Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn creu, adfer ac yn ehangu coetiroedd.
Cynnwys
Cyflwyniad
Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn creu, adfer a gwella coetiroedd. Mae’n rhan o’r rhaglen Coedwig Cenedlaethol i Gymru.
Yn dilyn peilot llwyddiannus y llynedd, agorwyd cylch newydd gydag 1.9 miliwn o gyllid ar 13 Mehefin. Caiff y rhaglen ei hariannu ar y cyd gennym ni a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Bydd y rhaglen yn darparu cymorth ariannol i bobl:
- greu coetiroedd newydd
- gwella ac ehangu coetiroedd presennol
yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.
Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i fod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n:
- cael eu rheoli'n dda
- yn hygyrch i bobl
- yn rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur
Nodweddion allweddol
Bydd y cynllun yn cynnig:
- grantiau rhwng £40,000 – £250,000 (byddwn yn ystyried prosiectau eithriadol sy’n costio mwy)
- hyd at 100% o gyllid
- hyd at 2 flynedd i gyflawni’r prosiect
- cyllid cyfalaf a refeniw
- cyllid y gellir ei gyfuno â mathau eraill o grantiau a ffynonellau cyllido,
- cyngor a chymorth i gynllunio eich prosiect a sut i ymgeisio
Mae'r cynllun yn agored i berchnogion tir a rheolwyr gan gynnwys sefydliadau dielw.
Gallwch ddod o hyd i fanylion terfynau amser ymgeisio a dyddiadau allweddol yn: Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ( ar Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol)
Sut i ymgeisio
Cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr ddarllen y canllawiau a siarad â Chronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Disgwylir y bydd ymgeiswyr:
- wedi gwneud cais am unrhyw gydsyniadau neu ganiatadau angenrheidiol
- bod ganddynt gynllun Creu Coetiroedd os yw'r tir dros 2 hectar
- bod ganddynt gynllun rheoli coedwigoedd
- bod ganddynt Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol neu wedi gwneud cais am un
I wneud cais, ewch i borthol ymgeisio Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ar (heritagefund.org.uk).
Rhagor o wybodaeth
Rydym yn bwriadu cynnal cylch arall yn nes ymlaen eleni.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: CoedwigGenedlaetholCymru@llyw.cymru.