Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair gan y Gweinidog

Mae tlodi plant yn difetha bywydau ac yn achosi problemau yn y dyfodol.

Nid oes rhaid i bethau fod fel hyn.

Yn ystod degawd cyntaf datganoli, gostyngodd lefelau tlodi plant ledled Cymru. Manteisiodd y llywodraeth yng Nghymru ar fuddsoddiad cynyddol gan Lywodraeth y DU, gan ddefnyddio ei phŵer llawer mwy a sicrhau bod ei hymdrechion yn mynd ymhellach.

Ers 2010, a'r cyfnod o gyni, mae lefel y buddsoddiad gan lywodraethau dilynol y DU wedi gostwng. Cefnwyd ar dargedau tlodi plant, a chaewyd yr uned tlodi plant yn Llywodraeth y DU. Dro ar ôl tro, mae'r dogfennau a luniwyd gan y llywodraethau hynny wedi dangos mai effaith y polisïau arfaethedig fydd gwthio mwy o blant i dlodi. Nod y 'cap ar fudd-daliadau', ynddo'i hun, yw sicrhau bod plant yn gorfod ysgwyddo canlyniadau'r penderfyniadau a wneir gan oedolion, nad ydynt wedi chwarae unrhyw ran ynddynt.

Yn yr amgylchiadau hyn, er y gall ymdrechion Llywodraeth Cymru liniaru, neu arafu, effaith penderfyniadau'r DU, ni allant droi'r llanw sy'n llifo mor rymus a bwriadol i'r cyfeiriad arall.

Yn y Strategaeth hon, nodwn bopeth rydym yn ei wneud, a'r gwahaniaeth y mae'n ei wneud i fywydau plant a theuluoedd ym mhob cwr o Gymru. Fodd bynnag, heb newid y cyd-destun ehangach, bydd yr ymdrechion hyn bob amser yn anodd, ceisio lliniaru tlodi plant, yn hytrach na chydweithio i'w ddileu.

Felly, mae'r Strategaeth hon yn nodi'r hyn y gallwn ei wneud o dan yr amgylchiadau a wynebwn ar hyn o bryd. Yr hyn sydd ei angen arnom mewn gwirionedd, a'r hyn sydd ei angen ar y plant hynny sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru, yw newid yn Llywodraeth y DU. Yna, unwaith eto, byddwn yn dangos y gall partneriaeth barod ar draws y llywodraeth ar bob lefel wneud gwahaniaeth pendant: sicrhau bod gan deuluoedd incwm digonol i godi plant allan o dlodi; darparu cartrefi dibynadwy gweddus lle y gall y teuluoedd hynny lunio eu dyfodol; buddsoddi mewn addysg a sgiliau er mwyn paratoi ein pobl ifanc ar gyfer swyddi'r dyfodol, a gwneud hynny mewn ffordd sy'n rhoi mwy o lais i'r plant eu hunain, gan wybod bod hawliau pob plentyn yn dibynnu ar wireddu'r hawliau hynny i bawb.

Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip.

Cyflwyniad

Mae ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu gyfredol yn cael eu llunio a'u cyflwyno gyda'r angen i drechu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactor ysgogi canolog. Nod y strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori yw sicrhau bod polisïau allweddol nad ydynt wedi'u datblygu'n ddigonol ar hyn o bryd a pholisïau o'r fath yn y dyfodol yn cyflawni polisi'r Llywodraeth ar fynd i'r afael â thlodi. Mae hefyd yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer ein partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru er mwyn sicrhau cydweithio gwell wrth gyflawni ein canlyniadau o ran tlodi.

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion ar gyfer tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Mae amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi plant yn seiliedig ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym ynghylch ble y gallwn gael yr effaith fwyaf o ran gwella canlyniadau i deuluoedd ar incwm isel.

Cyhoeddwyd y Strategaeth Tlodi Plant Cymru diwethaf yn 2015. Nododd y Strategaeth bum amcan ar gyfer trechu tlodi a phum cam gweithredu â blaenoriaeth i gefnogi teuluoedd.

Mae'r strategaeth ddrafft hon yn adeiladu ar y buddsoddiadau a wnaed dros y degawd diwethaf, yn rhoi ffocws o'r newydd i amcanion 2015 er mwyn helpu teuluoedd i godi allan o dlodi, ac yn blaenoriaethu camau i liniaru effeithiau niweidiol byw mewn tlodi a gwella'r cyfleoedd i blant sy'n byw mewn tlodi.

Cyhoeddwyd ein hadroddiad cynnydd diweddaraf, a gyhoeddir bob tair blynedd, Strategaeth tlodi plant: adroddiad cynnydd 2022 ym mis Rhagfyr 2022, ac mae'n ymdrin â'r tair blynedd o fis Rhagfyr 2019. Mae'r adroddiad yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i fynd i'r afael â thlodi plant.

Wrth gyflawni strategaeth 2015, rydym wedi gwneud buddsoddiad sylweddol mewn amrywiaeth o bolisïau a rhaglenni i hyrwyddo ffyniant, atal a lliniaru tlodi, a lleihau nifer y plant sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Er gwaethaf y buddsoddiad hwn, erys tlodi yn broblem sylweddol sy'n cyfyngu ar gyfleoedd i ormod o blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau.

Prif ddangosydd tlodi plant yw canran y plant sy'n byw mewn aelwydydd islaw 60% o incwm aelwydydd canolrifol y DU (ar ôl costau tai). Mae'r ystadegau hyn yn llwm: awgryma'r dystiolaeth ddiweddaraf fod 28% o blant yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn ystod y tair blwyddyn ariannol a ddaeth i ben yn 2020-2022. 

Mae plant sy'n byw mewn aelwyd lle nad oes unrhyw oedolyn yn gweithio yn parhau i wynebu risg uwch o dlodi incwm cymharol (43%) o gymharu â phlant sy'n byw mewn aelwyd sy'n gweithio (26%). Fodd bynnag, roedd 81% o'r plant a oedd yn byw mewn tlodi incwm cymharol yn byw mewn aelwydydd sy'n gweithio. Aelwydydd un rhiant oedd yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol (38%). Roedd tebygolrwydd o 40% bod pobl y mae eu penteulu yn perthyn i grŵp ethnig Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol yn byw mewn tlodi incwm cymharol, o gymharu â thebygolrwydd o 22% ar gyfer y rheini y mae eu penteulu yn perthyn i grŵp ethnig Gwyn. Roedd 31% o'r plant a oedd yn byw mewn teulu lle roedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o gymharu â 26% o'r rheini a oedd yn byw mewn teuluoedd lle nad oedd neb yn anabl.

Mae Gweinidogion Cymru yn glir fod cyfraddau tlodi plant yng Nghymru yn rhy uchel. Fodd bynnag, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y prif ddulliau o drechu tlodi: pwerau dros y systemau treth a lles. Mae'r terfyn dau blentyn a'r cap ar fudd-daliadau wedi bod yn arbennig o niweidiol (Sefydliad Joseph Rowntree, 2023).

O ran yr economi, mae'r ysgogiadau ariannol sydd ar gael i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cyfyngu ar ein gallu i ymateb yn gyflym i anghenion a gwahaniaethau rhanbarthol sy'n dod i'r amlwg ac, yn rhy aml, rydym yn dibynnu ar benderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU. Mae effaith a dylanwad polisïau economaidd a system les Llywodraeth y DU ar dlodi yng Nghymru yn golygu bod yn rhaid inni ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ar gael inni mewn ffordd fwy cydgysylltiedig ac effeithiol er mwyn gwneud gwahaniaeth parhaus, gan greu datrysiadau Gwnaed yng Nghymru, Gwnaed i Gymru.

Mae Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2011 yn diffinio tlodi fel:

“cyflwr hirdymor o beidio â chael digon o adnoddau i fforddio bwyd, amodau byw neu amwynderau rhesymol neu i gymryd rhan mewn gweithgareddau (fel mynediad i gymdogaethau atyniadol a mannau agored) a gymerir yn ganiataol gan eraill yn eu cymdeithas”.

Er mwyn sicrhau cysondeb o ran ein dull gweithredu a'r camau rydym eisoes yn eu cymryd i fynd i'r afael â thlodi plant a thlodi yn fwy cyffredinol, cedwir y diffiniad hwn.

Wrth wraidd hyn y mae'r nod o sicrhau bod plentyn, ni waeth beth fo amgylchiadau economaidd yr aelwyd y mae'n byw ynddi, yn cael yr un cyfleoedd i arfer ei hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP). Mae hyn yn golygu ymgysylltu â'r plant a'r bobl ifanc hynny, yn ogystal â'r rhai sy'n gofalu amdanynt a'r cymunedau y maent yn tyfu i fyny iddynt, a'u cefnogi.

Rydym wedi ymgorffori'r pum ffordd o weithio a bennir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn y strategaeth ddrafft hon. Mae'r egwyddorion hyn yn ganolog i'n gwaith o gyflawni ein hagenda gwrthdlodi ar gyfer gweithredu, y mae anghenion ein cymunedau a'r rheini sydd â phrofiad bywyd o dlodi yn rhan greiddiol ohoni, ar y cyd â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru. Bydd cyflawni'r saith nod llesiant, yn ei dro, yn helpu i wireddu ein huchelgeisiau o ran trechu tlodi plant.

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021, gan roi'r cyfle inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod trechu anghydraddoldeb a helpu'r rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes y ei wneud ac yn cefnogi ein gwaith i drechu tlodi plant.

Ein sylfaen dystiolaeth

Daeth adolygiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru o ymyriadau, rhaglenni a strategaethau tlodi ac allgau cymdeithasol rhyngwladol, Tlodi ac allgau cymdeithasol: Ffordd ymlaen (2022) i'r casgliad y byddai angen i strategaeth yn erbyn tlodi flaenoriaethu meysydd gweithredu er mwyn bod yn effeithiol. Mae'n nodi y dylai safbwyntiau'r rheini sydd â phrofiad bywyd o dlodi ac allgáu cymdeithasol chwarae rôl hanfodol wrth bennu'r hyn sy'n bwysig.

Mae anfantais economaidd-gymdeithasol yn groestoriadol iawn. Mae hyn yn golygu bod cysylltiad rhwng amddifadedd a nodweddion gwarchodedig, a bod rhai pobl a chymunedau yn wynebu canlyniadau gwaeth o ganlyniad i'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu oherwydd eu nodweddion gwarchodedig yn ogystal â'u hanfantais economaidd-gymdeithasol. Gellir ystyried y croestoriadedd rhwng amddifadedd a nodweddion eraill fel gwe, lle mae meysydd gwahanol yn cysylltu â'i gilydd, gan gymhlethu a gwaethygu ei gilydd.

Mae gan Lywodraeth Cymru hanes balch o weithio i sicrhau bod safbwyntiau pobl Cymru wrth wraidd y penderfyniadau a wnawn. Mae'r ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP a osodir ar Weinidogion Cymru drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn golygu bod ceisio barn plant a phobl ifanc yn rhan annatod o'n proses o wneud penderfyniadau polisi.

Rydym wedi gweithio gyda'n partneriaid i gynnal digwyddiadau ymgysylltu yn y cymunedau lle mae pobl yn byw, wedi'u cynnal gan sefydliadau y mae pobl yn eu hadnabod ac yn ymddiried ynddynt. Roedd hyn yn arbennig o bwysig o ran ymgysylltu â phobl â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol, pobl anabl a niwrowahanol, pobl LHDTC+ a menywod sy'n cael cymorth oherwydd materion y ddau ryw.

Drwy'r gweithgarwch ymgysylltu, llwyddwyd i ymgysylltu â 3,358 o bobl. Ymgysylltwyd â 1,953 o'r rhain drwy waith wedi'i dargedu at y rheini â nodweddion gwarchodedig. O blith y cyfanswm, roedd 1,402 yn blant neu'n bobl ifanc, 1,329 yn rhieni/gofalwyr a 319 yn neiniau a theidiau/hen neiniau a theidiau. Roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc â phrofiad o ofal a gofalwyr sy'n berthnasau. Gwnaethom hefyd ymgysylltu â 222 o gynrychiolwyr o sefydliadau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol. Mae'r wybodaeth a gasglwyd drwy'r gweithgarwch ymgysylltu hwn wedi cael effaith uniongyrchol ar ein penderfyniadau ynghylch y meysydd y dylid canolbwyntio arnynt yn y strategaeth ddrafft hon.

Rydym wedi nodi pum amcan sydd, yn ein barn ni, yn adlewyrchu'r meysydd y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â nhw er mwyn sicrhau newid mesuradwy i fywydau plant a phobl ifanc mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, a darparu ar gyfer:

  • Amcan 1: lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd.
  • Amcan 2. creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial.
  • Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a gwneud yn siŵr bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell.
  • Amcan 4: sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi.
  • Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol.

Mae'r strategaeth ddrafft yn seiliedig ar strategaeth 2015 a'r Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm dilynol ac yn adeiladu arnynt, ac mae wedi'i chyd-awduro â phlant, pobl ifanc, teuluoedd a'r sefydliadau sy'n eu cefnogi, er mwyn eu helpu i flaenoriaethu meysydd ffocws yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni.

Yn y strategaeth ddrafft hon ar gryfder ymgynghori, rydym yn nodi'r hyn rydym wedi ei glywed drwy waith ymgysylltu allanol a'r hyn rydym eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael â'r materion a godwyd. Yn bwysicaf oll, o fewn pob amcan rydym yn nodi'r meysydd y byddwn yn eu blaenoriaethu er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau polisi a chynyddu eu heffaith.

Rydym wedi nodi pum blaenoriaeth i'w cyflawni ar gyfer pob un o'r amcanion hyn, a ddisgrifir o dan bob amcan.

  • Blaenoriaeth 1: hawl (rhoi arian ym mhocedi pobl).
  • Blaenoriaeth 2: creu cenedl Gwaith Teg (heb adael neb ar ôl).
  • Blaenoriaeth 3: creu cymunedau (gwasanaethau cydgysylltiedig hygyrch i ddiwallu anghenion y gymuned).
  • Blaenoriaeth 4: cynhwysiant (gwasanaethau caredig, tosturiol nad ydynt yn stigmateiddio).
  • Blaenoriaeth 5: galluogi cydweithio (ar lefel ranbarthol a lleol).

Amcan 1: lleihau costau a gwneud y gorau o incwm teuluoedd

Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod beth y mae ganddynt yr hawl iddo, a'i gwneud hi'n haws i bobl hawlio cymorth ariannol a chael help gyda phethau ymarferol.

Mae hefyd yn golygu helpu pobl gyda chostau bwyd, tanwydd a thai, yn ogystal ag eitemau hanfodol fel nwyddau mislif, eitemau i fabanod newydd a gwisg ysgol. Rydym am i wasanaethau a sefydliadau ganolbwyntio ar sut y gallant wneud yn siŵr eu bod yn ei gwneud hi'n haws i blant a theuluoedd fanteisio ar eu hawliadau heb stigma.

Yr hyn rydym wedi'i glywed

Mae plant a phobl ifanc, rhieni/gofalwyr, neiniau a theidiau a sefydliadau wedi dweud wrthym fod y system ar gyfer hawlio cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU a thrwy lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru yn gymhleth ac yn anodd ei deall.

Dywedodd pobl eu bod yn gwerthfawrogi cael gwybodaeth a chyngor wyneb yn wyneb gan wasanaethau y maent yn ymddiried ynddynt, a bod hyn yn gallu goresgyn rhwystrau fel iaith, os yw Saesneg yn iaith ychwanegol, lefelau llythrennedd oedolion ac allgáu digidol. Gall cost ac argaeledd trafnidiaeth gyhoeddus hefyd fod yn rhwystr i gyrraedd lleoliadau cyngor canolog. Roedd yr anghenion hyn yn acíwt iawn ar gyfer teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr a theuluoedd sy'n Geiswyr Lloches ac yn Ffoaduriaid. 

Soniodd rhieni/gofalwyr anabl a rhieni/gofalwyr plant anabl am anawsterau'r broses ar gyfer hawlio budd-daliadau anabledd a gofalwyr. Soniodd plant a phobl ifanc o deuluoedd sy'n Geiswyr Lloches ac yn Ffoaduriaid am yr angen i'w rhieni/gofalwyr gael yr wybodaeth a'r cyngor cywir i'w helpu i ymdopi ag incymau cyfyngedig iawn.

Mae'r argyfwng costau byw presennol yn cael effaith amlwg a sylweddol ar deuluoedd incwm isel. Roedd ansicrwydd bwyd a thlodi tanwydd yn broblemau mawr i'r rheini a gymerodd rhan yn y digwyddiadau ymgysylltu.

Roedd cost y diwrnod ysgol yn broblem a nodwyd gan rieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc a sefydliadau. Dywedasant wrthym fod angen i brydau ysgol fod yn fwy fforddiadwy yn yr ysgol uwchradd, a bod bwlch rhwng gwerth Prydau Ysgol Am Ddim a chost bwyd mewn ysgolion. Clywsom hefyd am deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd talu am wisg ysgol, offer a theithiau ysgol.

Soniodd rhai o'r gofalwyr a gymerodd ran yn y digwyddiadau ymgysylltu am faich ariannol gofalu am blant. Dywedodd pobl ifanc â phrofiad o ofal wrthym eu bod yn ei chael hi'n anodd deall a defnyddio systemau cymhleth i fanteisio ar eu hawliadau.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn

Cynyddu incymau i'r eithaf

Gan adeiladu ar ein Cynllun Gweithredu Pwyslais ar Incwm, rydym yn gweithio i sicrhau bod teuluoedd sy'n dibynnu ar fudd-daliadau lles y DU yn gallu manteisio ar eu hawliadau. Rydym yn ariannu'r Ganolfan Cyngor ar Bopeth i ddarparu Advicelink Cymru er mwyn helpu pobl i fanteisio ar eu hawliadau. Rydym yn ariannu rhaglen hyfforddi Dangos ar gyfer gweithwyr rheng flaen, fel eu bod yn fwy abl i gefnogi defnyddwyr eu gwasanaethau i gael gafael ar yr holl gymorth ariannol y mae ganddynt yr hawl i'w gael.

“Budd-daliadau Cymreig” yw taliadau i unigolion sydd wedi'u datganoli i Lywodraeth Cymru. Er enghraifft, mae Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn helpu aelwydydd i dalu eu biliau treth gyngor, ac mae'r Grant Hanfodion Ysgol a Phrydau Ysgol Am Ddim yn helpu aelwydydd gyda chost y diwrnod ysgol.

Credwn y dylai'r system nawdd cymdeithasol gael ei darparu â thosturi, bod yn deg o ran y ffordd y mae'n trin pobl, a bod wedi'i dylunio mewn modd sy'n sicrhau ei bod yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at drechu tlodi. Mae'r Siarter Budd-daliadau Cymreig yn nodi'r egwyddorion a fydd yn sail i ddarparu system budd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru, ac mae'n cefnogi llywodraeth leol i nodi ble y gallwn symleiddio'r broses gwneud cais am fudd-daliadau Cymreig er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch. 

Mae Maethu Cymru yn ein helpu i bennu strwythur a lefelau talu newydd ar gyfer y Lwfans Cynhaliaeth Cenedlaethol i ofalwyr maeth. Mae Grŵp Arbenigol wedi'i sefydlu, gyda'r nod o sicrhau dull gwell a cyson sy'n seiliedig ar anghenion o gefnogi teuluoedd Gwarcheidiaeth Arbennig ledled Cymru.

Ers 1 Gorffennaf 2022, fel rhan o'n Cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal, rydym wedi cynnig £1,600 y mis (cyn treth) i fwy na 500 o bobl ifanc sy'n gadael gofal yng Nghymru am gyfnod o ddwy flynedd, er mwyn eu helpu i bontio i fywyd oedolyn. Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun peilot hefyd yn cael cyngor a chymorth unigol i'w helpu i reoli eu harian a meithrin eu sgiliau ariannol a chyllidebu.

Lleihau costau

Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i roi mwy o arian ym mhocedi pobl drwy leihau costau. 

Bydd cyflwyno cynllun Bwndeli Babanod yn cynnig eitemau hanfodol ar gyfer babanod newydd-anedig am ddim i famau newydd a menywod beichiog yng Nghymru. Rydym yn gweithio i hyrwyddo Talebau Cychwyn Iach. Mae pobl yng Nghymru yn cael budd o bresgripsiynau am ddim a pharcio am ddim ar safleoedd ysbytai ledled Cymru, fel rhan o ethos gwasanaeth iechyd sy'n rhad ac am ddim.

Rydym yn cefnogi Partneriaethau Bwyd traws-sector a all helpu i feithrin gwydnwch mewn rhwydweithiau bwyd lleol drwy gydlynu gweithgarwch sy'n gysylltiedig â bwyd ar lawr gwlad sy'n mynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi bwyd. Mae Pwysau Iach: Cymru Iach yn cynnwys Blaenoriaeth Genedlaethol i ddileu rhwystrau i leihau anghydraddoldebau iechyd a deiet ar draws y boblogaeth.

Mae'r cyllid rydym wedi'i roi i'r Sefydliad Banc Tanwydd wedi creu rhwydwaith cryfach o bartneriaid ledled Cymru i gefnogi pobl ar fesuryddion rhagdalu sy'n wynebu risg o hunanddatgysylltu neu sydd eisoes wedi gwneud hynny, yn ogystal â'r aelwydydd oddi ar y grid hynny y mae'n rhaid iddynt brynu tanwydd ond na allant fforddio ychwanegu rhagor at y tanc.

Gall pob plentyn sy'n mynychu ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod lleol gael brecwast am ddim yn yr ysgol os yw'r ysgol yn ei ddarparu, neu gall rhieni ofyn i'r ysgol ddarparu brecwast am ddim. Bydd pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn cael Prydau Ysgol Am Ddim erbyn 2024, a bydd gwersi a ddysgwyd o gyflwyno ein cynnig cyffredinol mewn ysgolion cynradd yn llywio newidiadau i'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim yng Nghymru yn y dyfodol.

Gall plant o deuluoedd incwm isel sy'n gymwys i gael budd-daliadau penodol wneud cais am Grant Hanfodion Ysgol. Mae plant ym mhob blwyddyn ysgol orfodol, o'r dosbarth derbyn hyd at flwyddyn 11, bellach yn gymwys. Rydym wedi cyhoeddi Polisïau gwisg ysgol ac edrychiad disgyblion: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu. Rhaid i ysgolion ystyried y canllawiau hyn, sy'n canolbwyntio ar driniaeth deg, cost a fforddiadwyedd, ystyriaethau ymarferol a'r angen i ymgynghori â rhieni, disgyblion a'r gymuned.

Ers mis Ebrill 2023, mae'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg wedi cynyddu yng Nghymru o £30 i £40 yr wythnos ar gyfer myfyrwyr addysg bellach cymwys mewn chweched dosbarth neu goleg. Mae hwn yn ymrwymiad ar gyfer dwy flwyddyn academaidd, tra bydd adolygiad cynhwysfawr o'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn cael ei gynnal.

Drwy Gynllun Gweithredu Cymru sy’n Falch o’r Mislif, rydym eisoes wedi darparu cyllid ar gyfer awdurdodau lleol ac addysg bellach er mwyn darparu nwyddau mislif am ddim ym mhob ysgol yng Nghymru. Ein huchelgais yw mynd cam ymhellach, gan sicrhau bod nwyddau mislif am ddim ar gael mewn amrywiaeth ehangach o leoliadau.

Blaenoriaeth 1: hawl (rhoi arian ym mhocedi pobl)

Rydym eisoes yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r materion a godwyd drwy ein hymarfer ymgysylltu, a byddwn yn parhau i flaenoriaethu'r gwaith pwysig hwn. Byddwn hefyd yn atgyfnerthu ein gwaith mewn rhai meysydd allweddol er mwyn sicrhau mwy o effaith.

Gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, byddwn yn:

  • gweithio'n gyflym gyda phartneriaid i gynnig mwy o wybodaeth, cyngor a chymorth wyneb yn wyneb i bobl o ran eu hawliadau ariannol, fel rhan o'n gwaith ehangach i helpu pobl i wneud y gorau o incwm
  • bwrw ymlaen â datblygu system Budd-daliadau Cymreig a ddarperir â thosturi, a chyflymu gwaith gyda'n partneriaid i symleiddio'r broses o wneud cais am Fudd-daliadau Cymru er mwyn eu gwneud yn fwy hygyrch
  • cyflymu ein gwaith gydag Estyn a phartneriaid Gwella Ysgolion (Awdurdodau Lleol, Consortia) er mwyn sicrhau bod addysg yn brofiad niwtral o ran cost i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd

Amcan 2: creu llwybrau allan o dlodi fel bod plant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn cael cyfleoedd i wireddu eu potensial

Ar bob cam o gwrs bywyd (o enedigaeth, drwy fywyd hyd at farwolaeth), mae pethau y gallwn eu gwneud i helpu pobl allan o dlodi drwy addysg, hyfforddiant a chymorth i gael gwaith teg. Gall helpu rhieni/gofalwyr i gael gwaith godi plant allan o dlodi.

Gall buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar plentyn sicrhau canlyniadau datblygiadol ac iechyd gwell iddo sydd, yn ei dro, yn dylanwadu ar ei gyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae angen inni wneud addysg yn hygyrch i bawb, er mwyn sicrhau economi gref a swyddi â chyflogau uwch. Rydym am i bawb rannu ein huchelgeisiau i bob plentyn a pherson ifanc gael cymorth i wireddu ei botensial a mwynhau dyfodol heb dlodi.

Mae'n rhaid i'n gwaith i fynd i'r afael â thlodi gynnwys cefnogi plant a gofalwyr i feithrin y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gael cyflog teilwng. Gwyddom fod angen inni gynllunio sut i wneud hyn ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau ychwanegol o ganlyniad i wahaniaethu, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail rhywedd, anabledd, ethnigrwydd neu rywioldeb.

Yr hyn rydym wedi'i glywed

Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym eu bod am gael gwaith teg hyblyg, gydag amodau gweithio da a chyflog teg. Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym eu bod am gael cyfleoedd i symud ymlaen yn eu gyrfa drwy addysg a hyfforddiant.

Roedd yr angen am ofal plant hygyrch a fforddiadwy er mwyn galluogi rhieni/gofalwyr i weithio yn thema gyson ar draws ein gweithgarwch ymgysylltu allanol. Dywedodd rhieni/gofalwyr plant anabl neu niwrowahanol a rhieni unigol wrthym eu bod yn wynebu rhwystrau ychwanegol i gael gofal plant priodol a fforddiadwy. Dywedodd rhieni unigol wrthym fod costau gofal plant yn golygu ei bod hi'n anodd iawn gwneud i waith dalu.

Dywedodd rhieni/gofalwyr, neiniau a theidiau a sefydliadau wrthym fod diffyg seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a chostau trafnidiaeth gyhoeddus yn rhwystrau i gyflogaeth.

Dywedodd plant a phobl ifanc wrthym eu bod am gael mwy o gyfleoedd i gael profiad gwaith o safon, cyngor ar yrfaoedd yn yr ysgol a'r sefydliad addysg bellach, a modelau rôl cadarnhaol ym myd gwaith a hunangyflogaeth.

Dywedodd rhieni/gofalwyr plant anabl, plant niwrowahanol a phlant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wrthym eu bod yn wynebu rhwystrau penodol i sicrhau asesiadau a chael cymorth i ddiwallu anghenion addysgol eu plant.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn

Y dechrau gorau mewn bywyd

Rydym am gynnig y dechrau gorau i blant mewn bywyd. Rydym wedi dechrau mynd ati'n raddol i ehangu rhaglen Dechrau'n Deg, gan gydnabod yr effaith sylweddol y gall ymyrryd yn gynnar a darparu gofal plant am ddim wneud i ganlyniadau plant. 

Rydym wedi lansio ein gweledigaeth ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar cyfannol yng Nghymru, er mwyn sicrhau bod plant yn cael profiad dysgu a gofal ysgogol o ansawdd uchel mewn unrhyw leoliad y maent yn ei fynychu (a elwir yn ffurfiol yn addysg a gofal plentyndod cynnar). Rydym wrthi'n datblygu Cynllun Gweithredu er mwyn bwrw ymlaen â hyn.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn cynnig hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i blant 3 a 4 oed am 48 wythnos y flwyddyn; mae rhieni sydd wedi'u cofrestr ar gyrsiau addysg uwch ac addysg bellach hefyd yn cael budd o'r Cynnig. Wrth edrych i'r dyfodol, byddwn yn ceisio cynnwys carfanau ychwanegol o ddysgwyr dros amser. Mae'r gwaith hwn i ehangu'r Cynnig Gofal Plant yn gam cyntaf tuag at ddiwallu anghenion teuluoedd yng Nghymru yn well, gan ddangos ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd sy'n gweithio gyda chostau gofal plant. Mae gwerthusiadau wedi dangos bod hyn yn cael effaith gadarnhaol ar allu rhieni i ennill mwy ac yn creu mwy o opsiynau i rieni o ran cyflogaeth.

Addysg a chynnydd

Ein cenhadaeth genedlaethol yw cyrraedd safonau uchel a gwireddu uchelgeisiau i bawb drwy fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a chefnogi pob dysgwr. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael ag effaith tlodi ar uchelgeisiau a chyrhaeddiad. Bydd pob dysgwr, beth bynnag fo'i gefndir, yn cael ei gefnogi i fod yn ddinesydd iach, brwdfrydig, blaengar a moesegol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith.

Mae hyn yn cynnwys gyrfaoedd ymarferol seiliedig ar addysg, profiadau cysylltiedig â gwaith, a chyngor ar yrfaoedd, Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn cynnig cymorth ychwanegol wedi'i dargedu i ddysgwyr difreintiedig, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i adolygu'r ffordd y caiff y ei ddefnyddio ac yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio'r grant yn effeithiol.

Byddwn yn mynd ati i ddiwygio ein system Anghenion dysgu ychwanegol a'n darpariaeth a'n harferion ar sail ymarfer sy'n canolbwyntio ar y person ac addysg gynhwysol, gan sicrhau newidiadau cadarnhaol i ddysgwyr ag ADY a monitro effeithiolrwydd y system. Mae ein Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth (2021) yn nodi'r trefniadau ar gyfer cefnogi llwybrau asesu a diagnosis i blant.

Mae ein Strategaeth ar gyfer gofalwyr di-dâl yn cynnwys blaenoriaeth i gefnogi gofalwyr di-dâl, gan gynnwys gofalwyr ifanc, mewn addysg ac yn y gweithle ac annog cyflogwyr a lleoliadau addysgol/hyfforddiant i addasu eu polisïau a'u harferion, gan alluogi gofalwyr di-dâl i gael gwaith a dysgu ochr yn ochr â'u rôl ofalu.

Mae'r Fframwaith Ymgysylltiad a Chynnydd Ieuenctid yn cyfrannu at ein nod o fynd i'r afael ag effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol drwy ein helpu i ailennyn diddordeb pobl ifanc a chodi eu huchelgeisiau, er mwyn sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl. Y Warant i Bobl Ifanc yw ein hymrwymiad allweddol i helpu pob person ifanc 16 i 24 oed i gael addysg neu hyfforddiant, gwaith neu hunangyflogaeth. Nod Busnes Cymru yw cefnogi microfusnesau a BBaChau, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, a darpar entrepreneuriaid i ddechrau busnes a'i dyfu. I gefnogi'r Warant i Bobl Ifanc, mae Syniadau Mawr Cymru yn cynnig cyngor a chymorth i bobl ifanc a rhwydwaith o Fodelau Rôl Syniadau Mawr Cymru.

Rydym wedi cychwyn Adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru er mwyn gwneud argymhellion ynglŷn ag ehangu cymwysterau galwedigaethol yn ystod y cyfnod rhwng 2023 a 2026. Bydd Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 yn llywio strwythur a system newydd a fydd yn cynnig cymorth gwell i ddysgwyr ac yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ddysgu, datblygu a llwyddo gydol eu hoes.

Nod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr Newydd, yw lleihau cost a gwella hygyrchedd trafnidiaeth gynaliadwy i bawb yng Nghymru, gan gynnwys myfyrwyr.

Yr economi a gwaith teg

Gwella llesiant pawb yng Nghymru yw'r genhadaeth sy'n llywio dull ein llywodraeth o ymdrin â'r economi yn Ffyniant i Bawb: y Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Mae'r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) yn gosod dyletswyddau partneriaeth gymdeithasol newydd ar gyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, yn hyrwyddo gwaith teg ac yn creu dyletswydd ar gyfer caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol.

Ystyr gwaith teg yw cefnogi ac annog cyflogwyr i gynnig cyflogaeth o ansawdd uchel, gwella'r cynnig i weithwyr, hyrwyddo arferion cyflogaeth teg, sicrhau gwerth cymdeithasol buddsoddi ac annog y sector cyhoeddus i ymgorffori’r blaenoriaethau wrth gynllunio'r gweithlu. Rydym yn mynd ar drywydd argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg er mwyn cyflawni hyn.

Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn nodi blaenoriaethau polisi a buddsoddi clir, ac yn mireinio ein ffocws ar gyflawni a gweithgarwch partneriaid. Blaenoriaethau allweddol y Cynllun yw: Pobl ifanc yn gwireddu eu potensial; Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb economaidd; Hyrwyddo Gwaith Teg i bawb; Cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio, a Meithrin diwylliant dysgu am oes.

Mae ein dull sy'n datblygu o gyllidebu ar sail rhywedd yng Nghymru wedi cynnwys cynllun peilot cyllidebu ar sail rhywedd, er mwyn helpu pobl i feithrin sgiliau mewn meysydd nad ydynt yn benodol i rywedd yn nodweddiadol. Mae hyn wedi'i alluogi drwy ein rhaglen Cyfrif Dysgu Personol, sy'n helpu pobl gyflogedig sy'n ennill llai na'r cyflog cyfartalog i feithrin sgiliau lefel uwch, gan eu helpu i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o gyfleoedd gwaith.

Blaenoriaeth 2: creu cenedl Gwaith Teg (heb adael neb ar ôl)

Byddwn yn cynnal ac yn atgyfnerthu ein gwaith i gefnogi llwybrau allan o dlodi drwy ein polisïau ar gyflogaeth, addysg a'r blynyddoedd cynnar.

Mae'r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yn is na'r gyfradd ar gyfer pobl Wyn. Mae'r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl anabl yn is na'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. Awgryma ymchwil fod rhieni unigol yn wynebu heriau penodol i sicrhau cyflogaeth addas a bod 90% o rieni unigol yn fenywod.

Gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, byddwn yn:

  • cyflawni argymhellion y Comisiwn Gwaith Teg ac yn hyrwyddo Gwaith Teg drwy ddeddfwriaeth Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus
  • cynyddu ein ffocws drwy'r cynllun cyflogadwyedd a sgiliau i flaenoriaethu ac atgyfnerthu cymorth cyflogadwyedd cenedlaethol a arweinir gan Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau na chaiff neb ei adael ar ôl, gan roi mwy o gymorth i'r rheini heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n wynebu anfantais yn y farchnad lafur
  • mynd ati ym mhob rhan o'r llywodraeth i ddod o hyd i ddatrysiadau fforddiadwy i gostau gofal plant a thrafnidiaeth, er mwyn dileu rhwystrau i gael gwaith a gwneud i waith dalu

Amcan 3: cefnogi llesiant plant a'u teuluoedd a sicrhau bod gwaith ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant sy'n byw mewn tlodi, gan gynnwys y rheini â nodweddion gwarchodedig, fel y gallant arfer eu hawliau a sicrhau canlyniadau gwell

Yng Nghymru, rydym am gael y gorau i'n plant, pob un ohonynt, ni waeth beth fo'u cefndir, o ble y maent yn dod, nac ym mhle y maent yn byw. Rydym am iddynt gael y dechrau gorau mewn bywyd ac i ddilyn y math o fywydau y maent am eu dilyn.

Yr hyn rydym wedi'i glywed

Dywedodd rhai rhieni/gofalwyr a sefydliadau sy'n eu cefnogi wrthym fod angen amodau tai gwell a thai fforddiadwy. Roedd rhai o'r rhieni/gofalwyr wedi bod yn ddigartref ac yn byw mewn llety dros dro.

Rhannodd plant a phobl ifanc, teuluoedd a sefydliadau negeseuon clir â ni am yr angen am gymorth yn y gymuned; lle y daw gwasanaethau a chymorth ynghyd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth wyneb yn wyneb o ran y materion sy'n cyfyngu ar gyfleoedd i sicrhau iechyd a llesiant da, a lle y mae anghenion diwylliannol ac ieithyddol teuluoedd yn cael eu deall a'u deall. Roedd hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc yn dweud wrthym eu bod am weld mwy o gymorth i rieni. Mae rhieni/gofalwyr hefyd am gael mwy o weithgareddau cymunedol am ddim neu gost isel i blant a theuluoedd. Disgrifiodd plant a phobl ifanc fanteision cyflwyno gwasanaethau mewn ysgolion a dywedasant y gallai cynnig cyfleoedd cymdeithasol, hamdden a chwaraeon mewn adeiladau addysgol leihau costau a gwella hygyrchedd.

Dywedodd sefydliadau sy'n gweithio gyda theuluoedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol wrthym fod angen datblygu cymunedau drwy ddull partneriaeth gymdeithasol, gan gynnwys pob aelod o'r gymuned mewn modd ystyrlon mewn penderfyniadau am yr hyn y mae angen iddo ddigwydd ar lefel gymunedol. Dywedodd rhai pobl eu bod wedi wynebu hiliaeth mewn gwasanaethau fel meddygfeydd ac ysgolion. Dywedodd teuluoedd Sipsiwn, Roma a Theithwyr wrthym eu bod am gael mannau cymunedol diogel i blant a phobl ifanc a gwasanaethau cymunedol sy'n deall eu hanghenion. Teimlai pobl ifanc LHDTC+ fod diffyg dealltwriaeth o LHDTC+ ar lefel gymunedol ac y gall gwahaniaethu olygu nad yw eu hawliau na'u hanghenion yn cael eu cydnabod.

Rhannodd pobl ifanc rai negeseuon clir â ni am yr angen am gymorth hygyrch ar gyfer iechyd meddwl a llesiant emosiynol mewn lleoliadau addysg ac yn eu cymunedau. Dywedodd rhieni/gofalwyr hefyd eu bod am gael cymorth cymunedol gyda'u hyder a'u hunan-barch.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn

Mae ein Cynllun plant a phobl ifanc yn nodi'r hyn y mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ei olygu i blant a phobl ifanc, ac mae mynd i'r afael â thlodi plant ac anghydraddoldeb yn ffactor ysgogi canolog. Cymaint yw cymhlethdod rhywfaint o'r gwaith, fel mynd i'r afael â thlodi plant, nes bod angen i bob un o'r Gweinidogion gydweithio, fel un Llywodraeth Cymru, ac mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus a'r trydydd sector, er mwyn ei gyflawni.

Rhywle gweddus i fyw

Ar 1 Rhagfyr 2022, newidiodd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 y ffordd y mae pob landlord yng Nghymru yn rhentu ei eiddo, gan wella'r ffordd rydym yn rhentu, yn rheoli ac yn byw mewn cartrefi rhent yng Nghymru. Mae Rhentu Cartrefi Cymru yn golygu y bydd rhai newidiadau i'r ffordd y caiff contractau tenantiaid cymdeithasol a phreifat eu darparu, y ffordd y caiff eu cartrefi eu cynnal a'u cadw, a'r ffordd y maent yn cyfathrebu â'u landlordiaid.

Rydym yn cymryd camau penodol i fynd i'r afael â digartrefedd drwy Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel 2021 i 2026 ac yn cyflwyno deddfwriaeth yn ystod tymor y Senedd hon a fydd yn trawsnewid gwasanaethau digartrefedd, gan roi pwyslais ar atal ac ymyrryd yn gynnar. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol yn ystod tymor y Llywodraeth hon.

Cymunedau

Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn seiliedig ar werthoedd cymuned, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol sy'n arbennig i Gymru. Rydym yn cydnabod mai'r hyn sydd ei angen yw ymateb trawsbynciol ar draws y llywodraeth gyfan, yn hytrach na rhaglen gymunedol annibynnol. Rydym wedi cyhoeddi ymchwil ar ddulliau gweithredu seiliedig ar le o ymgysylltu â'r gymuned a chefnogi cymunedol, sy'n llywio ein ffordd o feddwl.

Bydd hyn yn golygu gweithio gyda'n cymunedau a phartneriaid eraill i gyd-lunio atebion a fydd yn helpu i gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu ac, ar yr un pryd, yn grymuso ac yn cysylltu pob un o'n cymunedau, ac yn eu galluogi i ffynnu. Rydym am wrando ar ein cymunedau a dysgu oddi wrthynt, gan ddefnyddio gwybodaeth leol a phrofiadau a gafwyd drwy fawr ymdrech! Rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu Polisi Cymunedau i gefnogi'r gwaith hwn.

Mae ein Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol yn darparu cyllid i helpu cymunedau ym mhob cwr o Gymru i brynu, datblygu a gwella adeiladau a mannau gwyrdd lleol hanfodol. Rydym hefyd wedi ymrwymo i gefnogi prosesau Trosglwyddo Asedau Cymunedol a datblygiadau a arweinir gan y gymuned drwy ddarparu fframwaith cymorth sy'n cynnig cyngor, canllawiau a chyllid.

Rydym yn buddsoddi i wneud yn siŵr bod ysgolion yn gallu gweithredu a datblygu fel Ysgolion Bro, sy'n estyn allan at deuluoedd i'w cynnwys ac yn gweithio gyda'r gymuned ehangach i gefnogi pob disgybl, yn enwedig y rhai sy'n wynebu anfantais o ganlyniad i dlodi. Wrth symud ymlaen, rydym am i bob ysgol yng Nghymru fod yn Ysgol Fro: gan feithrin partneriaeth gref â theuluoedd; ymateb i anghenion eu cymuned a chydweithio'n effeithiol â gwasanaethau eraill.

Cynnig cyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid

Mae ein canllawiau Cymru: gwlad lle mae cyfle i chwarae yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynnig cyfleoedd chwarae cynhwysol sy'n annog plant i chwarae ac i ddod ynghyd os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gydnabod y gall rhai plant wynebu rhwystrau i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gyfleoedd chwarae yn eu hardal. Rydym yn darparu cyllid i Chwaraeon Cymru weithio gyda chyrff llywodraethu cenedlaethol a phartneriaid eraill i hyrwyddo cyfleoedd cyfartal i gymryd rhan mewn chwaraeon drwy ei strategaeth Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon.

O fis Medi 2023, bydd y rhan fwyaf o derfynau cyflymder 30 milltir yr awr (mya) yng Nghymru yn newid i 20 mya. Bydd hyn yn helpu i greu cymunedau iachach a mwy diogel, gan leihau nifer y gwrthdrawiadau a chynnig cyfleoedd mwy diogel i blant a phobl ifanc chwarae a chymdeithasu yn eu cymunedau.

Nod Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru yw sicrhau bod pobl ifanc yn ffynnu. Mae gwaith ieuenctid yn helpu pobl ifanc i dyfu, datblygu, cyflawni a bod yn hapus wrth iddynt dyfu'n oedolion. Mae'n helpu i feithrin sgiliau bywyd pobl ifanc a chynnig cyfleoedd iddynt ddysgu, ac mae'n helpu pobl ifanc i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau a all effeithio ar eu bywydau. 

Cefnogi teuluoedd

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn hyrwyddo mwy o waith aml-asiantaeth er mwyn sicrhau bod teuluoedd yn cael help a chymorth cyfannol fel y bo angen. Mae'r rhaglen yn helpu teuluoedd i fynd i'r afael ag amrywiaeth eang o faterion, fel rhianta, cyfeirio at gymorth ariannol, cydberthnasau teuluol, materion addysg, a llawer mwy. Y bwriad yw cynnig cymorth cynnar gyda'r nod o atal problemau rhag gwaethygu.

Ledled Cymru, mae ein partneriaid mewn gwasanaethau cyhoeddus yn darparu amrywiaeth o wasanaethau i rieni a gofalwyr i'w helpu i fagu plant mewn modd cadarnhaol. Mae gwefan ddwyieithog benodol yn cynnig awgrymiadau defnyddiol, gwybodaeth a chyngor ar bryderon rhianta cyffredin ac yn hyrwyddo dull cadarnhaol o fagu plant.

Iechyd meddwl a llesiant

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n datblygu Strategaeth Iechyd Meddwl newydd i Gymru. Cyhoeddwyd yr adolygiad annibynnol o Strategaethau Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a Siarad â Fi 2 ym mis Mawrth 2023, ac mae Llywodraeth Cymru wrthi'n profi syniadau cynnar ynghylch yr egwyddorion a fydd yn sail i'r Strategaeth Iechyd Meddwl newydd ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol. Byddwn yn sicrhau bod ein syniadau cynnar ynghylch y strategaeth iechyd meddwl yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd gan y rheini sydd â phrofiad bywyd ar gyfer y strategaeth tlodi plant ddrafft hon.

Blaenoriaeth 3: creu cymunedau (gwasanaethau cydgysylltiedig hygyrch i ddiwallu anghenion y gymuned)

Mae'r angen i ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig cymunedol sy'n hyrwyddo dull Dim Brws Anghywir wedi'i nodi dro ar ôl tro. Clywsom am rai enghreifftiau da o hyn, ond nid fel profiad cyffredin i'r teuluoedd y gwnaethom siarad â nhw. Rydym yn cydnabod nad yw cynnig gwasanaethau wedi'u cyd-leoli mewn un lle bob amser yn gosteffeithlon mewn rhai cymunedau, yn enwedig cymunedau gwledig. Fodd bynnag, gall cylchdroi gwasanaethau dros dro gynnig arlwy da mewn ardaloedd â phoblogaethau llai.

Nid yw hyn yn golygu gwneud pethau i gymunedau; mae'n golygu gwneud pethau gyda phobl mewn cymunedau, sy'n gwybod beth sy'n bwysig iddynt a'r hyn sydd ei angen arnynt. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc. Mae Cymru yn wlad â chyfoeth o weithredu cymunedol, lle mae mentrau wedi'u datblygu gan aelodau o'r gymuned i fynd i'r afael ag anghenion y gymuned. Ein rôl ni yw galluogi'r dulliau gweithredu hyn a'u datblygu, gan sicrhau bod popeth a gyflwynir yn diwallu anghenion penodol cymunedau lleol bob amser. 

Gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, byddwn yn:

  • ystyried y gymuned wrth ddatblygu, adolygu ac ariannu polisïau a rhaglenni perthnasol, gan gynnwys canllawiau Teuluoedd yn Gyntaf, ein Strategaeth Iechyd Meddwl newydd a'n mentrau Trechu Tlodi, gan hyrwyddo gwasanaethau aml-asiantaeth 'siop un stop' yn y gymuned er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r amrywiaeth o anghenion ac anfanteision cydgysylltiedig y mae pobl sy'n byw mewn tlodi yn eu hwynebu
  • mynd ati, ar y cyd â phartneriaid, i gynnig mwy o gyfleoedd chwarae, chwaraeon ac ieuenctid cymunedol i blant a phobl ifanc yn y gymuned, ynghyd â gweithgareddau cost isel i deuluoedd i gefnogi iechyd a llesiant
  • sicrhau, wrth ddatblygu ein Polisi Cymunedau, ein bod yn nodi ffyrdd newydd, cydgynhyrchiol o weithio, sy'n gynhwysol i bawb, gan ddefnyddio dull gweithredu cymunedol i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau cydgysylltiedig lleol i drechu tlodi heb stigma

Amcan 4: sicrhau bod plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y bobl a'r gwasanaethau sy'n rhyngweithio â nhw ac yn eu cefnogi, a herio'r stigma sy'n gysylltiedig â thlodi

Rydym yn disgwyl i'r bobl a'r gwasanaethau sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd weithredu mewn ffordd nad yw'n ychwanegu at faich y pwysau sy'n gysylltiedig â thlodi. Gwyddom y gall y pwysau hyn arwain at lesiant meddyliol ac iechyd meddwl gwael. Rhaid i'r gwaith hwn gynnwys gwneud yn siŵr nad yw plant a phobl ifanc yn teimlo eu bod yn cael e heithrio am fod eu teuluoedd yn ennill incwm isel.

Gall rhai teuluoedd mewn tlodi wynebu gwahaniaethau a stigma o ganlyniad i'w nodweddion gwarchodedig a'u profiad o dlodi. Mae hyn yn cael effaith negyddol uniongyrchol ar lesiant.

Yr hyn rydym wedi'i glywed

Dywedodd gormod o bobl wrthym nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y gwasanaethau sydd yno i'w cefnogi. Nid ydynt bob amser yn teimlo bod y bobl sy'n gweithio gyda nhw yn gwrando arnynt, a gwnaethant nodi pwysigrwydd cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd yn manteisio ar eu hawliadau mewn perthynas â mentrau i leihau costau a gwneud y gorau o incwm, profiad sydd yn aml yn gwneud iddynt deimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio, a'u bod yn 'broblem'.

Rhannodd plant a phobl ifanc negeseuon clir a chryf â ni ynglŷn â theimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u heithrio yng nghymuned yr ysgol. Roedd rhywfaint o hyn yn ymwneud â chost y diwrnod ysgol (gwisg ysgol, teithiau ysgol) a chost y flwyddyn ysgol, gan gynnwys gweithgareddau nad ydynt yn ymwneud â dysgu, fel diwrnodau dim gwisg ysgol, promiau, ac ati. Dywedodd rhieni/gofalwyr wrthym hefyd eu bod yn teimlo pwysau i geisio talu'r costau hyn fel bod eu plant yn cael eu cynnwys yn yr un ffordd â'u cyfoedion. Disgrifiodd pobl y ffyrdd y mae stigma ac eithrio yng nghymuned yr ysgol yn cael effaith negyddol ar frwdfrydedd a photensial i ddysgu ac, mewn rhai achosion, presenoldeb.

Roedd llawer o'r dystiolaeth gan blant a phobl ifanc yn ymwneud â diffyg dealltwriaeth o'u hamgylchiadau yn yr ysgol, a'r ffordd y mae oedolion yn siarad â nhw ac yn ymateb iddynt, gan gynnwys eu cosbi. Dywedodd rhieni/gofalwyr plant a phobl ifanc sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol wrthym nad ydynt yn teimlo bod ymarferwyr addysg ac iechyd yn gwrando arnynt.

Beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn

Rhoi sylw dyledus i CCUHP

Yn 2011, Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r Mesur yn ymgorffori'r ddyletswydd i ystyried CCUHP a Phrotocolau Dewisol yng nghyfraith Cymru, ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion CCUHP wrth wneud eu penderfyniadau.

Mae hyn yn golygu bod ceisio barn plant a phobl ifanc yn rhan annatod o'r broses rydym yn ei dilyn wrth wneud penderfyniadau polisi. Er enghraifft, daeth Uwchgynhadledd Archwilio Diwygio Radical 2022 â phobl ifanc sydd â phrofiad o fyw mewn gofal a Gweinidogion Llywodraeth Cymru ynghyd i ystyried amrywiaeth eang o ddiwygiadau i ofal ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. Arweiniodd hyn at gyhoeddi Datganiad yr Uwchgynhadledd Diwygio Radical, sy'n nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a Llysgenhadon Ifanc i weithio gyda'i gilydd i gyflawni ein Gweledigaeth a rennir ar gyfer yr hyn y dylai gwasanaethau wedi'u diwygio'n radical ei gynnig i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Mae ein Hasesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant yn darparu fframwaith i Lywodraeth Cymru ystyried a chofnodi mewn modd systemataidd yr effaith y mae cynigion polisi yn ei chael ar hawliau plant fel rhan o ddull Asesu Effaith Integredig ehangach.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Swyddfa'r Comisiynydd Plant fel hyrwyddwr annibynnol hawliau plant. Rôl y Comisiynydd yw bod yn hyrwyddwr annibynnol a diogelu a chefnogi hawliau plant a phobl ifanc, gan eirioli dros eu diddordebau a gwneud yn siŵr bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Cymru Ifanc, un o fentrau Plant yng Nghymru sy'n ceisio sicrhau bod pobl ifanc yn cael cyfleoedd i godi materion sy'n bwysig iddynt a bod eu lleisiau'n cael eu clywed gan y rhai sy'n gwneud penderfyniadau, swyddogion polisi, swyddogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion. Mae'r gwaith hwn yn seiliedig ar CCUHP a'r Safonau Cyfranogiad Cenedlaethol dros Blant a Phobl Ifanc.

Fel enghraifft o'r gwaith rydym yn ei wneud gyda Cymru Iach, rydym wrthi'n gweithio gyda Bwrdd Prosiect Cymru Ifanc Plant yng Nghymru i gyd-lunio fersiwn i bobl ifanc o Gynllun Gwella'r Gyllideb, a gaiff ei gyhoeddi ochr yn ochr â'n Cyllideb Ddrafft nesaf ym mis Rhagfyr 2023.

Drwy'r gwaith ymgysylltu i lywio'r strategaeth ddrafft hon ar gyfer ymgynghori, rydym wedi clywed tystiolaeth gan fwy na 1,300 o blant a phobl ifanc. Wrth symud ymlaen, byddwn yn cytuno ar ffyrdd o gynnwys plant a phobl ifanc fel y gallant roi gwybod inni a ydym yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni ein hamcanion a'n blaenoriaethau i fynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru.

Darparu gwasanaethau â charedigrwydd a thosturi

Dywedodd plant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrthym eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu stigmateiddio a'u beirniadu gan y gwasanaethau y maent yn ceisio cymorth ganddynt.

Yn ymarferol, mae angen i bob sefydliad a system weithio mewn ffordd sy'n ystyriol o drawma. Mae hynny'n golygu deall ymddygiad fel ffordd o gyfathrebu a chydnabod a deall effaith anghydraddoldebau diwylliannol, hanesyddol ac o ran rhywedd, yn ogystal ag anghyfiawnder cymdeithasol. Ein nod yw sicrhau bod pob gwasanaeth yn garedig, yn dosturiol ac yn hyrwyddo gwydnwch, heb farnu. Wrth wraidd y dull gweithredu hwn y mae pwysigrwydd meithrin cydberthnasau sy'n seiliedig ar ymddiriedaeth.

Mae Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma yn ein helpu i ddeall ein rolau, a'r gwahaniaeth y gallwn ei wneud drwy fod yn fwy caredig, yn fwy tosturiol ac yn fwy deallgar tuag at ein gilydd.

Rydym eisoes yn datblygu'r dull gweithredu hwn mewn nifer o ffyrdd. Rydym yn hyrwyddo gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar y plentyn a'r person drwy bolisïau fel y Glasbrint ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid yng Nghymru a'r Glasbrint ar gyfer Troseddwyr Benywaidd, ein cynllun i drechu digartrefedd a'n deddfwriaeth a'n polisïau gofal cymdeithasol.

Creu amgylcheddau addysg cynhwysol

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu amrywiaeth o ganllawiau ac adnoddau i helpu ysgolion i ddeall tlodi ac addysgu plant difreintiedig, gan gynnwys Prosiect Pris Tlodi Disgyblion a ddarperir gan Plant yng Nghymru.

Nod ein Fframwaith ar sefydlu dull ysgol gyfan ar gyfer llesiant emosiynol a meddyliol yw cefnogi llesiant emosiynol a meddyliol da drwy hyrwyddo amgylchedd diwylliannol cadarnhaol mewn ysgolion, lle y mae plant a phobl ifanc yn meithrin cydberthnasau cadarnhaol â'r staff a'r dysgwyr eraill, a lle y mae eu cydberthnasau â'r gymuned ehangach yn cael eu hatgyfnerthu.

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 a chanllawiau ategol yn nodi pwysigrwydd neilltuo amser i gynnal y broses ADY mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y person, gan roi safbwyntiau plant a'u teuluoedd wrth wraidd y broses gwneud penderfyniadau.

Fel rhan o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, mae dyletswydd wedi'i gosod ar gyrff llywodraethu a phenaethiaid i hyrwyddo gwybodaeth a dealltwriaeth o CCUHP a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Wrth i'r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno, bydd pob ysgol a lleoliad yng Nghymru yn mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar hawliau'r plentyn, gan roi pwyslais ar rôl ganolog hawliau wrth feithrin ein plant a'n pobl ifanc i fod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd.

Mae arolygiadau Estyn yn cynnwys arolygu pa mor effeithiol y mae ysgolion a gynhelir, Unedau Cyfeirio Disgyblion a gwasanaethau addysg llywodraeth leol yn lleihau effaith tlodi ar gyrhaeddiad addysgol a llesiant disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a/neu'r rheini o aelwydydd incwm isel. Mae sawl enghraifft o arferion da. 

Blaenoriaeth 4: cynhwysiant (gwasanaethau caredig, tosturiol nad ydynt yn stigmateiddio)

Rydym eisoes wedi ymrwymo i hyrwyddo gwasanaethau caredig a thosturiol sy'n seiliedig ar gydberthnasau i leddfu baich meddyliol tlodi.

Gan adeiladu ar y gwaith rydym eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael â thlodi plant, byddwn yn:

  • cyflymu gwaith gyda Hyb ACE Cymru a Straen Trawmatig Cymru ar gynllun gweithredu ar gyfer Fframwaith Cymru sy'n Ystyriol o Drawma, a fydd yn cynnwys nodi unrhyw adnoddau ychwanegol sydd eu hangen, gan gynnwys help a chymorth ar gyfer sefydliadau
  • mynd ati ar frys i roi ffocws newydd i'n gwaith gydag Estyn, ein partneriaid a rhanddeiliaid ehangach er mwyn mynd i'r afael â'r rhwystrau i roi dulliau prawfesur o safbwynt tlodi ar waith a chreu amgylcheddau addysg cynhwysol sy'n seiliedig ar Hawliau'r Plentyn a gwerthoedd nad ydynt yn gwahaniaethu yn gyson
  • mynd ati mewn modd sy'n canolbwyntio ar hawliau plant o gyflawni ein Rhaglen Lywodraethu, yn unol â CCUHP, gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactorau ysgogi polisi trawsbynciol
  • gwneud yn siŵr nad yw nodweddion gwarchodedig sy'n gysylltiedig â gwahaniaethu yn ei gwneud hi'n fwy anodd i blant, pobl ifanc na'u teuluoedd wneud yn dda, gan gynnal ffocws clir ar ein polisïau er mwyn cyflawni hyn:

Amcan 5: sicrhau bod gwaith trawslywodraethol effeithiol ar lefel genedlaethol yn arwain at gydweithio cryf ar lefel ranbarthol a lleol

Er mwyn inni gyflawni ein hamcanion mewn modd effeithiol, mae angen inni greu'r amodau cywir i alluogi newid. O ystyried y cyfyngiadau a wynebwn o ran ein hysgogiadau yma yng Nghymru, bydd hyn yn rhan hollbwysig o'n dull Gwnaed yng Nghymru, Gwnaed i Gymru.

Er mwyn ysgogi'r newid sydd ei angen a chael effaith diriaethol ar dlodi plant, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru yn cydweithio i wella bywydau plant a'u teuluoedd sy'n byw mewn aelwydydd tlawd a lleihau tlodi yn y tymor hwy. Mae'r trydydd sector (sefydliadau gwirfoddol ac elusennau) yn darparu cymorth hollbwysig i blant, pobl ifanc, teuluoedd a chymunedau yng Nghymru ac yn chwarae rôl allweddol wrth fynd i'r afael â thlodi plant. Gall y sector preifat (busnesau) hefyd fod yn allweddol i gefnogi llwybrau allan o dlodi drwy weithgarwch uniongyrchol busnesau a thrwy weithio mewn partneriaeth ag elusennau bach a lleol, pobl a chymunedau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'n hymdrechion i weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU i drechu tlodi ledled Cymru. Byddwn yn parhau i alw arni i roi camau ymarferol pellach ar waith er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r rhai y mae rheolau'r system budd-daliadau gyfredol yn effeithio arnynt fwyaf, er enghraifft o ran y cyfyngiad dau blentyn, y cap ar fudd-daliadau a chyfraddau lwfansau tai lleol.

Mae ymrwymiadau ein Rhaglen Lywodraethu gyfredol yn cael eu llunio a'u cyflwyno gyda'r angen i drechu tlodi ac anghydraddoldeb yn ffactor ysgogi canolog. Mae neges y bobl a'r sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a theuluoedd mewn tlodi ac yn siarad ar eu rhan yn glir, mae angen inni sicrhau mwy o integreiddio ar draws polisïau, rhaglenni a buddsoddiadau Llywodraeth Cymru. Dywedodd pobl wrthym y bydd atgyfnerthu'r broses o integreiddio gwaith trawslywodraethol ymhellach yn cefnogi cydweithio cryfach ar lefelau rhanbarthol a lleol, gan arwain at gynllunio a chyflawni mwy effeithlon ac effeithiol. 

Gwyddom fod angen penderfyniadau cyllidebol symlach a mwy penodol ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi gwaith trawslywodraethol i roi Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar waith. Rydym yn cyhoeddi Cynllun Gwella'r Gyllideb bob blwyddyn. Mae'r Cynllun yn nodi ein gweledigaeth, gan gynnwys uchelgeisiau byrdymor a thymor canolig dros y pum mlynedd nesaf, i wella'r broses gyllidebu yn Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio Deddf 2015 a'r pum ffordd o weithio i ysgogi gwelliant parhaus. Rydym wedi sefydlu Grŵp Cynghori ar Wella ac Asesu Effaith y Gyllideb roi cyngor, adborth a thystiolaeth o safbwynt cydraddoldeb a chynhwysiant.

Mae pobl sy'n gweithio mewn cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector wedi dweud wrthym fod angen cydgysylltu a chydweithio cryfach rhwng sefydliadau sy'n gweithio ar lefelau lleol a rhanbarthol i drechu tlodi, gan gynnwys tlodi plant.

Ar lefel ranbarthol, mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus, Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Chyd-bwyllgorau Corfforedig yn dwyn partneriaid lleol a rhanbarthol ynghyd i hybu llesiant drwy gydweithio mewn ffordd fwy effeithiol.

Gall dull Marmot helpu partneriaid lleol a rhanbarthol i drechu annhegwch drwy fynd i'r afael â phenderfynyddion cymdeithasol iechyd, yr amodau cymdeithasol ac economaidd sy'n llywio eich iechyd. Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent yn gweithio tuag at ddod yn Rhanbarth Marmot ac rydym wedi ceisio cymorth yr Athro Syr Michael Marmot a'i dîm yn y Sefydliad Tegwch Iechyd.

Fel rhan o Raglen Lywodraethu gyfredol Llywodraeth Cymru, rydym wedi ymrwymo i leihau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol, er mwyn eu galluogi i fwrw ati gyda'u gwaith hollbwysig a pheidio â chael eu llesteirio gan unrhyw fiwrocratiaeth ddiangen.

Mae Canolfan Rhagoriaeth Grantiau Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno proses gyllido a meincnodi hirach, er mwyn galluogi cyllid tymor hwy/amlflwyddyn lle y bo'n briodol.

Blaenoriaeth 5: galluogi cydweithio (ar lefel ranbarthol a lleol)

Er bod sefydliadau ledled Cymru yn gweithio i fynd i'r afael â'r un materion, mae angen dull cryfach o alluogi cydweithio a dysgu a rennir er mwyn cefnogi datrysiadau effeithiol, wedi'u haddasu i anghenion lleol.

Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'n gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac yn helpu'r rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn rhoi cyfle inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod trechu anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes y ei wneud.

Mae adroddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Gwerthuso'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol yng Nghymru a'r Alban (2021), yn ystyried sut mae Cymru yn rhoi'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol (rhan o Ddeddf Cydraddoldeb 2010) ar waith, neu'n paratoi i wneud hynny. Mae'r adroddiad yn nodi sut y gellir rhoi'r ddyletswydd ar waith yn effeithiol, y rhwystrau i wneud hynny, sut mae'r ddyletswydd yn effeithio ar ymddygiad cyrff cyhoeddus a'r camau y mae angen eu cymryd i sicrhau llwyddiant yn y dyfodol.

Byddwn yn gwneud y canlynol:

  • cryfhau dull Llywodraeth Cymru o integreiddio nodau polisi a chyllid er mwyn galluogi cydweithio tymor hwy ar drechu tlodi yn lleol ac yn rhanbarthol
  • gweithio gyda chyrff cyhoeddus i ddatblygu enghreifftiau arloesol o arferion da a chanlyniadau cadarnhaol a'u rhannu, er mwyn nodi lle y mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn berthnasol a meysydd gwaith newydd neu sy'n bodoli eisoes y gellid/dylid ei chymhwyso atynt, a hyrwyddo a chefnogi perthnasedd y ddyletswydd i ymdrechion ehangach i drechu anfantais economaidd-cymdeithasol a chanlyniadau annheg
  • nodi'r dull gorau, ar y cyd â phartneriaid, o ddarparu galluedd ychwanegol er mwyn helpu i gydlynu ymdrechion gwrthdlodi ar draws trefniadau partneriaeth rhanbarthol a nodi a chynghori ar yr opsiynau i gefnogi gwaith cydweithredol i fynd i'r afael â thlodi plant mewn ffordd well
  • sefydlu a chefnogi dull Cymunedau Ymarfer o ddarparu fforwm lle y gall cydweithwyr o wasanaethau cyhoeddus ac o bob cwr o Gymru gymharu gwersi a ddysgwyd a rhannu arferion da er mwyn cefnogi dull cydgysylltiedig o gyllido, datblygu a chyflwyno gwaith i greu Cymru Fwy Cyfartal, gan gynnwys mynd i'r afael â thlodi plant

Sut y byddwn yn monitro ein cynnydd ac yn adrodd arno

Pan gyflwynodd Llywodraeth Cymru Fesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, gosododd ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny.

Lluniwyd y strategaeth ddrafft hon ar y cyd â'r plant, y bobl ifanc, y teuluoedd a'r sefydliadau sydd wedi rhoi o'u hamser er mwyn ein helpu i ddeall beth fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf iddynt. Rydym yn ymrwymedig i gynnal y ffordd hon o weithio wrth inni gyflwyno'r strategaeth ddrafft.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llywio penderfyniadau gwell yn y sector cyhoeddus yng Nghymru ac yn cydbwyso anghenion y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn mesur ein proses ar y cyd fel cenedl a bydd y cynnydd a wneir tuag at gyflawni'r cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ein helpu i greu Cymru fwy cynaliadwy ar gyfer y genhedlaeth bresennol a chenedlaethau'r dyfodol.

Carreg Filltir Genedlaethol: Mae trechu annhegwch ehangach yn un o uchelgeisiau sylfaenol y llywodraeth hon ac rydym yn ymrwymedig i leihau'r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig (sy'n golygu eu bod yn fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a'r rheini nad oes ganddynt y nodweddion hynny erbyn 2035, ac yn ymrwymedig i bennu targed ymestynnol erbyn 2050.

Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd tuag at gyflawni'r garreg filltir hon yn adroddiad blynyddol Llesiant Cymru, a cherrig milltir eraill sy'n gysylltiedig â thlodi, a byddwn yn parhau â'n sgwrs â rhanddeiliaid fel rhan o'n rhaglen waith, Llunio Dyfodol Cymru.

Yn ogystal â'r cerrig milltir cenedlaethol ehangach hyn, byddwn yn ceisio cyngor ymchwil annibynnol ar ddangosyddion tlodi cenedlaethol addas, argaeledd data a fframwaith i fonitro a dangos atebolrwydd tryloyw wrth adrodd ar ein cynnydd tuag at drechu tlodi a gwaith i gynnwys pobl â phrofiad bywyd er mwyn dweud wrthym a ydym yn cyflawni. Byddwn yn ymgynghori ar y cynigion hyn ar wahân.

Atodiad: deddfwriaeth a pholisïau perthnasol

Mae Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion ar gyfer tlodi plant ac i adrodd bob tair blynedd ar y cynnydd a wnaed tuag at gyflawni'r amcanion hynny. Rhaid i Weinidogion Cymru baratoi a chyhoeddi strategaeth tlodi plant a'i hadolygu'n barhaus, a gall ail-lunio neu ddiwygio ei strategaeth o bryd i'w gilydd.

Yn 2011, Cymru oedd y weinyddiaeth gyntaf yn y DU i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) mewn cyfraith ddomestig, drwy Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r Mesur yn ymgorffori'r ddyletswydd i ystyried CCUHP a Phrotocolau Dewisol yng nghyfraith Cymru, ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i ofynion CCUHP wrth wneud eu penderfyniadau.

Bwriad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am yr hirdymor, gweithio'n well gyda phobl a chymunedau a gyda'i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Mae hyn yn ein helpu i greu Cymru y mae pob un ohonom am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn pennu bod yn rhaid i'r rheini sy'n ddarostyngedig i'r ddyletswydd economaidd-gymdeithasol, wrth arfer eu swyddogaeth roi sylw dyledus i: ddileu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac ymddygiad arall a waherddir gan y Ddeddf; hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu; a meithrin cydberthnasau da rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn ei rhannu.

Daeth y Ddyletswydd economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021. Mae'n gwella'r broses o wneud penderfyniadau ac yn helpu'r rheini sy'n wynebu anfantais economaidd-gymdeithasol.

Mae'r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn rhoi cyfle inni wneud pethau'n wahanol yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod trechu anghydraddoldeb wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, a bydd yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes y ei wneud.

Cwestiynau’r ymgynghoriad

Cwestiwn 1

A ydych yn cytuno bod y cyflwyniad i'r strategaeth ddrafft yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 2

Wrth ystyried y gofyniad o dan Fesur Hawliau Plant (Cymru) i Lywodraeth Cymru bennu amcanion a fydd yn helpu i ddileu tlodi plant, a ydych yn cytuno y dylai Amcan 1 fod yn un o amcanion y strategaeth ddrafft?

A yw'r wybodaeth am yr hyn rydym wedi ei glywed a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag Amcan 1 yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 3

A ydych yn cytuno y dylai Blaenoriaeth 1 fod yn un o flaenoriaethau'r strategaeth ddrafft?

Cwestiwn 4

Wrth ystyried y gofyniad o dan Fesur Hawliau Plant (Cymru) i Lywodraeth Cymru bennu amcanion a fydd yn helpu i ddileu tlodi plant, a ydych yn cytuno y dylai Amcan 2 fod yn un o amcanion y strategaeth ddrafft?

A yw'r wybodaeth am yr hyn rydym wedi ei glywed a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag Amcan 2 yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 5

A ydych yn cytuno y dylai Blaenoriaeth 2 fod yn un o flaenoriaethau'r strategaeth ddrafft?

Cwestiwn 6

Wrth ystyried y gofyniad o dan Fesur Hawliau Plant (Cymru) i Lywodraeth Cymru bennu amcanion a fydd yn helpu i ddileu tlodi plant, a ydych yn cytuno y dylai Amcan 3 fod yn un o amcanion y strategaeth ddrafft?

A yw'r wybodaeth am yr hyn rydym wedi ei glywed a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag Amcan 3 yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 7

A ydych yn cytuno y dylai Blaenoriaeth 3 fod yn un o flaenoriaethau'r strategaeth ddrafft?

Cwestiwn 8

Wrth ystyried y gofyniad o dan Fesur Hawliau Plant (Cymru) i Lywodraeth Cymru bennu amcanion a fydd yn helpu i ddileu tlodi plant, a ydych yn cytuno y dylai Amcan 4 fod yn un o amcanion y strategaeth ddrafft?

A yw'r wybodaeth am yr hyn rydym wedi ei glywed a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag Amcan 4 yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 9

A ydych yn cytuno y dylai Blaenoriaeth 4 fod yn un o flaenoriaethau'r strategaeth ddrafft?

Cwestiwn 10

Wrth ystyried y gofyniad o dan Fesur Hawliau Plant (Cymru) i Lywodraeth Cymru bennu amcanion a fydd yn helpu i ddileu tlodi plant, a ydych yn cytuno y dylai Amcan 5 fod yn un o amcanion y strategaeth ddrafft?

A yw'r wybodaeth am yr hyn rydym wedi ei glywed a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn perthynas ag Amcan 5 yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 11

A ydych yn cytuno y dylai Blaenoriaeth 5 fod yn un o flaenoriaethau'r strategaeth ddrafft?

Cwestiwn 12

A ydych yn cytuno bod yr adran sy'n nodi'r ffordd y byddwn yn monitro ein cynnydd ac yn adrodd arno yn glir ac yn hygyrch?

Cwestiwn 13

A yw'r Strategaeth Tlodi Plant yn ymateb yn ddigonol i'r croestoriad rhwng tlodi plant â nodweddion gwarchodedig (fel ethnigrwydd, rhywedd, anabledd a rhywioldeb) a phrofiad y rhai sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol.

Cwestiwn 14

Hoffem wybod eich barn am yr effeithiau y byddai cynnig y Strategaeth Tlodi Plant yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg.

Cwestiwn 15

Hoffem gael eich barn ar yr Asesiad Effaith Integredig.

Cwestiwn 16

Hoffem gael eich barn am yr Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant.

Cwestiwn 17

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma:

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 11 Medi 2023, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:

Yr Is-adran Trechu Tlodi a Chefnogi Teuluoedd
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan: ico.org.uk

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG47349

Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.