Mae papur wal yn cael ei ddefnyddio i gynhesu datblygiad tai cymdeithasol yng Nghymru fel rhan o dreial sy’n chwilio am ffyrdd fforddiadwy o gadw trigolion yn gynnes heb ddefnyddio rheiddiaduron na phympiau gwres.
Mae system gwresogi graffîn yn edrych ac yn teimlo fel papur wal traddodiadol. Rydych yn ei blygio i mewn i soced yn y tŷ a chan ei fod yn dod mewn pecyn sy’n cynnwys paneli solar a batri clyfar, mae’n lleihau’ch allyriadau ac yn torri’ch costau tanwydd i’r byw.
Rydych yn ei gosod ar waliau, nenfydau a than loriau ac mae’n anweledig i drigolion. Dyma ddull arloesol a chyflym o gynhesu ystafelloedd unigol sy’n eich galluogi i reoli’ch cyllidebau ynni’n fwy effeithiol.
Prosiect Gwresogi Isgoch Graffîn NexGen yw un o nifer o dreialon sy’n cael eu cynnal gyda chymdeithas dai Cartrefi Melin a chyda chymorth ariannol Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru.
Yn ystod ei hymweliad â’r prosiect yn Nhredegar, dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
Mae datgarboneiddio cartrefi’n elfen bwysig iawn o’n taith tuag at Gymru Sero Net erbyn 2050.
Gyda chostau ar gynnydd, mae gwneud ein cartrefi’n fwy ynni-effeithiol yn delio ag argyfwng yr hinsawdd ac yn helpu teuluoedd i oroesi’r argyfwng costau byw.
Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd y Prif Weinidog ei fod am i’r amgylchedd a newid hinsawdd fod yn ganolog i holl flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac wrth i ni weithio i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach, dwi’n disgwyl ymlaen yn fawr at weld sut y gallai cynnyrch arloesol fel y rhain ein helpu i wireddu ein huchelgais.
Mae’r system yn defnyddio cyfuniad o wres isgoch tonfedd hir a darfudiad a dim ond dau ddiwrnod neu dri sydd ei eisiau i’w gosod. Mae’n system lawer fwy cost-effeithiol na phwmp gwres.
Mae Cartrefi Melin wedi cydweithio gyda Phrifysgol Abertawe sy’n dilysu perfformiad y dechnoleg. Mae’r Brifysgol wrthi’n trafod nawr â nifer o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig eraill ac awdurdodau lleol sydd wedi dangos diddordeb yn y treialon o’r system gwresogi reiddiol.
Mae Adran Economi Llywodraeth Cymru yn gweithio hefyd â Chyngor Tor-faen a NexGen i chwilio am gyfleoedd i’r cwmni sefydlu ffatri yn yr ardal.
Dywedodd Paula Kennedy, Prif Weithredwr Cartrefi Melin:
Mae ein trigolion eisoes yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw a’r argyfwng hinsawdd a dyna pam rydyn ni wedi gosod y nod uchelgeisiol i ni fod yn gymdeithas Sero Net erbyn 2050.
Rydyn ni’n deall bod rhaid i ni weithredu nawr, felly rydyn ni wedi ymuno â NexGen a chymdeithasau tai eraill i chwilio am ffyrdd newydd gwyrddach a rhatach o wresogi’n cartrefi.
Byddwn yn dal i weithio gyda nhw i dreialu technolegau newydd all helpu ein trigolion ni, a thrigolion ledled Cymru. Rydyn ni’n falch hefyd o gael bod yn rhan o’r mewnfuddsoddiad i sefydlu ffatri ac yn disgwyl ymlaen at weld y cyfleoedd a ddaw drwy hynny i Gymru.