Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor ar sut i gyflogi pobl sy’n dod o Wcráin.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflogi pobl sydd wedi'u dadleoli o Wcráin yn dilyn yr ymosodiad gan Rwsia. Mae mynediad at gyflogaeth yn bwysig i bobl o Wcráin wrth iddynt adeiladu bywydau newydd yng Nghymru. Mae cyflogi pobl o Wcráin hefyd yn rhoi mynediad i gyflogwyr yng Nghymru at dalent, sgiliau, a phrofiad i helpu eu sefydliadau.

Statws cyfreithiol

Caiff pobl sy'n cyrraedd o Wcráin o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin a Chynllun Teuluoedd o Wcráin weithio a chael budd-daliadau yn y DU am oes eu fisa. Fe allai pobl eraill o Wcráin sydd yng Nghymru fod â statws cyfreithiol gwahanol. Gweler gwybodaeth am edrych ar fanylion hawl ymgeisydd i weithio

Gweler hefyd yr wybodaeth ynghylch dysgu sut i weld a phrofi eich statws mewnfudo (Saesneg yn unig) a sut i brofi eich hawl i weithio i gyflogwr.

Sut i gyflogi pobl o Wcráin

Os ydych yn dymuno recriwtio pobl o Wcráin, cofrestrwch eich diddordeb gyda Llywodraeth Cymru. Cewch hefyd gofrestru eich diddordeb â Llywodraeth y DU.

Os dymunwch gefnogi pobl o Wcráin sy’n chwilio am waith, gall cynllun gwasanaeth Cymru'n gweithio  ddarparu cyngor arbenigol ar yrfaoedd a chefnogaeth i gyflogaeth, y cwbl wedi’i deilwra i’r unigolyn. Mae’r gwasanaeth am ddim i bawb dros 16 oed sy’n byw yng Nghymru. Mae Cymru’n Gweithio yn cynnig:

  • gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd
  • help i ddod o hyd i gyfleoedd gwaith
  • cymorth gyda CV ac ymgeisio am swyddi
  • paratoi ar gyfer cyfweliad am swyddi
  • cymorth i wneud cais am gyllid
  • cyngor a hyfforddiant ar newid gyrfa
  • cymorth i uwchsgilio a chael gafael ar hyfforddiant
  • atgyfeiriadau at wasanaethau cyflogadwyedd eraill

Gall Cymru'n Gweithio hefyd helpu pobl sy'n chwilio am noddfa drwy ddarparu mynediad at y canlynol:

  • llinell iaith ar gyfer cyfieithu yn ystod apwyntiadau
  • cynghorwyr sy'n arbenigo mewn cymorth i ffoaduriaid a rhai sy'n chwilio am noddfa
  • trosglwyddo cymwysterau tramor i rai cydnabyddedig cyfatebol y DU i'r rhai sy'n ymgeisio am waith neu hyfforddiant

Cydnabod cymwysterau

Gall Cymru'n Gweithio helpu cwsmeriaid i gael mynediad i'r gwasanaeth ENIC i gael cydnabyddiaeth o’u cymwysterau blaenorol. Gall Cymru’n Gweithio ddarparu datganiadau ENIC y DU am ddim i gwsmeriaid o dan yr amgylchiadau isod:

  • mae ganddynt gymwysterau tramor sydd angen eu mapio i rai cyfatebol y DU
  • mae’r cymhwyster yn rhwystr rhag cael gwaith ac mae’n rhan o gynllun gyrfa

Dalier sylw:

  • nim ond ar gyfer y cymwysterau mwyaf diweddar neu fwyaf perthnasol y mae Cymru’n Gweithio’n defnyddio datganiadau ENIC, gan ei bod yn rhy ddrud i wneud hyn ar gyfer pob cymhwyster y gall unigolyn ei ddal
  • nid yw pob cymhwyster yn cael eu cynnwys gan ENIC y DU

Yn ogystal, lle mae unigolyn yn gymwys ar gyfer rhaglen React+, os ystyrir y ffioedd ENIC yn rhwystr i gyflogaeth gellir ariannu'r costau trwy Gymorth Datblygu Personol React+.

Gall rhaglenni cyflogadwyedd Awdurdod Lleol (Cymunedau am Waith, Cymunedau am Waith a Mwy a Rhieni, Gofal Plant a Chyflogaeth) ystyried, pan fo’'r unigolyn yn gymwys ar gyfer ein rhaglenni cyflogadwyedd cymunedol, rhoi cymorth i ariannu'r ffi ENIC os ystyrir hyn yn rhwystr i gyflogaeth.

Canolfannau Croeso a llety cychwynnol dros dro

O dan Gynllun Uwch-noddwr Cartrefi i Wcráin, caiff pobl o Wcráin weithio yn ystod eu harhosiad mewn Canolfan Groeso neu mewn llety cychwynnol dros dro. Ni chaniateir codi tâl ar unigolion am eu harhosiad yn y llety hwn.

Gall y Ganolfan Groeso neu ddarparwr llety gynnig cyflogaeth i breswylwyr. Fodd bynnag, ni ddylai cynigion cyflogaeth fod yn gysylltiedig â pharhau yn eu llety na’i gynnal a chadw.

Ni ddylech recriwtio pobl yn uniongyrchol o Ganolfannau Croeso a llety cychwynnol dros dro heb wybodaeth a chydsyniad yr Awdurdod Lleol priodol. Os bydd pobl o Wcráin yn gadael Canolfan Groeso i lety a ddarperir gan gyflogwr, dylai gwiriadau diogelu priodol ddigwydd er mwyn sicrhau bod y llety sy'n cael ei ddarparu yn addas.

Noddwyr Cartrefi i Wcráin

Os ydych chi'n ddarparwr llety sy'n byw yng Nghymru ac yn noddi person neu deulu o Wcráin o dan Gynllun Cartrefi i Wcráin, gallwch gynnig cyfleoedd cyflogaeth i'r bobl rydych chi'n eu noddi. Fodd bynnag, ni ddylai fod yn ofynnol iddynt dderbyn swydd na pharhau ynddi er mwyn cadw’u llety.

Hawliau cyflogaeth a cham-drin gweithwyr

Os ydych yn cyflogi pobl o Wcráin, rhaid i chi gyflawni eich cyfrifoldebau cyfreithiol fel cyflogwr. Gweler gwybodaeth am hawliau cyflogaeth. Mae cyngor am eich cyfrifoldebau fel cyflogwr ar gael gan Acas. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru  wedi llunio Cod Ymarfer ar Gyflogaeth Foesegol mewn Cadwyni Cyflenwi

Os oes gennych bryderon am gam-drin a cham-fanteisio ar weithwyr, rhowch wybod am hyn i’r Gangmasters Labour Abuse Authority (GLAA). Mae posteri Gwybod eich Hawliau mewn Wcraineg ar gael i’w lawrlwytho gan y GLAA. Yn ogystal, dylech hefyd roi gwybod am unrhyw bryderon ynghylch caethwasiaeth fodern i’r llinell gymorth Caethwasiaeth Fodern a Chamfanteisio ar 08000 121 700 neu ar-lein.

Darllenwch ganllawiau ar ddiogelu a chaethwasiaeth fodern i gael rhagor o wybodaeth.

Saesneg

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'n partneriaid cyflenwi allweddol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, arweinwyr prosiect y Canolfannau Croeso, colegau, a phrifysgolion, i asesu anghenion pobl dros 16 oed sy'n cyrraedd Cymru o ran yr iaith Saesneg.

Mae gan wefan Cymru: Cenedl Noddfa wybodaeth ar gyfer y rhai sydd yn chwilio am help â’r iaith Saesneg a gellir mynd yno cyn cyrraedd yn ogystal ag ar ôl cyrraedd Canolfan Groeso neu gymuned yng Nghymru. Mae Addysg Oedolion Cymru hefyd yn darparu Cymraeg i siaradwyr ieithoedd eraill yn dibynnu ar y galw a'r lleoliad.

Gan ddefnyddio'r Ganolfan Asesu Ganolog Ranbarthol ar gyfer Saesneg i siaradwyr Ieithoedd Eraill (neu'r model REACH) ar y cyd ag offer asesu ac asiantaethau eraill fel Addysg Oedolion Cymru. Bydd Awdurdodau Lleol yn gweithio gydag unigolion i ddeall eu nodau a sicrhau bod ganddynt fynediad at y lefel gywir o ymyrraeth, gan gynnwys cofrestru ar gyrsiau rhan-amser yn bersonol neu ar-lein lle y bo hynny'n briodol. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau o ran y bobl hynny sy'n chwilio am waith i gynorthwyo ffoaduriaid o Wcráin drwy ehangu'r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y rhaglen ReAct+.  Rhaglen gyflogaeth a sgiliau yw ReAct+ yn bennaf ac mae wedi'i chynllunio i helpu pobl i ennill y sgiliau a ddymunir gan gyflogwyr sy’n recriwtio fel y gallant ddod o hyd i waith.

Gall rhaglen ReAct+ ddarparu cefnogaeth ESOL mewn dwy ffordd.

Drwy'r grant hyfforddiant galwedigaethol (uchafswm o £1500)

Os yw ffoadur wedi nodi dymuniad i geisio cyflogaeth yn y DU a bod diffyg sgiliau Saesneg wedi'i nodi fel rhwystr i gyflogaeth, gellir ystyried cais am hyfforddiant ESOL. Wrth ystyried cais, mae angen i gynghorwyr ystyried hyd y cwrs ac a yw'n debygol o wella rhagolygon cyflogaeth yr unigolyn.

Drwy grant Cymorth Datblygu Personol ReAct+ (uchafswm o £500)

Os yw ffoadur wedi mynegi dymuniad i chwilio am waith yn y DU a bod diffyg sgiliau wedi eu nodi fel rhwystr i gyflogaeth, gall yr unigolyn wneud cais am grant hyfforddiant galwedigaethol ReAct+ i fynd i'r afael â'r sgiliau sydd eu hangen.

Os nodir diffyg sgiliau Saesneg hefyd fel rhwystr i gyflogaeth, gall yr unigolyn wneud cais am y grant Cymorth Datblygu Personol o hyd at £500 ar gyfer hyfforddiant Saesneg i siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn ogystal â'r grant hyfforddiant galwedigaethol. Mae'r ail ddewis hwn yn debygol o fod yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes â rhai sgiliau yn Saesneg ac y byddai cwrs ESOL byrrach o fudd iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod am achosion lle mae ffoaduriaid o Wcráin wedi eu siomi gyda'r cyngor maen nhw wedi ei gael gan Cymru'n Gweithio. Mae ystyried ceisiadau grant gan ffoaduriaid yn elfen newydd o ReAct+. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailgyhoeddi ein gohebiaeth ar y mater hwn a gweithio'n agos gyda Cymru'n Gweithio i sicrhau bod cynghorwyr yn ymwybodol o sut y gall y rhaglen ddarparu cefnogaeth, ac o dan ba amgylchiadau.

Bydd pob ymgeisydd posib yn derbyn gwybodaeth, cyngor, ac arweiniad diduedd gan un o gynghorwyr gyrfaoedd cymwysedig Cymru'n Gweithio. Ar wahân i sefydlu cymhwysedd, bydd y cynghorydd gyrfaoedd hefyd yn cynnal asesiad i weld a yw'r ymgeisydd yn addas ar gyfer y rhaglen ac ai grant ReAct+ fydd yn diwallu anghenion yr unigolyn orau. Mae hyn yn golygu na fydd yr holl bobl sy'n gofyn am gyngor ac arweiniad gan Cymru'n Gweithio yn cael eu cyfeirio at raglen ReAct+.

Cyfleoedd i gofrestru mewn addysg bellach neu addysg uwch

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n diweddaru ein canllawiau cymhwysedd ar gyfer cyllid ôl-16 i'w gwneud yn glir y bydd y rhai sy'n cyrraedd o dan Gynlluniau Fisa Wcráin Swyddfa Gartref y DU, yn gymwys i dderbyn cyllid coleg ôl-16 ar unwaith a byddant wedi'u heithrio o'n gofynion preswyl arferol tair blynedd. Mae swyddogion wedi ysgrifennu at golegau i gadarnhau'r sefyllfa hon a'u galluogi i ddechrau cefnogi dysgwyr cyn gynted ag y byddan nhw'n cyrraedd.

Ar hyn o bryd mae colegau Addysg Bellach yng Nghymru ar agor, ac maent yn barod i gynnig cymorth o ran addysg a hyfforddiant ôl-16, a chyda’r gallu i wneud hynny, a hefyd i ddarparu mynediad at wasanaethau cymorth i fyfyrwyr. Gall unigolion gael mwy o wybodaeth am yr opsiynau sydd ar gael drwy gysylltu â'u coleg lleol yn uniongyrchol neu, lle bo'n berthnasol, drwy eu swyddog ailsefydlu yn yr Awdurdod Lleol.

Dylai unrhyw un sy'n ceisio noddfa sy'n dymuno dechrau cwrs addysg uwch yn nhymor yr hydref, siarad yn uniongyrchol â swyddfa dderbyn y sefydliad y maent wedi’i ddewis cyn gynted â phosibl. Mae'r broses dderbyn arferol ar gyfer Medi 2022 eisoes wedi hen ddechrau drwy UCAS, ond mae modd i brifysgolion gynnig cyngor a chefnogaeth i unrhyw un sy'n dymuno parhau â'u hastudiaethau. Mae nifer o brifysgolion yn cynnig nifer fach o fwrsariaethau ac ysgoloriaethau i bobl sy'n ffoi rhag gwrthdaro ac fe allai fod o gymorth i ofyn i'r tîm derbyniadau am eu hargaeledd ac am gymhwystra am gymorth gan y brifysgol yn ogystal.