Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
A chostau byw yn cynyddu’n sylweddol, gwyddom y bydd cyllidebau aelwydydd o dan bwysau cynyddol, a bydd llawer o deuluoedd yn poeni p’un a allant fforddio’r eitemau sydd eu hangen ar eu plant ar gyfer yr ysgol.
Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi y bydd y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, am flwyddyn yn unig, yn codi £100 i bob dysgwr sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Rwyf wedi cynyddu’r cyllid ar gyfer y Grant i fwy na £23m ar gyfer 2022/23.
Bydd teuluoedd sy’n derbyn y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad eisoes yn ei ddefnyddio ar gyfer gwisg ysgol sylfaenol eu plant, felly bydd y swm ychwanegol hwn yn talu am eitemau ychwanegol fel cit addysg gorfforol, esgidiau ysgol a chyfarpar arall, heb iddynt orfod gwneud penderfyniadau anodd o ran gwariant yr aelwyd.
Mae’r cyhoeddiad hwn yn golygu, i’r dysgwyr cymwys hynny sy’n dechrau blwyddyn 7, y bydd y grant yn werth £300, ac i bob grŵp blwyddyn arall, y bydd y grant yn werth £225. Bydd pob teulu sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn gallu cyflwyno hawliad dros yr haf am y cyllid.
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais yma.
I ategu’r cynllun, comisiynodd Llywodraeth Cymru Plant yng Nghymru i lunio cyfres o ganllawiau i ysgolion ynghylch prif elfennau cost y diwrnod ysgol. Mae canllawiau Pris Tlodi Disgyblion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru, ac anogir ysgolion a lleoliadau i’w defnyddio. Maent yn cynnwys dulliau ymarferol o godi ymwybyddiaeth o dlodi a sut mae’n effeithio ar ein dysgwyr yn yr ysgol.
Ochr yn ochr â’u gwaith uniongyrchol gydag ysgolion, mae Plant yng Nghymru wedi datblygu taflenni ffeithiol byr yn amlinellu ffyrdd syml, ymarferol y gall ysgolion helpu eu dysgwyr drwy leihau’r stigma o ran tlodi. Caiff y taflenni hyn eu cadw ar wefan Hwb a’u hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol a Dysg. Maent hefyd yn datblygu pecyn hyfforddi penodol i lywodraethwyr a fydd ar gael i bob llywodraethwr ysgol ac a fydd yn edrych ar ffyrdd y gallant gefnogi eu hysgolion i leihau’r stigma ynghylch tlodi.