Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Eleni, ar 22 Mehefin, byddwn yn nodi 75 o flynyddoedd ers i'r MV Empire Windrush ddocio yn Tilbury, y foment sy'n symboleiddio "Cenhedlaeth Windrush" ac sy’n crisialu sut mae mudo i'r Deyrnas Unedig wedi llunio ein cymdeithas heddiw.
Mae Diwrnod Dathlu Windrush yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau dynion a menywod o bob cwr o'r Gymanwlad a helpodd i adeiladu Cymru fodern a gwneud y wlad hon yn gartref iddynt. Rydym eto am groesawu’r diwrnod hwn fel yr ydym wedi’i wneud mewn blynyddoedd blaenorol. Eleni byddwn yn dathlu ac yn cydnabod yr arwyddocâd eang sydd i’r diwrnod hwn heddiw ac yn hanesyddol.
Rydym yn ymwybodol y bydd dathliadau Windrush yn cael eu cynnal ledled y DU. Mae ein hymgysylltiad â Hynafgwyr Windrush a sefydliadau yng Nghymru wedi sicrhau ein bod mewn sefyllfa dda i gefnogi cymunedau i ail-ddweud eu straeon ac i ddathlu eu cyfraniadau i'n cenedl. Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu digwyddiadau Windrush lleol a chenedlaethol eto. Hefyd, byddwn yn dal i fod wedi ymrwymo i geisio cyfiawnder i Hynafgwyr Windrush yn unol ag adroddiad Wendy Williams a gyhoeddwyd ar 19 Gorffennaf 2018.
Mae mudwyr wedi bod yn helpu i lunio a chyfoethogi ein cenedl ers ymhell cyn dyfodiaid Windrush ac maent yn parhau i wneud hynny hyd heddiw. Fel Llywodraeth Cymru, rydym wedi cefnogi a chynnig noddfa i ffoaduriaid a cheiswyr lloches ers amser maith.
Rwy'n falch iawn ein bod ni eleni wedi gweld sut mae ein gweledigaeth i groesawu pobl o bob cwr o'r byd wedi cael ei mabwysiadu a'i gwireddu mewn ymateb i’r digwyddiadau yn Affganistan ac Wcráin. Mae'r gefnogaeth wedi dod ar sawl gwedd, gan filoedd o unigolion a theuluoedd yn ogystal â busnesau, awdurdodau lleol, mudiadau gwirfoddol, grwpiau ffydd a llawer mwy. Dyma beth rydym yn ei olygu pan fyddwn yn sôn am Gymru sy’n Genedl Noddfa.
Ein gweledigaeth yw croesawu a helpu unrhyw un sy'n cael ei wasgaru neu ei adsefydlu i Gymru i gael mynediad at wasanaethau ac integreiddio â chymunedau o'r diwrnod cyntaf y bydd yn cyrraedd. Mae'n ymwneud â chydnabod yr unigolyn cyn gweld ei statws mewnfudo, gan gydnabod bod gan unigolion sgiliau a phrofiadau, nid dim ond anghenion i’w diwallu.
Fel rhan o'r stori gyfoethog a pharhaus hon am Gymru fel Cenedl Noddfa, mae gan genhedlaeth Windrush le arbennig ac unigryw ym mywyd ein cenedl. Rwy'n annog pob un ohonom i nodi'r diwrnod hanesyddol hwn, gan gymryd rhan yn y dathliadau, boed ar Ddiwrnod Windrush ei hun, neu drwy gydol y flwyddyn.