Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Rydym i gyd yn rhannu awydd i gyfrannu tuag at Gymru gryfach, tecach ac iachach ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae fel ceidwaid ein cenedl. Fel llywodraeth, rydym yn gweithio i greu Cymru sy’n fwy cyfiawn yn economaiddd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol – Cymru y byddem am i'n plant a'n hwyrion a'n hwyresau ei hetifeddu.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a’i saith nod llesiant yn rhoi fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru tuag at sicrhau Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Mae'n ysgogi gwell penderfyniadau ar draws sector cyhoeddus Cymru ac yn cydbwyso anghenion cenedlaethau'r presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae ein rhaglen Llunio Dyfodol Cymru yn cyflawni rhannau allweddol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol mewn un rhaglen waith gryfach gyda'n partneriaid. Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn rhan o hyn, gan yrru camau cydweithredol yn eu blaenau mewn nifer o feysydd allweddol.
Ym mis Rhagfyr 2021, cafodd naw carreg filltir genedlaethol gyntaf Cymru eu gosod yn y Senedd ac fe wnaethom ymrwymiad i gwblhau’r gweddill erbyn diwedd 2022. Roedd hyn oherwydd bod pandemig COVID-19 wedi amharu ar beth o’r data ategol.
Heddiw, rwy'n falch o osod yr ail gyfres o gerrig milltir cenedlaethol gerbron y Senedd. Bydd y set lawn o gerrig milltir cenedlaethol i Gymru yn llywio’r camau a gymerir yn y dyfodol i gyflawni’r nodau llesiant.
Datblygwyd y gwerthoedd cerrig milltir cenedlaethol hyn yn dilyn rhaglen o ymgysylltu â rhanddeiliaid ac nid ydynt wedi newid yn dilyn y broses ymgynghori ffurfiol ar ôl cael eu cefnogi’n dda gan ymatebwyr.
Er ein bod yn cydnabod yr heriau uniongyrchol a sylweddol rydym i gyd yn eu hwynebu, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw gosod a defnyddio cerrig milltir cenedlaethol fel rhan o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i osod ein huchelgeisiau cyffredin, hirdymor ar gyfer Cymru.
Rydym wedi ymrwymo i iechyd a llesiant pawb yng Nghymru. Y llynedd, gosodwyd carreg filltir genedlaethol ar gael gwared ar yr hyn sy’n rhwystro plant rhag cael y dechrau iachaf posibl i'w bywydau ac rydym bellach yn gosod targed ychwanegol i gynyddu canran yr oedolion sydd â dau neu fwy o ymddygiadau iach o ran eu ffordd o fyw i fwy na 97% erbyn 2050.
Mae cydraddoldeb mewn iechyd yn hanfodol bwysig, a chafodd hyn ei ategu yn sylwadau ein rhanddeiliaid a’i gadarnhau yn yr ymatebion i’r ymgymghoriad. Dyna pam yr ydym yn canolbwyntio ar gynyddu disgwyliad oes iach oedolion a lleihau’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig o leiaf 15% erbyn 2050.
Mae iechyd meddwl a llesiant yr un mor bwysig ag iechyd corfforol. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth inni wynebu'r ansicrwydd presennol yn genedlaethol ac yn fyd-eang. Dyna pam yr ydym yn ymrwymo i wella lles meddyliol cymedrig oedolion a phlant a dileu’r bwlch yn lles meddyliol cymedrig oedolion a phlant rhwng yr ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru erbyn 2050.
Mae mynd i'r afael ag anghydraddoldebau ehangach yn un o uchelgeisiau sylfaenol y llywodraeth hon ac rydym wedi ymrwymo i leihau'r bwlch tlodi rhwng pobl yng Nghymru sydd â nodweddion allweddol a gwarchodedig penodol (sy'n golygu mai nhw sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi) a'r rhai heb y nodweddion hynny erbyn 2035, ac wedi ymrwymo i osod targed ymestynnol ar gyfer 2050.
Fel rhan o Genhadaeth Economaidd Cymru yn dilyn y pandemig, fe wnaethom amlinellu gweledigaeth o'r hyn sy'n gwneud Cymru yn lle deniadol i fyw, astudio, gweithio a buddsoddi ynddo. Elfen bwysig o hyn yw gwella Inwm Gwario Gros Aelwydydd, y pen, yng Nghymru erbyn 2035 ac ymrwymo i osod targed twf ymestynnol ar gyfer 2050.
Rydym hefyd am gyflawni ein targedau sero net. Byddwn yn gweithio drwy'r Rhaglen Cartrefi Cynnes a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, i alluogi pob cartref yng Nghymru i gael perfformiad ynni digonol a chost-effeithiol erbyn 2050.
Mae diogelu ein hadnoddau naturiol gwerthfawr yn allweddol er mwyn creu Cymru gydnerth ac ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Fel rhan o hyn rydym yn ymrwymo i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth gyda gwelliant yn statws rhywogaethau ac ecosystemau erbyn 2030 a'u hadferiad yn amlwg erbyn 2050.
Gwyddom pa mor bwysig yw cydnabod y gwerth cymdeithasol ac amgylcheddol y mae gwirfoddoli yn ei roi i Gymru drwy gynyddu canran y bobl sy'n gwirfoddoli 10% erbyn 2050, gan ddangos statws Cymru fel cenedl sy’n gwirfoddoli.
Bydd y cerrig milltir cenedlaethol yn sicrhau bod y nodau llesiant yn parhau'n berthnasol i fywydau pobl yn awr ac yn y dyfodol. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt y gwaith yn adroddiad blynyddol Llesiant Cymru, ac yn parhau â'r sgwrs gyda rhanddeiliaid fel rhan o'n rhaglen waith Llunio Dyfodol Cymru yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys gwaith pellach o gryfhau a mireinio'r data ategol.
Mae'r cerrig milltir cenedlaethol yn mesur ein cynnydd ar y cyd fel cenedl ac mae'n hanfodol bod cyrff cyhoeddus, sefydliadau cyhoeddus a phreifat a phob unigolyn yn ystyried sut y gallant fynd ati i gyfrannu atynt. Bydd cynnydd tuag at y cerrig milltir cenedlaethol hyn yn ein helpu i sicrhau Cymru fwy cynaliadwy ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
Mae'n bleser gen i gyflwyno'r cerrig milltir cenedlaethol hyn i'r Senedd.