Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi cadarnhau bod £206,000 o gyllid ychwanegol ar gael i helpu cyn-staff ffatri 2 Sisters ar Ynys Môn i gael swyddi newydd.
Bydd yr arian yn rhoi hwb i raglen Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru (CfW+) ar Ynys Môn ac yng Ngwynedd.
Mae'r gwasanaeth yn darparu cymorth cyflogadwyedd i'r rhai sy'n wynebu rhwystrau rhag cael gwaith, gan eu helpu i oresgyn y rhwystrau hynny a chael cyflogaeth gynaliadwy. Cyflwynir y rhaglen yn bennaf drwy awdurdodau lleol ond gyda nifer fach o gyrff y trydydd sector hefyd yn cymryd rhan, gan gynnwys elusen cyflogaeth leol Môn CF ar Ynys Môn.
Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn:
- galluogi Môn CF a Chyngor Gwynedd i gyflogi mentoriaid cyflogaeth ychwanegol drwy'r flwyddyn nesaf
- caniatáu i CF Môn gomisiynu gwasanaethau Cyngor ar Bopeth i'r rhai a ddiswyddwyd.
Mae cyn-staff hefyd yn cael cymorth trwy raglen ReAct+ Llywodraeth Cymru - sy'n rhoi cymorth wedi'i deilwra iddynt i ddod o hyd i waith cyn gynted â phosib. Mae ReAct+ yn cynnig atebion wedi'u teilwra a allai gynnwys cymorth ariannol, hyfforddiant sgiliau, a Chymorth Datblygiad Personol er mwyn helpu i ddileu rhwystrau at waith, megis cefnogaeth gyda iechyd meddwl, meithrin hyder, sgiliau iaith a mwy.
Mae timau CFW+ wedi bod ar y safle yn cefnogi staff y ffatri yn Llangefni ers rhai wythnosau, a byddant nawr yn dwysáu eu hymdrechion i drafod gyda a chefnogi'r rhai yr effeithir arnynt yn dilyn cau'r ffatri yn ffurfiol yr wythnos ddiwethaf.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae cau ffatri 2 Sisters yn Llangefni wedi cael effaith ddinistriol ar y gymuned leol a'r rhanbarth ehangach.
"Sefydlodd Llywodraeth Cymru dasglu ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn a Llywodraeth y DU i sicrhau fod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud i helpu i achub y swyddi yn y ffatri. Mae'r tasglu wedi gweithio mewn cydweithrediad agos gyda chynrychiolwyr undebau llafur ar y safle.
"Ar ôl i'r ffatri gau, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i helpu cyn-staff i ddod o hyd i waith. Bydd y buddsoddiad ychwanegol rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn rhoi hwb i wasanaeth cymorth cyflogaeth Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru yn lleol, sy'n darparu'r gefnogaeth ddwys sydd ei hangen ar bobl i ddod o hyd i swyddi newydd, neu gael cyfleoedd hyfforddi newydd trwy ein rhaglen ReAct+."
Hefyd mae gwasanaethau craidd eraill sy'n cael eu darparu gan wasanaethau Gyrfa Cymru a Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, ac Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU hefyd yn darparu cefnogaeth.
Gall pobl sydd angen cymorth gysylltu â Cymru'n Gweithio neu ffonio am ddim ar 0800 028 4844.