Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru: nodyn gan y Cadeirydd (Ebrill 2023)
Y diweddaraf am ddiwydiant bwyd a diod Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Wrth i’r gwanwyn ddechrau o’r diwedd, rwy'n ymwybodol iawn ein bod yn parhau i fod mewn cyfnod heriol yn niwydiant bwyd a diod y DU . . . ond dyw popeth ddim mewn argyfwng!
Gadewch i ni ystyried sefyllfa masnach y DU. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod mewnforion wedi gostwng £4.9 biliwn (8.7%) ym mis Ionawr 2023 o'i gymharu â mis Rhagfyr 2022. Mae hyn yn cael effaith fawr ar gwmnïau logisteg y DU, yn enwedig os ydynt yn berchen ar gyfleusterau warws gwag. Yn wir, siaradwch ag unrhyw un sy’n gweithio yn Felixstowe, porthladd cynwysyddion busnes y DU, fe glywch ei fod yn llawer tawelach nawr nag yr oedd hyd yn oed ddwy flynedd yn ôl.
Felly, ar y cyfan, mae mewnforion y DU ar gyfer yr holl nwyddau i lawr ym mis Ionawr ond dim ond mis yw hwn felly bydd ffigurau mis Chwefror yn ddiddorol. Beth am allforion y DU? Wel, y newyddion da yw ei bod yn ymddangos i allforion ddal eu tir ar ddechrau 2023 ond mae’n ddyddiau cynnar a dim ond amser a ddengys.
Gan ganolbwyntio nawr ar y fasnach bwyd a diod, mae pethau i weld yn gadarnhaol, gyda gwerth allforion bwyd a diod y DU yn cyrraedd y lefelau uchaf erioed yn 2022, gan godi 23% i bron £25 biliwn. Mae Iwerddon, Ffrainc ac UDA yn parhau i fod yn farchnadoedd pwysig, gyda siocled yn parhau i fod y prif gynnyrch bwyd rydyn ni’n ei allforio, gwerth £824 miliwn, ond mae allforion caws y DU yn cynyddu'n dda! Mae allforion diodydd yn gwneud yn dda hefyd, gydag allforion wisgi ar hyn o bryd yn uwch o lawer nag allforion bwyd – oddeutu £6.4 biliwn, i fyny tua 20% yn 2022 o’i gymharu â 2021.
Ar yr un pryd roedd mewnforion bwyd a diod o’r DU i fyny 30% o gymharu â 2022 â’r flwyddyn flaenorol. Nid yw ffigurau Ionawr 23 ar gael felly nid ydym yn gwybod ar hyn o bryd a yw bwyd a diod y DU wedi dilyn yr un duedd ar i lawr â holl nwyddau a fewnforiwyd o’r DU ar gyfer mis Ionawr.
Dyna gefndir y DU ond sut ydyn ni wedi gwneud yng Nghymru?
Ar gyfer Allforio o Gymru, mae'r ffigurau diweddaraf (ar Busnes Cymru) diweddaraf yn datgelu:
- Bod allforion Bwyd a Diod Cymru werth £641 miliwn yn 2021, y gwerth blynyddol uchaf a gofnodwyd gan CThEM.
- Cymru oedd â'r cynnydd mwyaf o ran canran yng ngwerth allforion bwyd a diod allan o bedair gwlad y DU o 2020 i 2021.
- Cynyddodd allforion bwyd a diod Cymru £89 miliwn o 2020 i 2021, cynnydd o 16.1%.
- Y categorïau allforio gwerth uchaf ar gyfer bwyd a diod o Gymru yn 2021 oedd Cig a Chynnyrch Cig (£187m) a Grawnfwydydd a Pharatoadau Grawnfwyd (£139m).
- Aeth 73% o werth allforion nwyddau bwyd a diod o Gymru i'r UE.
Un o'r cwestiynau allweddol i mi yw faint o'r lefelau uwch hyn o allforion a mewnforion oedd oherwydd twf y farchnad a faint oedd i lawr i brisiau uwch a sterling gwan. Efallai y byddwn yn gwybod mwy yn ystod y misoedd nesaf.
Mae cryn ddiddordeb gen i yn y potensial i fusnesau'r DU fasnachu gyda Gwledydd o dan y Cytundebau Masnach Rydd newydd, sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd. Ar un ochr, rhaid cyrchu mewnbynnau heb danseilio ein diwydiannau cartref ond mae gan y Cytundebau Masnach Rydd hyn y potensial i'n helpu i ehangu ein hallforion os ydym yn deall lle mae gennym fantais gystadleuol. Yn wir, gallai'r newyddion ddydd Gwener diwethaf am y DU yn cwblhau trafodaethau i ymuno â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ddarparu cyfleoedd i'r sector bwyd a diod y mae angen i ni eu deall yn well. Mae CPTPP yn ardal fasnach rydd enfawr sy’n cynnwys 11 gwlad arall ar draws Asia a’r Môr Tawel a Chyfandiroedd America. Mae'r aelodau yn cynnwys Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore, a Fietnam.
Rwy'n chwilfrydig am y potensial i fusnesau'r DU fasnachu gyda gwledydd o dan y Cytundebau Masnach Rydd newydd sy'n cael eu trafod ar hyn o bryd. Ar un ochr, rhaid gwneud mewnbynnau cyrchu heb danseilio ein diwydiannau cartref ond mae gan y Cytundebau Masnach Rydd hyn y potensial i'n helpu i ehangu ein hallforion os ydym yn deall lle mae gennym fantais gystadleuol. Yn wir, gallai'r newyddion ddydd Gwener diwethaf am y DU yn cwblhau trafodaethau i ymuno â Phartneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP) ddarparu cyfleoedd i'r sector bwyd a diod y mae angen i ni eu deall yn well. Mae CPTPP yn ardal fasnach rydd enfawr gan gynnwys Awstralia, Brunei, Canada, Chile, Japan, Malaysia, Mecsico, Seland Newydd, Periw, Singapore, a Fietnam.
Y gobaith yw y bydd ymuno â CPTPP yn hybu twf ac yn cryfhau ein cysylltiadau â rhai o economïau mwyaf deinamig y byd, gyda GDP cyfunol o £11 triliwn ar ôl i'r DU ymuno. Bydd yn borth i ranbarth India a’r Môr Tawel ehangach, sydd yn cyfrif am fwyafrif y twf economaidd byd-eang a thua hanner y 2.7 biliwn o ddefnyddwyr dosbarth canol yn y byd yn y degawdau i ddod.
Rwy'n credu bod gan ein haelodaeth â’r CPTPP y potensial i ddiogelu'r economi yn y dyfodol. Wedi'r cyfan, mae CPTPP yn cael ei gydnabod yn gyffredinol fel un o'r cytundebau masnach rydd mwyaf blaengar, gyda darpariaethau ar gyfer masnach ddigidol, e-fasnach, masnach mewn gwasanaethau ac amddiffyn eiddo deallusol sy’n cyd-fynd ag economi'r DU i’r dim. Mae hefyd yn gosod safonau uchel iawn mewn cytundebau ar gyfer cynaliadwyedd, gwrth-lygredd a gwella hawliau gweithwyr.
Dyna ddigon am fasnach. Gadewch i ni nawr ystyried mater allweddol arall i'n diwydiant – chwyddiant. Wedi'i yrru gan gostau mewnforio cynyddol, chwyddiant ynni, marchnad lafur dynn, parhad yr amharu ar y gadwyn gyflenwi a'r rhyfel parhaus yn Wcráin, mae chwyddiant bwyd a diod wedi codi'n sylweddol dros y misoedd diwethaf ac amcangyfrifir y bydd yn cyrraedd uchafbwynt o tua 20% yn rhan gyntaf 2023 cyn iddo arafu.
O ganlyniad, mae cwmnïau'n gobeithio dod o hyd i ffyrdd mentrus o dorri costau ar ôl cael eu hwynebu gan fanwerthwyr sy'n gwthio yn erbyn y cynnydd mewn prisiau - mewn gwirionedd hyd yn oed heddiw roeddwn yn prynu bisgedi siocled adnabyddus (a enwyd ar ôl anifail o Begwn y De!) pan sylwais fod y pecyn yr wythnos ddiwethaf yn cynnwys wyth o fisgedi a’r pecyn yr wythnos hon yn cynnwys saith, ond am yr un pris â'r pecyn bisgedi gwreiddiol ac ynddo wyth! Ai marchnata craff yw hwn neu a fydd y defnyddiwr yn gweld y twyll? Y naill ffordd neu'r llall, byddwch i gyd yn ymwybodol fod pwysau parhaus i leihau costau a pheidio â throsglwyddo cynnydd mewn prisiau i'r defnyddiwr. Naill ffordd neu'r llall, nid yw’n gwneud gwahaniaeth i fy mhlant!
Nodyn i’ch atgoffa, os gwelwch ymarferion annheg yn y gadwyn gyflenwi, dylech hysbysu Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser (Saesneg yn unig ar Gov.UK) sy'n gyfrifol am reoleiddio'r berthynas rhwng manwerthwyr bwyd mwyaf y DU a'u cyflenwyr uniongyrchol drwy annog, monitro a gorfodi cydymffurfiaeth â’r Cod Ymarfer Cyflenwi Nwyddau Groser.
Ac yn olaf, gwelais yn ddiweddar fod elusennau sy'n ailddosbarthu bwyd dros ben i bobl fregus yn gweld lefelau stoc isel iawn ar hyn o bryd, ac yn cael trafferth ateb y galw am fwyd gan rai o’r bobl fwyaf bregus yng Nghymru. Os oes gan eich busnes unrhyw fwyd dros ben, yna byddai FareShare Cymru wir yn gwerthfawrogi eich cymorth ac eisiau clywed gennych chi fel mater o frys.
Diolch am yr hyn rydych chi i gyd yn parhau i'w wneud ar gyfer ein diwydiant anhygoel! Fel Bwrdd Bwyd a Diod, byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ac eirioli drosoch yn 2023.
Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru.