Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar 20 Rhagfyr 2021, cyhoeddais ddogfen ymgynghori ar y cynigion ar amrywiadau lleol i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar newidiadau i'r dreth trafodiadau tir gyda'r nod o roi mantais i’r rheiny sy’n prynnu eiddo a fydd yn cael ei ddefnyddio fel prif breswylfeydd mewn ardaloedd lle mae’r nifer sylweddol o ail gartrefi a llety gwyliau yn cael effaith andwyol ar y gymuned. Heddiw, rwyf yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad hwn.
Fe'm calonogwyd gan yr ymateb rhagorol i'r ymgynghoriad hwn, a ddenodd dros 800 o ymatebion, a chan y gefnogaeth a fynegwyd ar gyfer y cynigion.
Roedd cytundeb cyffredinol o blaid yr egwyddor o amrywio cyfraddau yn lleol ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau. At hynny, roedd cefnogaeth eang i'r cynnig bod y cyfraddau newydd yn berthnasol i eiddo a brynwyd i'w ddefnyddio fel llety gwyliau yn ogystal ag ail gartrefi, ond nid i fathau eraill o drafodion lle mae’r cyfraddau preswyl uwch yn berthnasol.
Mae'n amlwg o ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn fod cefnogaeth gref i weithredu yn y maes hwn. Yr wyf wedi ysgrifennu at yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru i'w cynnwys yn y gwaith o ddatblygu fframwaith cenedlaethol lle y gall awdurdodau lleol ofyn i'r cyfraddau newydd ar gyfer ail gartrefi a llety gwyliau fod yn berthnasol yn yr ardaloedd hynny.
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i'r ymgynghoriad am roi o'u hamser i rannu eu barn.
Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i weithredu ar unwaith i roi sylw i effaith ail gartrefi a thai na ellir eu fforddio mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant.