Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud yng Nghymru tuag at gyflawni'r 7 nod llesiant.

Dyma’r 7 nod llesiant:

  • Cymru lewyrchus
  • Cymru gydnerth
  • Cymru iachach
  • Cymru sy’n fwy cyfartal
  • Cymru o gymunedau cydlynus
  • Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Sefydlwyd y saith nod llesiant er mwyn gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac maent wedi'u cynnwys yn y gyfraith o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Dangosyddion Cenedlaethol

Mae’r adroddiad hwn yn asesu cynnydd yn erbyn y 50 dangosydd cenedlaethol, a osodwyd gan Weinidogion Cymru yn 2016, ynghyd ag amrywiaeth o ddata perthnasol eraill. Mae tudalennau’r dangosyddion cenedlaethol yn cynnwys data ar gyfer pob un o’r dangosyddion cenedlaethol, ynghyd â dolenni at y ffynonellau a, phan fo’r rhain ar gael, cyhoeddiadau ystadegol ymhle y dadansoddir y dangosyddion mewn mwy o fanylder.

Cerrig milltir cenedlaethol

Eleni fydd y flwyddyn gyntaf y bydd adroddiad Llesiant Cymru yn adrodd ar y cerrig milltir cenedlaethol. Mae’r cerrig milltir cenedlaethol yn helpu i fesur cyflymder y newid sydd ei angen i gyrraedd y nodau llesiant. Pennwyd y gyfres gyntaf o gerrig milltir cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021, ac fe adroddir arnynt yn adroddiad Llesiant Cymru eleni lle bo data ar gael.

StatsCymru

Mae’r rhan helaeth o’r data a ddefnyddiwyd i fesur y dangosyddion cenedlaethol ar gael ar StatsCymru. Cynnigir data fesul ardal ddaearyddol neu fesul grŵp poblogaeth lle fo hwn yn bosib.

Sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio

Rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd o wella’r adroddiad, a gwneud yr wybodaeth yr ydym yn ei chyhoeddi’n haws ei defnyddio ac yn addas i gynulleidfa eang. Mae deall sut mae’r adroddiad yn cael ei ddefnyddio yn hanfodol er mwyn inni allu gwneud hynny.

Sut mae adroddiad Llesiant Cymru yn cael ei ddefnyddio?

Adroddiadau

Llesiant Cymru, 2022: hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Llesiant Cymru, 2022 (llesiant plant a phobl ifanc): hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 276 KB

PDF
276 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Llesiant Cymru, 2022 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 1 MB

XLSX
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Llesiant Cymru, 2022: Llesiant plant a phobl ifanc , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 563 KB

XLSX
563 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Stephanie Howarth

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.