Neidio i'r prif gynnwy

Mae gennym nifer o grantiau sy'n darparu cyllid tuag at greu a datblygu coetiroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cynllun Adfer Coetir

Mae’r Cynllun Adfer Coetir bellach ar agor ar gyfer ceisiadau newydd.

Bydd y ffenestr hon ar gyfer Mynegi Diddordeb yn cau am hanner nos ar 28 Chwefror 2025. Bydd angen i chi gwblhau'r holl Waith Sefydlu a Chyfalaf a chyflwyno'r holl hawliadau am daliad erbyn 31 Mawrth 2026.

Mae'r cynllun yn cynnig cymorth ariannol i:

  • ailblannu coetiroedd wedi'u heintio gan Phytophthora Ramorum 
  • ailblannu ardaloedd llarwydd sydd wedi'u cwympo i helpu i arafu lledaeniad y clefyd
  • cwympo llarwydd ifanc wedi'i heintio gan Phytophthora Ramorum

Cynllun Cynllunio Creu Coetir

Cyngor am ddim ar Greu Coetir

Mae ‘gwasanaeth cyn ymgeisio’ am ddim ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'n cynnig gwybodaeth am ba mor addas yw eich tir ar gyfer creu coetir. 

I gael gafael ar y cyngor am ddim neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at: GwirioCynllunCoetir@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.

Ar ôl i chi gael cyngor cyn ymgeisio gallwch wneud cais i'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Mae’r cynllun yn cynnig cymorth ariannol ar gyfer cynlluniau creu coetir newydd. Mae'r Cynllun yn:

  • cynnig cymorth rhwng £1,000 a £5,000 a  
  • darparu cyllid i gynllunydd coetir cofrestredig ddatblygu cynllun creu coetir newydd

Mae'r Cynllun ar agor ar gyfer Datganiadau o Ddiddordeb drwy gydol y flwyddyn. Caiff ceisiadau llwyddiannus eu dewis bob mis.

Unwaith y bydd cynllun creu coetir wedi'i ysgrifennu, gallwch wneud cais am Grant Creu Coetir.

Grantiau Creu Coetiroedd

Mae'r cynlluniau hyn yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i greu coetir.

Mae dau fath o grant ar gael:

  • Grantiau Bach – Creu Coetir: ar gyfer cymorth i blannu arwynebedd o hyd at ddau hectar
  • Y Grant Creu Coetir: ar gyfer cymorth i blannu arwynebau mwy o goetir

Bydd y cyllid yn helpu ffermwyr i baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig. Bydd coed a blannir nawr yn cyfrif at y gweithredu cyffredinol ar gyfer gorchudd coed ar ffermydd

Mae'r cynlluniau hyn yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir i greu coetir.

Grant Creu Coetir 

Mae'r cynllun Grant Creu Coetir hwn yn cefnogi ffermwyr a pherchnogion tir i blannu:

  • arwynebeddau mwy o goetir, dros ddau hectar, ac
  • ardaloedd nad ydynt yn addas ar gyfer y cynllun Grantiau Bach – Creu Coetir

Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer:

  • plannu coed
  • ffensys
  • cynnal a chadw
  • taliadau premiwm (digolledu am golli incwm amaethyddol).  

Rhaid i chi fod â Chynllun Creu Coetir ar waith cyn gwneud cais. Mae cyllid ar gyfer llunio cynllun ar gael drwy'r Cynllun Cynllunio Creu Coetir.

Bydd yn agor ym mis Mawrth ac yn cau ym mis Tachwedd bob blwyddyn, neu pan fydd y gyllideb ar gyfer y cyfnod hwnnw wedi’i dyrannu. Caiff ceisiadau llwyddiannus eu dewis bob mis.

Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir 

Nid oes angen Cynllun Creu Coetir i wneud cais i’r Grantiau Bach – Cynllun Creu Coetir.

Mae'r cynllun hwn yn cefnogi ffermwyr a pherchnogion tir i blannu coed ar dir o dan ddau hectar ac sydd:

  • wedi’i wella’n amaethyddol, neu
  • o werth amgylcheddol isel

Mae'n darparu cymorth ariannol ar gyfer:

  • plannu coed
  • ffensys
  • cynnal a chadw
  • taliadau premiwm (digolledu am golli incwm amaethyddol)

Mae sawl cyfnod ymgeisio drwy gydol y flwyddyn: Cynlluniau gwledig: dyddiadau ymgeisio.

Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG)

Mae Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) bellach wedi cau i geisiadau newydd. Roedd yn darparu cymorth ariannol i bobl i:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwella ac ehangu coetiroedd presennol

yn unol â Safon Coedwigaeth y DU (ar gov.uk).

Roedd rhaid bod gan y coetiroedd botensial i ddod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol.

Coetiroedd Bach

Mae Grant Coetiroedd Bach bellach wedi cau i geisiadau newydd.

Roedd y cynllun hwn yn darparu cymorth ariannol ar gyfer pobl i greu coetiroedd bach. Roedd rhaid i'r coetiroedd hyn fod â'r potensial i fod yn rhan o Rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Roedd hyn yn golygu coetiroedd sydd

  • yn cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi'r cyfle i gymunedau lleol fod yn rhan o goetiroedd a natur