Llesiant Cymru, 2022 - Cymru sy’n fwy cyfartal
Mae’r adroddiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy’n cael ei wneud yng Nghymru o ran cyflawni’r saith nod llesiant.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Y nod i Gymru sy’n fwy cyfartal
Awdur: Sue Leake
Cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth yw eu cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol).
Yn 2002 mabwysiadodd Llywodraeth Cymru y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r model hwn yn nodi ffordd wahanol o edrych ar anabledd. Yn hytrach na diffinio pobl fel pobl anabl yn ôl eu nam (hynny yw, y model meddygol ar gyfer anabledd), ystyrir bod pobl sydd â namau yn anabl oherwydd rhwystrau corfforol, agweddol a sefydliadol sy’n cael eu creu gan gymdeithas.
Mae’r data a adroddir yma yn deillio o amrywiaeth o ffynonellau sy’n adlewyrchu’r data diweddaraf mwyaf dibynadwy sydd ar gael. Mae llawer o’r ffynonellau hyn yn defnyddio diffiniadau o anabledd, sy’n seiliedig ar y model meddygol yn unol â diffiniad Deddf Cydraddoldeb 2010. Yn y Ddeddf Cydraddoldeb mae anabledd yn golygu cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith sylweddol a hirdymor ar eich gallu i wneud gweithgareddau cyffredin o ddydd i ddydd.
Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?
Cafodd pandemig coronafeirws (COVID-19) effaith anghymesur ar lawer o wahanol grwpiau poblogaeth, gyda phobl hŷn, dynion a phobl mewn grwpiau lleiafrifoedd ethnig mewn mwy o berygl o fynd yn ddifrifol wael gyda’r afiechyd yn y camau cynnar, ac mae effaith anuniongyrchol mwy anuniongyrchol niwed economaidd-gymdeithasol yn fwy tebygol o fod wedi cael ei theimlo gan grwpiau sydd eisoes dan anfantais. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc, menywod, pobl anabl a grwpiau lleiafrifoedd ethnig.
Bydd y cynnydd diweddar mewn chwyddiant wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel. Mae canlyniadau tymor hwy y pandemig ac effaith digwyddiadau diweddar yn y byd ar chwyddiant yn dal yn ansicr iawn ar adeg ysgrifennu’r adroddiad. Er ei bod hi’n rhy gynnar i asesu effeithiau llawn y pandemig ar bobl ifanc, mae tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio’n benodol ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig.
Anfantais economaidd-gymdeithasol
Yn 2021-22, roedd 11% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2021-22 a dywedodd 2% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod 2021-22.
Er bod cyfraddau marwolaethau cyffredinol fel arfer yn uwch mewn ardaloedd mwy difreintiedig, yn 2021 roedd y gyfradd marwolaethau safonedig yn ôl oedran yn gysylltiedig â COVID-19 a gofrestrwyd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru 74% yn uwch na’r gyfradd yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Mae data newydd ar fforddiadwyedd tai ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf lle mae data ar gael (2017 i 2020) yn dangos bod 19.4% o gartrefi yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai.
Rhywedd
Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2021, dyfarnwyd mwy o raddau A* i C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno. Ehangodd y gwahaniaeth o ran graddau A* yn 2021.
Ym mis Ebrill 2021, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau (amser llawn) yn 5.0%, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol a dyma’r gyfradd isaf i’w chofnodi erioed).
Oedran
Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020, gyda’r cyntaf yn cynnwys unrhyw gyfnod yn ystod y pandemig, yn dangos cynnydd o ran cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur, sydd wedi ei sbarduno gan fwy yn cymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant, er ei bod hi’n rhy gynnar i asesu effaith lawn y pandemig ar y duedd hon.
Mae ein boddhad gyda bywyd yn tueddu i fod yn uwch yn y grwpiau oedran hŷn.
Mae is-adroddiad ar wahân ar lesiant mewn plant a phobl ifanc wedi ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r adroddiad hwn. Mae hyn yn asesu profiadau'r grŵp hwn yn fanylach.
Ethnigrwydd
Disgrifiodd 5.0% o boblogaeth Cymru eu hunain fel pobl o gefndir Du, Asiaidd neu grŵp lleiafrifoedd ethnig arall yn 2018 i 2020. Yr ail grŵp ethnig mwyaf (ar ôl Gwyn) yw Asiaidd, sy’n cynrychioli 2.3% o’r boblogaeth.
Mae plant o rai grwpiau ethnig yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfrannau uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael graddau A* i A ac A* i C yn ystod yr Haf 2021 na disgyblion Gwyn Prydeinig.
Roedd cynnydd o 16% yn nifer y troseddau casineb hiliol a gofnodwyd rhwng 2019-20 a 2020-21, er nad oedd cyfran y troseddau casineb gyda hil fel ffactor sy’n cymell wedi newid.
Crefydd
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf (2018 i 2020) yn dangos, am y tro cyntaf yng Nghymru, fod cyfran y boblogaeth a oedd yn dweud nad oedd ganddynt grefydd (49.9%) yn uwch na’r gyfran sy’n ystyried eu hunain yn Gristion (45.8%). Nodwyd bod 1.7% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Fwslemiaid a 2.4% â chrefydd arall (ar wahân i Gristnogaeth). Mae dros ddwy ran o dair o'r boblogaeth Fwslimaidd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru.
Er bod troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu wedi cynyddu’n gyffredinol yn ystod 2020-21, roedd y nifer y nodwyd eu bod wedi cael eu cymell gan grefydd wedi gostwng chwarter.
Cyfeiriadedd rhywiol
Mae’r amcangyfrifon diweddaraf (2020) yn dangos bod 4.2% o boblogaeth Cymru yn ystyried eu hunain yn hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol).
Roedd 397 o briodasau o’r un rhyw yn 2019, ac mae partneriaethau sifil o’r un rhyw wedi gostwng yn sylweddol i tua 40 y flwyddyn ers 2014.
Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru sydd ar gael (2019-20) yn dangos bod pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig (yn enwedig unigrwydd emosiynol) nag eraill. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi profi gwahaniaethu yn y gwaith
Yn 2020-21, cafodd 884 o droseddau casineb eu cofnodi gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol, i fyny 16% o 763 yn y flwyddyn flaenorol, er na newidiodd cyfran y troseddau casineb gyda chyfeiriadedd rhywiol fel ffactor cymhelliant.
Anabledd
Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl 16 i 64 oed yn dal yn is nag ymysg y rhai nad ydynt yn anabl. Roedd 46.7% o oedolion anabl oed 16 i 64 yn cael eu cyflogi yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021.
Yn 2021-22 roedd ychydig o dan un o bob pump (19%) o bobl â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngus yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol. Mae hyn bron dair gwaith yn uwch nag ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl (7%).
Roedd y bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 11.6% yn 2021, i fyny o 9.9% yn 2018. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 11.6% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl.
Statws priodasol
Mae’n dal yn wir bod pobl sy’n briod yn llai tebygol o fod mewn amddifadedd materol na’r bobl sydd wedi gwahanu neu ysgaru.
Yn 2020, ffurfiwyd 358 o bartneriaethau sifil o ryw gwahanol yng Nghymru. Dyma’r flwyddyn gyntaf y mae partneriaethau sifil rhwng cyplau o ryw gwahanol wedi cael eu hadrodd yn dilyn y newid mewn deddfwriaeth i ymestyn partneriaethau sifil i gyplau o ryw gwahanol o 31 Rhagfyr 2019.
Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?
Ychydig iawn o arwyddion eu bod yn gwella y mae rhai anghydraddoldebau wedi eu dangos yn ystod y pum mlynedd diwethaf, ac mae pandemig COVID-19, ac yn fwy diweddar y cynnydd mewn chwyddiant, yn debygol o fod wedi effeithio mwy ar rai o’r bobl oedd eisoes o dan anfantais.
Mae canran y bobl sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol wedi bod yn gymharol sefydlog yng Nghymru ers dros 15 mlynedd.
Mae’r rhai sydd wedi ysgaru, gwahanu neu erioed wedi priodi yn dal i fod yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol, gyda theuluoedd un rhiant yn fwyaf tebygol o fod mewn amddifadedd materol.
Mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys, gyda thystiolaeth fod hyn yn ehangu ar lefel TGAU. Mae’r bwlch ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y 6 blynedd diwethaf, gyda data (hyd at 2019) yn dangos bod y bwlch yn ehangu yn ystod cyfnodau cynharach yn yr ysgol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.
Mae carreg filltir genedlaethol i ddileu’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, anabledd ac ethnigrwydd erbyn 2050. Ar y cyfan, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi bod yn lleihau, er ei fod wedi aros yn sefydlog yn ystod 2021. Mae’r data diweddaraf hefyd yn dangos bod y bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd wedi lleihau. Ar gyfartaledd, mae gweithwyr o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn ennill tua 1.4% yn llai yr awr na gweithwyr Gwyn Prydeinig, er bod gwahaniaethau mawr ymysg gwahanol leiafrifoedd ethnig. Mae’n ymddangos bod y bwlch cyflog anabledd a gododd rhwng 2014 a 2019 yn lleihau erbyn hyn, er y gallai’r sefyllfa o ran cyflogaeth yn ystod pandemig COVID-19 fod wedi cael effaith ar y duedd hon.
Gostyngodd sgoriau bodlonrwydd mewn bywyd ychydig yn ystod 2020-21 ond yn gyffredinol maent wedi dychwelyd i lefelau cyn y pandemig yn 2021-22 ar gyfer pob grŵp oedran ac eithrio’r rhai rhwng 16 a 24 oed. Mae pobl rhwng 16 a 24 oed nawr yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl 65 oed a hŷn.
Ar wahân i bobl ifanc, mae rhai grwpiau eraill sy’n fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig. Mae’r rhain yn cynnwys pobl ag anabledd hirdymor sy’n cyfyngu arnynt, pobl sy’n lesbiaid, yn hoyw neu’n ddeurywiol a phobl nad ydynt yn Wyn Prydeinig
Mae plant o rai grwpiau ethnig lleiafrifol yn parhau i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’u cymharu ag eraill, gyda chyfrannau uwch o ddisgyblion TGAU Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn cael graddau A* i A ac A* i C yn ystod yr Haf 2021 na disgyblion Gwyn Prydeinig.
Mae hil yn dal i gael ei hystyried yn ffactor sy’n cymell bron i ddwy ran o dair o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd, a gwelwyd cynnydd mewn troseddau casineb hiliol a gofnodwyd yn 2020-21.
Mae tuedd tymor hwy i lai o bobl nodi eu crefydd fel Cristion ac i fwy o bobl ddweud nad oes ganddyn nhw grefydd. Y rhain yw’r categorïau mwyaf o hyd tra bo cyfran y bobl sy’n ystyried eu hunain yn Fwslimiaid wedi aros rhwng 1% a 2%, a’r rhai sy’n perthyn i unrhyw grefydd arall rhwng 2% a 3%.
Mae cyfran y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol) yng Nghymru wedi dyblu ers 2016 (i 4.2%). Ers 2014, pan ddaeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol, mae nifer y priodasau o’r un rhyw wedi cynyddu (i 397 yn 2019) ac mae nifer y partneriaethau sifil o’r un rhyw sy’n cael eu ffurfio wedi gostwng yn sylweddol i tua 40 partneriaeth bob blwyddyn.
Mae troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu lle’r oedd cyfeiriadedd rhywiol yn cael ei ystyried yn ffactor cymhellol wedi parhau i gynyddu ac yn cyfrif am bron i un rhan o bump o’r holl droseddau casineb a gofnodir, er bod ymchwil Stonewall Cymru yn awgrymu nad yw’r heddlu’n cael gwybod am lawer o ddigwyddiadau o’r fath.
Roedd cyfraddau cyflogaeth pobl anabl yn codi ond gostyngodd i gyfradd debyg i Ragfyr 2018 yn ystod y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Mae’r gyfradd cyflogaeth ymysg oedolion anabl (16 i 64 oed) yn dal yn is nag ymysg y rhai nad ydynt yn anabl.
Mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol.
At ei gilydd, mae deilliannau addysgol plant ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi bod yn gwella.
Anfantais economaidd-gymdeithasol
Cyn pandemig COVID-19, roedd cyfraddau tlodi cyffredinol wedi aros yn gymharol sefydlog yng Nghymru am dros 15 mlynedd, a phlant oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Bydd y cynnydd diweddar mewn chwyddiant wedi effeithio’n benodol ar bobl ar incwm isel.
Yr Arolwg o Adnoddau Teulu yw’r brif ffynhonnell ar gyfer amcangyfrifon tlodi swyddogol. Roedd COVID-19 wedi effeithio ar broses casglu data yn 2020-21 ar gyfer yr arolwg hwn. Oherwydd hyn, mewn perthynas â llawer o waith dadansoddi amcangyfrifon tlodi incwm (gan gynnwys i Gymru) nid oes modd gwneud asesiadau ystadegol ystyrlon o dueddiadau a newidiadau. Felly, mae’r ystadegau tlodi ac amddifadedd materol ar gyfer grwpiau â nodweddion gwahanol a gyflwynir yn y bennod hon yn ymwneud â data hyd at 2019-20.
Rhwng 2017-18 a 2019-20, roedd bron i chwarter y boblogaeth (23%) yn byw mewn tlodi incwm cymharol ar ôl talu eu costau tai.
Plant yw’r grŵp poblogaeth sydd fwyaf tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod hyn yn wir am 31% o blant yng Nghymru o’i gymharu â 18% o bensiynwyr.
Yn 2021-22, roedd 11% o oedolion yn cael eu hystyried mewn amddifadedd materol (hynny yw, yn methu fforddio pethau penodol fel cadw’r tŷ’n ddigon cynnes, cynilo’n rheolaidd, neu gael gwyliau unwaith y flwyddyn). Mae hyn yn wir am ganran uwch o fenywod (13%) o’i gymharu â dynion (9%). Fodd bynnag, roedd data’r arolwg hwn yn rhagflaenu’r argyfwng presennol o ran costau byw. Mae aelwydydd un rhiant yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd. Roedd bron i hanner (49%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol yn 2021-22.
Ystyrir bod rhywun mewn tlodi parhaus os yw ef neu hi mewn tlodi incwm cymharol mewn o leiaf tair o bob pedair blynedd yn olynol. Mae data o arolwg Understanding Society yn dangos bod tebygolrwydd o 12% y byddai unigolyn yng Nghymru mewn tlodi parhaus rhwng 2016 a 2020 (ar ôl talu costau tai). Roedd plentyn yng Nghymru ychydig yn fwy tebygol o fod mewn tlodi parhaus, sef 13%.
Ychwanegwyd dangosydd cenedlaethol ar ganran yr aelwydydd sy'n gwario 30% neu fwy o incwm ar gostau tai i'r dangosydd cenedlaethol a osodwyd ym mis Rhagfyr 2021, yn seiliedig ar ddata o'r Arolwg o Adnoddau Teulu. Ar draws pob cyfnod, ar gyfer y blynyddoedd ariannol diweddaraf lle mae data ar gael (2017 i 2020) mae 19.4% o aelwydydd yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai. Mae'r canran hwn wedi bod yn weddol gyson dros y cyfnod rhwng 2011-12 a 2019-20, ond mae'n amrywio yn ôl daliadaeth ar gyfer tai. Tra, yn 2017 i 2020, dim ond 2.7% o aelwydydd sy'n berchen ar eu cartref eu hunain yn llwyr a 15.4% o'r rhai sy'n berchen ar gartref gyda morgais yn gwario 30% neu fwy o'u hincwm ar gostau tai, mae canrannau'n uwch ar gyfer y ddau ddaliadaeth arall; 37.1% ar gyfer cartrefi rhent preifat, 47.2% o'r rheiny mewn tai rhent cymdeithasol. Mae costau defnydd ynni domestig fel nwy a thrydan yn cael eu heithrio o'r costau tai hyn gan nad yw data ar gostau o'r fath yn cael eu casglu yn yr Arolwg o Adnoddau Teulu, ond darperir amcangyfrifon tlodi tanwydd diweddaraf isod.
Yn 2021-22, dywedodd 2% o aelwydydd eu bod wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf oherwydd diffyg arian, gyda 1% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny.
Amcangyfrifwyd bod 196,000 o aelwydydd (14% o aelwydydd) yn byw mewn tlodi tanwydd ym mis Hydref 2021, er y disgwylir i effaith y cynnydd yn y cap ar brisiau ynni domestig ym mis Ebrill 2022 fod wedi cynyddu hyn yn sylweddol er gwaethaf ymyriadau i liniaru’r effaith.
Mae disgwyliad oes iach yn parhau i fod yn waeth i’r rhai sy’n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach rhwng yr ardaloedd mwyaf difreintiedig a lleiaf difreintiedig wedi aros yn eang ond gymharol sefydlog rhwng 2011 i 2013 a 2018 i 2020.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod pobl sy’n byw yn y cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio iechyd o’i gymharu â’r rhai sy’n byw yn y cymunedau lleiaf difreintiedig ar draws yr holl raglenni sgrinio iechyd oedolion yn 2020-21.
Roedd cyfraddau marwolaethau COVID-19 yn parhau i fod yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Yn 2021, roedd y gyfradd farwolaethau wedi ei safoni yn ôl oedran a gofrestrwyd oherwydd COVID-19 74% yn uwch yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Ar TGAU mae bwlch o hyd rhwng deilliannau addysgol plant yn yr ysgol sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rhai nad ydynt yn gymwys. Mae’r bwlch yn y niferoedd sy’n cael graddau A* i A ar lefel TGAU wedi ehangu yn ystod y chwe blynedd diwethaf, gyda’r bwlch yn y niferoedd sy'n cael graddau A* i C yn gymharol sefydlog. Mae data hyd at 2019 yn dangos bod y bwlch yn ehangu yn ystod cyfnodau cynharach yn yr ysgol wrth i ddisgyblion fynd yn hŷn.
Yn 2020/21, ehanghodd y bwlch rhwng disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim sydd wedi cael graddau TGAU A* i A i 21.3 pwynt canran, o 17.8 pwynt canran yn 2019/20. Roedd y bwlch wedi bod yn gymharol sefydlog o’r blaen, sef tua 14.7 pwynt canran rhwng 2015/16 a 2018/19 cyn ehangu yn y 2 flynedd ddiwethaf.
Yn 2020/21 roedd y bwlch rhwng disgyblion nad oeddent yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim a disgyblion a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac a oedd wedi cael graddau A* i C wedi ehangu i 27.3 pwynt canran, gan ddychwelyd i fwlch tebyg o ran maint i'r blynyddoedd cyn y pandemig ar ôl gostyngiad i 24.7 pwynt canran yn 2019/20.
Yn dilyn arholiadau cyhoeddus yn cael eu canslo yn haf 2020 a haf 2021, cafodd yr holl raddau a fyddai wedi'u dyfarnu yn dilyn arholiad eu disodli gyda'r radd asesu canolfannau neu’r radd oedd wedi’u dyfarnu.
Rhywedd
Mae deilliannau addysgol merched yn parhau i fod yn well ar lefel TGAU ac yn fwy tebygol o barhau mewn addysg amser llawn y tu hwnt i 16 oed. Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi aros yr un fath yng Nghymru yn 2021, ac mae cyfraddau cyflogaeth yn dal yn is i fenywod na dynion.
Mae disgwyliad oes yn dal yn hirach i ferched nag i ddynion ond mae cyfran y bywyd a dreulir mewn iechyd da yn uwch i ddynion.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar gyfer rhaglenni sy’n gwahodd pobl o bob rhywedd i gymryd rhan mewn sgrinio iechyd, fel sgrinio canser y coluddyn, roedd gwahaniaeth yn y niferoedd yn 2020-21, gyda dynion yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio na menywod (er bod y bwlch yn fach).
O ran effaith uniongyrchol COVID-19, roedd y gyfradd farwolaethau wedi ei safoni yn ôl oedran y marwolaethau a gofrestrwyd oherwydd COVID-19 50% yn uwch ymysg dynion na menywod yn 2021, a gwelwyd hyd yn oed mwy o wahaniaeth yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Yn 2021-22, roedd llesiant meddyliol (fel sy’n cael ei fesur gan Raddfa Llesiant Meddyliol Warwick Edinburgh ar gyfer oedolion) fymryn yn uwch i ddynion na menywod, gyda dynion yn cael sgôr gymedrig o 49.2 a menywod yn cael sgôr gymedrig o 48.7. Mae cyfraddau hunanladdiad, fodd bynnag, yn dal i fod mwy na tair gwaith yn uwch mewn dynion na menywod. Yn y tymor hir, mae cyfraddau hunanladdiad wedi bod yn amrywio o flwyddyn i flwyddyn ond yn gostwng yn gyffredinol, ond mae’r gostyngiad hwn yn llawer mwy amlwg ymysg menywod na dynion.
Mae merched yn parhau i gael deilliannau addysgol gwell ar lefel TGAU. Yn ystod yr haf 2021, dyfarnwyd mwy o raddau A* i C i ferched na bechgyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf rhwng graddau ar raddfa A* ac A: dyfarnwyd 6.5 a 4.5 pwynt canran yn fwy i ferched na bechgyn, yn y drefn honno.
Mae cyfran uwch o ferched 16-18 oed na bechgyn yn aros mewn addysg amser llawn. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer y rhai rhwng 19 a 24 oed.
O ran y boblogaeth gyfan, mae menywod yn fwy tebygol o feddu ar gymwysterau ar lefel 4 neu uwch, ac mae cyfran uwch o ddynion na menywod heb unrhyw gymhwyster ym mhob grŵp oedran, bron.
Mae cyfraddau cyflogaeth yng Nghymru yn is ar gyfer menywod nag ar gyfer dynion, sef 69.7% ar gyfer menywod a 76.5% ar gyfer dynion yn 2021. Mae cyfraddau anweithgarwch economaidd (ac eithrio myfyrwyr) yn uwch ymysg menywod (24.1%) na dynion yn ystod y cyfnod hwn (15.7). Mae tystiolaeth o’r Deyrnas Unedig gyfan yn dangos y gallai’r cynnydd yn y cyfle i weithio gartref fod wedi annog mwy o fenywod i gymryd rhan yn y farchnad lafur.
Roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ar sail enillion canolrifol amser llawn yr awr (heb gynnwys goramser), yn 5.0% yn 2021, sydd heb newid ers y flwyddyn flaenorol, a’r gyfradd isaf erioed. Fodd bynnag, ar gyfer gweithwyr rhan-amser yng Nghymru, roedd menywod yn cael yr un cyflog â dynion ar gyfartaledd, gostyngiad o 0.8 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol (pan oedd menywod yn cael eu talu mwy na dynion). Ar gyfer yr holl weithwyr, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn dal i fod yn sylweddol uwch, sef 12.3%, yn 2021. Mae hyn yn uwch nag ar gyfer gweithwyr amser llawn a gweithwyr rhan-amser, oherwydd mae menywod yn llenwi mwy o swyddi rhan-amser, sydd, o’u cymharu â swyddi amser llawn, â thâl canolrifol is yr awr. O blith 11 o wledydd a rhanbarthau’r Deyrnas Unedig lle mae dynion yn ennill mwy na menywod (gweithwyr amser llawn), Cymru sydd â’r ail fwlch cyflog lleiaf.
Mae menywod yn llai tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymuned, er bod y data diweddaraf (o 2019-20) yn dangos bod dynion ychydig yn fwy tebygol o ddioddef troseddau treisgar na menywod. Yn ystod 2021-22, dywedodd 51% o fenywod eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymuned o’i gymharu ag 81% o ddynion. Yn ogystal â hyn, mae menywod tua 4 gwaith yn fwy tebygol o deimlo’n anniogel iawn wrth gerdded ar eu pen eu hunain yn eu hardal leol ar ôl iddi dywyllu na dynion (nododd 13% o fenywod hyn o’i gymharu â 3% o ddynion).
Yn 2020-21, roedd 56% o benodiadau cyhoeddus newydd a 46% o ailbenodiadau cyhoeddus a wnaed gan Lywodraeth Cymru i fenywod (lle mae rhywedd y sawl sy'n cael ei benodi yn hysbys), ac roedd y cyntaf o’r rhain yn gynnydd o 12 pwynt canran ers 2019-20. Mae hyn yn cynnwys cadeiryddion ac aelodau sy’n cael eu rheoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.
Oedran
Rydym yn tueddu i fod yn fwy bodlon ar fywyd yn y grwpiau oedran hŷn. Mae tlodi incwm cymharol yn uwch yn y boblogaeth sy’n gweithio nag mewn aelwydydd pensiynwyr.
Mae canlyniadau cychwynnol Cyfrifiad 2021 yn dangos bod y duedd i’r boblogaeth heneiddio wedi parhau, gyda mwy o bobl nag erioed yn y grwpiau oedran hŷn yng Nghymru. Roedd cyfran y boblogaeth a oedd yn 65 oed neu’n hŷn ym mis Mawrth 2021 yn 21.3% (i fyny o 18.4% yn 2011). Mae maint y boblogaeth 90 oed neu hŷn yng Nghymru (29,700, 1.0%) wedi cynyddu ers 2011, pan oedd 25,200 (0.8%) yn 90 oed neu’n hŷn.
Mae llesiant goddrychol yn tueddu i fod yn uwch yn y grwpiau oedran hŷn. Yn 2021-22, mae’r sgôr bodlonrwydd ar fywyd cyfartalog uchaf ar gyfer y grŵp oedran 65 i 74 oed (8.0) ac ar gyfer y grŵp 75 oed a hŷn (7.9), ac mae ar ei isaf yn y grwpiau oedran 16 i 24 oed a 45 i 64 oed (7.6). Er bod boddhad â bywyd ar gyfer pobl oedran 16 i 24 yn is yn 2021-22 o’i gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig (2019-20), mae’r patrwm ar gyfer y grwpiau oedran eraill wedi dychwelyd i'r sgoriau boddhad cyn y pandemig yn dilyn gostyngiad ym mhob grŵp oedran yn ystod 2020-21.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud, er bod llawer o raglenni sgrinio iechyd yn gwahodd pobl o ystodau oedran penodol, roedd pobl mewn grwpiau oedran iau yn y garfan a gafodd wahoddiad yn llai tebygol o fanteisio ar eu cynnig o sgrinio iechyd o’i gymharu â’r rhai mewn grwpiau oedran hŷn yn 2020-21.
Yn y blynyddoedd diwethaf, mae cyfran uwch o’r boblogaeth o oedran gweithio wedi bod mewn tlodi cymharol nag aelwydydd pensiynwyr.
Mae’r gyfradd cyflogaeth ar ei huchaf yn y grŵp oedran 25 i 49 ac mae’r gyfradd cyflogaeth ar gyfer pobl 65 oed a hŷn, a welodd gynnydd yn flaenorol, wedi bod yn weddol sefydlog ers 2019.
Mae’n rhy gynnar i asesu effeithiau hirdymor y pandemig ar bobl ifanc, er bod tystiolaeth gynnar yn dangos bod y canlyniadau economaidd-gymdeithasol wedi effeithio’n anghymesur arnynt. Ceir tystiolaeth yn benodol fod yr amhariad ar addysg wedi effeithio’n benodol ar bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Gan ddibynnu ar effeithiolrwydd y mesurau lliniaru sydd ar waith, gallai’r effeithiau niweidiol ddylanwadu ar y farchnad lafur dros y blynyddoedd neu hyd yn oed y degawdau nesaf.
Cafodd carreg filltir genedlaethol newydd ar gyfranogiad mewn addysg a’r farchnad lafur gan bobl ifanc rhwng 16 i 24 oed ei gosod yn 2021. Mae amcangyfrifon dros dro ar gyfer 2020 yn dangos cynnydd yn nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn addysg a’r farchnad lafur, sy’n cael ei sbarduno gan fwy o gyfranogiad mewn addysg neu hyfforddiant. Mae’n rhy fuan, fodd bynnag, i asesu effaith tymor hwy y pandemig ar y duedd hon
Mae grwpiau oedran iau mewn mwy o berygl o ddioddef troseddau (gan gynnwys troseddau treisgar), gyda’r grŵp oedran 16 i 24 oed yn profi’r cyfraddau uchaf yn y rhan fwyaf o gategorïau troseddau a’r bobl dros 75 oed yn profi’r cyfraddau troseddu isaf yng Nghymru yn ystod y 12 mis hyd at fis Mawrth 2020.
Yn 2020/21, roedd 71% o benodiadau cyhoeddus newydd ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion 55 oed neu hŷn (lle mae oedran y sawl sy'n cael ei benodi yn hysbys). Mae hwn yn gynnydd sylweddol o 56% yn 2019-20. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.
Mae pobl hŷn (65 oed a hŷn) yn fwy tebygol o fod ag ymdeimlad cryf o gymuned o’i gymharu â grwpiau oedran iau, ac mae 91% o’r rhai sy’n 65 oed a hŷn yn fodlon ar eu hardal leol fel lle i fyw.
Ethnigrwydd
Mae plant o rai grwpiau ethnig (er enghraifft, Asiaidd a phlant â chefndir ethnig cymysg) yn tueddu i gyflawni’n well ar gyfartaledd yn yr ysgol o’i gymharu ag eraill. Fodd bynnag, mae cyfraddau cyflogaeth a chyflog cyfartalog yn dal yn is ar gyfer grwpiau o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ac mae pobl yn y grwpiau hyn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi incwm cymharol.
Roedd 95.0% o’r boblogaeth yn disgrifio eu grŵp ethnig fel Gwyn yn 2018 i 2020, gan amrywio yn ôl rhanbarth o 97.5% o’r boblogaeth yng ngogledd Cymru i 93.2% yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae 5.0% o boblogaeth Cymru’n disgrifio eu hunain fel pobl Ddu, Asiaidd neu o grŵp Lleiafrifoedd Ethnig. Yr ail grŵp ethnig mwyaf (ar ôl Gwyn) yw Asiaidd yn 2018 i 2020, sy’n cynrychioli 2.3% o’r boblogaeth.
Yn etholiadau Senedd Cymru 2021, etholwyd tri aelod o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig (5% o’r holl aelodau a etholwyd).
Dengys canlyniadau TGAU ar gyfer 2020/21 fod 35.6% o ddisgyblion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi cael graddau A* i A o’i gymharu â 28.9% o ddisgyblion Gwyn. Mae’r bwlch hwn wedi bod yn ehangu ers 2015/16 (4.5 pwynt canran yn 2015/16 i 6.7 pwynt canran yn 2020/21). Mae’r bwlch ar gyfer disgyblion sy'n cael graddau A* i C hefyd wedi ehangu (o 0.9 pwynt canran yn 2015/16 i 3.3 pwynt canran yn 2020/21).
Ar lefel A, symudodd y dosbarthiad graddau i fyny eto yn 2020/21, ond nid oedd hyn yn wir ar gyfer pob grŵp ethnig eang. Gostyngodd y gyfran yn sylweddol ar gyfer dysgwyr A2 (ail flwyddyn lefel A) o gefndiroedd Du, Affricanaidd, Caribïaidd, Du Prydeinig a gafodd o leiaf 3 C, a oedd wedi dadwneud llawer o’r cynnydd a welwyd mewn graddau yn 2019/20. Yn 2020/21, dim ond 54% o’r dysgwyr o’r cefndiroedd hyn a gafodd o leiaf dri C o’i gymharu â 72% yn 2019/20. Dyma’r grŵp â’r ganran isaf o A* i C ar A2 yn 2020/21; gwelwyd y ganran uchaf o A* i C ymysg y grwpiau Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig (74%) a Gwyn (73%).
Adroddodd y Cyfrifiad o’r Gweithlu Ysgolion fod cyfran yr athrawon ysgol o grŵp Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig Gwyn) yn 1.1% ym mis Tachwedd 2021, sy’n sylweddol is na’r 9.1% o ddisgyblion 5 oed neu hŷn yng Nghymru sydd o grŵp Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (ac eithrio lleiafrifoedd ethnig Gwyn) yng Nghyfrifiad Ysgolion Chwefror 2022.
Nodwyd bod 9% o’r disgyblion o Gymru a gofrestrodd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru yn 2020/21 o grŵp lleiafrifoedd ethnig.
Rhwng mis Awst 2017 a mis Gorffennaf 2021, roedd myfyrwyr blwyddyn 11 o gefndiroedd Sipsiwn, Teithwyr neu Deithwyr Gwyddelig yn llai tebygol o barhau i addysg ôl-16 na grwpiau ethnig eraill. Ar gyfer y rhan fwyaf o grwpiau lleiafrifoedd ethnig eraill, roedd y cyfranogiad mewn dysgu ôl-16 yn agos at gyfartaledd Cymru, neu’n uwch na hynny.
Mae dysgu seiliedig ar waith yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd na meysydd eraill o addysg ôl-16. Yn gyffredinol, roedd dysgwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd neu lleiafrifoedd ethnig eraill yn llai tebygol o fod mewn cyflogaeth barhaus ar ôl gadael addysg ôl-16.
Mae’r cyfraddau cyflogaeth (y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021) ymysg poblogaeth Cymru rhwng 16 a 64 oed ar eu huchaf ymysg unigolion o gefndir ethnig Gwyn a’r rhai yn y categori ‘grŵp ethnigrwydd arall’ (y ddau yn 73%), gyda’r cyfraddau cyflogaeth ar eu hisaf ymysg unigolion ag ethnigrwydd Du (57%). Y cyfraddau cyfatebol ymysg unigolion o gefndir Asiaidd a phobl â chefndir ethnig cymysg oedd 65% a 64% yn y drefn honno.
Mae cyfraddau cyflogaeth ar gyfer grwpiau ethnig yn wahanol ar gyfer dynion a menywod, gyda’r bwlch mwyaf mewn cyfraddau cyflogaeth i’w weld yn y grŵp ethnig Asiaidd (dynion 79% o’i gymharu â menywod 54%).
Roedd y bwlch cyflog rhwng gweithwyr Gwyn a gweithwyr o gefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn 2019 wedi gostwng i’w lefel isaf ers 2012 yng Nghymru a Lloegr. Mae bwlch cyflog ar sail ethnigrwydd yn amrywio ar draws rhanbarthau ac, yn 2019, roedd y blwch cyflog mwyaf yn Llundain (23.8%) a’r lleiaf yng Nghymru (1.4%), er bod rhywfaint o anghysondeb yn y bwlch yng Nghymru. Mae tystiolaeth o bob rhan o Gymru a Lloegr yn dangos bod y rhan fwyaf o’r grwpiau lleiafrifoedd ethnig a ddadansoddwyd yn parhau i ennill llai na gweithwyr Gwyn Prydeinig ond, yn 2019, roedd y rhai yn y grwpiau ethnig Tsieineaidd, Gwyn Gwyddelig, Gwyn ac Asiaidd i gyd yn ennill cyflog cyfartalog uwch yr awr na gweithwyr Gwyn Prydeinig.
Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn fwy tebygol o ddioddef tlodi incwm cymharol. Ar gyfer y cyfnod rhwng 2015-16 a 2019-20 roedd 29% o debygolrwydd y byddai pobl o aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp lleiafrifoedd ethnig yn byw mewn tlodi incwm cymharol. Mae hyn yn cymharu â thebygolrwydd o 24% ar gyfer aelwydydd lle mae’r penteulu yn dod o grŵp ethnig Gwyn.
Yn 2020-21, roedd llai na 5% o benodiadau cyhoeddus ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion o gefndiroedd Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig (lle mae ethnigrwydd y sawl sy'n cael ei benodi yn hysbys), o’i gymharu â 9% yn 2019-20. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.
Nid oes llawer o wahaniaeth sylweddol yn y ffordd mae gwahanol leiafrifoedd ethnig yn teimlo am eu hardal leol, ymdeimlad o gymuned, a’r tebygolrwydd o ddweud bod pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch. Fodd bynnag, mae pobl nad ydynt yn Wyn Prydeinig yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig (25% o’i gymharu â 12% o’r rhai sy’n Wyn Prydeinig yn 2021-22).
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ym mis Mawrth 2021 yn dangos bod pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael eu gorgynrychioli ym mhob cam o’r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru, er enghraifft, fel dioddefwyr troseddau, wrth stopio a chwilio, ac ym mhoblogaeth y carchardai.
Roedd hil yn ffactor cymhellol mewn dwy ran o dair o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, cyfran debyg i'r un yn 2019-20. Fodd bynnag, cynyddodd nifer y troseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu 16% yn 2020-21 o’i gymharu â 2019-20.
Sylwch fod data o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr ar gyfer 2018-2020 yn awgrymu mai dim ond tua hanner yr holl achosion o droseddau casineb sy’n dod i sylw’r heddlu yng Nghymru a Lloegr.
Crefydd
Am y tro cyntaf yng Nghymru (2018 i 2020), roedd cyfran y boblogaeth a oedd yn dweud nad oedd ganddynt grefydd (49.9%) yn uwch na’r gyfran sy'n ystyried eu hunain yn Gristion (45.8%), er bod y ffigurau hyn yn amrywio yn ôl rhanbarth gyda gogledd Cymru yn parhau i fod â chanran uwch o’r boblogaeth yn dweud eu bod yn Gristion na’r rhai sy'n dweud nad oes ganddynt grefydd.
Nodwyd bod 1.7% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn Fwslemiaid a 2.4% yn ystyried bod ganddynt grefydd arall (ar wahân i Gristnogaeth).
O’r boblogaeth Fwslimaidd yng Nghymru, roedd cyfran fawr (71.8%) yn byw yn ne-ddwyrain Cymru.
Roedd cyfran uwch o fenywod na dynion wedi nodi bod ganddynt grefydd (54.6% o’i gymharu â 45.5%) ac roedd cyfran y bobl a nodwyd bod ganddynt grefydd yn cynyddu yn gyffredinol yn ôl grŵp oedran. Mae gan y boblogaeth Fwslimaidd broffil oedran iau na’r rhan fwyaf o grefyddau eraill yng Nghymru.
Mae’r rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristnogion yn tueddu i adrodd ymdeimlad cryfach o gymuned, yn enwedig o ran teimlo eu bod yn perthyn i ardal a theimlo bod pobl yn yr ardal yn trin ei gilydd â pharch. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn fodlon ar eu hardal leol. Gallai proffiliau oedran gwahanol effeithio ar y canlyniadau hyn, gyda’r rhai sy’n nodi eu bod yn Gristion yn tueddu i gael proffil oedran hŷn.
Roedd crefydd yn ffactor cymhellol mewn 3% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, i lawr o 5% yn 2019-20. Cafodd cyfanswm o 150 o droseddau casineb crefyddol eu cofnodi gan yr heddlu yng Nghymru yn 2020-21, 49 yn llai na 2019-20.
Roedd cyfraddau cyflogaeth y rhai sy’n ystyried eu hunain yn Gristion neu heb grefydd yn debyg yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2021. Ymysg Mwslimiaid, roedd y gyfradd cyflogaeth ar gyfer menywod (38%) tua hanner y gyfradd ar gyfer dynion (78%).
Cyfeiriadedd rhywiol
Mae’r niferoedd sy’n ystyried eu hunain yn lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol, neu sydd wedi dewis peidio â nodi eu bod yn heterorywiol yn cynyddu, gyda phriodasau o’r un rhyw yn llawer mwy cyffredin nawr na phartneriaethau sifil o’r un rhyw.
Yn 2020, nododd 94.3% o boblogaeth Cymru eu bod yn heterorywiol, gyda 4.2% yn nodi eu bod yn hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall. Mae cyfran y bobl sy’n nodi eu bod nhw’n hoyw neu’n lesbiaidd, yn ddeurywiol neu’n rhywioldeb arall (heblaw am heterorywiol) yng Nghymru wedi dyblu ers 2016.
Ers 2014, pan ddaeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol, mae nifer y priodasau o’r un rhyw wedi cynyddu (i 397 yn 2019) ac mae nifer y partneriaethau sifil yr un rhyw sy’n cael eu ffurfio wedi gostwng yn sylweddol (40 partneriaeth yn 2020). Roedd dwy ran o dair o briodasau o’r un rhyw yn 2019 rhwng cyplau benywaidd. Bob blwyddyn ers cyflwyno priodasau o’r un rhyw yn 2014 gwelwyd mwy o briodasau o’r un rhyw rhwng menywod na dynion.
Yn 2019-20, roedd cyfran is o oedolion a nododd eu bod yn heterorywiol mewn amddifadedd materol (12%) o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn heterorywiol (22%).
Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru sydd ar gael (2019-20) yn dangos bod pobl lesbiaidd, hoyw neu ddeurywiol tua dwywaith yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig (yn enwedig unigrwydd emosiynol) nag eraill. Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi profi gwahaniaethu yn y gwaith.
Roedd cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor cymhellol mewn 884 o droseddau casineb a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru yn 2020-21, i fyny 16% o 763 yn 2019-20. Mae hyn yn cynrychioli 19% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd, yr un gyfran â’r flwyddyn flaenorol.
Mae ymchwil Stonewall Cymru yn y gymuned LGBT yn 2017 yn dangos bod bron i un o bob pedwar o bobl LGBT (23%) yn dweud eu bod wedi profi trosedd neu ddigwyddiad casineb oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol a/neu hunaniaeth o ran rhywedd yn ystod y 12 mis diwethaf ac nad oedd llawer ohonynt wedi rhoi gwybod i’r heddlu am y digwyddiad. Ceir tystiolaeth hefyd o Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr (2017-18 i 2019-20) mai dim ond tua hanner yr holl achosion o droseddau casineb sy’n dod i sylw’r heddlu.
Hunaniaeth Rhywedd
Caiff y data cyntaf o Gyfrifiad 2021 ar hunaniaeth rhywedd ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022. O ganlyniad, bydd adroddiad Llesiant Cymru y flwyddyn nesaf yn darparu dadansoddiad mwy cynhwysfawr o'r pwnc hwn.
Mae’r arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn casglu data ar lesiant meddyliol ar gyfer pobl ifanc 11 i 16 oed, fel y’u mesurwyd ar Raddfa Llesiant Meddyliol Byr Warwick-Caeredin. Roedd y dadansoddiadau yn ôl rhywedd a grŵp blwyddyn yn dangos bod y rhai nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fachgen nac yn ferch yn dweud bod eu llesiant meddyliol yn isel, a bod merched yn adrodd ar les is na bechgyn.
Roedd hunaniaeth drawsryweddol yn ffactor cymhellol mewn 173 o droseddau casineb yng Nghymru dros y cyfnod hwn, sy'n cyfateb i 4% o’r holl droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 31% (41 yn fwy o droseddau a gofnodwyd) o’i gymharu â 2019-20.
Anabledd
Er bod y cyfraddau cyflogaeth ar gyfer pobl anabl wedi bod yn cynyddu dros amser, mae bwlch cyflog anabledd yn parhau ac mae aelwydydd sy’n cynnwys rhywun anabl yn dal yn fwy tebygol o gael trafferthion ariannol
Rhwng 2018 a 2020 roedd ychydig dros un rhan o bump o’r boblogaeth oedran gweithio (rhwng 16 a 64 oed, 22.1%) yn dweud eu bod yn anabl. Mae’r gyfran hon wedi bod yn cynyddu’n raddol ers 2013 i 2015 (14.0%) ac mae’n amrywio yn ôl oedran (o 15.4% yn y grŵp oedran 16 i 24 i 28.3% yn y grŵp oedran 45 i 64). Mae cyfran uwch o fenywod na dynion yn y grŵp oedran hwn yn dweud eu bod yn anabl (24.6% o’i gymharu â 19.6%).
Mae’r gyfran isaf o bobl sy’n ystyried eu bod yn anabl (20.1%) yn y grwpiau oedran hyn yng ngogledd Cymru; mae cyfrannau tebyg (22.6% a 23.0% yn y drefn honno) yn ne-ddwyrain Cymru a chanolbarth a de-orllewin Cymru.
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22) yn dangos bod bodlonrwydd ar fywyd yn gyffredinol is ar gyfer pobl 16+ oed â salwch neu anabledd hirdymor cyfyngol (roedd eu sgôr cymedrig yn 7.0) nag ar gyfer pobl heb salwch neu anabledd (8.0).
Mae data Arolwg Cenedlaethol Cymru (2021-22) hefyd yn dangos bod oedolion anabl neu unigolion sydd â salwch hirdymor sy’n cyfyngu arnynt yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n unig y rhan fwyaf o’r amser (22%) o’i gymharu â’r rhai sydd heb salwch neu anableddau o’r fath (8%). Maent hefyd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt yn teimlo’n ddiogel yn yr ardal leol ar ôl iddi dywyllu ac yn llai tebygol o deimlo ymdeimlad cryf o gymuned.
Mae deilliannau addysgol disgyblion ag anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol wedi gwella yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2020/21, dyfarnwyd gradd A* i G i 96% o ddisgyblion ym mlwyddyn 11 ag anghenion addysgol arbennig yn eu harholiadau TGAU, i lawr o 98% yn 2019/20.
O’r boblogaeth oed gweithio, mae pobl anabl (15%) yn fwy tebygol o fod heb unrhyw gymwysterau na phobl nad ydynt yn anabl (6%) ac maent yn llai tebygol o fod â chymwysterau uwch na lefel 2.
Yn y cyfnod diweddaraf (2017-18 i 2019-20), roedd 38% o’r plant a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 26% mewn cartrefi lle nad oedd neb yn anabl. Yn yr un modd, roedd 31% o oedolion o oedran gweithio a oedd yn byw mewn aelwyd lle’r oedd rhywun yn anabl mewn tlodi incwm cymharol o’i gymharu â 18% o’r rhai a oedd yn byw mewn aelwyd lle nad oedd neb yn anabl.
Yn 2021-22, roedd pobl anabl neu phobl â salwch hirdymor cyfyngol bron i dair gwaith yn fwy tebygol o fyw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o’i gymharu â’r rhai nad oeddent yn anabl. Roedd tua un o bob pum person anabl (19%) neu phobl â salwch hirdymor cyfyngol yn byw mewn aelwyd mewn amddifadedd materol o’i gymharu â 7% o’r bobl nad oeddent yn anabl.
Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2021, y gyfradd cyflogaeth ymysg pobl anabl rhwng 16 a 64 oed yng Nghymru oedd 46.7%, a'r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl oedd 79.6%. Mae’r bwlch cyflogaeth i bobl anabl ar gyfer 2021, o 32.9 pwynt canran, wedi lleihau o’i gymharu â phum mlynedd yn ôl pan oedd yn 35.5 pwynt canran.
Roedd y bwlch cyflog ar sail anabledd yng Nghymru yn 11.6% yn 2021. Mae hyn yn golygu bod pobl anabl yng Nghymru yn ennill 11.6% yn llai yr awr ar gyfartaledd na phobl nad ydynt yn anabl. Er bod hyn yn is na’r uchafbwynt o 15.1% yn 2019, mae’n dal yn uwch nag yr oedd rhwng 2016 a 2018. Y bwlch cyflog yng Nghymru oedd y lleiaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig. Y bwlch cyflog ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan oedd 13.8%.
Yn 2020-21, roedd llai na 5% o benodiadau cyhoeddus ac ailbenodiadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru i unigolion a oedd wedi datgan anabledd. Oherwydd y pandemig, cafodd llawer o gystadlaethau eu hatal ac felly mae angen bod yn wyliadwrus wrth edrych ar unrhyw gasgliadau sy'n cael eu llunio o ddata eleni.
Roedd anabledd yn ffactor cymhellol mewn 11% o droseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru yn 2020-21, yr un gyfran ag yn 2019-20. Roedd Arolwg Troseddu Cymru a Lloegr wedi darganfod yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 fod 17.5% o'r bobl anabl rhwng 16 a 59 oed yng Nghymru wedi profi cam-drin domestig, o'u cymharu â 6% o bobl nad oeddent yn anabl.
Statws priodasol
Mae bod yn briod yn gysylltiedig â bodlonrwydd uwch ar fywyd a thebygolrwydd is o fod mewn amddifadedd materol. Mae aelwydydd un rhiant yn dal i wynebu heriau, ac maent yn fwy tebygol o fod mewn amddifadedd materol na mathau eraill o aelwydydd.
Ffurfiwyd 11,699 o briodasau yng Nghymru yn 2019, i lawr o 2018 (12,840), gyda’r rhan fwyaf o briodasau’n cynnwys cyplau o ryw gwahanol (96.6%). Yn 2019, roedd 397 o briodasau rhwng cyplau o’r un rhyw yng Nghymru; gyda 67% (265) o’r rhain rhwng cyplau benywaidd. Nid oes ffigurau ar gael eto i adlewyrchu effaith pandemig COVID-19 ar nifer y priodasau a gynhaliwyd yn 2020 a 2021.
Yn 2020, ffurfiwyd 358 o bartneriaethau sifil o ryw gwahanol yng Nghymru. Dyma’r flwyddyn gyntaf y mae partneriaethau sifil rhwng cyplau o ryw gwahanol wedi cael eu hadrodd yn dilyn y newid mewn deddfwriaeth i ymestyn partneriaethau sifil i gyplau o ryw gwahanol o 31 Rhagfyr 2019.
Yn 2020, cafodd 40 o bartneriaethau sifil o’r un rhyw eu ffurfio yng Nghymru. Mae’n ostyngiad mawr o’r 265 o bartneriaethau sifil o’r un rhyw a nodwyd yn 2013. Mae hyn yn adlewyrchu’r ffaith, ar ôl cyflwyno Deddf Priodas (Cyplau o’r un Rhyw) 2013, y daeth priodasau o’r un rhyw yn gyfreithiol o 29 Mawrth 2014.
Yn 2021-22, roedd 18% o’r oedolion a oedd wedi cael ysgariad a 24% o’r rhai a oedd wedi gwahanu (ond yn dal yn briod yn gyfreithiol) mewn amddifadedd materol o’i gymharu ag 7% o’r rhai a oedd wedi priodi ac 7% o’r rhai a oedd yn weddw. Roedd bron i hanner (49%%) y rhieni sengl mewn amddifadedd materol.
Roedd canlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2021-22 yn cadarnhau bod cyfran uwch o’r boblogaeth briod yn dweud eu bod yn fodlon iawn â bywyd, gan deimlo bod y pethau maen nhw’n eu gwneud yn werth chweil ac roeddent yn hapus iawn o’u cymharu â’r oedolion sydd erioed wedi priodi, wedi gwahanu, wedi ysgaru, neu’n weddw. Yn gyffredinol, roedd y boddhad â bywyd a nodwyd yng nghanol pandemig COVID-19 (yn 2020-21) yn is nag yn 2019-20 ond mae wedi dychwelyd i’r lefelau cyn y pandemig yn 2021-22.
Yn 2021-22, y rhai a oedd yn briod oedd y lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn unig (8%), a’r rhai a oedd wedi gwahanu ond yn briod yn gyfreithiol oedd y mwyaf tebygol (23%). Roedd pobl a oedd yn sengl (hynny yw, heb fod erioed wedi priodi neu wedi cofrestru mewn partneriaeth sifil), wedi ysgaru, neu’n weddw hefyd yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn unig na phobl a oedd yn briod (16%, 19% a 16% yn y drefn honno). Aelwydydd un rhiant ac aelwydydd un pensiynwr oedd yr aelwydydd lleiaf tebygol o ddweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau ar ôl iddi dywyllu yn 2021-22.
Mae perthynas yn chwalu yn gallu arwain at ganlyniadau mewn perthynas â thai, gyda data a gasglwyd cyn y pandemig (2018-19) yn dangos bod perthynas yn chwalu yn un o’r prif achosion a nodwyd ar gyfer aelwydydd sydd mewn perygl o fod yn ddigartref. O’r rhai sy’n cael eu hystyried yn ddigartref ac mewn angen blaenoriaethol, mae ychydig dros eu hanner yn aelwyd un unigolyn ac mae traean yn rhieni sengl gyda phlant dibynnol.
O’r rhai rhwng 16 a 64 oed, y bobl a oedd yn briod neu mewn partneriaeth sifil oedd â’r cyfraddau cyflogaeth uchaf (80%) yn 2020-21 o’i gymharu â’r rhai a oedd wedi gwahanu neu ysgaru (72%), yn sengl (65%) neu’n weddw (52%). Yn gyffredinol, mae cyfraddau cyflogaeth yn is i fenywod nag i ddynion ac mae hyn yn arbennig o wir i fenywod sy’n briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae’r gyfradd cyflogaeth yn 2020-21 ar gyfer dynion priod yn 86% o’i chymharu â 75% ar gyfer menywod priod.
Darllen pellach
A yw Cymru’n decach? (2018) (Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol)
Iechyd a Lles Myfyrwyr yng Nghymru: Adroddiad ar Arolwg Ymddygiad Iechyd mewn Plant Oedran Ysgol 2017/18 ac Arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Iechyd Ysgolion, Hewitt G, et al (2019).
Canolfan Cydraddoldeb a Chynhwysiant (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Pam mae’r rhai sy’n cael prydau ysgol am ddim yn ennill llai na’u cyfoedion (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol) – dadansoddiad ar gyfer Lloegr yn unig
Pa gamau mae pobl yn eu cymryd oherwydd y costau byw cynyddol? Mawrth i Fehefin 2022 (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Dangosydd Data Arolwg Cenedlaethol LGBT 2017 ( Swyddfa Cydraddoldebau’r Llywodraeth): canlyniad arolwg y DU yn 2017 ond mae data ar gael ar gyfer Cymru. Mae’r themâu’n cynnwys addysg, iechyd, bywyd yn y DU, diogelwch a’r gweithle.
Adroddiad Ysgol Cymru (2017) (Stonewall cymru)
LGBT yng Nghymru – Trosedd casineb a Gwahaniaethu (Stonewall Cymru)
LGBT yng Nghymru – Adroddiad Gwaith (Stonewall Cymru)
Allan ar y stryd: Digartrefedd Pobl Ifanc LGBTQ+ yng Nghymru (Llamau)
Ffynonellau data
Ystadegau cydraddoldeb ac amrywiaeth (poblogaethau)
Arolwg Cenedlaethol Cymru, ar foddhad â bywyd, ymdeimlad o gymuned, ymdeimlad o ddiogelwch, amddifadedd materol, defnyddio banciau bwyd, lles meddyliol.
Amcangyfrifon poblogaeth ac aelwydydd Cymru (Cyfrifiad 2021)
Adroddiad Anghydraddoldebau’r Is-adran Sgrinio 2020-21 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Iechyd a lles
Adroddiad Annhegwch Adran Sgrinio 2020-21 (Iechyd Cyhoeddus Cymru)
Tlodi
Arolwg Cenedlaethol Cymru (amddifadedd materol) (StatsCymru)
Marwolaethau
Disgwyliad oes y wladwriaeth iechyd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Marwolaethau oherwydd COVID-19, wedi eu cofrestru yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Hunanladdiadau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Addysg
Cyfranogiad pobl ifanc mewn addysg a’r farchnad lafur
Canlyniadau cyfrifiad ysgolion
Ystadegau dysgu ôl-16 yn ôl grŵp ethnig y dysgwyr
Deilliannau dysgwyr mewn addysg ôl-16 a effeithiwyd gan bandemig y coronafeirws (COVID-19)
Dadansoddiad Llywodraeth Cymru o ddata’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch
Lefel y cymhwyster uchaf a ddelir gan oedolion o oed gweithio
Y farchnad lafur
Ystadegau’r Farchnad Lafur (Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth)
Cymryd rhan yn y Farchnad Lafur (StatsCymru)
Bylchau cyflog
Bwlch Cyflog Rhwng y Rhywiau (Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion, StatsCymru)
Bwlch cyflog ethnigrwydd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Bwlch cyflog anabledd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Penodiadau cyhoeddus
Adroddiadau blynyddol y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus
Anabledd
Canlyniadau ar gyfer pobl anabl yn y Deyrnas Unedig (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Priodasau a phartneriaethau sifil
Priodasau yng Nghymru a Lloegr (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Troseddau a chyfiawnder
Troseddau Casineb, Cymru a Lloegr (Swyddfa Gartref)
Cyfraddau riportio Troseddau Casineb (Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr)
Tablau data agored troseddau a chanlyniadau a gofnodwyd gan yr heddlu (Y Swyddfa Gartref)
Nifer y Troseddau (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol)
Gwella Cydraddoldeb Hiliol mewn Polisi Troseddu a Chyfiawnder (Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru)
Etholiadau’r Senedd 2021
Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd (Ymchwil y Senedd)