Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 yn nodi bod yn rhaid adolygu mesurau’r coronafeirws bob tair wythnos. Roedd disgwyl i’r adolygiad tair wythnos diweddaraf gael ei gwblhau erbyn 14 Ebrill.
Mae’r coronafeirws yn dal yn amlwg ar draws Cymru – a’r DU. Mae canlyniadau diweddaraf Arolwg Heintiadau’r Coronafeirws y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn amcangyfrif bod COVID-19 ar 230,800 o bobl ar gyfartaledd yng Nghymru rhwng 27 Mawrth a 2 Ebrill 2022. Mae hyn gyfystyr ag 1 ym mhob 13 o bobl. Yr is-deip BA.2 o’r amrywiolyn omicron sydd i gyfrif am y lefelau uchel hyn o heintiadau.
Mae’r pandemig yn parhau i roi pwysau ar y GIG. Ceir rhai arwyddion calonogol bod nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 mewn ysbytai wedi gwastadu dros yr wythnos diwethaf, ond roedd yn dal i fod mwy na 1,300 o bobl yn yr ysbyty ar 8 Ebrill.
Y rhaglen frechu yw’r ffordd orau o’n diogelu ni rhag y coronafeirws o hyd – mae’r brechiadau wedi gwanhau’r cysylltiad rhwng y feirws a salwch difrifol a’r nifer sy’n mynd i’r ysbyty. Nid yw byth yn rhy hwyr i gael eich brechu yng Nghymru. Mae pobl yn dal i gael eu brechiad cyntaf, eu hail frechiad a’u brechiad atgyfnerthu. Ar hyn o bryd, mae Byrddau Iechyd yn gwahodd pobl cymwys i gael eu brechiad atgyfnerthu’r gwanwyn, a phlant i gael eu dos cyntaf.
Mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn gyson â senario Sefydlog COVID, fel yr amlinellir yn nogfen ‘Gyda'n gilydd tuag at ddyfodol mwy diogel’, sy’n nodi sut y byddwn yn symud yn raddol o’r cam argyfwng o’r ymateb i’r pandemig.
O ganlyniad i’r adolygiad hwn o reoliadau’r coronafeirws, mae’r Cabinet wedi penderfynu parhau â’n dull gweithredu i gael gwared yn raddol ar y cyfyngiadau cyfreithiol sy’n dal yn eu lle.
O 18 Ebrill 2022 ymlaen, ni fydd hi bellach yn ofynnol yn gyfreithiol i fusnesau a sefydliadau gynnal asesiadau risg coronafeirws penodol a chymryd mesurau rhesymol i leihau’r risg o ddal y coronafeirws.
Rydym hefyd wedi penderfynu nad yw’n angenrheidiol bellach i awdurdodau lleol gael pwerau i gau neu reoli eiddo neu ddigwyddiadau. Felly, daw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Swyddogaethau Awdurdodau Lleol etc.) (Cymru) 2020 i ben ar 18 Ebrill 2022.
Byddwn yn cadw’r gofyniad i orchuddion wyneb gael eu gwisgo mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol am y tro, er mwyn diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed a’r staff sy’n gweithio yn y lleoliadau hyn.
Bydd ein canllawiau a’n cyngor cryfach o ran iechyd y cyhoedd yn parhau i argymell bod gorchuddion wyneb yn cael eu gwisgo ym mhob lleoliad prysur a chaeedig dan do, ynghyd â mesurau rheoli eraill y gall pobl a sefydliadau eu dilyn er mwyn lleihau trosglwyddiad y coronafeirws a diogelu Cymru.
Wrth i nifer cynyddol o bobl gael eu brechu, a thrwy ymdrechion parhaus pawb i ddiogelu ein gilydd, gallwn edrych ymlaen at ddyfodol mwy disglair.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.