Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AC, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r datganiad ysgrifenedig hwn yn gysylltiedig â'r datganiad a gyhoeddwyd ar 22 Gorffennaf 2019 ar gymorth profedigaeth y GIG. Mae'n rhoi'r newyddion diweddaraf am y gwaith a wnaed ers i'r datganiad hwnnw gael ei gyhoeddi, ac yn nodi'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i'r astudiaeth gwmpasu o wasanaethau profedigaeth a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd a'i phartneriaid.

Gellir diffinio profedigaeth fel y tristwch rydych yn ei deimlo, neu'r cyflwr rydych chi ynddo pan fydd aelod o'ch teulu neu ffrind i chi yn marw. Mae risgiau uwch o broblemau iechyd meddwl, morbidrwydd a marwolaeth yn gysylltiedig â phrofedigaeth, a gall gwasanaethau sy'n darparu cymorth profedigaeth fod yn hanfodol wrth reoli'r risgiau hynny. Gall cymorth profedigaeth hefyd leihau'r effeithiau emosiynol, corfforol a meddyliol sy'n gysylltiedig â galar.

Cynhaliwyd yr astudiaeth gwmpasu o wasanaethau profedigaeth gan Brifysgol Caerdydd ar y cyd â sefydliad Marie Curie a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru ar ran y Bwrdd Gofal Diwedd Oes. Roedd yr astudiaeth yn dangos y cymorth sydd ar gael ar hyn o bryd, o wasanaethau cyfeirio hyd at gwnsela arbenigol, a nodwyd meysydd lle mae angen rhagor o adnoddau. Cyhoeddwyd yr astudiaeth ym mis Rhagfyr, a gallwch ei gweld yma:

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-12/arolwg-cwmpasu-o-wasanaethau-profedigaeth-yng--nghymru-adroddiad-diwedd-astudiaeth.pdf

Roedd yr astudiaeth yn cwmpasu'r ystod eang o gymorth profedigaeth sydd ar gael, gan gynnwys ar gyfer plant a phobl ifanc. Ynddi, tynnwyd sylw at y bylchau a'r heriau sydd i’w gweld mewn gwasanaethau cymorth profedigaeth, a chodwyd nifer o faterion i'w hystyried er mwyn datblygu'r gwasanaeth. Yn ganolog i hyn, mae'r angen i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. Byddai hyn wedyn yn hwyluso buddsoddiad mewn gwasanaethau cymorth profedigaeth ar lefelau sefydliadol a rhanbarthol, ac yn sicrhau tegwch a mynediad at lefelau priodol o gymorth sy'n ymateb i angen lleol.

Byddai fframwaith cenedlaethol yn cefnogi'r gwaith o sefydlu llwybrau cyfeirio clir, asesiadau o risgiau ac anghenion, hyfforddiant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr a chyfeiriadur o’r gwasanaethau profedigaeth sydd ar gael. Byddai hefyd yn cefnogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu gwerthuso a'u hasesu ac yn pennu safonau ar gyfer archwilio a gwella ansawdd.

Er mwyn datblygu'r fframwaith, mae rheolwr prosiect penodol wedi cael ei recriwtio i ddechrau ar y gwaith yn ddiweddarach y mis hwn. Gofynnwyd hefyd i'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, Dr Idris Baker, sefydlu Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth i gefnogi'r rheolwr prosiect gyda'r gwaith. Mae gan Dr Baker wybodaeth a phrofiad helaeth yn y maes gofal mewn profedigaeth.

Bydd y Gweithgor Cymorth Profedigaeth presennol yn dod yn rhan o'r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, gan sicrhau bod sefydliadau sy'n cefnogi plant, pobl ifanc a'r rheini sydd wedi colli babi neu sydd wedi profi marwolaeth sydyn i gyd yn cael eu cynrychioli. Bydd y grŵp hefyd yn cynnwys sefydliadau sy'n cefnogi'r rheini sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad ac elusennau profedigaeth yn y byd amaeth.

Er mwyn mynd i'r afael â bylchau mewn darpariaeth gwasanaethau profedigaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu £1m yn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau cymorth profedigaeth o 2021-22 ymlaen. Bydd hyn yn caniatáu amser i ddatblygu'r fframwaith profedigaeth cenedlaethol a'r llwybrau cysylltiedig, a hefyd yr hyfforddiant a'r safonau a fydd yn dilyn. Bydd hefyd yn caniatáu amser i gytuno ar sut i glustnodi'r cyllid fel bod byrddau iechyd ac elusennau profedigaeth lleol a chenedlaethol presennol yn cael y cyfle i gael mynediad at y cyllid hwn, a gwneud y defnydd gorau ohono.

Yn y cyfamser, mae cyllid wedi cael ei ddarparu yn 2019-20 ar gyfer pedair elusen profedigaeth (2 Wish Upon a Star, Papyrus, Cruse a Sefydliad Jacob Abraham) i gefnogi'r gwaith y maent yn ei wneud gyda'r rheini sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad.

Bydd y mesurau hyn yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gallu ymateb i'r astudiaeth profedigaeth yn brydlon, a bod y fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yn ei le cyn diwedd 2020-21.