Adroddiad blynyddol cynllun y trydydd sector 2020 i 2021
Crynodeb o’r cymorth a roesom i’r trydydd sector a’r cydweithio a fu rhyngom ni yn ystod y flwyddyn ariannol 2020 i 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Er bod y Trydydd Sector wedi chwarae rhan bwysig yn ein cymdeithas yn wastad, nid yw hyn erioed wedi cael ei ddangos mor eglur â thros y 12 mis diwethaf. Rwy'n falch iawn o gyflwyno Adroddiad Blynyddol Cynllun y Trydydd Sector 2020 i 2021 yn nodi camau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi'r sector a chydnabod cyfraniad amhrisiadwy’r sector yn ystod pandemig COVID-19 ar yr un pryd.
Hoffwn fyfyrio am ychydig eiliadau ar ymateb anhygoel gwirfoddolwyr a'r sector gydol y pandemig. Yn benodol, y parodrwydd a welais i addasu gwasanaethau a chydweithio gyda phartneriaid eraill fel eu hawdurdodau lleol i gadw pobl Cymru mor ddiogel â phosib. Nid yw hyn yn unrhyw syndod imi.
Mae gan y trydydd sector yng Nghymru hanes o gamu i’r adwy mewn argyfwng ac yn aml mynd y tu hwnt i'r hyn y gallwn fod wedi’i ddychmygu; ni allaf ddiolch digon ichi.
Drwy gydol y pandemig, parhaodd y sector i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'n cymunedau ar draws amrywiaeth enfawr o feysydd, o wasanaethau Cyngor ac Eiriolaeth, Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Pobl Hŷn, mae'r rhestr yn parhau, a hynny i gyd er gwaethaf ansicrwydd dros incwm a achoswyd gan gyfleoedd prinach ar gyfer codi arian.
Dyna pam y gweithredodd Llywodraeth Cymru yn gyflym i sicrhau £32 miliwn yn ychwanegol i gefnogi'r Trydydd Sector trwy'r argyfwng hwn.
Amlygodd y pandemig hefyd bwysigrwydd buddsoddiad parhaus mewn isadeiledd sy'n cefnogi'r sector. Yn benodol, caiff platfformau fel Cyllido Cymru a Gwirfoddoli Cymru eu cefnogi gan Cefnogi Trydedd Sector Wales, sy'n cynnwys 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru .
Fodd bynnag, wrth i'r flwyddyn ddirwyn i ben, rydym yn parhau i wynebu heriau digynsail. Mae'r pandemig wedi dangos i ni y gallwn greu Cymru lle mae pobl, a chymunedau, yn cael yr adnoddau a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt i ffynnu, trwy weithio gyda'n gilydd.
Gyda hyn mewn golwg, dechreuais broses gyda Chyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (TSPC), tra roedd yr argyfwng yn dal ar ei waethaf, i edrych ar ba rôl y dylai'r Trydydd Sector ei chwarae yn ein hadferiad, a sut y gellid ei gefnogi i chwarae'r rôl honno.
Nododd y gwaith hwn dri maes allweddol (Perthnasau, Cymorth a Gwirfoddoli) lle gallwn elw i’r eithaf ar fanteision y newidiadau cadarnhaol rydym wedi'u gweld. Yn benodol, gwelwn wirfoddoli, gweithio mewn partneriaeth, a gweithredu lleol yn dod â manteision go iawn yn y tymor canolig a hir.
Bydd egwyddorion cynhwysiant, cydweithio a chyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd ein gwaith, gan gydnabod a dathlu’r amrywiaeth safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru. Ni fyddwn yn gallu cyflawni'r nodau hyn heb yr arbenigedd, y mewnwelediad a'r gallu helaeth a geir yn y sector.
Yn olaf, diolch i bob un gwirfoddolwr a mudiad gwirfoddol sydd wedi helpu ac sy'n parhau i helpu pobl Cymru trwy'r sefyllfa anodd hon. Gyda'n gilydd gallwn helpu pobl drwy'r heriau hen a newydd sy'n ein hwynebu nawr.
Jane Hutt AS
Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC)
Yn 2020 i 2021, un o'r cyfnodau anoddaf mewn hanes modern, dangosodd y sector gwirfoddol a gwirfoddolwyr yn ddiamau pa mor hanfodol yw eu gwaith. Wrth i bandemig COVID-19 ysgubo ar draws y wlad, camodd sefydliadau gwirfoddol a chymunedol o bob math i’r adwy i sicrhau bod y gwasanaethau hanfodol hynny y mae cymaint o bobl yn dibynnu arnynt yn cael eu darparu.
Ar lefel leol, fe wnaeth sefydliadau helpu pobl i fynd ar-lein, i ddanfon bwyd a nwyddau a chasglu presgripsiynau, ynghyd â datblygu gwasanaethau cyfeillio i bobl a oedd wedi'u hynysu a darparu trafnidiaeth hanfodol i'r rhai oedd yn ei chael hi'n anodd mynd i apwyntiadau brechu. Gwnaethant chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o drefnu a darparu cefnogaeth i'r rhai y gofynnwyd iddynt warchod eu hunain, ac yn dilyn hynny gwnaethant gyfraniad mawr i gefnogi Diogelu fel rhan o'r rhaglen gyffredinol Profi Olrhain Diogelu, gan gynorthwyo pobl i hunanynysu'n ddiogel ac effeithiol. Ar lefel ranbarthol, cydweithiodd y sector gydag awdurdodau lleol a chyrff statudol i gydgysylltu ymdrechion a sicrhau bod y rhai oedd angen gwasanaethau yn eu cael. Yn genedlaethol, gweithiodd CGGC gyda Llywodraeth Cymru ac roedd yn falch o weinyddu Cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector, a wnaeth gymaint o wahaniaeth i elusennau a mudiadau gwirfoddol ar adeg mor dyngedfennol. Yn y cyfamser, mae'r ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol #NawrFwyNagErioed yn tynnu sylw at werth gweithredu gan gymdeithas sifil, yng Nghymru ac ar draws y DU gyfan. Mae hyn i gyd wedi digwydd ar adeg pan oedd y sector gwirfoddol yn canfod ei hun o dan bwysau hyd yn oed gwaeth o ran adnoddau ac wedi cael eu gorfodi i symud llawer o wasanaethau ar-lein, ffordd hollol newydd o weithio i lawer ohonom.
Parhaodd materion pwysig eraill i fynnu sylw. Roedd pryder ynghylch yr argyfwng hinsawdd a natur yn cynyddu, gyda sefydliadau'r sector yn parhau i weithio gyda chymunedau ar brosiectau natur lleol, rhandiroedd, plannu coed a chynlluniau ynni cymunedol. Parhaodd sefydliadau i gynorthwyo'r rhai sy'n wynebu tlodi, sefyllfa a waethygwyd yn aml gan y pandemig. Yng nghanol hyn i gyd, bu'n rhaid i'r sector hefyd addasu i'r newidiadau a ddaeth o ran cyllido yn dilyn ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd, cam sy'n sicr o achosi effaith hirdymor sylweddol, tra'n ceisio sicrhau nad oedd hyn yn cael effaith negyddol ar y gwasanaethau y gallant eu darparu.
Er gwaethaf symud ar-lein, parhaodd y sector ei gysylltiad amhrisiadwy â Llywodraeth Cymru o dan y Cynllun Trydydd Sector unigryw, drwy Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector (“y Bartneriaeth”), a gadeirir gan Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a rhwydweithiau Cyfarfod y Gweinidogion a hwylusir gan GCCG. Atgyfnerthwyd y gofyniad i sodro’r gwersi a ddysgwyd yn barhaol mewn sawl lleoliad swyddogol gan Weinidogion, Aelodau'r Senedd a phartneriaid yr awdurdod lleol, wrth symud i berthynas ‘busnes fel arfer’ fwy ystyrlon rhwng y sectorau gwirfoddol a chyhoeddus.
Eleni, cynhyrchodd y Bartneriaeth ei Hadroddiad Adfer er mwyn adeiladu ar yr enghreifftiau o waith da gan y sector yn ystod y pandemig. Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, cynnal yr cynnydd mewn gwirfoddoli, y gydberthynas â'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus, a chefnogaeth i'r sector allu adfer ei hun, a ffyrdd newydd arfaethedig o gydweithio, blaenoriaethau ar gyfer y bartneriaeth seilwaith allweddol, sef Cefnogi Trydydd Sector Cymru, a chyllid ar gyfer prosiectau strategol.
Tynnwyd sylw at rôl y Cynghorau Gwirfoddol Sirol a rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru dro ar ôl tro. Dangoswyd gwerth buddsoddi yn yr isadeiledd cymdeithasol hwn sy'n cysylltu sefydliadau lleol a chenedlaethol, gan gefnogi gweithredu cymunedol, gwella ymatebion a chynyddu gwydnwch.
Lansiodd Cefnogi Trydydd Sector Cymru ei Ganolfan Wybodaeth ym mis Hydref 2020. Mae'r Ganolfan Wybodaeth yn adnodd arloesol sy'n caniatáu i sefydliadau gwirfoddol ledled y wlad gael mynediad hawdd, am ddim, at amrywiaeth o wybodaeth a chyfleoedd dysgu a rhwydweithio ar-lein. Erbyn mis Ebrill 2021, roedd 888 o ddefnyddwyr cofrestredig, yn gwneud defnydd o dros 80 o daflenni gwybodaeth a naw cwrs e-ddysgu. Gobeithiwn y gwelwn y nifer hwn yn tyfu dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf ac edrychwn ymlaen at weld canlyniadau'r dysgu yn cael effaith gadarnhaol ar gymunedau ledled y wlad.
Mae’n bosibl y bydd adfer o'r pandemig yn cymryd blynyddoedd lawer, ac y teimlir ei effaith ymhell i'r dyfodol. Rydym yn hynod falch o'r rôl y mae'r sector wedi'i chwarae hyd yma yn y frwydr yn erbyn COVID-19. Mae'n hanfodol ei fod yn cael ei gefnogi i barhau â'r gwaith hwn er budd y cenedlaethau i ddod.
Peter Davies CBE, Cadeirydd, CGGC
Ruth Marks MBE, Swyddog Gweithredol, CGGC
Pwrpas a chefndir Cynllun y Trydydd Sector
Beth yw’r Trydydd Sector?
Mae’r Trydydd Sector yn cwmpasu bron pob agwedd ar fywyd. Mae’n cynnwys sefydliadau cymunedol, grwpiau hunangymorth, sefydliadau gwirfoddol, elusennau, sefydliadau wedi’u seilio ar ffydd, mentrau cymdeithasol, busnesau cymunedol, cymdeithasau tai, cwmnïau cydweithredol a sefydliadau cydfuddiannol, i enwi dim ond rhai.
Mae gan y trydydd sector amrywiaeth o ffurfiau sefydliadol, gan gynnwys elusennau cofrestredig a rhai heb eu cofrestru, Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant (a all fod yn Elusennau Cofrestredig hefyd), Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus a chymdeithasau anghorfforedig. Mae gan bob sefydliad ei nodau, ei ddiwylliant arbennig a’i werthoedd ei hun, ynghyd â’i ffordd ei hun o wneud pethau, ond maent i gyd yn rhannu rhai nodweddion pwysig, a ddangosir isod.
Mae’r Trydydd Sector yn cwmpasu bron pob agwedd ar fywyd. Mae rhai nodweddion pwysig yn gyffredin rhyngddynt sef:
- cyrff annibynnol ydyn nhw nad ydyn nhw’n perthyn i lywodraeth ac a sefydlwyd yn wirfoddol gan ddinasyddion sy’n dewis eu trefnu
- mae gwerthoedd yn bwysig iddyn nhw a chânt eu harwain gan awydd i hyrwyddo amcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol yn hytrach na’r awydd i wneud elw
- ymrwymiad i ail-fuddsoddi’r hyn sydd dros ben ü i hyrwyddo eu hamcanion cymdeithasol, diwylliannol neu amgylcheddol
Rydym yn parhau’n grediniol y dylid ystyried y cyrff sydd â’r nodweddion hyn fel rhai sy’n perthyn i “sector” unigryw.
Egnïol ledled Cymru:
- 32,000 o fudiadau gwirfoddol
- Amcangyfrif o incwm o £1.258 biliwn i’r trydydd sector yng Nghymru rhwng 2018 a 2019
- 938,000 o wirfoddolwyr
Cynllun y Trydydd Sector
Lluniwyd Cynllun y Trydydd Sector o dan Adran 74 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae’r ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio Cynllun, sy’n ddatganiad o fwriad Gweinidogion Cymru i gefnogi a hyrwyddo buddiannau sefydliadau gwirfoddol perthnasol, wrth arfer eu dyletswyddau fel Gweinidogion Cymru.
Mae’r adroddiad blynyddol hwn ar gyfer 2020 i 2021 yn dangos sut y gweithredwyr cynigion a nodwyd yng nghynllun y trydydd sector yn ystod y flwyddyn ariannol honno.
Mae testun y ddeddfwriaeth i’w weld drwy ddilyn y ddolen isod Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cynllun y Trydydd Sector:
- rhannu syniadau a gwybodaeth
- cynllunio ar y cyd
- monitro a gwerthuso rhaglenni a chynlluniau
- sicrhau arian ar gyfer pob maes polisi
- diddordeb cytûn yn y ffordd mae gwasanaethau cyhoeddus ehangach yn cydweithio â’r Trydydd Sector
- themâu trawsbynciol y cynllun: mynd i’r afael â thlodi, datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb, y Gymraeg
Amcan Cynllun y Trydydd Sector yw llunio partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a’r trydydd sector sydd â’r bwriad o’n helpu i ddatblygu a chefnogi prosesau a fydd, yn y pen draw, yn arwain at y canlynol:
- cymunedau cryfach a mwy cadarn: dyma’r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwneud cyfraniad gwirfoddol at ffyniant ac adfywiad eu cymunedau, darparu gofal a helpu i feithrin hyder a sgiliau pobl; a’r cyfleoedd y mae’r trydydd sector yn eu creu o ran cyflogaeth a mentrau lleol
- gwella polisi: yr wybodaeth a’r arbenigedd y mae’r trydydd sector yn eu cynnig drwy ei& brofiad rheng flaen i helpu i lunio polisïau, gweithdrefnau a gwasanaethau
- gwasanaethau cyhoeddus gwell: y&rôl arloesol a thrawsnewidiol y gall y trydydd sector ei chwarae o ran peri i wasanaethau cyhoeddus gyrraedd mwy o bobl a dod yn fwy sensitif i’w hanghenion
Mae disgwyl i holl Aelodau’r Cabinet, Dirprwy Weinidogion a swyddogion hyrwyddo buddiannau’r trydydd sector yn eu gwaith ac wrth wneud penderfyniadau. Mae Cynllun y Trydydd Sector yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i’r canlynol:
- cynnal trefniadau ar gyfer ymgysylltu ac ymgynghori ystyrlon gyda’r trydydd sector
- cynnal trefniadau ar gyfer cynorthwyo cymunedau a gwirfoddolwyr
- cynnal trefniadau ar gyfer cefnogi strwythurau sy’n caniatáu i’r trydydd sector ffynnu
- ceisio cadw at y Cod Ymarfer ar gyfer Cyllido’r Trydydd Sector (sydd wedi’i gynnwys fel Atodiad i’r Cynllun)
Mae’n ymdrin â threfniadau ar gyfer ymgynghori, gweithio mewn partneriaeth gyda’r sector, a chyllido hefyd.
Darllenwch am Gynllun y Trydydd Sector.
Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r trefniadau hyn.
Beth ddigwyddodd yn 2020 i 2021?
Ymateb i bandemig COVID-19
Roedd 2020 i 2021 yn gyfnod na welwyd mo’i debyg o’r blaen i bawb. Fe wnaeth ymateb y trydydd sector i'r pandemig, ac i'r llifogydd a effeithiodd ar nifer o gymunedau Cymru ychydig cyn hynny, ei gwneud yn amlwg pa mor bwysig yw'r trydydd sector i iechyd a gwydnwch ein cymunedau yng Nghymru. Roedd yr heriau a achoswyd gan y digwyddiadau hyn yn dangos yn eglur y pŵer a'r potensial sydd gan weithredu gwirfoddol ac ysbryd cymunedol.
Er gwaethaf ansicrwydd o ran incwm oherwydd cyfleoedd prinnach ar gyfer codi arian, parhaodd y sector i ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau ledled Cymru, gan gynnig cymorth ar draws amrywiaeth enfawr o feysydd gan gynnwys gwasanaethau Cyngor ac Eiriolaeth, VAWDASV, Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid, Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Phobl Hŷn, i enwi dim ond rhai.
Gwnaed yr ymateb hwn yn bosibl gan seilwaith unigryw y Trydydd Sector yng Nghymru a'r cydberthnasau rydym wedi'u datblygu fel rhan o Gynllun y Trydydd Sector. Roedden nhw'n galluogi partneriaid o bob sector i ddod at ei gilydd yn gyflym i ddeall anghenion a phroblemau, yn ogystal â darparu mecanweithiau dibynadwy ar gyfer cael adnoddau i'r llefydd cywir yn gyflym.
Cefnogaeth Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i'r pwysau ar y trydydd sector a'r niferoedd cynyddol o bobl oedd eisiau gwirfoddoli, cefnogodd Llywodraeth Cymru y sector drwy ddarparu £40 miliwn ychwanegol i'r sector yn 2020 i 2021 i gefnogi tri maes gweithgaredd:
- helpu elusennau a sefydliadau trydydd sector yn ariannol i oroesi'r argyfwng (ac i fod yn fwy gwydn)
- helpu mwy o bobl i wirfoddoli a helpu gwasanaethau gwirfoddoli
- cryfhau seilwaith hanfodol y trydydd sector
Daeth y gefnogaeth hon i'r sector ar ffurf sawl pot cyllid newydd a gynlluniwyd i weithio ochr yn ochr â ffynonellau cefnogaeth a chyllid eraill y llywodraeth, yn ogystal â chefnogaeth gan gyllidwyr eraill fel ymddiriedolaethau a sefydliadau. Dyma rai o'r cronfeydd, ymhlith eraill:
- cronfa Gwydnwch y Trydydd Sector a weinyddir gan CGGC
- cronfa Argyfwng y Gwasanaethau Gwirfoddol a Chronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol a weinyddir gan CGGC
- y Gronfa Adfer Gwirfoddoli a weinyddir gan Lywodraeth Cymru
Er mwyn cynllunio y tu hwnt i'r ffrydiau ariannu tymor byr hyn fe wnaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector a Llywodraeth Cymru hefyd gyd-gynhyrchu Cynllun Adfer y Trydydd Sector ar ôl Covid yn nodi blaenoriaethau a rennir dros y tymor canolig a hirdymor er mwyn galluogi'r sector i chwarae'r rhan hanfodol y dymuna’i chyflawni yn adferiad Cymru yn dilyn y pandemig. Mae gan y cynllun dair ffrwd waith allweddol Cefnogaeth, Cydberthnasau a Gwirfoddoli.
Mae'r Cynllun yn nodi'r trefniadau ffurfiol ar gyfer ymgysylltu ar draws 5 maes:
- deialog a Chydweithrediad
- cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
- cyfarfodydd Gweinidogion
- ymgynghoriadau
- datblygu polisi
Deialog a Chydweithredu
Roedd y gwaith hwn yn cynnwys cytuno ar drefniadau ymarferol, deialog a chyfnewid gwybodaeth. Un enghraifft dda o rywle y gweithiodd hyn yn dda yn ymarferol, ac a sicrhaodd ganlyniadau cadarnhaol i randdeiliaid yn ystod y cyfnod adrodd hwn yw Ffrwd Waith Llywodraeth Cymru ar Brofedigaeth.
Astudiaeth Achos: Ffrwd Waith Llywodraeth Cymru ar Brofedigaeth: Cydweithrediad â’r Trydydd Sector
Yn 2019, cymerodd y Bwrdd Gofal Diwedd Oes, rhan o’r GIG yng Nghymru, gyfrifoldeb dros gefnogaeth mewn profedigaeth yng Nghymru. Er mwyn deall yn well pa wasanaethau oedd yn cael eu cyflawni, comisiynwyd Prifysgol Caerdydd ar y cyd â Chanolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru gan y Bwrdd Gofal Diwedd Oes i gynnal astudiaeth gwmpasu o wasanaethau profedigaeth ledled Cymru. Cwblhawyd a chyhoeddwyd yr astudiaeth hon ym mis Rhagfyr 2019 a gellir ei darllen yma: arolwg-cwmpasu-o-wasanaethau-profedigaeth-yng--nghymru-adroddiad-diwedd-astudiaeth.pdf (llyw.cymru)
Roedd yr astudiaeth yn cwmpasu'r ystod eang o gymorth profedigaeth sydd ar gael, gan gynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc. Ynddi, tynnwyd sylw at y bylchau a'r heriau sydd i’w gweld mewn gwasanaethau cymorth profedigaeth, a chodwyd nifer o faterion i'w hystyried er mwyn datblygu'r gwasanaeth. Yn ganolog i hyn oedd yr angen i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. Byddai hyn wedyn yn hwyluso buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth profedigaeth ar lefelau sefydliadol a rhanbarthol, ac yn sicrhau tegwch a mynediad at lefelau priodol o gymorth sy'n ymateb i anghenion lleol.
Mewn ymateb i'r astudiaeth gwmpasu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddatganiad ysgrifenedig ym mis Chwefror 2020 Datganiad ysgrifenedig: astudiaeth gwmpasu o wasanaethau profedigaeth
Roedd y datganiad yn nodi pa gamau roedd Llywodraeth Cymru a'r Bwrdd Gofal Diwedd Oes yn bwriadu eu cymryd mewn ymateb. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth dan gadeiryddiaeth Dr Idris Baker, arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes a phenodi swyddog arweiniol cenedlaethol pwrpasol ar gyfer profedigaeth er mwyn cefnogi datblygu fframwaith profedigaeth cenedlaethol. Sefydlwyd y Grŵp Llywio ac mae'n cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau yn y trydydd sector sy'n darparu cymorth profedigaeth i blant, pobl ifanc ac oedolion, y rheini sydd wedi colli babi a’r rhai sydd wedi profi marwolaeth sydyn, hunanladdiad a phob math o brofedigaeth.
Tasg gyntaf y Grŵp Llywio oedd cyd-gynhyrchu'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Darparu Gofal mewn Profedigaeth yng Nghymru gyda'r nod cyffredinol o bennu sut y gallwn ymateb yn gyffredinol yng Nghymru i'r rhai sy'n wynebu, neu sydd wedi profi, profedigaeth. Mae'r fframwaith yn cynnwys egwyddorion craidd, safonau gofynnol ar gyfer gofal mewn profedigaeth ac amrywiaeth o gamau gweithredu i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol. Mae hefyd yn cynnwys adran ar ddysgu oddi wrth COVID-19 a'r gofid a deimlwyd gan lawer o bobl a gollodd anwyliaid yn ystod y pandemig. Mae'r fframwaith wedi'i ysgrifennu'n fwriadol mewn arddull hygyrch, er mwyn ei gwneud yn bosibl iddo gael ei ddarllen gan y rhai sy'n gyfrifol am gomisiynu a darparu cymorth profedigaeth, yn ogystal â chan bobl mewn profedigaeth eu hunain. Cyhoeddwyd y fframwaith terfynol ar 28 Hydref 2021 a gellir ei weld yn Fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth.
I gefnogi rhoi'r fframwaith ar waith, mae Llywodraeth Cymru'n darparu Grant Cymorth Profedigaeth gwerth £3 miliwn dros y cyfnod tair blynedd, 2021-24. Chwaraeodd sefydliadau trydydd sector rôl hanfodol wrth helpu i ddylunio'r ffurflenni cais ar gyfer y broses ymgeisio am grant a llwyddodd 21 i sicrhau cyllid grant. Dyfarnu £3 miliwn i elusennau profedigaeth ledled Cymru | LLYW.CYMRU
Mae gwaith y Grŵp Llywio bellach yn canolbwyntio ar ddatblygu llwybr profedigaeth cenedlaethol ar gyfer Cymru er mwyn sicrhau y bydd unrhyw un sy'n profi profedigaeth, ble bynnag a phryd bynnag y bydd yn digwydd, yn cael gwybodaeth ar sut i gael cefnogaeth bellach pe bai arnyn nhw ei angen, boed hynny'n gymorth ymarferol, ariannol neu emosiynol. Fel yn achos datblygu'r fframwaith profedigaeth a'r grant cymorth profedigaeth o'r blaen, bydd gan bartneriaid y trydydd sector rôl hanfodol i'w chwarae yn natblygiad y llwybr ac wrth gefnogi ei weithredu.
Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Mae Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector yn helpu Llywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau trydydd sector i ddatblygu polisïau a gwasanaethau gwell. Yn ystod y cyfnod adrodd cafodd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ei gadeirio gan Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip ar y pryd. Roedd y Cyngor yn cynnwys cynrychiolwyr o rwydweithiau trydydd sector a oedd yn gweithio ar draws 25 o feysydd gwaith yn y trydydd sector, ynghyd â Phrif Swyddog Gweithredol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (gweler atodiad a).
Yn ystod y cyfnod adrodd hwn (2020 i 202021) gwelwyd cynnydd o’r blynyddoedd cynt yn nifer cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector oherwydd yr ymgysylltu a'r ymwneud rhwng Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector yn y gwaith o ddatblygu a darparu cymorth a roddwyd i gymunedau Cymru yn ystod pandemig Covid. Yn 2020 i 2021 cynhaliwyd cyfanswm o bum cyfarfod o’r Cyngor o dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector. Er bod yr adferiad ar ôl Covid a chynllunio ymlaen yn faterion blaenllaw yn y cyfarfodydd hyn, isod ceir enghreifftiau o bynciau eraill a drafodwyd:
- y cyfnod pontio o'r UE
- y ddyletswydd economaidd-gymdeithasol
- strategaeth Ddigidol
- strategaeth y Gymraeg
- adroddiad Is-grŵp Adfer Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
- cynllun Gwaith Is-bwyllgor Cyllid a Chydymffurfiaeth Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Cyhoeddir cofnodion cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ar wefan Llywodraeth Cymru yn Cofnodion Cyfarfodydd Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Cyfarfodydd Gweinidogion
Mae gan Gymru enw da haeddiannol yn rhyngwladol fel gwlad lle mae mynediad rhwydd at lunwyr polisi a Gweinidogion yn hyrwyddo llywodraethu da. Mae’r trydydd sector yn cyfarfod yn rheolaidd â phob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru i drafod materion sy’n berthnasol i’w portffolios.
Mae cyfarfodydd â Gweinidogion yn ategu cysylltiadau ddydd i ddydd rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr o’r trydydd sector drwy ganolbwyntio ar faterion polisi strategol sy’n effeithio ar fwy nag un rhan o’r trydydd sector.
Dan nawdd Cynllun y Trydydd Sector, cynhaliwyd deuddeg cyfarfod rhwng Gweinidogion Cymru a mudiadau'r trydydd sector yn ystod 2020 i 2021. Dyma enghreifftiau o’r pynciau a drafodwyd:
- strategaeth Drafnidiaeth Cymru
- gweledigaeth Menter Gymdeithasol a’i Gynllun Gweithredu
- proses gosod cyllideb Llywodraeth Cymru
- cynnig grantiau am dymor hirach
Hefyd, ymgysylltodd Gweinidogion Cymru â sefydliadau trydydd sector mewn nifer o ffyrdd gwahanol y tu hwnt i’r cyfarfodydd ffurfiol hyn gan gynnwys ymweld â sefydliadau, mynd i ddigwyddiadau a chynadleddau, a thrwy gyfrwng gohebiaeth neu gyfarfodydd uniongyrchol gyda grwpiau neu sefydliadau unigol i glywed yn fwy penodol am faterion a oedd yn effeithio arnyn nhw. Drwy gydol cyfnod adrodd 2020 i 2021 roedd gan lawer o weinidogion lawer mwy o gyswllt â sefydliadau'r trydydd sector a oedd yn rhan o'r ymateb i'r pandemig COVID-19.
Mae cofnodion y cyfarfodydd hyn â Gweinidogion i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru Cyfarfodydd y Trydydd Sector gyda Gweinidogion Cymru.
Ymgynghoriadau
Mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i weithdrefnau ar gyfer ymgynghori ynghylch newidiadau polisi a datblygiadau polisi newydd sy’n effeithio ar y trydydd sector, gan gynnwys:
- cyfleoedd i barhau i gynnal trafodaethau rhwng y Trydydd Sector, buddiannau gwirfoddoli a Llywodraeth Cymru i sicrhau dealltwriaeth a chyfraniad cynnar wrth ddatblygu polisi
- trefniadau ymgynghori sydd fel arfer yn caniatáu digon o amser i ymgynghori’n ehangach â rhwydweithiau a defnyddwyr gwasanaethau
- cefnogi rôl cyrff ambarél a chyfryngwyr wrth hwyluso ymgynghoriadau
- rhoi adborth i ymatebwyr ynghylch ymatebion i ymgynghoriadau a’u canlyniadau
- cyfleoedd i’r sector barhau i gymryd rhan yn ystod camau gweithredu a gwerthuso’r polisi
Cafodd 93 o ymgynghoriadau eu cyhoeddi rhwng 1 Ebrill 2020 a 31 Mawrth 2021. Mae’r manylion ar dudalennau ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru.
Enghraifft o ymgynghoriad a gynhaliwyd yn 2020 i 2021, lle'r oedd y trydydd sector yn gallu cyfrannu a dylanwadu ar ddatblygiad polisi, oedd yr ymgynghoriad ynghylch ariannu rhaglen Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant yn y dyfodol.
Rhedodd yr ymgynghoriad am 9 wythnos gan ofyn am gyngor ac arweiniad rhanddeiliaid, y rhai sy'n darparu gwasanaethau, ac unigolion a chymunedau oedd naill ai'n derbyn y gwasanaethau hynny neu eu hangen. Gwahoddwyd rhai â diddordeb i ddweud wrth Lywodraeth Cymru os oedd angen unrhyw newidiadau i’r rhaglen Cronfa Cydraddoldeb a Chynhwysiant. Gofynnwyd eu barn ar y meysydd canlynol:
- materion yn ymwneud â'r rhaglen ariannu
- y cyfnod ariannu
- dosbarthu cyllid
- parhau â'r gwasanaethau presennol ar gyfer grwpiau penodol
- rhaniadau'r gyllideb
- aliniad â Chynllun Gweithredu Strategol Llywodraeth Cymru ar Gydraddoldeb 2020 i 2024
- gweithio ar y cyd
- aliniad â chynlluniau cydraddoldeb penodol fel y Cynlluniau Gweithredu ar Gydraddoldeb Rhywedd, Cydraddoldeb Hiliol ac LHDTC+
- effaith ar y Gymraeg
Derbyniodd Llywodraeth Cymru gyfanswm o 39 o ymatebion i'r ymgynghoriad gyda 22 ohonynt o'r trydydd sector. Bydd yr ymatebion i'r ymgynghoriad hwn nawr yn dylanwadu ar ddatblygiad y grant Cydraddoldeb a Chynhwysiant newydd sy'n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.
Datblygu polisi
O dan Gynllun y Trydydd Sector, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau ei bod yn ystyried, ar gam ffurfiannol, yr oblygiadau i’r trydydd sector yn sgil unrhyw bolisïau newydd neu newidiadau polisi. Mae’r gwaith ymgysylltu hwn â’r sector yn allweddol i lywio datblygiad polisi ac i helpu i lunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru. Enghraifft o’r ymgysylltu hwn a’i fanteision ymarferol posibl i gymunedau Cymru yw’r gwaith o ddatblygu Adroddiad Adfer y Trydydd Sector.
Astudiaeth achos: Adroddiad Adfer Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector
Yn dilyn ton gyntaf y pandemig, sefydlodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip Is-Grŵp Adfer ar gyfer Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector i ddehongli rôl y sector yn adferiad Cymru yn dilyn COVID-19, a sut y gellid ei gefnogi i gyflawni’r rôl honno.
Pwrpas yr is-grŵp i dynnu ar holl arbenigedd y Cyngor llawn i roi barn a chyngor i Weinidogion Cymru ar gynllunio'r adferiad. Roedd nodau’r is-grŵp yn cynnwys yr isod:
- pennu uchelgeisiau cyffredin ar gyfer adfer a chynghori ar sut y gellir mesur y rhain
- nodi gwersi a ddysgwyd a all sicrhau gwell canlyniadau yn y tymor hwy
- cynghori ynghylch pwy ddylai wneud beth er mwyn gwireddu ein huchelgeisiau cyffredin a'i gwneud yn bosibl i sefydliadau gwirfoddol chwarae’u rhan lawn yn yr adferiad
Trwy drafod, nododd yr is-grŵp dri maes allweddol ar gyfer eu datblygu – Cydberthnasau, Cymorth (gan gynnwys cymorth nad yw’n ariannol) a Gwirfoddoli. Yn allweddol, pwysleisiodd y grŵp bwysigrwydd peidio â gweld, neu drin y meysydd hyn fel rhai annibynnol ond yn hytrach fel rhai sy’n gyflenwol i’w gilydd.
Canlyniad y gwaith hwn oedd cyhoeddi adroddiad Adfer y Cyngor yn gynnar yn 2021, sy’n parhau i lywio datblygiad polisi trwy ei argymhellion. Mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd y gwaith o gyflawni'r argymhellion hyn yn dibynnu'n fawr ar gefnogaeth sefydliadau'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
Cyllid a Chefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Trydydd Sector
Trwy roi cyllid craidd i’r rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sef partneriaeth sy’n cynnwys Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r 19 o Gynghorau Gwirfoddol Sirol ledled Cymru, llwyddodd Llywodraeth Cymru i gefnogi seilwaith Trydydd Sector a fu, yn ystod 2020 i 2021, yn cynrychioli, yn hyrwyddo ac yn cefnogi’r Trydydd Sector, ynghyd â bod yn atebol iddo, a hynny ar bob lefel.
Roedd y gefnogaeth hon yn canolbwyntio ar 4 piler allweddol; Gwirfoddoli, Llywodraethu Da, cyllid cynaliadwy, ac ymgysylltu â phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus a dylanwadu arnynt.
Mae Adroddiad Effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, sy’n darparu data ac astudiaethau achos i ddangos effaith cymorth Llywodraeth Cymru a Cefnogi Trydydd Sector Cymru mewn cysylltiad â’r 4 piler allweddol, wedi’i gyhoeddi yma Adroddiad Effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru 2020 i 2021.
Mae Adroddiad Effaith eleni (2020 i 2021) hefyd yn dangos sut roedd isadeiledd unigryw y trydydd sector yng Nghymru yn galluogi'r sector i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion cymunedau yn ystod y pandemig. Gwnaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru hi’n bosibl i filoedd o sefydliadau gwirfoddol ledled Cymru gael mynediad at gyllid, gwybodaeth, cyfleoedd dysgu, gwirfoddolwyr a chefnogaeth ddigidol na fyddai wedi bod ar gael heb fodolaeth partneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru.
Mae’r tabl hwn yn dangos rhai o’r effeithiau lefel uchel y mae Cefnogi Trydydd Sector Cymru yn eu cael gyda chymorth Llywodraeth Cymru:
- mae cefnogi Trydydd Sector Cymru yn helpu sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a gwirfoddoli ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol
- cefnogwyd 3,257 o sefydliadau â gwybodaeth a chyngor uniongyrchol
- dosbarthwyd 2,758 o grantiau i sefydliadau gwerth cyfanswm o £44,464,157.68
- cafodd 1,120 o ddigwyddiadau partneriaethau/fforymau/rhwydweithiau eu hwyluso gyda 8,924 o bobl yn cymryd rhan
- ymdriniwyd â sefydliadau 3,382 o weithiau ynghylch llywodraethu da, gan gymryd 50 munud yr un ar gyfartaledd
- cynorthwywyd 10,156 o wirfoddolwyr i achub ar gyfle i wirfoddoli
- Infoengine cyfeiriadur ar-lein am ddim i wasanaethau cymunedol y trydydd sector yw hwn. Mae’r wefan yn tynnu sylw at amrywiaeth eang o wasanaethau gwirfoddol a chymunedol er mwyn i bobl allu gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch y gwasanaethau y maent yn troi atynt. Yn ystod 2020 i 2021 cofrestrodd infoengine 4,435 o wasanaethau gan 3,722 o sefydliadau a 19,257 o ddefnyddwyr newydd.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ewch i’w wefan Cefnogaeth i'r Trydydd Sector yng Nghymru.
Cefnogi Trydydd Sector Cymru cyllid craidd i Gynghorau Gwirfoddol Sirol a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Gweler y tabl isod am ddyraniadau Siroedd unigol |
£9,164,695 |
Cronfa Gwirfoddoli Cymru |
£15,981,112 |
Cymorth Diogelu'r Trydydd Sector |
£114,500 |
Cronfa Newid y Trydydd Sector |
£81,500 |
Cronfa Meithrin Gallu Partneriaeth – grantiau i rwydweithiau cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector |
£87,545 |
Cyfanswm |
£25,429,352 |
Rhanbarth |
Cyngor Gwirfoddol Sirol |
Craidd |
Rhanbarth |
---|---|---|---|
Gogledd Cymru |
Conwy |
£288,444 |
£1,817,255
|
Sir Ddinbych |
£287,043 |
||
Sir y Fflint |
£296,025 |
||
Gwynedd |
£376,486 |
||
Ynys Môn |
£280,953 |
||
Wrecsam |
£288,304 |
||
Y Gorllewin a Phowys |
Sir Gaerfyrddin |
£326,099 |
£1,506,601 |
Ceredigion |
£292,199 |
||
Sir Benfro |
£291,803 |
||
Powys |
£596,581 |
||
SBUHB |
Castell-nedd Port Talbot |
£284,402 |
£648,914
|
Abertawe |
£364,512 |
||
Cardiff & Vale |
Caerdydd |
£351,013 |
£662,444
|
Bro Morgannwg |
£311,432 |
||
Cwm Taf |
Pen-y-bont ar Ogwr |
£281,815 |
£908,545
|
Merthyr Tudful |
£278,269 |
||
Rhondda Cynon Taf |
£348,461 |
||
Gwent |
Gwent |
£1,104,170 |
£1,413,319
|
Torfaen |
£309,150 |
||
Is-gyfanswm |
£6,957,080 |
£6,957,080 |
Cymorth Arall ar gyfer y Trydydd Sector
Nid cyllid Cefnogi Trydydd Sector Cymru oedd yr unig gyllid a ddarparwyd i sefydliadau trydydd sector ledled Cymru. Darparodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth, cyllid craidd a chyllid prosiect i lawer o sefydliadau eraill yn y Trydydd Sector.
Mewn llawer o achosion, roedd y cyllid hwn yn ymwneud â meysydd gwaith arbenigol a chytunwyd ar y cyllid gan Weinidog priodol o Lywodraeth Cymru.
Yn 2020 i 2021 dyfarnodd Llywodraeth Cymru £471 miliwn o gyllid uniongyrchol i'r trydydd sector.
Nid oedd hyn yn cynnwys gwariant caffael na thaliadau anuniongyrchol a wnaed i sefydliadau’r trydydd sector lle’r oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i sefydliad arall, er enghraifft awdurdod lleol, a allai fod wedi ariannu sefydliadau trydydd sector wedyn.
Mae Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru Llywodraeth Cymru yn gosod y fframwaith a’r egwyddorion y mae rhaid eu cymhwyso i Lywodraeth Cymru, ei chyrff a noddir, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru, ei chomisiynwyr, Cyngor y Gweithlu Addysg, Estyn ac is-gyrff Llywodraeth Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Rheoli arian cyhoeddus Cymru.
Mae Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector (y Cod) yn rheoli sut y dylai Llywodraeth Cymru a’i hasiantau ymdrin ag ariannu’r trydydd sector.
Mae’r Cod yn egluro’r mathau o gyllid y mae Llywodraeth Cymru yn eu darparu, yr egwyddorion y dylid seilio penderfyniadau cyllido arnynt, a’r telerau a’r trefniadau ar gyfer cynnig cyllid.
Cynllun y Trydydd Sector
Ni roddwyd gwybod am unrhyw achos o dorri’r Cod yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
Rhagor o wybodaeth
I gael gwybodaeth am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r Trydydd Sector, ewch i Llywodraeth Cymru'n rhoi hwb i elusennau a sefydliadau’r trydydd sector yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Adroddiad Effaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru 2020 i 2021
I gael gwybodaeth am wirfoddoli, ewch i: www.volunteering-wales.net
neu ewch i’ch Canolfan Wirfoddoli neu eich Cyngor Gwirfoddol Sirol lleol.
Adnoddau Archive - Cefnogi Trydydd Sector Cymru (thirdsectorsupport.wales)
Fel arall, gallwch gysylltu ag Uned y Trydydd Sector yn thirdsectorqueries@llyw.cymru
I gael gwybodaeth am raglenni grant eraill, cysylltwch â Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ar 0300 1110124 neu ewch i’n gwefan www.wcva.cymru/cy/hafan/
I gael rhagor o wybodaeth am Cefnogi Trydydd Sector Cymru, ewch i’w gwefan: Cartref - Cefnogi Trydydd Sector Cymru (thirdsectorsupport.wales)
Cymorth Trydydd Sector ac Awdurdod Lleol yn ystod cyfnod cynnar y pandemig
Atodiad a: (Tabl o Feysydd Diddordeb Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector ac Arweinwyr Rhwydweithiau)
Maes Diddordeb |
Rhwydwaith |
---|---|
Cyngor ac eiriolaeth |
Fforwm Darparwyr Cyngor Annibynnol |
lles anifeiliaid |
Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru |
Y Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth |
Bywydau Greadigol |
Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid |
Cynghrair Ffoaduriaid Cymru |
Plant a Theuluoedd |
Plant yng Nghymru |
Cymuned |
Yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau |
Cyfiawnder Cymunedol |
Cyfiawnder Cymunedol Cymru |
Anabledd |
Grŵp Cyfeirio Anabledd Cymru |
Addysg a Hyfforddiant |
Addysg Oedolion Cymru |
Cyflogaeth |
Siawns Teg |
Yr Amgylchedd |
Cyswllt Amgylchedd Cymru |
Lleiafrifoedd Ethnig |
Race Council Cymru |
Lleiafrifoedd Ethnig |
Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig |
Rhywedd |
Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Grŵp Cynllunio Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles |
Tai |
Homes for All Cymru |
Cymorth lleol a rhanbarthol |
Cynghorau Gwirfoddol Sirol |
Rhyngwladol |
Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru |
Pobl Hŷn |
Cynghrair Henoed Cymru |
Crefydd |
Cyngor Rhyng-ffydd Cymru |
Rhywioldeb |
Stonewall Cymru |
Menter gymdeithasol |
Y Rhwydwaith Menter Gymdeithasol |
Teithio a Thwristiaeth |
Cymdeithas Chwaraeon Cymru |
Gwirfoddoli |
Rhwydwaith Gwirfoddoli Cymru |
Y Gymraeg |
Mentrau Iaith Cymru |
Ieuenctid |
Cyngor Gwasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol Cymru |
Prif Weithredwr CGGC |
Cynrychiolydd CGGC |