Sut rydym yn rheoli’r ffyrdd rydym yn berchen arnynt yng Nghymru.
Cynnwys
Gwella ein ffyrdd
Rydym yn defnyddio Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) i gynllunio mathau gwahanol o drafnidiaeth, gan gynnwys trenau a beicio. Rydym hefyd yn ei ddefnyddio pan fydd angen inni drwsio neu newid y ffyrdd.
Mae WelTAG yn rhan bwysig o’n Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Mae ein helpu ni i ystyried ffactorau pwysig fel:
- yr amgylchedd, bioamrywiaeth a newid hinsawdd
- iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy am y ffordd rydym yn defnyddio WelTAG ar gyfer ein prosiectau ffyrdd:
Ein cyfraniad ni
Rydym yn gyfrifol am tua 1516km o brif ffyrdd A (a elwir yn gefnffyrdd) a 178km o draffyrdd yng Nghymru.
Mae’n bwysig ein bod yn gofalu amdanynt ac yn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac yn ddiogel ar gyfer defnyddwyr.
Rydym yn defnyddio 2 sefydliad sector cyhoeddus o’r enw Asiantiaid Cefnffyrdd i weithredu ac i ofalu am ein ffyrdd ar ein rhan:
- Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru (NMWTRA)
- Asiant Cefnffyrdd De Cymru (SWTRA)
Maent yn gyfrifol am y canlynol:
- gofalu am ymylon ein ffyrdd, coridorau gwyrdd a helpu i warchod bywyd gwyllt ar ein ffyrdd
- monitro’r rhwydwaith a chynnig cymorth yn ystod damweiniau
- cynnal a chadw pontydd, twneli a thechnoleg drafnidiaeth, gwneud gwaith cynnal a chadw a chwblhau cynlluniau gwella i sicrhau siwrneiau mwy diogel a didrafferth
Maent hefyd yn darparu Traffig Cymru sy’n ein helpu i gadw’r ffyrdd yn glir ac yn ddiogel. Maent yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am draffig ac yn darparu gwasanaeth Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru.
Mae Swyddogion Traffig yn patrolio’r rhwydwaith ac yn helpu i gadw defnyddwyr ffyrdd yn ddiogel: map rhwydwaith ffyrdd.
Maent yn cael eu cefnogi gan weithredwyr ystafell reoli sy’n gosod arwyddion a signalau i rybuddio defnyddwyr ffyrdd am beryglon.
Adolygiad Ffyrdd
Ar hyn o bryd rydym yn adolygu prosiectau ffyrdd. Darllenwch fwy am yr Adolygiad Ffyrdd.