Julie Morgan AS, Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae ein Rhaglen Lywodraethu yn ein hymrwymo i barhau i gefnogi ein rhaglen flaenllaw Dechrau'n Deg. Ac yn unol â'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi ymestyn yr ymrwymiad hwnnw i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar fesul cam i gynnwys pob plentyn dwy flwydd oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Ein rhaglen Dechrau'n Deg ragorol ac uchel ei barch yw'r ffordd orau o ddechrau cyflawni'r ymrwymiad hwnnw. Eisoes, mae tua 36,000 o blant o dan bedair oed sy'n byw yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn elwa ar raglen Dechrau’n Deg – a thua 9,000 o blant dwy flwydd oed yn cael gofal plant a ariennir o ansawdd uchel.
Bydd cam cyntaf y broses o ehangu Dechrau'n Deg, a fydd yn dechrau ym mis Medi 2022, yn cynnwys pedair elfen y rhaglen bresennol – ymweliadau iechyd gwell, cymorth ar gyfer lleferydd, iaith a chyfathrebu, cymorth rhianta ynghyd â gofal plant. A'n bwriad yw cyrraedd 2,500 o blant ychwanegol o dan bedair oed yng ngham cyntaf y broses ehangu.
Byddwn yn cyhoeddi canllawiau manwl cyn hir ar gyfer ein partneriaid a'r sector. Bydd hynny’n galluogi i waith cynllunio ddigwydd ar lefel leol fel y gallwn wneud cynnydd cyflym tuag at gyflawni ein nod o ddarparu'r profiad gorau posibl yn y blynyddoedd cynnar i bob plentyn yng Nghymru.
Mae hon yn fenter uchelgeisiol a fydd yn gofyn am gydweithio agos ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a'n partneriaid yn y trydydd sector.
Mae’r gwaith yn datblygu’n gyflym a byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd wrth i gynlluniau ar gyfer y cam nesaf a thu hwnt gael eu cytuno.