Llefydd gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion tai cymdeithasol: Ebrill 2021 i Fawrth 2022
Gwybodaeth am nifer yr unedau tai a oedd yn wag, y nifer a rentwyd i denantiaid a tenantiaid a oedd ar ei hôl hi gyda'u rhent ar gyfer Ebrill 2021 i Fawrth 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Caiff yr wybodaeth ei defnyddio i asesu i ba raddau y mae landlordiaid cymdeithasol yn rheoli eu stoc yn effeithiol, mesur cyfraddau trosiant ar gyfer tai cymdeithasol; a monitro nifer y tenantiaid tai cymdeithasol sydd mewn dyled ledled Cymru.
Mae'r term tai cymdeithasol yn cyfeirio at unedau tai (gan gynnwys fflatiau un ystafell a lleoedd i welyau) sy'n eiddo i landlordiaid cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) ac a gaiff eu gosod ar rent ganddynt. Cafodd y data a ddefnyddir yn y datganiad hwn eu darparu gan y landlordiaid cymdeithasol.
Prif bwyntiau
- Ar 31 Mawrth 2022, roedd 4,846 o unedau tai cymdeithasol gwag (2% o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol). Roedd hyn 8% yn llai na 2020-21, ond dyma'r cyfanswm uchaf ond un ers 2008-09.
- Roedd 1,784 o unedau (37% o'r holl unedau gwag) wedi bod yn wag am fwy na chwe mis. Roedd 327 o'r unedau hyn ar gael i'w gosod.
- Cafwyd 18,950 o osodiadau newydd yn ystod 2021-22. Mae hyn yn gynnydd o 7% o gymharu â 2020-21. O'r rhain, roedd 51% wedi bod ar restrau aros, cafodd 24% osodiad â blaenoriaeth i bobl ddigartref, a chafodd 25% le i fyw drwy drosglwyddiadau neu gyfnewidiadau.
- Ar 31 Mawrth 2022, roedd 96,309 (41%) o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent. Roedd hyn yn gynnydd o 6% o gymharu â 2020-21. Roedd tua 3% o'r holl denantiaethau wedi bod mewn ôl-ddyledion rhent ers 13 wythnos neu fwy.
Unedau tai cymdeithasol yng Nghymru
Ar 31 Mawrth 2022, roedd cyfanswm o 237,395 o unedau tai cymdeithasol yng Nghymru. O'r rhain, roedd 95% (225,432) yn unedau angen cyffredinol hunangynhwysol neu'n unedau tai gwarchod a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru ar renti cymdeithasol (fel y'u rheoleiddir gan Safon Rhenti a Thaliadau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru). Roedd y 5% (11,963) sy'n weddill yn unedau tai cymdeithasol nas cwmpesir gan Bolisi Rhenti Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ond sy'n dal i gael eu hystyried yn dai cymdeithasol (e.e. unedau ‘gofal ychwanegol’ neu unedau tai â chymorth).
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd yn berchen ar 63% (149,468 o unedau) o'r holl unedau tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022 a'r 11 o awdurdodau a oedd yn cadw stoc a oedd yn berchen ar y 37% arall (87,927 o unedau).
Mae setiau data manwl ar gyfer stoc tai cymdeithasol ar gael ar StatsCymru.
Lleoedd gwag tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022
Gall fod nifer o resymau pam mae'r unedau tai yn wag, a pham nad yw rhai o'r rhain ar gael i'w gosod, megis aros i gael eu gwerthu neu eu dymchwel, neu welliannau ac atgyweiriadau.
Roedd y 4,846 o unedau gwag ar 31 Mawrth 2022 8% yn llai nag ar 31 Mawrth 2021 ac yn cyfrif am 2% o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol (Tabl 1).
Math o landlord cymdeithasol | Cyfanswm y stoc tai cymdeithasol | Cyfanswm y lleoedd gwag | Y ganran (%) o'r stoc sy'n wag [1] |
---|---|---|---|
Awdurdodau lleol | |||
2017-18 | 87,374 | 1,601 | 1.8 |
2018-19 | 87,404 | 1,876 | 2.1 |
2019-20 [3] | 87,324 | . | . |
2020-21 [4] | 87,559 | 2,390 | 2.7 |
2021-22 | 87,927 | 2,183 | 2.5 |
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig | |||
2017-18 | 142,643 | 2,568 | 1.8 |
2018-19 [2] | 144,004 | 2,467 | 1.7 |
2019-20 [3] | . | . | . |
2020-21 [4] | 147,840 | 2,856 | 1.9 |
2021-22 | 149,468 | 2,663 | 1.8 |
Pob landlord cymdeithasol | |||
2017-18 | 230,017 | 4,169 | 1.8 |
2018-19 [2] | 231,408 | 4,343 | 1.9 |
2019-20 [3] | . | . | . |
2020-21 [4] | 235,399 | 5,246 | 2.2 |
2021-22 | 237,395 | 4,846 | 2.0 |
Disgrifiad o Dabl 1: Tabl sy'n dangos bod nifer lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol wedi cynyddu bob blwyddyn tan 2020-21, ond ei fod wedi lleihau yn 2021-22.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc a lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol, Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS)
[Nodyn 1] Fel canran o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol.
[Nodyn 2] Ar gyfer 2018-19, methodd un landlord cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithas Tai Baneswell) â chyflwyno data ar leoedd gwag. Felly, cafodd gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.
Nodyn 3] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.
[Nodyn 4] Ar gyfer 2020-21, methodd un awdurdod lleol (Sir y Fflint) â chyflwyno data ar leoedd gwag. Felly, mae gwybodaeth a gyflwynwyd gan Sir y Fflint ar gyfer 2018-19 wedi cael ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.
. Dim data
Rhwng 31 Mawrth 2021 a 31 Mawrth 2022, cynyddodd nifer yr unedau a oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis 1% i 1,784. Roedd yr unedau hyn yn cyfrif am 1% o'r holl stoc tai cymdeithasol ar 31 Mawrth 2022, sef yr un ganran â'r flwyddyn flaenorol (Ffigur 1).
Ar 31 Mawrth 2022, roedd cyfran yr unedau gwag yn uwch ar gyfer awdurdodau lleol (3%) na landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (2%). Roedd tua 1% o stoc awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ill dau yn wag am fwy na chwe mis.
Ffigur 1: Y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd yn wag yn ôl hyd y cyfnod yn wag ar 31 Mawrth 2021 a 2022 [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 1: Graff bar pentwr yn dangos bod y ganran o stoc eiddo awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru a oedd yn wag wedi gostwng rhwng 2020-21 a 2021-22.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc a lleoedd gwag landlordiaid cymdeithasol, Cymhorthdal Cyfrif Refeniw Tai (HRAS)
[Nodyn 1] Fel canran o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol.
[Nodyn 2] Ar gyfer 2020-21, methodd un awdurdod lleol (Sir y Fflint) â chyflwyno data ar leoedd gwag. Felly, mae gwybodaeth a gyflwynwyd gan Sir y Fflint ar gyfer 2018-19 wedi cael ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.
Roedd y ganran o unedau tai cymdeithasol a oedd yn wag ar 31 Mawrth 2022 yn amrywio ledled Cymru, o 4% yn Wrecsam i 1% yn Ynys Môn. Fel y mae Ffigur 2 isod yn ei ddangos, nid oedd patrwm penodol yn gysylltiedig ag awdurdodau gwledig neu drefol.
O'r 11 o awdurdodau lleol a drosglwyddodd eu stoc i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, roedd gan bedwar awdurdod trosglwyddo lefelau lleoedd gwag uwch na chyfartaledd Cymru (Ffigur 2).
Mae rhagor o fanylion, gan gynnwys rhestr o drosglwyddiadau gwirfoddol stoc awdurdodau lleol ar raddfa fawr, a dyddiadau trosglwyddo i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i'w gweld yn yr adroddiad ansawdd.
Ffigur 2: Y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd yn wag ar 31 Mawrth 2022, fesul awdurdod lleol
Disgrifiad o Ffigur 2: Graff bar yn dangos bod y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd yn wag fesul awdurdod lleol yn amrywio o 1% i 4% yng Nghymru.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
Tai cymdeithasol gwag sydd ar gael i'w gosod
Ni fydd yr holl stoc sy'n wag ar 31 Mawrth 2022 ar gael i'w gosod. Ymhlith y rhesymau posibl pam na fydd stoc tai cymdeithasol ar gael i'w gosod mae'r ffaith bod gwelliannau'n cael eu gwneud i'r unedau tai, neu eu bod yn aros am welliannau, neu eu bod yn aros i gael eu gwerthu neu eu dymchwel.
Mae'r ganran o'r stoc tai cymdeithasol sy'n wag ac sydd ar gael i'w gosod wedi bod yn gostwng yn flynyddol ers 2012-13 pan oedd yn cyfrif am 59%. Ar 31 Mawrth 2022, roedd 40% o'r holl dai cymdeithasol gwag ar gael i'w gosod ond, ledled Cymru, roedd y ganran hon yn amrywio o 92% yn Nhorfaen i 14% yn Wrecsam. Yn 2021-22 y gwelwyd y cynnydd cyntaf yn y ganran o'r stoc wag a oedd ar gael i'w gosod (o gymharu â 39% yn 2020-21) ers 2012-13.
Ffigur 3: Y ganran o'r stoc tai cymdeithasol a oedd ar gael i'w gosod ar 31 Mawrth 2022
Disgrifiad o Ffigur 3: Graff bar yn dangos bod mwy na hanner yr holl eiddo tai cymdeithasol a oedd yn wag am fwy na chwe mis yng Nghymru ar gael i'w gosod, ond mai ychydig yn llai nag un rhan o bump o'r eiddo a oedd yn wag am fwy na chwe mis sydd ar gael i'w gosod.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
Ar 31 Mawrth 2022, roedd 53% o'r holl unedau tai cymdeithasol a oedd wedi bod yn wag am lai na chwe mis ar gael i'w gosod. Roedd 68% o unedau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd wedi bod yn wag am lai na chwe mis ar gael i'w gosod o gymharu â 35% o unedau awdurdodau lleol.
Ar 31 Mawrth 2022, roedd 18% o'r tai cymdeithasol a oedd wedi bod yn wag am fwy na chwe mis ar gael i'w gosod (327 o unedau). Roedd y ganran o eiddo awdurdodau lleol a oedd ar gael i'w gosod, sef 21%, yn uwch na'r ganran o eiddo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a oedd ar gael i'w gosod, sef 17%.
Ar lefel awdurdodau lleol, gall nifer yr unedau tai cymdeithasol a oedd yn wag am fwy na chwe mis fod yn gymharol fach felly gall y ganran a oedd ar gael i'w gosod amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar amgylchiadau lleol.
Mae set ddata fanwl ar gyfer tai cymdeithasol gwag a oedd ar gael i'w gosod fesul awdurdod lleol i'w gweld ar StatsCymru.
Stoc dai ar renti cymdeithasol: ar osod a gosodiadau
Stoc tai cymdeithasol ar osod
Roedd cyfanswm o 232,549 o unedau tai cymdeithasol ar osod ar 31 Mawrth 2022, sef 98% o'r holl stoc tai cymdeithasol. Roedd nifer yr unedau tai cymdeithasol a oedd ar osod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig wedi cynyddu 1% ers 2020-21 i 146,805 o unedau, sef yr un ganran â gosodiadau awdurdodau lleol (85,744). Roedd y ganran o stoc a oedd ar osod gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn llai nag 1 pwynt canrannol yn uwch o gymharu ag awdurdodau lleol.
Math o landlord cymdeithasol | Cyfanswm nifer y stoc tai cymdeithasol | Cyfanswm nifer y stoc tai cymdeithasol ar osod | Canran (%) o'r stoc tai cymdeithasol ar osod |
---|---|---|---|
Awdurdodau lleol | |||
2017-18 | 87,374 | 85,773 | 98.2 |
2018-19 | 87,404 | 85,528 | 97.9 |
2019-20 [2] | 87,324 | . | . |
2020-21 | 87,559 | 85,169 | 97.3 |
2021-22 | 87,927 | 85,744 | 97.5 |
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig | |||
2017-18 | 142,643 | 140,075 | 98.2 |
2018-19 [1] | 144,004 | 141,537 | 98.3 |
2019-20 [2] | . | . | . |
2020-21 | 147,840 | 144,984 | 98.1 |
2021-22 | 149,468 | 146,805 | 98.2 |
Pob landlord cymdeithasol | |||
2017-18 | 230,017 | 225,848 | 98.2 |
2018-19 [1] | 231,408 | 227,065 | 98.1 |
2019-20 [2] | . | . | . |
2020-21 | 235,399 | 230,153 | 97.8 |
2021-22 | 237,395 | 232,549 | 98.0 |
Disgrifiad o Dabl 2: Tabl yn dangos bod cyfanswm nifer y stoc tai cymdeithasol ar osod wedi cynyddu bob blwyddyn dros y pum mlynedd diwethaf, ond mae'r ganran o'r stoc a oedd ar osod wedi aros ar tua 98%.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
[Nodyn 1] Ar gyfer 2018-19, methodd un landlord cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithas Tai Baneswell) â chyflwyno data ar osodiadau. Felly, cafodd gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.
[Nodyn 2] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.
. Dim data
Gosodiadau tai cymdeithasol
Cynyddodd gosodiadau newydd [troednodyn 1] stoc tai cymdeithasol 7% yn ystod 2021-22, i 18,950 o osodiadau. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, roedd ychydig dros hanner y rhain drwy restrau aros am dai[troednodyn 2], ond roedd nifer y gosodiadau drwy'r rhestr aros am dai 1% yn llai nag yn 2020-21, sef 9,746 (Ffigur 4).
Yn 2021-22, bu 4,567 o osodiadau ar gyfer aelwydydd a gafodd eu hailgartrefu ar sail blaenoriaeth oherwydd digartrefedd (7% yn fwy nag yn 2020-21). (Ffigur 4).
Roedd cyfran y gosodiadau hyn yn debyg ar gyfer 2021-22 a 2020-21, sef ychydig yn llai na chwarter, ar ôl cynnydd blynyddol ers 2013-14 pan oedd y ganran ar ei hisaf, sef 13%, a naid sylweddol o 18% yn 2018-19.
Ar ddechrau pandemig y coronafeirws (COVID-19) ym mis Mawrth 2020, rhoddodd Llywodraeth Cymru ymateb brys i ddigartrefedd ar waith a oedd yn cynnwys cyllid ychwanegol, ynghyd â chanllawiau statudol ac anstatudol, i sicrhau nad oedd neb heb lety neu gymorth i gadw'n ddiogel yn ystod y pandemig.
Yn ystod 2021-22, bu cyfanswm o 4,637 o drosglwyddiadau a chyfnewidiadau, sef lle y bydd tenantiaid cyfredol yn trosglwyddo o fewn stoc landlord cymdeithasol (trosglwyddo) neu'n symud o stoc landlord cymdeithasol arall (cyfnewid), sy'n cyfrif am chwarter yr holl osodiadau. Bu cynnydd o 9% yn nifer y trosglwyddiadau a chynnydd o 65% yn nifer y cyfnewidiadau, o gymharu â 2020-21.
Ffigur 4: Gosodiadau tai cymdeithasol yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 4: Siart cylch yn dangos bod y mwyafrif o'r gosodiadau tai cymdeithasol yn 2021-22 yn deillio o restrau aros.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc a gosodiadau landlordiaid cymdeithasol
[Nodyn 1] Mae'r gosodiadau sy'n deillio o'r rhestr aros yn cynnwys: Gosodiadau o restr aros landlord neu o restr aros arall; pobl ddigartref nad ydynt yn flaenoriaeth; gosodiadau o ganlyniad i enwebiad gan landlord arall; a gosodiadau sy'n deillio o strategaethau ailgartrefu/symud ymlaen neu gofrestri pobl anabl.
Ar gyfer 12 o'r 22 awdurdod lleol, cafodd y mwyafrif o'r gosodiadau yn ystod 2021-22 eu rhoi i bobl a oedd wedi bod ar restr aros, a'r gyfran uchaf oedd 72% ym Mlaenau Gwent. Y gyfran isaf o'r gosodiadau hyn oedd 20% ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn ystod 2021-22, y gyfran uchaf o osodiadau â blaenoriaeth oherwydd digartrefedd oedd 45% ym Mhen-y-bont ar Ogwr, wedyn 42% yng Nghonwy, 39% yn Abertawe a 34% yn Sir Benfro. Ym Mhen-y-bont a Chonwy, cofnodwyd cyfraddau uwch na chyfartaledd Cymru o ran aelwydydd yr aseswyd eu bod yn ddigartref, sef 84.9 o achosion fesul 10,000 o aelwydydd yn ystod 2021-22. Fodd bynnag, mae'n bosibl na chaiff aelwydydd y derbynnir eu bod yn ddigartref, neu sydd dan fygythiad o ddigartrefedd, eu hailgartrefu ar sail blaenoriaeth yn yr un flwyddyn, oherwydd amseru'r prosesau neu oherwydd y caiff aelwydydd eu lleoli mewn llety dros dro i ddechrau. Yn Ynys Môn (8%) roedd y gyfran isaf o osodiadau â blaenoriaeth oherwydd digartrefedd.
Y gyfran uchaf o osodiadau drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau oedd 37% yn Sir Benfro, wedyn 35% ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd, ac wedyn 33% ym Merthyr Tudful a Chasnewydd, a'r gyfran isaf o osodiadau drwy drosglwyddiadau a chyfnewidiadau oedd 11% ym Mhowys, wedyn 12% ym Mlaenau Gwent.
Ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a Bro Morgannwg, cofnodwyd cyfrannau uwch o osodiadau drwy gyfnewidiadau yn hytrach na throsglwyddiadau o gymharu â landlordiaid cymdeithasol eraill o fewn eu stoc eu hunain. Pen-y-bont ar Ogwr oedd â'r ganran uchaf o gyfnewidiadau o blith y 22 awdurdod lleol, sef 22% o'i holl osodiadau yn ystod y flwyddyn. Wrecsam oedd â'r ganran uchaf o drosglwyddiadau, sef 24% o'r holl osodiadau yn ystod y flwyddyn.
Mae edrych ar nifer y gosodiadau fesul 100 o unedau o stoc ar rent cymdeithasol yn rhoi syniad o'r gyfradd trosiant ar gyfer stoc tai rhent (unedau anghenion cyffredinol a thai gwarchod)[troednodyn 3]. Cyfradd gosodiadau Cymru oedd 8.4 fesul 100 o unedau o stoc ar renti cymdeithasol yn ystod 2021-22, sef cynnydd o gymharu â'r gyfradd o 7.9 yn 2020-21.
Ar lefel awdurdod lleol, Caerdydd oedd â'r nifer mwyaf o osodiadau (1,864) yn 2021-22, ond Wrecsam oedd â'r nifer mwyaf o osodiadau fesul 100 o unedau o stoc ar rent cymdeithasol, sef 11.4.
Ceredigion oedd â'r nifer lleiaf o osodiadau yn ystod 2021-22 (363), a Chonwy oedd â'r nifer lleiaf o osodiadau fesul 100 o unedau o'r holl stoc ar renti cymdeithasol, sef 6.5. Mewn 12 o'r 22 awdurdod lleol, roedd nifer y gosodiadau fesul 100 o unedau o stoc ar rent cymdeithasol (unedau anghenion cyffredinol a thai gwarchod) yn fwy na chyfartaledd Cymru ac nid oedd gwahaniaeth clir rhwng yr awdurdodau trefol a'r awdurdodau gwledig.
Mae set ddata lawn ar gyfer gosodiadau tai cymdeithasol fesul awdurdod lleol ar gael ar StatsCymru.
Ôl-ddyledion rhent tai cymdeithasol
Bydd tenantiaeth mewn ôl-ddyledion pan na fydd y rhent sy'n ddyledus wedi cael ei dalu ar yr adeg briodol. Gan fod hyn yn ymwneud â chytundeb tenantiaeth, nid yw'n ffordd o gyfrif tenantiaid tai cymdeithasol sy'n byw mewn tlodi. Ar ddiwedd mis Mawrth 2022, roedd 96,309 o denantiaethau mewn ôl-ddyledion, sy'n cyfrif am 41% o'r holl denantiaethau tai cymdeithasol. Roedd hyn yn gynnydd o 5,769 o denantiaethau (6%) o gymharu â 90,540 o denantiaethau mewn ôl-ddyledion ar ddiwedd mis Mawrth 2021. Dywedodd nifer o landlordiaid fod diwygiadau lles diweddar, a'r broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol yn arbennig, wedi cael effaith ar lefel yr ôl-ddyledion rhent. Mae'n debygol bod pandemig y Coronafeirws (COVID-19), yn ogystal â'r argyfwng costau byw ledled y wlad, wedi cyfrannu hefyd.
Tabl 3: Nifer y tenantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth o 2018-19 tan 2021-22 [Nodyn 1]
Tenantiaethau | 2018-19 [Note 2] | 2019-20 [Note 3] | 2020-21 (r) | 2021-22 |
---|---|---|---|---|
Awdurdod lleol | ||||
Nifer y tenantiaethau | 85,528 | . | 85,169 | 85,744 |
Tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent | 29,620 | . | 31,301 | 33,526 |
Canran y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent | 34.6 | . | 36.8 | 39.1 |
Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig | ||||
Nifer y tenantiaethau | 141,537 | . | 144,984 | 146,805 |
Tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent | 47,712 | . | 59,239 | 62,783 |
Canran y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent | 33.7 | . | 40.9 | 42.8 |
Yr holl dai cymdeithasol | ||||
Nifer y tenantiaethau | 227,065 | . | 230,153 | 232,549 |
Tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent | 77,332 | . | 90,540 | 96,309 |
Canran y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent | 34.1 | . | 39.3 | 41.4 |
Disgrifiad o Dabl 3: Tabl yn dangos nifer a chanran y tenantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent, yn ôl tenantiaethau awdurdodau lleol, tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a'r holl dai cymdeithasol.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
[Nodyn 1] Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau drwy dynnu unedau gwag o gyfanswm y stoc tai cymdeithasol ar 31 Mawrth.
[Nodyn 2] Ar gyfer 2018-19, methodd un landlord cymdeithasol cofrestredig (Cymdeithas Tai Baneswell) â chyflwyno data ar osodiadau ac ôl-ddyledion. Felly, cafodd gwybodaeth a gyflwynwyd gan Gymdeithas Tai Baneswell ar gyfer 2017-18 ei defnyddio i gyfrifo cyfanswm Cymru.
[Nodyn 3] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.
. Dim data
(r) Diwygiedig
Roedd y gyfran o denantiaethau mewn ôl-ddyledion yn uwch ar gyfer tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (43%) na thenantiaid awdurdodau lleol (39%).
Ar 31 Mawrth 2022, roedd nifer y tenantiaid landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn ôl-ddyledion rhent wedi cynyddu 6% o gymharu â 2020-21, i 62,783. Hefyd, roedd nifer y tenantiaid awdurdodau lleol mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022 wedi cynyddu 7% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, i 33,526 (Tabl 3).
Ledled Cymru, ym Merthyr Tudful y gwelwyd y ganran uchaf o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent (61%) ac yng Ngwynedd y gwelwyd yr isaf (27%). Roedd y ganran o denantiaethau mewn ôl-ddyledion yn amrywio'n sylweddol ymhlith yr awdurdodau gwledig a'r awdurdodau trefol, gyda naw awdurdod yn cofnodi ôl-ddyledion uwch na chyfartaledd Cymru, sef 41%.
Hyd yr ôl-ddyledion rhent
Ar 31 Mawrth 2022, roedd 38% o'r holl denantiaethau tai cymdeithasol wedi bod mewn ôl-ddyledion am lai na 13 wythnos ac roedd 3% wedi bod mewn ôl-ddyledion am 13 wythnos neu fwy.
Yn 2021-22, fel yn 2020-21, roedd canran uwch o denantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mewn ôl-ddyledion byrdymor (llai na 13 wythnos) na thenantiaethau awdurdodau lleol (35% o gymharu â 40%) (Ffigur 5a). Yn 2021-22, nifer y tenantiaethau awdurdodau lleol mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos oedd 30,055 (7% yn uwch nag yn 2020-21) ac, ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, y nifer oedd 58,558 (6% yn uwch nag yn 2020-21).
Ffigur 5a: Y ganran o'r holl denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos ar 31 Mawrth o 2009-10 tan 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o Ffigur 5a: Graff bar yn dangos bod nifer y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod 2020-21 a'i fod wedi cynyddu eto yn 2021-22 ar gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol a thenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
(r) Diwygiedig
Ers 2015-16, mae'r ganran o denantiaethau mewn ôl-ddyledion tymor hwy (13 wythnos neu fwy) wedi bod yn gyson is ar gyfer tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig nag ar gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol. Ar 31 Mawrth 2022, roedd 4% o denantiaethau awdurdodau lleol wedi bod mewn ôl-ddyledion rhent am 13 wythnos neu fwy o gymharu â 3% o denantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd bach ar gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol, a'r un ganran â'r flwyddyn flaenorol ar gyfer tenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig (Ffigur 5b).
Ffigur 5b: Y ganran o'r holl denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am 13 wythnos neu fwy ar 31 Mawrth o 2009-10 tan 2021-22 [Nodyn 1] [Nodyn 2] [Nodyn 3] [Nodyn 4]
Disgrifiad o Ffigur 5b: Graff bar yn dangos bod nifer y tenantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos wedi cynyddu'n raddol rhwng 2016-17 a 2021-22 gyfer tenantiaethau awdurdodau lleol a thenantiaethau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
[Nodyn 1] Ar 31 Mawrth bob blwyddyn.
[Nodyn 2] Dangosir ôl-ddyledion ar gyfer tenantiaethau mewn unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol yn unig. Ni chesglir data ar ôl-ddyledion ar gyfer deiliadaethau canolraddol a deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.
[Nodyn 3] Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau drwy dynnu anheddau gwag o gyfanswm y stoc. Mae cyfanswm y stoc yn cynnwys yr holl unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ond nid yw'n cynnwys deiliadaethau canolraddol na deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.
[Nodyn 4] Ni chasglwyd data ar gyfer 2019-20 oherwydd effaith pandemig COVID-19.
(r) Diwygiedig
Mae Tabl 4 isod yn dangos nifer y tenantiaethau tai cymdeithasol (awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig) mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022 ar gyfer pob ardal awdurdod lleol.
O'r 96,309 o denantiaethau cymdeithasol yng Nghymru mewn ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022, roedd y mwyafrif llethol (92%) wedi bod mewn ôl-ddyledion am lai na 13 wythnos, ac roedd 7,696 (8%) wedi bod mewn ôl-ddyledion am 13 wythnos neu fwy.
Fel yn 2020-21, yng Nghaerdydd y cofnodwyd y nifer mwyaf o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent, sef 12,087 o denantiaethau, ac wedyn Abertawe, sef 10,742 o denantiaethau. Yng Ngheredigion y cofnodwyd y nifer lleiaf o denantiaethau tai cymdeithasol mewn ôl-ddyledion rhent, sef 1,106 o denantiaethau. O'r rhain, roedd 5% (60 o denantiaethau) wedi bod mewn ôl-ddyledion am 13 wythnos neu fwy (Tabl 4).
Sir y Fflint oedd â'r gyfran uchaf o denantiaethau mewn ôl-ddyledion hirdymor (13 wythnos neu fwy), sef 18% (678 o denantiaethau), a Sir Fynwy oedd â'r gyfran isaf, sef 3% (85 o denantiaethau).
Tabl 4: Ôl-ddyledion rhent ar 31 Mawrth 2022, yn ôl hyd ac awdurdod lleol [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Awdurdod lleol | Cyfanswm nifer y tenantiaethau [Nodyn 3] | Llai na 13 wythnos | 13 wythnos neu fwy | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|
Ynys Môn | 5,006 | 1,524 | 146 | 1,670 |
Gwynedd | 9,053 | 2,226 | 173 | 2,399 |
Conwy | 6,390 | 1,977 | 252 | 2,229 |
Sir Ddinbych | 5,817 | 1,622 | 253 | 1,875 |
Sir y Fflint | 10,216 | 3,122 | 678 | 3,800 |
Wrecsam | 12,849 | 3,509 | 200 | 3,709 |
Powys | 8,481 | 2,368 | 137 | 2,505 |
Ceredigion | 3,531 | 1,046 | 60 | 1,106 |
Sir Benfro | 8,499 | 3,482 | 485 | 3,967 |
Sir Gaerfyrddin | 12,225 | 3,718 | 310 | 4,028 |
Abertawe | 21,479 | 9,746 | 996 | 10,742 |
Castell-nedd Port Talbot | 12,408 | 4,953 | 347 | 5,300 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 9,096 | 2,536 | 211 | 2,747 |
Bro Morgannwg | 7,622 | 2,863 | 201 | 3,064 |
Caerdydd | 26,573 | 10,985 | 1,102 | 12,087 |
Rhondda Cynon Taf | 15,783 | 7,924 | 349 | 8,273 |
Merthyr Tudful | 5,781 | 3,335 | 160 | 3,495 |
Caerffili | 14,768 | 5,988 | 669 | 6,657 |
Blaenau Gwent | 7,711 | 3,519 | 171 | 3,690 |
Torfaen | 10,195 | 4,574 | 249 | 4,823 |
Sir Fynwy | 5,650 | 2,520 | 85 | 2,605 |
Casnewydd | 13,416 | 5,076 | 462 | 5,538 |
Cymru | 232,549 | 88,613 | 7,696 | 96,309 |
Disgrifiad o Dabl 4: Tabl yn dangos cyfanswm nifer y tenantiaethau ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru, yn ogystal â nifer y rhai mewn ôl-ddyledion rhent am lai na 13 wythnos neu fwy na 13 wythnos. Mae'r tabl yn dangos mai Caerdydd sydd â'r nifer mwyaf o denantiaethau mewn ôl-ddyledion rhent.
Ffynhonnell: Ffurflenni blynyddol stoc tai cymdeithasol a lleoedd gwag
[Nodyn 1] Dangosir ôl-ddyledion ar gyfer tenantiaethau mewn unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol yn unig. Ni chesglir data ar ôl-ddyledion ar gyfer deiliadaethau canolraddol a deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.
[Nodyn 2] Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau drwy dynnu unedau gwag o gyfanswm y stoc ar 31 Mawrth 2022. Mae cyfanswm y stoc yn cynnwys yr holl unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ond nid yw'n cynnwys deiliadaethau canolraddol na deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.
Rhestr termau
Ailosodiadau
Ystyr ailosodiad yw gosod annedd sydd eisoes yn cael ei reoli gan landlord cymdeithasol cofrestredig neu awdurdod lleol, heb gynnwys adnewyddu tenantiaeth.
Cyfnewidiadau
Mae gosodiadau drwy gyfnewidiadau yn golygu rhoi unedau ar osod i denantiaid landlordiaid cymdeithasol eraill drwy gyd-gyfnewidiadau yn ystod y flwyddyn ariannol; a galluogi tenantiaid presennol i symud o fewn stoc yr awdurdod lleol drwy gytundebau cyd-gyfnewid yn ystod y flwyddyn ariannol.
Gosodiadau newydd
Ystyr gosodiad newydd yw gosod annedd a gaiff ei reoli gan landlord cymdeithasol neu awdurdod lleol am y tro cyntaf, gan gynnwys anheddau newydd eu hadeiladu.
Gosodiadau sy'n deillio o'r rhestr aros
Mae hyn yn cynnwys gosodiadau o restrau aros, gosodiadau i bobl ddigartref nad ydynt yn flaenoriaeth, gosodiadau sy'n deillio o enwebiad gan landlord arall a gosodiadau sy'n deillio o strategaethau ailgartrefu/symud ymlaen neu gofrestri pobl anabl.
Tenantiaethau
Mae'r term tenantiaethau'n cyfeirio at gytundebau tenantiaeth rhwng unigolyn (neu unigolion yn achos cyd-denantiaethau) a'r landlord cymdeithasol. Dim ond y cytundeb tenantiaeth ar gyfer pob uned tai cymdeithasol unigol sydd wedi'i gynnwys yn nifer y tenantiaethau, ac nid yr holl denantiaid tai cymdeithasol sy'n byw yn yr eiddo hwnnw.
Cyfrifir cyfanswm nifer y tenantiaethau sydd i'w gweld yn y datganiad hwn drwy dynnu anheddau gwag o gyfanswm y stoc ar 31 Mawrth. Mae cyfanswm y stoc yn cynnwys yr holl unedau hunangynhwysol ac unedau nad ydynt yn hunangynhwysol ond nid yw'n cynnwys deiliadaethau canolraddol na deiliadaethau nad ydynt ar renti cymdeithasol.
Trosglwyddo
Mae gosodiadau drwy drosglwyddiadau yn golygu trosglwyddo tenantiaid o fewn stoc y sefydliad, h.y. pan gaiff tenant presennol ei drosglwyddo i denantiaeth arall o dan bolisi'r sefydliad ar gyfer trosglwyddiadau.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Ceir gwybodaeth fanwl am ansawdd data a methodoleg yn yr adroddiad ansawdd.
Troednodiadau
[1] Mae gosodiadau newydd yn cynnwys gosodiadau i denantiaid newydd, ailosodiadau, trosglwyddiadau a chyfnewidiadau.
[2] Yn cynnwys gosodiadau o restr aros landlord neu o restr aros arall; pobl ddigartref nad ydynt yn flaenoriaeth; gosodiadau o ganlyniad i enwebiad gan landlord arall; a gosodiadau sy'n deillio o strategaethau ailgartrefu/symud ymlaen neu gofrestri pobl anabl.
[3] Dim ond unedau anghenion cyffredinol a thai gwarchod a osodwyd gan landlordiaid cymdeithasol ar rent cymdeithasol yn unol â Fframwaith Polisi Rhenti Cymdeithasol Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynnwys yn yr wybodaeth am osodiadau. Mae cyfradd y gosodiadau fesul 100 o unedau o stoc yn seiliedig ar stoc anghenion cyffredinol a thai gwarchod yn unig.