Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r rhwydwaith trafnidiaeth yn sail i'n bywydau bob dydd, gan gysylltu pobl a chymunedau â swyddi, gwasanaethau iechyd, cyfleoedd addysgol a gweithgareddau hamdden. Dylai system trafnidiaeth gyhoeddus fodern fod yn hygyrch, yn fforddiadwy ac yn integredig, gan gynnig dewis a chyfle fel opsiwn amgen ymarferol i'r car modur preifat.

Mae Bws Cymru yn nodi cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiwygio'r broses o gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau lleol dros y pum mlynedd nesaf. Uchelgais Llywodraeth Cymru, fel y'i mynegir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021, yw darparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cydlynol sy'n ddiogel, yn ddibynadwy, yn brydlon, yn amgylcheddol gynaliadwy, yn hygyrch ac yn ymateb i ddiwallu anghenion pobl sy'n teithio. Mae angen i wasanaethau bysiau ddiwallu anghenion penodol pob ardal leol a, thrwy ysgogi cefnogaeth, gysylltu mwy o bobl er mwyn lleihau'r ddibyniaeth ar geir preifat.

Mae gwasanaethau bysiau ledled Cymru yn darparu mynediad pwysig i addysg, hyfforddiant, gwaith, gofal iechyd, gweithgareddau cymdeithasol a'r cyfle i fwynhau diwrnod o grwydro. Maent yn rhan hanfodol o'r gymuned a rhyngweithio cymdeithasol; ac yn cefnogi gwelliannau mewn iechyd a lefelau gweithgarwch drwy fod yn rhan o'r rhwydwaith o ddulliau teithio mwy cynaliadwy ac iach (cerdded, beicio a thrafnidiaeth gyhoeddus).

Mae gwasanaethau bysiau yn darparu'r cysylltiad hanfodol hwnnw rhwng ein cymunedau ac maent yn bwysig er mwyn sicrhau economi ffyniannus. Maent yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth drwy roi mynediad i lawer o atyniadau ledled y wlad.

Mae trafnidiaeth yn hanfodol er mwyn cyflawni'r amcanion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”) a gall helpu drwy gysylltu pobl â swyddi a gofal iechyd a thrwy helpu i fynd i'r afael â phroblemau ansawdd aer a newid hinsawdd. Bydd Bws Cymru yn chwarae rôl bwysig wrth gefnogi egwyddor gyffredinol Deddf 2015, sef gwneud ymyriadau cadarnhaol nawr er budd pobl sy'n byw eu bywydau yng Nghymru yn y dyfodol. Bydd Bws Cymru yn cyfrannu at bob un o saith nod Deddf 2015 ac mae Bws Cymru wedi cael ei ddatblygu, ac yn parhau i gael ei ddatblygu, yn unol â'r pum ffordd o weithio, gan ganolbwyntio ar yr hirdymor, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys.

Er bod niferoedd teithwyr yn gwella, maent yn debygol o aros islaw'r lefelau cyn COVID-19 yn y dyfodol agos, yn enwedig o ran negeseuon diogelu'r cyhoedd rhag y feirws ac awydd y cyhoedd i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rydym am barhau â'r gwaith partneriaeth cadarnhaol â'n rhanddeiliaid sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig, er mwyn helpu i roi'r prosiectau a nodir yn Bws Cymru ar waith.

Bws Cymru

Rhan hanfodol o'r ymdrech i sicrhau bod y nodau a'r weledigaeth ar gyfer bysiau yng Nghymru yn cael eu cyflawni yw sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n atyniadol i deithwyr hen a newydd yn y dyfodol ac yn cyfrannu at nodau ehangach mewn ffordd gadarnhaol.

Mae'r cynllun pum mlynedd hwn yn edrych ar bob agwedd ar wasanaethau bysiau gan gynnwys seilwaith, dyraniad ffyrdd, hygyrchedd, integreiddio â mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ac, yn ehangach, sut y gallwn newid y diwydiant er gwell.

Diben yr adroddiad hwn yw rhoi crynodeb o'r gweithgarwch ymgysylltu a'r ymatebion sydd wedi llywio cynnwys Bws Cymru. Mae'r sail dystiolaeth hon o faterion wedi cael ei sefydlu dros nifer o flynyddoedd ac mae'n nodi'r themâu cyffredin a'r materion allweddol a godwyd gan randdeiliaid ac y gallai fod angen mynd i'r afael â nhw yn y Cynllun. Mae'r ddogfen hon yn rhoi ymateb Llywodraeth Cymru i'r materion a godwyd a'r ystyriaeth a roddwyd iddynt wrth ddrafftio'r ddogfen.

Wrth lunio Bws Cymru, rydym wedi ystyried gofynion cyfreithiol Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (2015) a'r angen i ni feddwl am y saith Nod Llesiant wrth lunio ein cynlluniau. Dyma'r ffactorau craidd sydd wedi ein sbarduno wrth i ni ystyried y math y Gymru y mae gan wasanaethau bysiau rôl allweddol i'w chwarae wrth ei datblygu ar gyfer y dyfodol yn ogystal ag ystyried pa brosiectau a allai gael yr effaith fwyaf.

Gweithgarwch ymgysylltu blaenorol

Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio cynnwys y cyhoedd a rhanddeiliaid yn rheolaidd wrth ddatblygu a phrofi ei pholisïau. Mae'r unigolion a'r grwpiau cynrychioliadol rydym wedi ymgysylltu â nhw wedi bod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth nawr ac yn y gorffennol ac mae'r syniadau a gynigir yn helpu i ddatrys problemau y mae llawer o bobl yn eu hwynebu bob dydd, gan gynnwys wrth ddefnyddio neu weithredu gwasanaethau bysiau.

Rydym yn cydnabod cryfder gweithredu cyfunol ac, wrth werthfawrogi safbwyntiau pobl eraill, gallwn gydweithio i gyflwyno atebion gwell.

Ymgysylltu fel rhan o'r uwchgynadleddau bysiau

Ym mis Ionawr 2017, gwnaethom gynnal uwchgynhadledd bysiau yn Wrecsam, a gwahoddwyd dros ddau gant o randdeiliaid o'r diwydiant i'r digwyddiad. Yn ystod y dydd, trafodwyd materion sy'n berthnasol i'r diwydiant cyfan a gefnogwyd gan gyflwyniadau ac yna cynhaliwyd gweithdai rhyngweithiol i'r cyfranogwyr ar fysiau a oedd wedi'u parcio y tu allan i'r lleoliad. Yn y gweithdai, trafodwyd pum mater allweddol ac atebion posibl yn ymwneud â rhwydweithiau bysiau cynaliadwy a hygyrch; dull datblygu cynaliadwy; a gwrthdroi'r lleihad yn nifer y bobl sy'n teithio ar fysiau a chynyddu'r farchnad o deithwyr sy'n talu am docynnau mewn ffordd organig.

Ar ôl yr uwchgynhadledd, gwnaethom gynnal wyth gweithdy manylach ledled Cymru i ymchwilio'n ddyfnach i'r themâu cyffredin a ddaeth i'r amlwg.

Cynhaliwyd uwchgynhadledd bysiau arall yn Abertawe yn 2018 ac, unwaith eto, roedd dros ddau gant o randdeiliaid o'r diwydiant yn bresennol. Trafodwyd materion sy'n berthnasol i'r diwydiant eto a phennwyd cyfeiriad gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru yn y dyfodol, a oedd yn cynnwys gweithio'n gadarnhaol â phob partner yn y diwydiant a chydweithio i ystyried atebion i ddiwallu anghenion trafnidiaeth ein cymunedau i gyd.

Gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori ar y Bil bysiau

Ym mis Mawrth 2020, cyflwynwyd Bil i'r Senedd. Wrth ddatblygu'r cynigion ar gyfer y Bil, gwnaethom geisio ystod eang o safbwyntiau drwy ymatebion ysgrifenedig i'r ymgynghoriad ffurfiol, digwyddiadau ymgysylltu a chyfarfodydd ymgysylltu penodol i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl wedi cael y cyfle i roi eu barn ar y cynigion. Cynhaliwyd pedwar digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid ledled Cymru a ddenodd gyfanswm o tua 200 o bobl a gwnaethom fynd i nifer o gyfarfodydd a digwyddiadau ymgysylltu awdurdodau lleol i drafod y cynigion. Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd ymgysylltu penodol ag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys:

  • Anabledd Cymru
  • Cŵn Tywys Cymru
  • Senedd Ieuenctid
  • Plant yng Nghymru.

Hefyd, cynhaliwyd sesiynau briffio gyda'r grwpiau canlynol:

  • Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol;
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;
  • Cymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru a Chymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth Cymru;
  • Aelodau Portffolio Trafnidiaeth y de-orllewin;
  • Grŵp Cynghori Aelodau Cabinet Trafnidiaeth y gogledd;
  • Ffrwd Waith Bws NBN;
  • Cymdeithas Cludiant Cymunedol.

Cafodd y Bil ei dynnu'n ôl ar 15 Gorffennaf 2020 o ganlyniad i effeithiau pandemig COVID-19 ar yr amserlen ddeddfwriaethol. Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori a gynhaliwyd yma: Gwella trafnidiaeth gyhoeddus.

Llwybr Newydd: ymgysylltu ac ymgynghori

Rhwng mis Mawrth a mis Medi 2020, wrth inni ddrafftio Llwybr Newydd, trefnwyd dros 50 o gyfarfodydd ar-lein. Yn y cyfarfodydd hynny, cyflwynwyd ein syniadau ynglŷn â'r hyn y dylai'r strategaeth ei gwmpasu a gofynnwyd i bobl ddweud wrthym am eu profiadau o drafnidiaeth a rhoi eu hadborth ar ein syniadau ynglŷn â'r hyn y dylai'r strategaeth ei gynnwys.

Gwnaethom hefyd ddefnyddio ffynonellau eraill o wybodaeth am brofiadau pobl o drafnidiaeth. Cyn inni ddechrau ar y gwaith ar Llwybr Newydd (a chyn pandemig COVID-19), cynhaliwyd tri gweithdy wyneb yn wyneb i gael canfyddiadau pobl am drafnidiaeth. Roeddem hefyd wedi gallu defnyddio adborth a gasglwyd fel rhan o ymgyngoriadau blaenorol ym maes trafnidiaeth. 

Cyfarfuom â 6 Comisiynydd Cymru:

  1. y Comisiynydd Traffig
  2. Comisiynydd y Gymraeg
  3. y Comisiynydd Pobl Hŷn
  4. y Comisiynydd Plant
  5. Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r
  6. Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol. 

Gwnaethom hefyd siarad â'r:

  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • y Fforwm Cydraddoldeb i Bobl Anabl
  • y Tasglu ar gyfer Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches
  • grŵp llywio Cryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Fforwm Cynghorol y Gweinidog ar Heneiddio
  • cynrychiolwyr Sipsiwn a Theithwyr Ffyrdd a
  • Phanel Hygyrchedd Trafnidiaeth Cymru.

Siaradwyd hefyd â phobl â nodweddion gwarchodedig, fel rhan o'r cyfarfodydd hynny neu mewn sesiynau ar wahân. Cyfarfuom hefyd ag amrywiaeth eang o randdeiliaid eraill mewn awdurdodau lleol, yn y sectorau trafnidiaeth ac yn y trydydd sector.

Yn ystod y broses ddrafftio, gwnaethom ddiwygio testun y cynllun drwy'r amser er mwyn ystyried yr adborth. Yn benodol, aethom ati i fyfyrio ar drafnidiaeth fel mater cymdeithasol a phwysigrwydd deall profiadau pobl o drafnidiaeth.

Ceir rhagor o wybodaeth am y gweithgareddau ymgysylltu ac ymgynghori a gynhaliwyd wrth lunio Llwybr Newydd yma.

Ymgysylltu â'r sector bysiau yn ystod pandemig COVID-19

Yn ystod pandemig COVID-19 rydym wedi ymgysylltu'n helaeth ag awdurdodau trafnidiaeth lleol a gweithredwyr bysiau er mwyn cydweithio i roi'r cymorth cywir i'r diwydiant a rhoi'r mesurau diogelwch cywir ar waith i bobl sy'n teithio. Byddwn yn adeiladu ar y gwaith ymgysylltu cadarnhaol a'r drafodaeth barhaus hon wrth i ni symud ymlaen i gam nesaf y gwelliannau i'r sector bysiau.

Mae'r ffordd hon o weithio drwy gydol y pandemig wedi dynodi newid mawr mewn trefniadau cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau. Drwy'r gwaith ymgysylltu parhaus hwn, yn enwedig o ran y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau i gefnogi gweithredwyr, mae pob parti wedi gallu cyfnewid safbwyntiau a materion.

Gweithgareddau ymgysylltu Bws Cymru

Wrth ddatblygu Bws Cymru, rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid drwy gyfres o 15 o gyfarfodydd a gweithdai ar-lein yn ogystal â'n cysylltiadau rheolaidd ag awdurdodau trafnidiaeth lleol, gweithredwyr bysiau a grwpiau cynrychioliadol o'r diwydiant. Nod y gweithdai dynodedig hyn ar gyfer Bws Cymru oedd cynnwys rhanddeiliaid yn y drafodaeth, gan gynnwys y rhai sy'n perthyn i grwpiau nodweddion gwarchodedig a all gynnig safbwyntiau gwahanol ar y materion sy'n effeithio arnynt pan fyddant yn teithio ar fysiau.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio ystod eang o safbwyntiau drwy gydol y digwyddiadau ymgysylltu er mwyn sicrhau bod cynifer o randdeiliaid â phosibl wedi cael y cyfle i roi eu barn ar gynigion y Llywodraeth.
Hefyd, cynhaliwyd cyfarfodydd ymgysylltu penodol ag amrywiaeth o sefydliadau ac unigolion sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig.

Rydym hefyd wedi sefydlu'r Grŵp Partneriaeth Bysiau i fod yn fwrdd seinio ar gyfer syniadau polisi ac i adlewyrchu ein hymrwymiad i gydweithio o fewn y sector. Mae'r Grŵp hwn yn cynnwys cyrff cynrychioliadol o bob rhan o'r sector bysiau. Y bwriad yw y bydd y Grŵp hwn yn parhau i gyfarfod a thrafod materion sy'n ymwneud â bysiau'n rheolaidd ac yn cynnig llwyfan i drafod diwygiadau a materion sy'n ymwneud â bysiau lle gall pob aelod gynnig eitemau i'w trafod a chael adborth a chyngor. Mae'r Grŵp hwn yn rhoi sylfaen i weithgarwch ymgysylltu a gwaith partneriaeth ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio fydd yn parhau drwy gydol cyfnod Bws Cymru a thu hwnt.

Amserlen ymgysylltu Bws Cymru

Yn ogystal â'n cyfarfodydd rheolaidd â gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol, gwnaethom gyfarfod â'r sefydliadau / grwpiau canlynol er mwyn helpu i lywio'r materion y gwnaethom eu hystyried yn Bws Cymru:

Dyddiad

Cyfarfod  / Gweithdy

Gwahoddedigion

Dydd Iau, 26 Awst 2021        

Rhwydwaith Cyfathrebu Gyrru Traveline Cymru

Cydweithwyr marchnata a chyfathrebu o sefydliadau trafnidiaeth amrywiol

Dydd Llun, 6 Medi 2021                

Bws Cymru - Gweithdy Ymgysylltu Sesiwn 1

Ffocws ar Drafnidiaeth, Traveline Cymru

Dydd Mawrth, 7 Medi 2021

Fforwm Rhanddeiliaid Canolbarth a Gorllewin Cymru Trafnidiaeth Cymru

Awdurdodau Lleol, Partneriaid Busnes a Thwristiaeth, Cyrff Addysg, Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chyrff Gwarchod Trafnidiaeth

Dydd Iau, 9 Medi 2021            

Panel Cynaliadwyedd Trafnidiaeth Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru / Sustrans / Dotiau
Canolfan Cydweithredol Cymru / Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
Y Ganolfan Cynaliadwyedd  / Platfform / CELSA UK
Asiantaeth Ynni Hafren Gwy / Tymor Hir
Cyfoeth Naturiol Cymru / Living Streets

Dydd Iau, 9 Medi 2021            

Fforwm Rhanddeiliaid Cymru a'r Gororau Trafnidiaeth Cymru

Awdurdodau Lleol, Partneriaid Busnes a Thwristiaeth, Cyrff Addysg, Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chyrff Gwarchod Trafnidiaeth

Dydd Iau, 9 Medi 2021            

Gweithgor Diwygio Bysiau

Awdurdodau Lleol, Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Dydd Gwener, 10 Medi 2021                

Bws Cymru - Gweithdy Ymgysylltu Sesiwn 2

Age Cymru, Cŵn Tywys, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau'r Merched, Anabledd Cymru, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn

Dydd Llun, 13 Medi 2021             

Fforwm Rhanddeiliaid De-ddwyrain Cymru Trafnidiaeth Cymru

Awdurdodau Lleol, Partneriaid Busnes a Thwristiaeth, Cyrff Addysg, Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chyrff Gwarchod Trafnidiaeth

Dydd Mawrth, 14 Medi 2021            

Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru

Rhwydwaith Ffederasiwn Busnesau Bach
Swyddfa Comisiwn Cenedlaethau'r Dyfodol / Sustrans Cymru / Ffocws ar Drafnidiaeth / Cymdeithas Cludiant Cymunedol / Cydffederasiwn Diwydiant Prydain
Comisiynydd Plant Cymru / Cytûn: Eglwysi Ynghyd yng Nghymru
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru / Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru / Sefydliad Bevan / Stonewall Cymru / CPT Cymru / Cadeirydd, Trafnidiaeth Cymru
Rheolwr Hygyrchedd a Chynhwysiant Trafnidiaeth Cymru

Dydd Mawrth, 14 Medi 2021            

Sesiwn Gweithdy i Undebau

PCS, UNSAIN, Unite

Dydd Iau, 16 Medi 2021           

Fforwm Rhanddeiliaid Gogledd Cymru Trafnidiaeth Cymru

Awdurdodau Lleol, Partneriaid Busnes a Thwristiaeth, Cyrff Addysg, Awdurdodau Trafnidiaeth Rhanbarthol a Chyrff Gwarchod Trafnidiaeth

Dydd Iau, 16 Medi 2021            

Bws Cymru - Gweithdy Ymgysylltu Sesiwn 3

Bus Users Cymru, Traveline Cymru

Dydd Mawrth, 21 Medi 2021

Gweithdai RNIB / Accessibility Powys

Rhanddeiliaid â nam ar eu golwg

Dydd Iau, 23 Medi 2021       

Tîm uwch-reolwyr Traveline Cymru

Traveline Cymru

Dydd Mawrth, 28 Medi 2021           

Grŵp Partneriaeth Bysiau

Cymdeithas Swyddogion Cydgysylltu Trafnidiaeth, CPT, CaBAC, Trafnidiaeth Cymru, Comisiynydd Traffig Cymru, Cymdeithas Cludiant Cymunedol, Traveline, Bus Users Cymru, Ffocws ar Drafnidiaeth

Roedd pawb a oedd wedi mynd i'r sesiynau wedi cael copïau o'r cyflwyniad ac wedi cael cynnig rhagor o gyfarfodydd ymgysylltu un i un.

Roedd y sesiynau ymgysylltu wedi ysgogi trafodaethau diddorol iawn ac wedi croesawu adborth.

Tynnodd ymatebwyr sylw at nifer o faterion yn ystod y sesiynau ymgysylltu yn ogystal â meysydd penodol y mae angen rhoi sylw iddynt wrth ystyried gwella trafnidiaeth gyhoeddus. Anogwyd pobl i drafod y problemau y maent yn eu hwynebu wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn fanwl. Cofnodwyd amrywiaeth o safbwyntiau a sylwadau ym mhob sesiwn ac roedd ffocws trafodaethau'r cyfarfodydd yn amrywio yn dibynnu ar bwy oedd yn bresennol.

Dewisodd rhai rhanddeiliaid gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn dilyn y trafodaethau ac ystyriwyd y rhain wrth lunio'r adroddiad hwn.

Y materion a godwyd ac ymateb Llywodraeth Cymru

Gwnaethom groesawu'r nifer sylweddol o sylwadau a gafwyd yn ystod ein sesiynau ymgysylltu ac amrywiaeth y sylwadau hynny. Mae hyn wedi helpu i lywio ein syniadau wrth ddatblygu cynigion i wella trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru yn Bws Cymru.

Gan ystyried yr holl wybodaeth uchod, gweithgarwch ymgysylltu a'r cyd-destun polisi, rydym wedi nodi'r materion y bydd Bws Cymru yn ceisio mynd i'r afael â nhw o fewn y cynllun pum mlynedd.

Isod rydym wedi tynnu sylw at y prif faterion a godwyd drwy'r holl weithgarwch ymgysylltu a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ers yr Uwchgynadleddau Bysiau yn 2017, hyd at a chan gynnwys gweithdai penodol Bws Cymru. Rydym hefyd wedi darparu ymateb ar ran Llywodraeth Cymru sy'n nodi sut mae Bws Cymru wedi mynd i'r afael â'r materion hyn.

Ystyriaethau amgylcheddol / datgarboneiddio

Cyfeiriodd llawer o randdeiliaid at newid yn yr hinsawdd, sy'n bwnc amserol iawn, a sut y gall y sector bysiau gyfrannu at ddatgarboneiddio. Ymhlith y materion a godwyd roedd sut y gall gwasanaethau bysiau a'r fflyd bysiau helpu i leihau'r ddibyniaeth ar geir; gwella ansawdd aer; a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Cododd rhanddeiliaid y mater o newid i fysiau di-allyriadau yn ogystal â'r costau sylweddol y bydd hyn yn ei olygu i'r sector. 

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod y sector bysiau'n hollbwysig er mwyn mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd a'r argyfwng hinsawdd. Mae Llwybr Newydd yn ceisio sicrhau newid o ddefnyddio ceir fel bod 45% o deithiau'n cael eu gwneud gan ddefnyddio dulliau cynaliadwy, fel bysiau. Bydd angen gwneud gwelliannau trawsnewidiol i wasanaethau bysiau er mwyn cyrraedd y targed hwn. Rydym wedi cyhoeddi Cymru Sero Net: Cyllideb Garbon 2 sy'n nodi'r uchelgais i leihau allyriadau ym maes cludo teithwyr 21% yn 2025 (o gymharu â 2019) a 90% yn 2050. Mae prosiectau cysylltiedig sy'n ymwneud â bysiau wedi cael eu cynnwys yn Bws Cymru. 

Cyllid

Holodd rhanddeiliaid, yn enwedig y rhai sy'n cynrychioli awdurdodau lleol a gweithredwyr bysiau, a yw gwasanaethau bysiau'n cael digon o gyllid i greu gwasanaeth o ansawdd, yn enwedig o gofio y byddai'r cymorth ariannol brys presennol ar gyfer COVID-19 yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2022 ac y byddai angen digon o amser cynllunio i baratoi ar gyfer gwahanol sefyllfaoedd. Dywedodd eraill fod y sector bysiau'n cael cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru a holwyd a yw'r cyhoedd yn cael budd o'r buddsoddiad hwn.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod cyllid yn fater pwysig i'r sector, yn enwedig o gofio'r ansicrwydd presennol ynghylch pandemig COVID-19. Mae Bws Cymru yn anelu at adolygu llawer o'r ffrydiau cyllido gwahanol sydd ar gael i'r sector bysiau er mwyn helpu i ddarparu'r arian sydd ei angen er mwyn cynnal gwasanaethau hollbwysig; caiff cyhoeddiadau eraill ynghylch diwedd y Cynllun Brys ar gyfer y Sector Bysiau (BES2) eu gwneud maes o law. O ran gwaith partneriaeth, mae Llywodraeth Cymru o'r farn y gellid gwneud defnydd gwell o fuddsoddiad cyhoeddus yn y sector drwy wella safonau gwasanaethau ac ati. Mae'r prosiectau a nodir yn Bws Cymru yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy gynnig cyllid ar yr amod bod y sector yn cyflawni gweithgareddau penodol er mwyn gwella.

Argaeledd / cyrhaeddiad gwasanaethau

Un mater pwysig y cyfeiriodd llawer o randdeiliaid ato oedd cyfleustra cael gwasanaeth/llwybr bysiau yn agos at y mannau lle mae pobl yn byw a'r mannau y mae pobl am fynd iddynt. Mae hyn yn arbennig o berthnasol i bobl nad oes ganddynt gar, gan gynnwys pobl ifanc a'r anabl. Mae sicrhau bod gan wasanaethau gyrhaeddiad eang yn bwysig er mwyn denu defnyddwyr bysiau newydd a chynyddu nifer y teithwyr yn gyffredinol.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod argaeledd gwasanaethau bysiau a'u ‘cyrhaeddiad’ yn fater pwysig iawn. Mae Bws Cymru yn cynnig llawer o brosiectau gwahanol a fydd yn helpu i dyfu'r rhwydwaith gwasanaethau mewn ffordd a gynlluniwyd gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau. Mae cynllunio'r rhwydwaith yn hollbwysig yn hyn o beth yn ogystal â meddwl pa fath o wasanaeth sydd orau o ystyried daearyddiaeth ardal a'r lefelau galw sy'n gysylltiedig â lle penodol / cyrchfan benodol.

Dibynadwyedd

Holodd llawer o randdeiliaid sut y gallwn ennyn hyder y cyhoedd y bydd y gwasanaethau bysiau y maent yn teithio arnynt yn mynd â nhw i'r man o'u dewis ac adref eto ac y bydd gwybodaeth bwysig am newidiadau i deithiau ar gael iddynt.

Mae Llywodraeth Cymru'n gwerthfawrogi na fydd mwy o bobl yn teithio ar fysiau oni bai y gellir sicrhau bod gwasanaethau'n ddibynadwy. Gall un profiad gwael wneud i rywun beidio â theithio ar fws am flynyddoedd. Fodd bynnag, gall dibynadwyedd gwasanaethau fod yn gysylltiedig â nifer o faterion gan gynnwys fflyd, problemau staffio a thagfeydd. Mae Bws Cymru yn anelu at fynd i'r afael â materion sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r sector bysiau drwy nifer o fentrau, gan gynnwys ansawdd a dibynadwyedd y bysiau eu hunain yn ogystal â denu mwy o bobl i'r sector. Mae Bws Cymru yn anelu at gyflwyno Siarter Teithwyr Bysiau a allai hefyd ystyried rhoi hawliau i deithwyr o ran eu gallu i gyrraedd eu cyrchfan. Mae gwybodaeth brydlon yn bwysig hefyd yn hyn o beth (gweler isod).

Hygyrchedd a chysylltedd gwasanaethau

Cododd rhanddeiliaid bwynt pwysig ynghylch sicrhau y gall pob aelod o gymdeithas ddefnyddio ein gwasanaethau bysiau'n ddiogel. Dywedodd defnyddwyr anabl wrthym eu bod yn cael anawsterau am nad oes lle ar y bws bob amser ac nad ydynt yn gallu mynd ar fysiau am fod cerbydau eraill wedi parcio mewn safleoedd bysiau. Un mater penodol arall a godwyd oedd diffyg cyfleusterau digonol i gysgodi pan fo'n glawio neu pan fo angen i deithwyr eistedd.

Mae Llywodraeth Cymru am i fysiau fod yn hygyrch i bawb. Mae hyn yn golygu o'r adeg y bydd rhywun yn cyrraedd y safle neu'r orsaf fysiau i'r adeg y bydd yn gadael y bws yn ei gyrchfan. Gwyddom fod llawer o ffyrdd y gall y sector bysiau wneud gwelliannau er mwyn bod yn hygyrch i bawb. Mae Bws Cymru yn anelu at ymrwymo Llywodraeth Cymru i ymgysylltu'n rheolaidd â grwpiau nodweddion gwarchodedig er mwyn dysgu mwy am faterion sy'n benodol i fysiau y mae angen mynd i'r afael â nhw. Roedd ein digwyddiadau ymgysylltu wedi ein galluogi i bwyso a mesur rhai o'r materion hyn ond rydym am i'r drafodaeth hon barhau fel y gellir gwneud newidiadau ystyrlon.

Bydd prosiectau Bws Cymru hefyd yn helpu i godi safonau gwasanaethau a seilwaith cefnogol fel bod bysiau'n hygyrch i bawb. Mae hyn yn cynnwys hyfforddiant i yrwyr i'w gwneud yn ymwybodol o'r problemau sy'n wynebu pobl, y mae llawer ohonynt yn anweledig, fel y gallant werthfawrogi'r problemau hyn a rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i gwsmeriaid. Mae Bws Cymru yn anelu at gyflwyno Siarter Teithwyr Bysiau a allai hefyd ystyried rhoi hawliau i deithwyr o ran gwasanaethau hygyrch.

Diogelwch

Passengers, particularly those from protected characteristic groups, raised the important issue of safety on buses, particularly at night. Feelings of not being safe can arise from many different aspects including how a passenger feels entering and exiting the bus; how clean the bus is; if CCTV is present on the bus and active; and the behaviour of other passengers.

Passengers must feel safe when travelling by bus. As mentioned previously, bad experiences can stop people from using buses altogether which, in some groups, could lead to isolation. As mentioned previously, Bws Cymru seeks to introduce a Bus Passengers Charter which could also explore empowering passengers in terms of how they should be able to feel when travelling on bus services. Bws Cymru also outlines a number of projects which can be linked to safety issues including driver training, the quality of the bus fleet and design considerations when developing new bus infrastructure, stops and interchanges.

Seilwaith

Pwysleisiodd rhanddeiliaid yr angen i barhau i fuddsoddi mewn datblygu seilwaith sy'n gysylltiedig â bysiau. Roedd hyn yn cynnwys prosiectau cyfnewidfeydd a blaenoriaeth ffyrdd o ansawdd ar gyfer bysiau sy'n galluogi pobl i gyrraedd eu cyrchfannau'n gyflymach ac yn helpu i leihau costau gweithredu a nifer y bysiau sydd eu hangen i redeg gwasanaethau wedi'u hamserlennu.

Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod seilwaith bysiau o ansawdd uchel ac sydd mewn cyflwr da yn angenrheidiol er mwyn cael gwasanaethau effeithlon a dibynadwy ac mae hyn, yn ei dro, yn gysylltiedig â hyder teithwyr wrth ddefnyddio'r rhwydwaith. Mae Bws Cymru yn nodi ein hymrwymiad i fuddsoddi mewn rhaglen seilwaith bysiau yn ogystal â thargedu ein trefniadau cyllido at brosiectau bysiau bach a mawr. Fel rhan o'r buddsoddiad penodol hwn bydd angen i gydweithwyr o'r sector bysiau gymryd camau rhagweithiol i nodi'r prosiectau mwyaf cost-effeithiol a buddiol a dod i gytundeb â'i gilydd ynghylch y rhai gorau i wario arian arnynt.

Ymgysylltu

Y farn a fynegwyd yn ystod llawer o weithdai Bws Cymru oedd bod safbwyntiau defnyddwyr bysiau ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ddefnyddiol wrth ddatblygu prosiectau bysiau a bod angen cynnwys teithwyr i raddau mwy fel y gallant rannu eu profiadau uniongyrchol â'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau ynghylch polisïau a phrosiectau. 

Mae Bws Cymru yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i raglen barhaus o weithgarwch ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid sydd â buddiant yn y sector hwn. Byddwn yn ceisio sefydlu rhaglen reolaidd o gyfarfodydd ag awdurdodau lleol, gweithredwyr bysiau, cyrff proffesiynol/ambarél a grwpiau defnyddwyr teithwyr (gan gynnwys y rhai â nodweddion gwarchodedig). 

Gwybodaeth

Cyfeiriodd nifer o randdeiliaid at ansawdd a chywirdeb gwybodaeth am wasanaethau bysiau ac roedd yn bwnc trafod cyffredin yn ystod gweithdai Bws Cymru. Ymhlith y materion a godwyd oedd y ffaith bod gwybodaeth sydd wedi dyddio a gwybodaeth anghyson yn cael eu harddangos mewn safleoedd bysiau ac ar-lein; anghysondebau yn yr wybodaeth a ddarperir gan y gweithredwyr bysiau i hysbysu'r Comisiynydd Traffig am newidiadau i amserlenni; argaeledd gwybodaeth mewn fformatau amrywiol; a sicrhau bod gwybodaeth ar-lein yn cael ei diweddaru'n rheolaidd. Cyfeiriodd defnyddwyr bysiau hefyd at bwysigrwydd cael gwybodaeth amser real mewn safleoedd bysiau a gwybodaeth glyweledol ar fysiau. Mae angen rhannu gwybodaeth am unrhyw wasanaethau sy'n cael eu tynnu'n ôl ac unrhyw ddiwygiadau neu newidiadau yn eang fel na bod cwsmeriaid yn cael eu gadael yn ddiymgeledd.

Mae Llywodraeth Cymru'n gwerthfawrogi bod mynediad i wybodaeth yn cwmpasu llawer o agweddau gwahanol ar draws amrywiaeth o lwyfannau ffisegol a digidol. Rydym hefyd yn cydnabod bod cael yr wybodaeth fwyaf cywir a syml yn hollbwysig i'r cyhoedd wrth iddynt gynllunio eu teithiau bws a mynd ar deithiau bws. Mae Bws Cymru yn amlinellu nifer o brosiectau er mwyn helpu i wella mynediad i wybodaeth a fydd yn cynnwys gweithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chofnodi mewn ffordd gywir a chyson sydd ar gael mewn amrywiaeth o fformatau.  

Tocynnau

Dywedodd rhanddeiliaid bod tocynnau yn broblem gyson yn y sector bysiau a holwyd sut y gall cwsmeriaid brynu un tocyn syml ar gyfer taith aml-gam yn rhwydd. Dywedwyd bod angen tocynnau integredig â mathau eraill o drafnidiaeth, yn enwedig trenau. 

Mae Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru eisoes yn ystyried sut y gallwn wella tocynnau integredig er mwyn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws ac yn fwy cyfleus i'w defnyddio. Mae Bws Cymru yn cyflwyno prosiectau a fydd yn rhoi trefniadau newydd ar waith ar gyfer opsiynau tocynnau symlach a fforddiadwy dros gyfnod pum mlynedd y cynllun. Mae'r rhain yn cynnwys ystyried trefniadau tocynnau parth ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, cynlluniau aml-weithredwr, capiau ar brisiau tocynnau a thocynnau electronig. 

Fforddiadwyedd

Roedd gwneud teithio ar fysiau'n fforddiadwy i bawb yn thema gyffredin yn ein digwyddiadau â rhanddeiliaid. Mae angen i ni sicrhau y gall y rhai sy'n dibynnu fwyaf ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol i symud o gwmpas fforddio gwneud hynny yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae angen i fysiau fod yn opsiwn deniadol i'r rhai sy'n defnyddio eu ceir i deithio o gwmpas ar hyn o bryd er mwyn gallu sicrhau'r newid rydym am ei weld mewn dulliau teithio. Mae pris tocynnau yn ffactor allweddol sy'n dylanwadu ar benderfyniad unigolyn i newid.

Mae Llywodraeth Cymru'n ymrwymedig i sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn fforddiadwy i bawb sydd angen ei defnyddio er mwyn symud o gwmpas yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Bydd ein gwaith Tocynnau Tecach yn helpu i sicrhau bod teithio ar fysiau'n fwy fforddiadwy i'r rhai sydd ei angen fwyaf a'r rhai a all ddewis bysiau fel eu trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn y dyfodol.

Profiad cwsmeriaid

Drwy gydol ein sesiynau ymgysylltu clywsom lawer o hanesion am wasanaeth cwsmeriaid gwych gan yrwyr a chwmnïau bysiau ledled Cymru. Fodd bynnag, clywsom dystiolaeth anecdotaidd hefyd am achosion lle na chafodd cwsmeriaid y gwasanaeth disgwyliedig, naill ai oherwydd diffyg hyfforddiant a dealltwriaeth ar ran y gyrrwr neu ymatebion anfoddhaol gan y gweithredwr bysiau i gwynion.

Mae Bws Cymru yn nodi nifer o fesurau yn y maes hwn, gan gynnwys creu Siarter Teithwyr sy'n nodi'r pethau sylfaenol y dylai pob cwsmer eu disgwyl wrth deithio ar fysiau. Mae hyfforddiant i yrwyr yn bwysig yn hyn o beth a byddwn yn ystyried sut y gallwn sicrhau bod y system a'r cwricwlwm presennol yn gweddu'n well i'r problemau sy'n codi yma yng Nghymru, gan gynnwys rhoi sylw mwy effeithiol i faterion yn ymwneud â chydraddoldeb ac iaith.

Hyrwyddo a marchnata

Roedd annog pobl i ddefnyddio gwasanaethau bysiau (neu eu defnyddio unwaith eto) yn fater a godwyd yn aml gan randdeiliaid. Gofynnwyd sut y gallwn hyrwyddo gwasanaethau bysiau i'r cyhoedd mewn ffordd gadarnhaol, yn enwedig y rhai nad ydynt yn teithio ar fysiau'n rheolaidd, os o gwbl. Gofynnwyd pam mae awdurdodau lleol, yn y gorffennol, wedi tueddu i hyrwyddo cyfleusterau parcio am ddim cyn y Nadolig, ond nad ydynt wedi rhoi unrhyw gymhellion ariannol i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Rhoddwyd rhai esiamplau diweddar hefyd o awdurdodau lleol yn cynnig teithiau bws am ddim.

Mae Bws Cymru yn tynnu sylw at yr ymgyrch y mae Trafnidiaeth Cymru yn ei pharatoi i ennyn hyder pobl i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus unwaith eto ar ôl pandemig COVID-19. Rhagwelir y bydd yr ymgyrch hon yn rhan o ymgyrch barhaus a fydd yn esblygu dros amser i sbarduno'r adferiad rydym am ei weld a'r newid ehangach rydym am ei weld i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Anghenion a heriau gwahanol o ran trafnidiaeth: trefol / gwledig (challenges: urban and rural) trefol a gwledig ?

Dywedodd rhanddeiliaid wrthym fod y profiad o ddefnyddio bysiau mewn ardaloedd trefol a gwledig yn wahanol iawn. Gofynnwyd sut rydym yn cydnabod yr heriau gwahanol sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig gan barhau i ddarparu gwasanaethau rheolaidd a dibynadwy i gymunedau sy'n ddibynnol iawn ar geir ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gwahaniaeth mawr rhwng cynllunio ar gyfer gweithrediadau bysiau mewn ardaloedd trefol a gwledig. Mae Bws Cymru yn amlinellu nifer o brosiectau sy'n ymwneud â hyn, gan gynnwys cynllunio rhwydweithiau bysiau i sicrhau eu bod yn gweithredu yn y ffyrdd mwyaf effeithiol mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yn ogystal, sicrhau bod y ddarpariaeth gywir ar gael ym mhob lleoliad unigryw; os nad bws rheolaidd sy'n dilyn amserlen yw'r ddarpariaeth fwyaf addas, mae Bws Cymru yn cynnig dewisiadau amgen (fel Trafnidiaeth Gymunedol, Fflecsi a gwasanaethau tacsi) y gellir eu defnyddio. Mae cydgysylltu'r gwasanaethau hyn yn hollbwysig er mwyn darparu rhwydwaith trafnidiaeth cwbl integredig.

Recriwtio gyrwyr, safonau proffesiynol a chynllunio ar gyfer olyniaeth

Trafododd rhanddeiliaid sut y gallwn sicrhau bod gyrwyr, swyddogion trafnidiaeth awdurdodau lleol a phersonél gwasanaethu ar gael yn y dyfodol er mwyn helpu i gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau. Roedd hyn yn arbennig o berthnasol yn sgil sylw proffil uchel yn y cyfryngau i'r ffaith bod prinder gyrwyr bysiau mewn rhai ardaloedd. Awgrymwyd ymgyrchoedd recriwtio fel un ateb, ond trafodwyd materion ehangach, gan gynnwys tâl, telerau ac amodau, fel ffordd o wneud gyrru bysiau, a swyddi ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yn gyffredinol, yn ddeniadol i weithwyr newydd.

Rydym yn cydnabod bod heriau'n bodoli o fewn y diwydiant bysiau a choetsys o ran staff, yn enwedig prinder gyrwyr, recriwtio newydd-ddyfodiaid, hyfforddi a phrofi, yn ogystal â phroffil oedran gyrwyr. Mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu'r sefyllfa am fod rhai wedi penderfynu gadael y diwydiant. Mae hyn yn codi pryderon am gapasiti yn y dyfodol i ddarparu gwasanaethau bysiau wrth i'r economi barhau i ailagor yn dilyn COVID-19. Mae Bws Cymru yn cydnabod hyn drwy amrywiaeth o brosiectau a fydd yn ystyried y materion ac yn dechrau mynd i'r afael â'r rhwystrau. Mae angen i ni hefyd edrych i'r dyfodol a gweld pa fath o swyddi technegol y bydd eu hangen fel rhan o'r dyfodol carbon isel oherwydd bydd yn eithriadol o bwysig bod gennym y setiau sgiliau cywir i gyflawni'r newid hwnnw'n effeithlon.

Cynllunio defnydd tir

Mae angen lleoli datblygiadau newydd yn y lleoedd gorau ac mae angen sicrhau bod ganddynt fynediad digonol i drafnidiaeth gyhoeddus o'r dechrau. Dyma oedd y neges glir gan randdeiliaid. Dywedwyd bod angen sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus ar gael o'r dechrau er mwyn sicrhau'r newid mwyaf mewn ymddygiad. Trafododd rhanddeiliaid gymhellion fel rhan o gynlluniau tai newydd a fyddai'n helpu i sicrhau newidiadau mewn dulliau teithio mor gynnar â phosibl.

Mae polisïau cynllunio cenedlaethol presennol Llywodraeth Cymru eisoes yn rhoi pwyslais cryf ar ddatblygu cynaliadwy a'r ffaith y dylid lleoli datblygiadau newydd er mwyn lleihau'r angen i deithio. Mae Bws Cymru yn cynnwys sawl prosiect er mwyn helpu i wella'r cyngor a'r arweiniad a roddwn i awdurdodau lleol ynghylch dylunio eu polisïau cynllunio lleol a negodiadau ynghylch dylunio datblygiadau newydd er mwyn sicrhau bod gwasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu hystyried mor gynnar â phosibl.