Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Mawrth 2022.
Adolygu ymatebion
Mae ymatebion i'r ymgynghoriad hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Bydd manylion am y canlyniad yn cael eu cyhoeddi yma maes o law.
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydym am glywed eich barn ar amrywiadau lleol arfaethedig i’r dreth trafodiadau tir (TTT) ar gyfer ail gartrefi, llety gwyliau tymor byr ac eiddo preswyl ychwanegol arall o bosibl.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Rydym yn ymgynghori ar newidiadau i’r TTT er mwyn rhoi mwy o gyfle i bobl sy'n awyddus i brynu cartrefi i fyw ynddynt yn barhaol.
Rydym yn ceisio barn ar y canlynol:
- maint yr ardaloedd lle gallai amrywiadau lleol gael eu cyflwyno, er enghraifft, ardaloedd awdurdodau lleol cyfan neu gymunedau llai
- y dull o nodi’r ardaloedd lle gallai cyfraddau gwahanol fod yn gymwys
- y mathau o drafodiadau a allai fod yn destun cyfraddau gwahanol mewn ardaloedd lleol.