Manylion y gwahanol lwybrau i yrfa mewn addysgu mewn ysgolion.
Cynnwys
Dod yn athro ysgol cymwysedig
I ddod yn athro ysgol ac addysgu mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru, mae angen i chi ennill Statws Athro Cymwysedig (SAC), mae hyn yn golygu cwblhau rhaglen o Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA).
Mae amrywiaeth o ffyrdd o ddechrau eich gyrfa addysgu a bydd Addysgwyr Cymru yn eich helpu i weld sut beth yw addysgu a pha lwybrau sydd ar gael. Unwaith y byddwch wedi ennill eich SAC bydd angen i chi gwblhau cyfnod ymsefydlu.
Mae gennym ardal benodol ar sianel YouTube Addysg Cymru ar gyfer ymgyrch Addysgu Cymru sy'n darparu rhagor o wybodaeth.
Israddedig
Os nad oes gennych radd eisoes, gallwch ddilyn cwrs hyfforddi athrawon israddedig llawn amser. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Gradd Baglor mewn Addysg (BEd)
- Gradd Baglor yn y Celfyddydau (BA)
- Gradd Baglor mewn Gwyddoniaeth (BSc)
Bydd rhaid i chi wneud cais drwy UCAS (Saesneg yn unig).
Gall Addysgwyr Cymru eich helpu i archwilio'r llwybr sy'n gweddu orau i'ch amgylchiadau a’ch cymwysterau.
Gallech fod yn gymwys i gael cymorth cyffredinol i fyfyrwyr wrth astudio. Cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar gael.
Ôl-raddedig
Os oes gennych radd eisoes, gallwch astudio ar gyfer Tystysgrif Addysg i Raddedigion (TAR) gyda Statws Athro Cymwysedig. Mae’r TAR yn gwrs llawnamser blwyddyn. Bydd yn datblygu eich sgiliau fel athro wrth i chi weithio tuag at y Safonau SAC. Mae cyrsiau TAR ar gael drwy bartneriaethau AGA ar draws Cymru.
Gallwch wneud cais yn uniongyrchol i’r Partneriaethau AGA neu drwy wefan UCAS (Saesneg yn unig).
TAR Rhan Amser
O fis Medi 2020 mae llwybr newydd rhan amser ar gael i addysgu. Mae’r llwybr newydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.
Bydd y llwybr newydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau a bydd yn galluogi athrawon dan hyfforddiant i astudio tra'n gweithio neu gydbwyso ymrwymiadau eraill bywyd. Byddant yn gweithio tuag at gymhwyster TAR (gan gynnwys 60 o gredydau lefel Meistr) ac yn bodloni safonau SAC.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan y Brifysgol Agored.
TAR Cyflogedig
O fis Medi 2020 mae llwybr newydd ar gael i mewn i addysgu yng Nghymru: llwybr yn seiliedig ar gyflogaeth. Mae’r llwybr newydd yn cael ei ddarparu gan bartneriaeth AGA y Brifysgol Agored.
Bydd y llwybr newydd yn cymryd dwy flynedd i'w gwblhau a bydd yn caniatáu i chi dderbyn cyflog athro heb gymhwyster wrth i chi weithio tuag at gymhwyster TAR (gan gynnwys 60 o gredydau lefel Meistr) a bodloni safonau SAC.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen hon ar gael ar wefan y Brifysgol Agored.
Mae rhagor o fanylion am ddarparu'r llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth ar gael i fyfyrwyr, ysgolion a phartneriaethau.
Gofynion mynediad sylfaenol
Ers mis Medi 2019 mae’n rhaid i’r broses ar gyfer dethol athrawon dan hyfforddiant gynnwys Sefydliadau Addysg Uwch ac ysgolion. Mae’r broses yn edrych ar ddawn, galluedd a gwydnwch personol ymgeisydd mewn perthynas ag addysgu, yn ogystal â’i rinweddau personol a deallusol a’i astudiaethau academaidd. Rhaid i ymgeisydd fodloni’r meini prawf hyn o leiaf:
- safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn mathemateg neu Mathemateg, Rhifedd
- safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn naill ai Cymraeg Iaith neu Saesneg Iaith
- safon sy’n gyfwerth â Gradd C TGAU neu uwch mewn pwnc gwyddoniaeth, os ydych eisiau addysgu mewn ysgol gynradd (dysgwyr 4 i 11 oed)
- gradd sydd o leiaf 50% yn berthnasol i’r pwnc yr ydych eisiau ei addysgu i ddod yn athro neu athrawes ysgol uwchradd (dysgwyr 12 i 16 oed) (mae rhagor o wybodaeth ar y gofyniad hwn ar gael gan Bartneriaethau AGA sy’n gwneud y penderfyniad hwn)
Gellir gweld y gofynion mynediad llawn yn Atodiad 2 meini prawf ar gyfer achredu rhaglenni addysg gychwynnol athrawon yng Nghymru.
Gall darparwyr AGA hefyd ychwanegu eu gofynion mynediad eu hunain a allai fod yn ychwanegol at y rhai uchod.
Os nad ydych yn siŵr a yw eich cymwysterau yn bodloni'r gofynion mynediad neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â Phartneriaeth AGA a restrir ar y dudalen hon.
Partneriaethau Addysg Cychwynnol Athrawon
Mae partneriaethau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) yn bartneriaethau rhwng prifysgolion ac ysgolion sy’n cydweithio i ddarparu addysg a datblygiad proffesiynol i athrawon dan hyfforddiant, gan eu paratoi i weithio mewn ysgol.
- CaBan (Prifysgol Bangor)
- Yr Athrofa: Partneriaeth Dysgu Proffesiynol (Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin ac Abertawe)
- Partneriaeth Caerdydd
- Partneriaeth Ysgolion Prifysgol Abertawe
- Partneriaeth AGA Prifysgol De Cymru
- Y Brifysgol Agored
Statws Athro Cymwysedig (SAC)
Mae'n rhaid i holl hyfforddeion Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) gyrraedd y safonau proffesiynol ar gyfer addysgu ac arweinyddiaeth. Mae safonau proffesiynol yn gymwys ers mis Medi 2019 sy’n nodi beth sy'n rhaid i hyfforddeion AGA ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud ar ddiwedd eu cwrs er mwyn iddynt gael SAC.
Mae grym statudol i’r Safonau SAC ac maent wedi eu nodi mewn deddfwriaeth.
Unwaith y byddwch wedi cael SAC a'ch bod yn Athro Newydd Gymhwyso (ANG) bydd rhaid i chi lenwi Proffil Dechrau Gyrfa a gwneud eich cyfnod ymsefydlu.
Bydd rhaid i chi hefyd gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg os ydych eisiau gweithio mewn ysgol a gynhelir yng Nghymru.
Cymhellion Addysg Gychwynnol Athrawon
Mae 3 gynllun cymell ar gael i fyfyrwyr:
- Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon pynciau a blaenoriaeth yn grantiau sydd ar gael i fyfyrwyr cymwys â graddau penodol sy'n ymgymryd â rhaglenni AGA ôl-raddedig achrededig â Statws Athro Cymwysedig.
- Mae Iaith Athrawon Yfory yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglen AGA uwchradd ôl-raddedig achrededig â Statws Athro Cymwysedig, sy'n eu galluogi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Gymraeg fel pwnc. Mae'r grant hwn yn cefnogi strategaeth Cymraeg 2050, uchelgais Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr athrawon Cymraeg a'r targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
- Mae Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon (AGA) o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn grant sydd ar gael i fyfyrwyr Du, Asiaidd, ac Ethnig Leiafrifol sy'n astudio rhaglen AGA ôl-raddedig achrededig sy'n arwain at Statws Athro Cymwysedig (SAC).
Dylai myfyrwyr sy'n ymgymryd â rhaglenni hyfforddi sy'n eu galluogi i addysgu yn y Sector Addysg a Hyfforddiant Ôl Orfodol (PGCE PCET) (AB) gysylltu â'u darparwr neu post-16workforcedevelopment@llyw.cymru
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn athro, ewch i Addysgwyr Cymru. Os hoffech chi siarad ag aelod o'r tîm i gael cefnogaeth bellach neu wybodaeth am yrfa mewn addysg, cysylltwch â gwybodaeth@addysgwyr.cymru
I gael rhagor o wybodaeth am raglenni AGA, cysylltwch â phartneriaeth AGA.
I gael rhagor o wybodaeth am ein polisi ynghylch addysg gychwynnol i athrawon, anfonwch e-bost at teaching.enquiries@llyw.cymru