawni pedwar amcan strategol Llywodraeth Cymru, sef:
- gwneud amaethyddiaeth yn fwy cystadleuol;
- cyfrannu at reoli adnoddau naturiol mewn ffordd gynaliadwy fel y nodir yn Rhan 1 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
- sicrhau cadernid hinsawdd.
- sicrhau bod economïau a chymunedau gwledig yn cael eu datblygu mewn modd tiriogaethol gytbwys, gan gynnwys creu a chynnal cyflogaeth.
Mae tri amcan trawsbynciol i’r Cynllun Cynllunio Creu Coetir, sef:
- lliniaru effaith newid yn yr hinsawdd ac addasu iddi.
- arloesi
- yr Amgylchedd
Bydd gweithgareddau’n mynd i’r afael ag o leiaf un o flaenoriaethau canlynol Llywodraeth Cymru:
- annog pobl i rannu gwybodaeth ac i arloesi ym maes amaethyddiaeth a choedwigaeth, ac mewn ardaloedd gwledig;
- gwella hyfywedd a chystadleurwydd amaethyddiaeth o bob math, a hyrwyddo technolegau fferm arloesol a dulliau cynaliadwy o reoli coedwigoedd;
- hyrwyddo cadwyni cyflenwi bwyd trefnus, gan gynnwys prosesu a marchnata cynhyrchion amaethyddol, lles anifeiliaid a rheoli risg mewn amaethyddiaeth;
- adfer, gwarchod a gwella ecosystemau sy'n dibynnu ar amaethyddiaeth a choedwigaeth;
- hyrwyddo’r defnydd effeithiol o adnoddau a chefnogi'r newid tuag at economi carbon isel sy'n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn y sectorau amaethyddiaeth, bwyd a choedwigaeth;
- hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, lleihau tlodi a datblygu economaidd mewn ardaloedd gwledig.
Sefydliad Masnach y Byd a Rheoli Cymhorthdal
- Mae cymorthdaliadau sy’n cael eu darparu o dan y cynllun hwn yn cael eu hystyried yn daliadau o dan raglen amgylcheddol, a daw’r rheini o fewn cwmpas Atodiad II o Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Amaethyddiaeth ac sydd wedi’u dosbarthu’n rhai ‘bocs gwyrdd.’
O ganlyniad, mae’r cymorthdaliadau hyn yn cael eu hesemptio o'r Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a'r UE a system rheoli cymhorthdal dros dro'r DU.
Adran N: manylion cyswllt
Mae gwybodaeth allweddol ar wefan Llywodraeth Cymru ac yng nghylchgrawn deufisol Gwlad yn cynnwys gwybodaeth allweddol. Dyma’r manylion cyswllt:
Taliadau Gwledig Cymru
Blwch Post 251
Caernarfon
LL55 9DA
Ffôn: 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Cysylltiadau defnyddiol eraill:
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol (Asesu’r Effaith Amgylcheddol, SoDdGA, GNG, ACA neu AGA)
Cyfoeth Naturiol Cymru
d/o Canolfan Gofal Cwsmeriaid
Tŷ Cambria
29 Heol Casnewydd
Caerdydd
CF24 0TP
Ffôn: 0300 065 3000
Ymholiadau cyffredinol: 0300 065 3000 (Llun-Gwe 8am 6pm)
Ar gyfer ymholiadau cyffredinol i CNC:
ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.llyw.cymru
enquiries@naturalresourceswales.gov.uk
Ar gyfer ymholiadau i CNC ynghylch dilysu coetir:
gwiriocynlluncoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
woodlandplanverification@naturalresourceswales.gov.uk
Ar gyfer Henebion Rhestredig / parciau a gerddi cofrestredig:
Cadw
Llywodraeth Cymru
Plas Caeriw
Uned 5/7 Cefn Coed
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QQ
Ffôn: 01443 33 6000. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
Ffacs: 01443 33 6001
E-bost: cadw@gov.wales
Ar gyfer henebion sydd heb eu rhestru a nodweddion hanesyddol:
Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys
41 Broad Street
Y Trallwng
Powys
SY21 7RR
Ffôn: 01938 553670
Ffacs: 01938 552179
E-bost: trust@cpat.org.uk
Wefan: www.cpat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent
Heathfield House
Heathfield
Abertawe
SA1 6EL
Ffôn: 01792 655208
Ffacs: 01792 474469
E-bost: enquiries@ggat.org.uk
Gwefan: www.ggat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed
Corner House,
6 Stryd Caerfyrddin,
Llandeilo,
Sir Gaerfyrddin,
SA19 6AG
Ffôn: 01558 823121
Ffacs: 01558 823133
E-bost: info@dyfedarchaeology.org.uk
Gwefan: www.dyfedarchaeology.org.uk
Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd
Craig Beuno, Ffordd y Garth, Bangor, Gwynedd, LL57 2RT
Ffôn: 01248 352535
Ffacs: 01248 370925
E-bost: gat@heneb.co.uk
Gwefan: www.heneb.co.uk