Sut defnyddiodd ysgolion a cholegau’r grant recriwtio, adfer a chodi safonau (RAChS) neu’r grant dal i fyny ar gyfer dysgwyr ôl-16: ymateb y llywodraeth
Ein hymateb i adroddiad ac argymhellion Estyn.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Manylion yr adroddiad
Mae’r adroddiad yn canolbwyntio ar y cymorth ar gyfer dysgwyr ôl-16 er mis Medi 2020 trwy’r grant ‘Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau: y Rhaglen Dysgu Carlam’ (y grant RAChS) mewn ysgolion a’r grant dal i fyny mewn colegau addysg bellach (AB). Roedd y ddau grant yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae’r adroddiad wedi’i ysgrifennu i ymateb i gais am adolygiad cyflym yn llythyr cylch gwaith blynyddol y Gweinidog Addysg i Estyn ar gyfer 2021 i 2022. Bydd negeseuon allweddol ac argymhellion yn llywio arweiniad a monitro ar gyfer cyllid tebyg yn y dyfodol.
Mae’r adroddiad yn tynnu ar dystiolaeth o gyfarfodydd o bell gydag uwch arweinwyr ac arweinwyr canol, a grwpiau o ddysgwyr mewn ysgolion a cholegau, yn ogystal ag arweinwyr ac ymgynghorwyr her mewn awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol. Cynhaliwyd adolygiad o lenydiaeth berthnasol hefyd, gan gynnwys polisïau a diweddariadau Llywodraeth Cymru a llythyrau grant at ddarparwyr. Manteisiwyd hefyd ar wybodaeth bellach yn deillio o ymgysylltiad rheolaidd Estyn ag ysgolion, colegau, awdurdodau lleol a chonsortia rhanbarthol.
Crynodeb o’r prif ganfyddiadau
Cynlluniodd bron pob ysgol a choleg yn ofalus i wneud defnydd da o’r grant RACHS neu’r grant dal i fyny. Yn y darparwyr hyn, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr wedi gwerthfawrogi’r ddarpariaeth, y gofal a’r arweiniad ychwanegol a gawsant. Mewn ychydig o achosion, nid yw arweinwyr wedi cynllunio eu gwariant yn strategol, ac maent dim ond wedi ychwanegu’r cyllid ychwanegol at eu prif gyllideb.
Mae graddau uchel o amrywioldeb yn y dulliau y mae arweinwyr wedi eu defnyddio wrth wario’r grant RACHS neu’r grant dal i fyny. Mewn ysgolion, y dulliau mwyaf cyffredin oedd penodi staff ychwanegol i:
- gwmpasu addysgu yng nghyfnod allweddol 3 er mwyn rhyddhau amser ar gyfer gwersi ychwanegol yng nghyfnod allweddol 4 ac yn y sector ôl-16 neu fwy o gymorth bugeiliol yn y chweched dosbarth
- addysgu pynciau penodol
- canolbwyntio’n bennaf ar les dysgwyr
Gan fod nifer uwch o ddysgwyr yn dilyn cyrsiau galwedigaethol mewn colegau, defnyddiodd arweinwyr ddulliau gwahanol i’r rhai mewn ysgolion. Gan amlaf, roeddent:
- yn darparu sesiynau ‘dal i fyny’ ychwanegol
- yn creu capasiti am sesiynau ychwanegol ar gyfer asesiadau ymarferol
- yn darparu capasiti ychwanegol i olrhain a chefnogi lles dysgwyr
Mae penodi staff ychwanegol o safon uchel ar fyr rybudd wedi bod yn heriol i ddarparwyr, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ac ardaloedd ag amddifadedd uchel. Yn hytrach, mae’r rhan fwyaf o arweinwyr mewn ysgolion a cholegau wedi ymestyn oriau ar gyfer staff rhan-amser, wedi talu goramser i staff presennol neu wedi cadw gwasanaethau staff a oedd ar fin ymddeol.
Mae ychydig o ysgolion a cholegau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog wedi defnyddio’r grant yn strategol i sicrhau bod dysgwyr yn cynnal eu medrau siarad
Cymraeg yn ystod cyfnodau pan nad oeddent yn gallu mynychu’r ysgol wyneb yn wyneb. Fodd bynnag, mewn llawer o achosion, nid yw hon wedi bod yn agwedd gref ar waith darparwyr ac mae gafael dysgwyr ar y Gymraeg a’u hyder i’w defnyddio wedi dirywio yn ystod y cyfnod clo.
Mewn llawer o achosion, mae cyrsiau a gynhelir mewn partneriaeth â darparwyr eraill sydd fel arfer yn cynnwys dysgwyr yn symyd rhwng ganolfannau wedi gweithredu’n esmwyth trwy ffrydio gwersi ar y rhyngrwyd. Mewn ychydig o achosion, nid yw cyrsiau a gynhelir mewn partneriaeth wedi cael eu cyflwyno’n llwyddiannus, ac mae dysgwyr wedi rhoi’r gorau i ddilyn y cyrsiau hyn. Ar y cyfan, mae hyn oherwydd bod dysgwyr sy’n dechrau ar gyrsiau partneriaeth newydd wedi gweld dysgu o bell yn y cyd-destun yma’n rhwystredig ac aneffeithiol.
Dywed yr holl ysgolion a cholegau eu bod wedi gweithio’n agos ag ystod o wasanaethau allanol, yn cynnwys gwasanaethau cymdeithasol, byrddau iechyd, yr heddlu a gwasanaethau cwnsela. Mae cynnydd wedi bod yn y galw am bob un o’r gwasanaethau hyn yn ystod y pandemig. Mae arweinwyr mewn ychydig o ysgolion wedi gweithio’n greadigol gyda darparwyr eraill i werthuso gwaith ei gilydd neu nodi a mynd i’r afael â bylchau yn nysgu dysgwyr. Mae Colegau Cymru wedi darparu rhwydweithiau defnyddiol i arweinwyr coleg drafod materion a rhannu arferion yn ystod y pandemig.
Mae llawer o arweinwyr ysgol wedi cysylltu’n rheolaidd â chynrychiolwyr o gonsortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol. Yn yr achosion mwyaf defnyddiol, mae’r cynrychiolwyr hyn wedi cynnig arweiniad gwerthfawr ar ddulliau dal i fyny i arweinwyr, yn seiliedig ar ymchwil.
Mae llawer o arweinwyr mewn ysgolion a cholegau yn gwerthuso a mireinio eu dull o wario’r grant yn barhaus yn ystod y pandemig. Yn yr enghreifftiau gorau, mae gan arweinwyr weledigaeth am yr hyn yr hoffent ei gyflawni, ac yn gosod ystod o feini prawf y gallant olrhain a gwerthuso unrhyw fenter yn eu herbyn. Mewn ychydig o achosion, nid yw arweinwyr wedi ystyried effaith gwariant ychwanegol.
Yn achos grantiau tebyg yn y dyfodol, dylai arweinwyr mewn ysgolion a cholegau:
Argymhelliad 1
Sicrhau bod ganddynt weledigaeth glir ar gyfer y deilliannau y maent yn dymuno eu cael o wariant ychwanegol.
Argymhelliad 2
Gweithio gydag ystod eang o bartneriaid i ddatblygu strategaethau i gefnogi cynnydd a lles dysgwyr.
Argymhelliad 3
Olrhain a gwerthuso’n effaith unrhyw wariant ychwanegol yn aml er mwyn addasu cynlluniau cyfredol lle mae angen, a llywio eu cynllunio dyfodol.
Argymhelliad 4
Ystyried adeiladu ar newidiadau llwyddiannus wnaethon i’w harferion yn ystod y pandemig.
Argymhelliad 5
Sicrhau bod cynnydd dysgwyr yn y Gymraeg yn flaenoriaeth, ni waeth beth yw cefndiroedd ieithyddol dysgwyr.
Ymateb i argymhelliad 1 ac argymhelliad 3
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhellion hyn ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion a cholegau fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.
Yn ystod camau cynnar y pandemig roedd darparwyr yn defnyddio arian ychwanegol i'w helpu i ymateb i natur gyfnewidiol y pandemig. Roedd anghenion cymorth dysgwyr ac ymarferwyr, o ran lleihau'r risg i iechyd a chynyddu'r dilyniant mewn dysgu i'r eithaf, yn newid yn wythnosol. Ym mis Mai 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gynllun Cydnerthu COVID-19 ar gyfer y Sector Ôl-16 a oedd yn nodi'r blaenoriaethau a'r strwythur ar gyfer gwaith colegau wrth ymateb i ofynion newidiol y pandemig. Roedd canllawiau i ysgolion, ac felly’r chweched dosbarth mewn ysgolion, yn dod o dan y datganiad polisi Cadw'n Ddiogel - Dal Ati i Ddysgu a'r rhaglen dysgu carlam a’i ddilynodd, sef Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau. O flwyddyn academaidd 2021 i 2022 ymlaen, pan fo'n briodol, mae canllawiau sy'n gyson rhwng y ddau sector wedi cael eu dosbarthu i gyd-fynd ag unrhyw arian ychwanegol sy'n gysylltiedig â’r pandemig a roddwyd i ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion ac i golegau.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n comisiynu gwerthusiad o'r arian ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r pandemig a rddosbarthwyd i ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16. Un o nodau'r gwaith hwn yw sefydlu fframwaith ar gyfer gwerthuso’r gwariant ychwanegol presennol sy'n gysylltiedig â’r pandemigac unrhyw wariant o’r fath yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer safoni'r gofynion monitro a gwerthuso sy'n gysylltiedig â grantiau ychwanegol neu gronfeydd penodol eraill sydd ar gael i ddarparwyr. Bydd gwaith datblygu unrhyw drefniadau o'r fath yn cofio’r angen i sicrhau bod disgwyliadau o ran adrodd yn rhesymol. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu treialu dull monitro a hunanwerthuso safonol gan golegau ac awdurdodau lleol/dosbarthiadau chwech mewn ysgolion, o ran y defnydd a wnânt o gyllid ychwanegol sy'n gysylltiedig â’r pandemig ar gyfer addysg ôl-16.
Ymateb i argymhelliad 2 ac argymhelliad 4
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhellion hyn ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion a cholegau fel y nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn. Er bod yr adroddiad yn cydnabod y cryfderau lu yn y ffyrdd y mae darparwyr wedi gweithio'n dda gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod dysgwyr yn cael gofal, cymorth ac arweiniad priodol yn ystod y pandemig, mae hefyd yn nodi meysydd lle dylai cydweithredu wella.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gydgysylltu dull cydweithredol o gynllunio a gweithredu strategaethau cymorth ar gyfer dysgwyr ac ymarferwyr ôl-16 a phontio fel rhan o'i rhaglen Adnewyddu a Diwygio a lansiwyd yn ystod haf 2021. Gan adeiladu ar Gynllun Cydnerthu COVID-19 ar gyfer y Sector Ôl-16, fel rhan o'r rhaglen Adnewyddu a Diwygio mae prosiect 'Ôl-16 a Phontio' Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu dull cydweithredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, i lunio a gweithredu mesurau cymorth sy'n berthnasol mewn pandemig. Nod y prosiect yw nodi ac adeiladu ar arfer da a ddatblygwyd yn ystod y pandemig. Mae'n dod â rhanddeiliaid ynghyd o bob rhan o’r sectorau addysg a hyfforddiant ôl-16, sef chweched dosbarth mewn ysgolion, colegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a darparwyr dysgu oedolion yn y gymuned. Bydd y mesurau cymorth a ddatblygir yn adeiladu ar yr ymateb cynnar i’r pandemig yn y modd y teimla darparwyr a dysgwyr all eu helpu orau yn y tymor canolig i'r hirdymor. Gan ddefnyddio'r canllawiau a gyhoeddwyd, mae darparwyr ar draws y sectorau ôl-16 yn gallu parhau i benderfynu'n unigol sut y defnyddir cyllid sy'n gysylltiedig ag adfer, fel sy’n iawn. Fodd bynnag, bydd nifer o fesurau cymorth ehangach, sydd o fudd i nifer o ddarparwyr, yn cael eu datblygu ar y cyd ar draws y sectorau ac yn cael eu cyfeirio drwy'r prosiect Ôl-16 a Phontio.
Un o amcanion y gwerthusiad a gomisiynwyd o gyllid ychwanegol a roddwyd i ddarparwyr addysg a hyfforddiant ôl-16, yw nodi arfer effeithiol sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod y pandemig. Defnyddir hwn i ledaenu arferion o'r fath yn ogystal â llywio cynllunio, o ran gweithredu’n arferol a mesurau brys yn y dyfodol.
Yn ogystal, mae newidiadau strwythurol yn cael eu rhoi ar waith a fydd yn helpu ymhellach i wella cydlyniant rhwng y sectorau ôl-16 yn y tymor canolig i'r hirdymor. Yn 2023, bydd Llywodraeth Cymru, yn ddarostyngedig i ddeddfwriaeth, yn sefydlu'r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd yn dwyn ynghyd y cyfrifoldeb am oruchwylio'r sectorau ôl-16 yng Nghymru i un corff hyd braich pwrpasol. Bydd ganddo bwerauhelaeth o ran ariannu, cynllunio a rheoleiddio, gan ei alluogi i wella ansawdd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd ar draws y sector Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Bydd buddiannau dysgwyr wrth wraidd hyn, a bydd yn cydweithio ar draws y sector i wella canlyniadau unigol a chenedlaethol.
Ymateb i argymhelliad 5
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhelliad hwn ar gyfer arweinwyr mewn ysgolion a cholegau fel y’i nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu sgiliau dysgwyr yn y Gymraeg, a'u defnydd o'r iaith, yn unol â'i strategaeth Cymraeg 2050.
Gan ddefnyddio argymhellion adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu'r Senedd ym mis Rhagfyr 2020 ar effaith pandemig COVID-19 ar yr iaith Gymraeg, mae'r prosiect Ôl-16 a Phontio yn ymchwilio i’r cyfleoedd i nodi, rhannu ac adeiladu ar ddysgu Cymraeg ar-lein, ac ar weithgareddau a digwyddiadau diwylliannol yn Gymraeg a ddatblygwyd yn ystod y pandemig.
Canfu arolwg Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021 o effeithiau COVID-19 ar ddysgwyr mewn dosbarthiadau chwech mewn ysgolion, addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion, fod ymatebwyr yn gadarnhaol ar y cyfan am eu profiadau o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr ychydig yn fwy negyddol ynghylch cyfleoedd i fynd i weithgareddau cymdeithasol (gan gynnwys ar-lein) i siarad Cymraeg â dysgwyr eraill y tu allan i'w cyrsiau.
Ym mis Medi 2021 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £2.4 miliwn o gyllid i helpu i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn dilyn y pandemig. Roedd hyn yn cynnwys £2.2 miliwn i ariannu trochi hwyr, gan alluogi plant hŷn sy'n newydd i Gymru, neu'r rhai sydd wedi colli'r cyfle i ddefnyddio eu Cymraeg bob dydd, i elwa ar addysgu a chymorth dwys ychwanegol. Mewn colegau Addysg Bellach, fel rhan o’r rhaglen Gaeaf Llawn Lles, darparwyd arian ychwanegol i ddarparu gweithgareddau drwy gyfrwng y Gymraeg a darparu cyfleoedd i ddysgwyr Cymraeg eu hiaith gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan roi hwb i'w sgiliau iaith a'u hyder.
Ym mis Chwefror 2022, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru drefniadau i sicrhau bod gwersi Cymraeg ar gael yn rhad ac am ddim i bawb sy’n 16 i 25 oed yn ogystal â'r holl staff addysgu yng Nghymru. Yn ogystal, mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio i ehangu'r amrywiaeth o adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg pwnc-benodol sydd ar gael i ddysgwyr ôl-16.
Dylai consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol:
Argymhelliad 6
Olrhain a gwerthuso llwyddiant gwahanol fodelau sy’n darparu cymorth ychwanegol i ddysgwyr ar draws eu hardaloedd, gan gyfeirio at y dangosyddion a awgrymir yn yr adroddiad hwn.
Ymateb i argymhelliad 6
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r argymhelliad hwn ar gyfer consortia rhanbarthol ac awdurdodau lleol fel y’i nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol o'r angen i reoli disgwyliadau awdurdodau lleol a chonsortia wrth iddynt barhau i weithio'n galed i ymateb i’r holl darfu a ddigwyddodd o ganlyniad i’r pandemig. Yn y tymor canolig, mae cynlluniau ar waith i werthuso ymatebion darparwyr i'r pandemig ac i ddysgu gwersi o'r cyfnod hwn, fel y gellir eu defnyddio i lywio ymdrechion i wella. Fel rhan o'r gwerthusiad cyfan o’r gwariant sy'n gysylltiedig â phandemig ar draws addysg a hyfforddiant ôl-16 sy'n cael ei gomisiynu, nod Llywodraeth Cymru yw helpu i nodi'r arfer mwyaf effeithiol o ran cymorth ychwanegol at ddibenion lles a chynnydd dysgwyr. Mae gwerthusiad yn mynd rhagddo hefyd o ymatebion ysgolion, Unedau Cyfeirio Disgyblion ac EOTAS. Bydd y gwerthusiadau hyn yn cynnwys
gwybodaeth gan awdurdodau lleol a chonsortia, a thrafodaethau â hwy, i ddysgu am yr heriau yr oeddent yn eu hwynebu a'r dulliau gweithredu a ddefnyddiwyd ganddynt. Defnyddir y canfyddiadau i ystyried a llywio gweithgarwch cynllunio a gwella pellach ymhlith consortia, awdurdodau lleol a darparwyr yn ystod blwyddyn academaidd 2022 i 2023.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn defnyddio ei data monitro i olrhain cynnydd dysgwyr yn ystod y pandemig. Mae adroddiad Chwefror 2022 ar ganlyniadau i ddysgwyr mewn addysg ôl-16 yr effeithir arnynt gan y pandemig yn defnyddio data cadw, cyflawni, gradd cymhwyster a dilyniant i ddadansoddi'r tueddiadau a ddaeth i’r amlwg yn ystod y pandemig a'u cymharu â charfannau blaenorol o ddysgwyr lle bo hynny'n bosibl. Yn y tymor hir, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio dangosyddion eraill ymhlith y rhai a awgrymir yn yr adolygiad thematig, i olrhain cynnydd y genhedlaeth hon o bobl ifanc wrth iddynt symud ymlaen drwy eu haddysg, eu hyfforddiant a'u gyrfaoedd.
Dylai Llywodraeth Cymru:
Argymhelliad 7
Sicrhau bod amodau ar gyfer unrhyw wariant o’r grant dal i fyny yn y dyfodol yn briodol hyblyg, ac yn hafal ar gyfer ysgolion a cholegau.
Ymateb i argymhelliad 7
Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr argymhelliad hwn fel y’i nodir yn adroddiad adolygiad thematig Estyn.
Yn ystod camau cynnar y pandemig, rhoddwyd cyllid i ddarparwyr ar frys i'w galluogi i ymateb yn brydlon i'r pandemig cyfnewidiol ac anghenion dysgwyr ac ymarferwyr a oedd yn newid yn gyflym, er mwyn lleihau'r risg i iechyd a sicrhau'r dilyniant mwyaf posibl mewn dysgu. Roedd y Cynllun Cydnerthu COVID-19 ar gyfer y Sector Ôl-16 ym mis Mai 2020 yn nodi'r blaenoriaethau ar gyfer colegau ac yn darparu strwythur i'w gwaith wrth ymateb i'r pandemig. Roedd canllawiau i ysgolion, ac felly chweched dosbarth mewn ysgolion, Roedd canllawiau i ysgolion, ac felly’r chweched dosbarth mewn ysgolion, yn dod o dan y datganiad polisi Cadw'n Ddiogel - Dal Ati i Ddysgu ym mis Ebrill 2020.
Ar gyfer 2021 i 2022 a 2022 i 2023, mae canllawiau ymghylch Cyllid sy'n gysylltiedig â’r pandemig a roddwyd i golegau Addysg Bellach ac awdurdodau lleol (ar gyfer dosbarthiadau chwech mewn ysgolion), wedi bod yn gyson ar gyfer y ddau fath o ddarparwr ôl-16 a byddant yn parhau i fod felly. Mae'r canllawiau cyllid a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod hwn wedi nodi amcanion sy’n addas o eang ar gyfer defnyddio'r arian ychwanegol, a bydd yn parhau i wneud hynny. Diben hyn yw sicrhau, er bod darparwyr yn elwa ar eglurder ynghylch beth yw gwariant dilys ar gyfer pob grant/cronfa, bod ganddynt hefyd yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r cyllid yn y ffyrdd mwyaf effeithiol, gan ddefnyddio eu gwybodaeth leol i ddod i wybod beth yw anghenion eu dysgwyr a’u haelodau staff. Mae swyddogion yn ymwybodol bod yr ystodau oedran eang y darperir ar eu cyfer gan ysgolion uwchradd ac ysgolion pob oed sydd â chweched dosbarth yn golygu, ar adegau, ei bod yn well i ganllawiau i'r darparwyr hyn gyd-fynd â chanllawiau cyfatebol ar gyfer disgyblion iau.
Manylion cyhoeddi
Cyhoeddwyd yr adroddiad gan Estyn ar 22 Mehefin 2021.