Mae safonau a chanllawiau newydd ar sut y dylai gweithgareddau presgripsiynu cymdeithasol, gan gynnwys dosbarthiadau ymarfer corff, clybiau garddio a grwpiau celf, gael eu darparu ledled Cymru yn cael eu datblygu er mwyn gwella iechyd meddwl a lles pobl a lleihau’r pwysau ar y GIG.
Mae COVID-19 wedi cael effaith enfawr ar iechyd a lles, a gall presgripsiynu cymdeithasol chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod pobl yn cael mynediad at gymorth cymunedol, anghlinigol sy’n gallu rhoi hwb i unigolion.
Heddiw (dydd Iau, 28 Gorffennaf), mae’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle, wedi lansio ymgynghoriad newydd ar bresgripsiynu cymdeithasol, a fydd yn gofyn am farn pobl i gynllunio fframwaith i’r dyfodol ar gyfer cymorth cymunedol, anghlinigol, a all gynnwys ystod o weithgareddau, gyda phob un yn cyfrannu at ddull ataliol cynnar drwy wella lles pobl.
Bydd y fframwaith newydd yn nodi’r safonau, y canllawiau a’r camau a ddatblygir ar lefel genedlaethol i sicrhau darpariaeth gyson ledled Cymru.
Yng Nghymru, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a’r defnydd o bresgripsiynu cymdeithasol bob blwyddyn dros y tair blynedd ddiwethaf. Mae’r ffigurau’n dangos cynnydd yn nifer y bobl a oedd yn manteisio ar bresgripsiynu cymdeithasol yn 2018 to 2019 - sef dros 10,000 - i dros 25,000 yn 2020/21.
Drwy ei ddull ataliol cynnar, gallai presgripsiynu cymdeithasol helpu i leihau’r pwysau ar fwy o wasanaethau arbenigol rheng flaen. Mae tystiolaeth o Brifysgol De Cymru yn awgrymu bod presgripsiynu cymdeithasol yn lleihau faint o bobl sy’n ymweld â meddygfeydd o rhwng 15% a 28%. Mewn astudiaeth arall, dangoswyd bod cleifion yn defnyddio llai ar wasanaethau gofal sylfaenol, gyda lleihad o 25% mewn apwyntiadau.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn parhau i fod yn fuddiol i lesiant pobl, yn arbennig o ran eu hiechyd meddwl, gan helpu pobl i deimlo’n rhan o’u cymuned a dysgu sgiliau newydd. Nod yr ymgynghoriad hwn yw cael dealltwriaeth gyffredin o beth yw presgripsiynu cymdeithasol a darpariaeth gyson ar draws Cymru. Mae tystiolaeth bresennol yn dangos bod lefelau mynediad at bresgripsiynu cymdeithasol a’r ymwybyddiaeth o’r cymorth anghlinigol sydd ar gael yn amrywio ar draws y wlad.
Yn ogystal, rwyf am i’r fframwaith cenedlaethol sefydlu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol mewn mannau nad ydynt yn bodoli o gwbl ar hyn o bryd neu ble mae angen eu datblygu ymhellach, a nodi’r ardaloedd hynny lle mae angen cymryd camau pellach.
Un ganolfan sy’n helpu i ddarparu gwasanaethau presgripsiynu cymdeithasol yng Nghaerdydd yw ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái. Mae’n gweithio gyda meddygon teulu lleol a phartneriaid eraill i helpu pobl i fanteisio ar yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar eu stepen drws. Mae hefyd yn gweithio gyda’r gymuned i ddatblygu amryw o weithgareddau iechyd, lles a chymorth, ac yn cynnal grwpiau a sefydliadau eraill yn ei hadeilad cymunedol, Dusty Forge.
Dywedodd Hazel Cryer, Cydgysylltydd Iechyd a Llesiant i ACE:
Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ein galluogi i estyn allan at bobl newydd drwy ein practisau meddygon teulu lleol, gan ddod â mwy o bobl o’n cymuned leol at ei gilydd i gefnogi ei gilydd a chreu cysylltiadau a ffrindiau newydd. Byddem wrth ein bodd yn gweld presgripsiynu cymdeithasol yn tyfu ac yn datblygu ledled Cymru drwy’r fframwaith hwn.
Un prosiect sy’n gweithio ar y cyd ag ACE yw Grow Well, sy’n cael ei redeg gan yr elusen leol Grow Cardiff. Grŵp gerddi cymunedol therapiwtig yw hwn, sy’n croesawu pobl o bob oed. Mae’r grŵp yn cwrdd ar dri safle ar draws De-orllewin Caerdydd drwy gydol yr wythnos i hybu iechyd a lles drwy dyfu, rhannu sgiliau, bod yn agos at fyd natur, cyfeillgarwch a bwyd.
Dywedodd Claire Terry, Cydgysylltydd Prosiect Grow Well, Grow Cardiff:
Ar ôl gweld y newidiadau anhygoel y mae prosiect fel hwn yn gallu eu gwneud i fywyd rhywun, byddai’n wych gweld rhwydwaith o erddi cymunedol ar draws Cymru yn cael ei gysylltu â gofal iechyd drwy wasanaethau presgripsiynu cymdeithasol. Rydyn ni’n rhoi ein cefnogaeth lawn i’r lansiad hwn heddiw.