Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhagarweiniad

Bydd etholiadau i bob ward ym mhob cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol, cyngor tref a chyngor cymuned yng Nghymru ar 5 Mai 2022. Nodwch y bydd pleidleisio cynnar yn digwydd cyn y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai mewn pedwar awdurdod: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Thorfaen. Nid yw hyn yn newid natur y canllawiau hyn, ond dylai swyddogion fod yn ymwybodol y bydd y pleidleisio'n digwydd ddydd Sadwrn 30 Ebrill, dydd Sul 1 Mai, dydd Mawrth 3 Mai a dydd Mercher 4 Mai (yn dibynnu ar yr awdurdod).

Ar 5 Mai hefyd bydd etholiadau lleol yn Lloegr a'r Alban ac etholiadau i Gynulliad Gogledd Iwerddon. Bydd y cyfnod cyn hynny yn gyfnod cyn-etholiadol ffurfiol i Lywodraeth Cymru, gan ddechrau ar 14 Ebrill 2022, er y dylid nodi bod hysbysiadau etholiadol yn debygol o gael eu cyhoeddi gan Swyddogion Canlyniadau ledled Cymru rhwng 18 Mawrth a 28 Mawrth.

Yn rhinwedd ein swyddi fel swyddogion Llywodraeth Cymru, ein rôl ni yw parhau i gynorthwyo'r Gweinidogion wrth eu gwaith fel arfer, gan gofio’r un pryd fod angen osgoi gweithredu mewn modd y bernir, neu y gellid barnu, ei fod yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid neu mewn modd sy'n debygol o fod â chysylltiad uniongyrchol â’r etholiadau llywodraeth leol.

Diben y nodyn hwn yw rhoi arweiniad cyffredinol ar yr effaith a gaiff ymgyrch yr etholiad ar swyddogion sy'n gweithio i Lywodraeth Cymru. Bydd y GIG, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru yn cael eu hysbysu am egwyddorion y canllawiau hyn. Mae'r canllawiau'n berthnasol o ddechrau ffurfiol yr ymgyrch ar 14 Ebrill 2022 tan y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai 2022, gan gynnwys y diwrnod hwnnw.

Nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â phob achos a allai godi yn ystod yr ymgyrch, ac nid oes modd iddynt wneud hynny. Ceir rhestr o faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol a chynghorau tref a chymuned yn Atodiad A. Mae Atodiad A hefyd yn rhoi diffiniad ac esboniad o'r term 'awdurdodau lleol' a ddefnyddir drwy gydol y ddogfen hon.

Os oes gennych unrhyw amheuon o gwbl am yr hyn y dylech ei wneud, dylech gysylltu â’ch Cyfarwyddwr Cyffredinol / Cyfarwyddwr eich Adran neu â'r swyddog cyswllt priodol a restrir ym mharagraff 14 o'r nodyn hwn.

Mae Cod y Gwasanaeth Sifil yn parhau i fod yn berthnasol yn ystod yr ymgyrch ac mae’n rhaid i weision sifil barchu dwy egwyddor sylfaenol bob amser:

  1. bod yn wleidyddol ddiduedd, a bod yn amlwg felly i eraill
  2. sicrhau nad oes adnoddau cyhoeddus yn cael eu defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid.

O dan y Cod, disgwylir i weision sifil Llywodraeth Cymru fod yn deyrngar i Lywodraeth Cymru. O'r herwydd, dylai swyddogion barhau i fynd ati i gyflawni'r ymrwymiadau yn y rhaglen lywodraethu ac i ymgymryd â busnes arall Llywodraeth Cymru.

2. Cynorthwyo’r Gweinidogion – Papurau briffio, cyflwyniadau ysgrifenedig a busnes arferol

Yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ni ddylid, yn arferol, ofyn i'r Gweinidogion benderfynu ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar un neu fwy o’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru nac ar Awdurdodau Lleol Cymru yn gyffredinol (gweler Atodiad A), pe gellid dehongli hynny fel ymgais i ddylanwadu ar yr etholiadau. Dylid naill ai wneud penderfyniadau o'r fath cyn i'r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau neu dylid eu gohirio tan ar ôl yr etholiadau.

Yn fwy cyffredinol, dylai swyddogion barhau i roi cyngor i'r Gweinidogion a’u briffio, a bwrw ymlaen â'u gwaith fel arfer, heb anghofio'r gofynion arferol i fod yn ddiduedd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr nad oes unrhyw beth yn ein gwaith (gan gynnwys papurau briffio ac atebion i ohebiaeth) a allai awgrymu neu a allai beri i rywun feddwl ein bod yn cefnogi neu'n gwrthwynebu un neu fwy o'r pleidiau gwleidyddol. Os oes gennych unrhyw amheuon, gofynnwch am gyngor eich Cyfarwyddwr Cyffredinol neu Gyfarwyddwr eich Adran.

3. Ymdrin â gohebiaeth, Cwestiynau’r Senedd, ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac ymholiadau

Oni bai fod y materion ynddynt yn effeithio'n uniongyrchol ar un neu fwy o’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru, neu ar Awdurdodau Lleol Cymru yn gyffredinol (gweler Atodiad A), dylai swyddogion, drwy gydol cyfnod yr ymgyrch, barhau i ateb gohebiaeth a Chwestiynau'r Senedd yn unol â'r gweithdrefnau sy'n bodoli eisoes.

Bydd gohebiaeth at y Gweinidogion oddi wrth Gynghorwyr ac ymgeiswyr yn yr etholiadau am faterion nad ydynt yn effeithio'n uniongyrchol ar yr Awdurdodau Lleol yn dal i gael ei hateb yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Yn unol â'r egwyddor gyffredinol o sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn gyfartal, ac oherwydd anhawster ymarferol sicrhau y byddai pob ymgeisydd yn cael ateb Gweinidogol, bydd y rheolau arferol ynghylch gohebiaeth yn newid ychydig. Bydd gohebiaeth i gynghorwyr neu ddarpar gynghorwyr yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol yn cael eu trin fel atebion gan swyddogion yn hytrach na'r ymatebion Gweinidogol arferol.

Os yw gohebiaeth, Cwestiynau'r Senedd neu geisiadau am wybodaeth yn effeithio'n uniongyrchol ar Awdurdodau Lleol, dylid ymdrin â hwy yn y ffordd a amlinellir yn Atodiad A.

Mae pob cais am wybodaeth yn dod o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ac fel arfer, rhaid ymateb iddynt ymhen 20 niwrnod gwaith. Os yw ceisiadau’n ymwneud â datgelu gwybodaeth gofnodedig nad yw'n wybodaeth gyhoeddus, dylid parhau i ymdrin â'r ceisiadau hynny yn unol â'r canllawiau i staff sy’n trin ceisiadau am wybodaeth gofnodedig.

Dylech ymdrin â phob cais o'r fath yn yr un ffordd, ni waeth beth fo ymlyniad gwleidyddol y sawl sy'n ei wneud. Mae arweiniad pellach yn Atodiad A.

4. Cyfathrebu

O ystyried y sefyllfa bresennol o ran pandemig, a’r cyngor ar wahân yn Atodiad B, y rheol gyffredinol yw na ddylid gwneud unrhyw gyhoeddiadau yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol ar faterion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar un neu fwy o Awdurdodau Lleol yng Nghymru, neu Awdurdodau Lleol Cymru yn gyffredinol. Os oes angen gwneud cyhoeddiadau yn yr ardaloedd hyn, yna rhaid gwneud y rhain naill ai cyn i'r cyfnod cyn-etholiadol ddechrau, neu ei ohirio tan ar ôl i'r etholiadau gael eu cynnal. Dylai staff cyfathrebu weithio gyda swyddogion ym mhob adran i nodi'r rhain ymhell ymlaen llaw.

Yn fwy cyffredinol, dylid cymryd gofal arbennig wrth wneud cyhoeddiadau, trefnu digwyddiadau cyhoeddus, cyhoeddi deunydd ar wefan Llywodraeth Cymru ac ymgymryd â gwaith marchnata a chyhoeddusrwydd y telir amdano. Wrth gynnal gwaith arferol, tu allan i’r meini prawf a nodir uchod, dylai’r uwch-swyddogion a’r staff cyfathrebu ddal i ddefnyddio prawf sensitifrwydd ym mhob achos. Y rheol gyffredinol yw na ddylid rhoi'r argraff i unrhyw un fod unrhyw un neu rai o'r gweithgareddau hyn yn gysylltiedig â gwleidyddiaeth plaid.

Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech geisio cyngor y Cyfarwyddwr Cyfathrebu, y Pennaeth Newyddion neu Bennaeth Cyfathrebu’r adran berthnasol.

Mae canllawiau penodol wedi’u paratoi ar gyfer swyddogion y Gyfarwyddiaeth Gyfathrebu a Rheolwyr Adrannol y We (Atodiad B). Mae'r gweithdrefnau awdurdodi sy’n gysylltiedig â rhyddhau newyddion yn cael eu hailadrodd yn y canllawiau hyn.

Bydd cydweithwyr yn y proffesiynau dadansoddi yn cael eu canllawiau manwl eu hunain hefyd (Atodiad C).

5. Working with Wh5. Cydweithio ag Adrannau Llywodraeth y DU yn Whitehall ac â’r Llywodraethau Datganoledigitehall UK and devolved governments' departments

Bydd swyddogion Llywodraeth y DU a’r Llywodraethau Datganoledig hefyd yn cael canllawiau cyfatebol am yr etholiadau yn ystod y cyfnod ymgyrchu. Os yw swyddogion Llywodraeth Cymru yn arfer cydweithio ag adrannau Llywodraeth y DU, dylent barhau i drafod â'r swyddogion cyfatebol. Os oes gan staff, yng nghyd-destun y canllawiau hyn, unrhyw bryderon ynghylch cyhoeddiadau neu ymgyngoriadau posibl (gweler yr adran isod) gan Adrannau Llywodraeth y DU yn ystod y cyfnod hwn, trafodwch â’ch Dirprwy Gyfarwyddwr, ac os oes angen, codwch y mater ag Is-adran y Cyfansoddiad a'r Cyfarwyddwr Llywodraethiant.

6. Ymgynghori

Os yw Llywodraeth Cymru yn paratoi polisi newydd, rhaglen newydd neu gynigion deddfwriaethol newydd ac os yw'n ofynnol iddi ymgynghori, fel rheol ni ddylai ymgyngoriadau gychwyn yn ystod cyfnod yr ymgyrch.

Ni ddylai ymgyngoriadau uchel eu proffil neu sensitif sy'n ymwneud ag Awdurdodau Lleol gael eu cynnal o gwbl yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Fodd bynnag, gall ymgyngoriadau a gychwynnodd cyn dechrau'r cyfnod cyn-etholiadol fynd yn eu blaen, gyda chyfyngiadau priodol ar y cyhoeddusrwydd iddynt, os nad yw'r ymgynghoriad yn un o broffil uchel neu sensitif. Ni ddylai ymgyngoriadau proffil uchel neu sensitif o'r fath gyd-fynd â'r cyfnod cyn-etholiadol o gwbl.

Os oes bwriad i gynnal ymgynghoriad ar y cyd rhwng un o Adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, dylid gwneud pob ymdrech i osgoi cychwyn unrhyw ymgynghoriad yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol (neu osgoi bod ymgynghoriad o'r fath yn parhau yn ystod y cyfnod hwnnw, os bydd yn ddadleuol neu'n uchel ei broffil). Os yw hyn yn anorfod oherwydd amserlen ddeddfwriaethol San Steffan, neu os oes perygl gwirioneddol y gallai Cymru gael ei heithrio o ddeddfwriaeth ac y gallai hynny fod yn andwyol i fudd y cyhoedd, dylai'r ymgynghoriad fynd rhagddo ond gan fod yn sensitif i ymgyrchoedd yr etholiad.

7. Gweithgarwch gwleidyddol gan swyddogion

Dylai pob swyddog ymgyfarwyddo â’r rheolau ar weithgarwch gwleidyddol, gan fod angen i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio i'r Llywodraeth ofyn am ganiatâd cyn cymryd rhan mewn unrhyw weithgarwch gwleidyddol.

Cewch y rheolau hyn yng Nghod Telerau ac Amodau Gwasanaeth Llywodraeth Cymru  (Cymryd Rhan mewn Gweithgareddau Gwleidyddol, paragraffau 2.36 - 2.42) a'r Polisi Adnoddau Dynol ar Weithgareddau Gwleidyddol.

Os oes unrhyw un sy’n cael ei gyflogi gan Lywodraeth Cymru am ymgymryd ag unrhyw weithgarwch gwleidyddol neu weithgarwch ymgyrchu mewn cysylltiad â'r etholiad, gan gynnwys sefyll fel ymgeisydd, dylai geisio caniatâd yn ysgrifenedig yn gyntaf oddi wrth ei Bartner Busnes Adnoddau Dynol, gan wneud hynny drwy ei reolwr llinell.

Wrth benderfynu a ddylid rhoi caniatâd ai peidio, y llinyn mesur yw a yw'r sawl sy'n gofyn yn gweithio mewn "maes sensitif" ai peidio. Mae'r term "maes sensitif" yn cael ei esbonio'n fanwl yn y polisi ar weithgarwch gwleidyddol. Caiff Llywodraeth Cymru osod amodau neu gyfyngiadau ar unrhyw ganiatâd a roddir. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddai'n caniatáu canfasio dienw dros y ffôn ond nid canfasio o ddrws i ddrws neu annerch cyfarfodydd. Mae'r Uwch Wasanaeth Sifil, swyddogion Graddau 6 a 7 a swyddogion ar y Llwybr Carlam wedi'u hatal rhag gweithgarwch gwleidyddol cenedlaethol.

Mae gan weithwyr sydd ar raddau diwydiannol a graddau heb fod mewn swyddfa yr hawl i gymryd rhan mewn gweithgarwch gwleidyddol. I weld diffiniad o'r graddau hyn, gweler paragraff 5.2 o’r Polisi Adnoddau Dynol ar Weithgareddau Gwleidyddol.

8. Y Cyfryngau Cymdeithasol a Diogelwch

Dylai staff fod yn ymwybodol o ganllawiau ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol personol yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ac mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy’r ddolen hon:

Personal use of social media

Dylai staff hefyd ymgyfarwyddo â'r Hysbysiad Diogelwch a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2020, sydd ar gael yma:

Senior Information Risk Owner notice

9. Defnyddio safleoedd Llywodraeth Cymru

Ni ddylid fyth defnyddio safleoedd ac adnoddau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys TGCh, at ddibenion ymgyrchu. Ni ddylem ddefnyddio safleoedd Llywodraeth Cymru at ddibenion o'r fath, nac arddangos posteri etholiadau. Bydd canllawiau tebyg yn cael eu hanfon at gyrff y GIG, Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru ac ati, ynghylch defnyddio'u hystadau hwy.

10. Grantiau Llywodraeth Cymru (yn berthnasol i’r holl grantiau gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud â COVID)

Dylid gwneud pob ymdrech i gyhoeddi llythyrau dyfarnu grantiau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid gwneud asesiad i weld a fyddai’r grant yn cael ei ystyried yn un uchel ei broffil neu’n swyddogol-sensitif yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Os caiff ei ystyried yn un uchel ei broffil, dylid ceisio cyngor (Cyfarwyddwr Cyffredinol/Cyfarwyddwyr Adrannol/ Canolfan Ragoriaeth Grantiau) cyn y caiff unrhyw lythyrau dyfarnu grant eu cyhoeddi. Mewn achosion brys neu pan fo’n hollol hanfodol, gall fod yn bosibl eu cyhoeddi ar sail eithriad, ond eto, byddai angen ceisio cyngor cyn cyhoeddi unrhyw lythyrau grant.

Os na fernir bod y llythyrau dyfarnu grant yn uchel eu proffil a’u bod yn cael eu hystyried yn grantiau mwy arferol, dylid parhau i wneud pob ymdrech i gyhoeddi’r llythyrau grant cyn y cyfnod cyn-etholiadol, yn hytrach nag yn ystod y cyfnod. Os bydd angen cyhoeddi llythyrau dyfarnu grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol, ar sail eithriad, dylid ystyried hyn yn ofalus er mwyn sicrhau bod cyhoeddi’r cyllid yn unol â gweddill y canllawiau hyn.

Dylai swyddogion osgoi agor neu hysbysebu unrhyw gynlluniau grant yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Ar gyfer unrhyw gynlluniau grant sydd ar agor i geisiadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol, dylid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud a sefydliadau’n cael gwybod am y canlyniadau cyn y cyfnod cyn-etholiadol. Os nad yw hyn yn bosibl, dylid ystyried a fyddai’n well peidio ag agor y cynllun grant tan ar ôl yr etholiad. Wrth gwrs, gall unrhyw waith mewnol i gynllunio datblygiad cynigion cynlluniau grant, gan gynnwys mynd i gyfarfodydd y Panel Sicrwydd Grantiau, fynd rhagddo fel arfer.

11. Staff swyddfeydd preifat y Gweinidogion

Nid yw'n debygol y bydd y Gweinidogion yn gysylltiedig i'r un graddau â gweithgarwch ymgyrchu ag yn ystod etholiadau'r Senedd neu etholiadau Llywodraeth y DU. Mae’n bosibl y bydd swyddogion y Swyddfeydd Preifat am drafod egwyddorion y canllawiau hyn gyda’r Gweinidogion cyn i’r cyfnod cyn-etholiadol ffurfiol ddechrau.

Bydd y Gweinidogion, yn unol â'r arfer, yn destun amodau Cod y Gweinidogion, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gadw eu rolau Gweinidogol a gwleidyddol ar wahân. Dylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat barhau i gynorthwyo'r Gweinidogion â’u dyletswyddau swyddogol drwy'r amser. Mae hyn yn cynnwys sicrhau mai swyddogion y Swyddfa Breifat, ac nid aelod o staff personol neu etholaeth y Gweinidog, sy'n mynd i bob digwyddiad swyddogol. Hefyd, os oes un ymgeisydd yn cael ei wahodd i ddigwyddiad Gweinidogol swyddogol, dylech sicrhau bod pob un o'r ymgeiswyr eraill yn cael yr un cyfle hefyd. Dylai swyddogion mewn Swyddfeydd Preifat ymgyfarwyddo â'r canllawiau ar ddelio â gohebiaeth a Rhyddid Gwybodaeth sydd wedi'u hamlinellu yn y ddogfen hon.

Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat fynd i ddigwyddiadau sy'n amlwg at ddibenion gwleidyddiaeth plaid neu at ddibenion ymgyrchu.

Ni ddylai swyddogion y Swyddfeydd Preifat ganiatáu i adnoddau Llywodraeth Cymru gael eu defnyddio at ddibenion yr etholiadau lleol. Yn benodol, ni ddylent drefnu ceir swyddogol nac ystafelloedd yn adeiladau Llywodraeth Cymru nac yn unman arall, na chomisiynu areithiau na phapurau briffio, na threfnu cefnogaeth arall ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig â phlaid neu ag ymgyrchu.

12. Cynghorwyr Arbennig

Bydd Cynghorwyr Arbennig yn parhau i roi cyngor a chymorth, gan gynnwys cyngor gwleidyddol, i'r Gweinidogion yn unol â'r Cod Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Arbennig. Cânt hefyd gymryd rhan fel unigolion preifat mewn gweithgareddau gwleidyddol lleol, yn unol â'r Cod.

13. Enwau cyswllt

Yn y lle cyntaf, dylech drafod unrhyw amheuon sydd gennych gyda'ch rheolwr llinell. Ond gallwch gael rhagor o gymorth a chyngor, yn enwedig mewn perthynas ag achosion penodol, oddi wrth y swyddogion isod. Dylech anfon unrhyw ymholiadau sydd gennych drwy'r e-bost.

Ymholiadau ynghylch:

  • a yw mater yn effeithio'n uniongyrchol ar Awdurdodau Lleol: Reg Kilpatrick neu Lisa James, yr Adran Llywodraeth Leol.
  • Briffio Gweinidogion a materion tebyg: yr Ysgrifennydd Preifat perthnasol.
  • Gohebiaeth Weinidogol: Huw Llewellyn Davies
  • Caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth: blwch post y Swyddog Rhyddid Gwybodaeth.
  • Ymddygiad personol swyddogion (gan gynnwys cynghorwyr arbennig) sydd am gymryd rhan mewn gweithgarwch ymgyrchu ac ati: Eich Tîm Partner Busnes Adnoddau Dynol.
  • Cyhoeddiadau, digwyddiadau, marchnata a chyhoeddusrwydd: Toby Mason, y Cyfarwyddwr Cyfathrebu neu Simon Jenkins, y Pennaeth Newyddion.
  • Ystadegau: Stephanie Howarth, y Prif Ystadegydd
  • Ymholiadau penodol gan staff ynghylch cynnal ymchwil:  Steve Marshall, Jo Corke neu Chris Roberts, SRID.
  • Ymholiadau penodol gan staff am gaffael: CPS/CPICT neu cysylltwch â CPSprocurementadvice@llyw.cymru
  • Staff y swyddfeydd preifat:  Damien Roche neu Huw Llewellyn Davies, Is-adran y Cabinet.
  • Unrhyw ymholiadau eraill am y canllawiau hyn: Damien Roche neu Huw Llewellyn Davies, Is-adran y Cabinet.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Chwefror 2022

Atodiad A: Materion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar awdurdodau lleol

1. Yr egwyddor gyffredinol yw y dylai busnes Llywodraeth Cymru fynd rhagddo fel arfer yn ystod ymgyrch yr etholiadau llywodraeth leol. Serch hynny, ni ddylid gwneud penderfyniadau a chyhoeddiadau sy'n effeithio'n uniongyrchol ar un neu fwy o'r awdurdodau lleol, nac ar yr awdurdodau lleol yn gyffredinol, ac y gellid barnu eu bod yn fodd i ddylanwadu ar ganlyniadau'r etholiadau.

2. At ddibenion y canllawiau hyn, ystyr 'awdurdod lleol' yw cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned, ac unrhyw elfennau sy'n rhan ohonynt. Er bod Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu hefyd yn cael eu trin fel awdurdodau lleol ac yn cael eu hethol yn uniongyrchol, mae eu hetholiadau'n dilyn cylch gwahanol i etholiadau lleol eraill yng Nghymru ac nid yw ein hymwneud â hwy yn cael eu cwmpasu gan y canllawiau hyn. Er bod awdurdodau'r parciau cenedlaethol ac awdurdodau tân ac achub yn awdurdodau lleol at rai dibenion cyfreithiol, nid ydynt yn cael eu hethol yn uniongyrchol, ac felly nid oes angen newid y ffordd y byddwn yn ymdrin â hwy yn ystod ymgyrch yr etholiad. Er hynny, os yw swyddogion yn teimlo y byddai modd i eraill farnu bod unrhyw gamau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas ag un o'r awdurdodau hynny yn ffafriaeth/anffafriaeth wleidyddol, dylent geisio cyngor cyn gweithredu.

3. Y maen prawf allweddol yw a fyddai penderfyniad neu gyhoeddiad yn effeithio'n uniongyrchol ar un neu fwy o'r awdurdodau lleol ac a fyddai modd i eraill farnu bod y penderfyniad neu’r cyhoeddiad yn fodd i ddylanwadu ar ganlyniadau'r etholiadau. Dyma rai enghreifftiau o'r materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar un neu fwy o'r awdurdodau:

  • Cyhoeddiadau polisi am wasanaethau awdurdodau lleol unigol, os yw'r cyhoeddiadau hynny'n effeithio'n uniongyrchol ar natur, ystod, graddfa neu ansawdd y gwasanaethau y disgwylir i'r awdurdodau lleol eu darparu
  • cyllido'r awdurdodau lleol neu'r gwasanaethau y maent yn eu darparu, gan gynnwys cynlluniau grant arbennig
  • y fframwaith polisi ar gyfer llywodraeth leol, e.e. mewn perthynas â llywodraethu corfforaethol, gwella, neu strwythurau gwleidyddol
  • cyfarwyddiadau neu benderfyniadau ffurfiol eraill sy'n effeithio ar yr awdurdodau lleol neu ar eu gwasanaethau (e.e. galw ceisiadau cynllunio i mewn neu ddyfarnu ar gau ysgolion)
  • materion sy'n gysylltiedig â'r Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
  • materion sy'n gysylltiedig ag ymddygiad a lwfansau aelodau
  • materion sy'n gysylltiedig ag arolygiadau statudol neu archwiliadau o'r awdurdodau lleol neu o'r gwasanaethau y maent yn eu darparu.

4. Ymysg y materion y gellid eu dehongli fel rhai sy’n dylanwadu ar ganlyniad etholiad, byddai unrhyw fater sy’n cyfateb i un o’r meini prawf isod neu y gellid ystyried ei fod yn cyfateb iddynt. Mae’r rhain yn berthnasol hyd yn oed i weithgareddau a fyddai’n hollol resymol ac y gellid eu cyfiawnhau o dan amgylchiadau busnes arferol:

  • canmol neu feirniadu awdurdod penodol a/neu ei arweinwyr
  • canmol neu feirniadu dull penodol o ddarparu unrhyw wasanaeth gan awdurdod lleol, neu safon y gwasanaethau hynny
  • unrhyw benderfyniad sy’n ffafrio neu’n anffafrio un neu fwy o awdurdodau ar draul rhai eraill.

5. Mater i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol perthnasol yw ystyried goblygiadau pob achos unigol.

6. Mewn argyfyngau a sefyllfaoedd tebyg (er enghraifft, os bydd angen i Weinidogion ymarfer pwerau diofyn neu bwerau ymyrryd o ran awdurdod lleol), bydd modd gwyro oddi wrth y rheolau hyn. Bydd angen cymeradwyaeth benodol oddi wrth Weinidog arnoch er mwyn gwneud hyn.

7. Caniateir i’r rhan fwyaf o'r gweithgareddau arferol nad ydynt yn rhai cyhoeddus fynd rhagddynt fel arfer. Felly, er enghraifft, dylid parhau i gynnal cyfarfodydd preifat gyda chynghorwyr neu swyddogion yr awdurdodau lleol.

Gohebiaeth, Cwestiynau'r Senedd, Ceisiadau o dan y Ddeddf Rhyddid Wybodaeth, ac Ymholiadau

8. Mae'r un egwyddorion yn gymwys yn achos atebion i ohebiaeth ac i Gwestiynau'r Senedd. Gan eu bod hwy, i bob pwrpas, yn wybodaeth gyhoeddus, ni fydd y Gweinidogion am ddarparu atebion llawn a manwl i ohebiaeth nac i Gwestiynau'r Senedd sy'n cyffwrdd â'r materion uchod ac y gellid barnu eu bod yn ceisio dylanwadu ar ganlyniadau'r etholiadau. Dim ond gwybodaeth ffeithiol y dylent ei chynnwys yn eu hatebion, e.e. heb esbonio na chyfiawnhau polisïau Llywodraeth Cymru.

9. Os nad yw'n briodol ymateb i ohebiaeth benodol neu gwestiwn penodol oherwydd natur yr ateb a gaiff ei roi, dylent anfon ateb dros dro, gan ddefnyddio geiriad tebyg i'r un isod:

"Mae'n ddrwg gennyf ond nid oes modd imi roi ateb llawn i'ch [llythyr/cwestiwn]. Y rheswm am hynny yw bod etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal ar 5 Mai 2022. Mae angen sicrhau na fyddai modd i unrhyw un farnu bod datganiadau a wneir gan Weinidogion mewn gohebiaeth neu fel arall yn ceisio dylanwadu ar ganlyniad yr etholiadau.

"Anfonaf ateb llawn atoch ar ôl yr etholiadau."

10. Os yw ymateb i gais am wybodaeth yn golygu bod angen ystyried datgelu gwybodaeth wedi'i chofnodi nad yw eisoes yn wybodaeth gyhoeddus, dylid ceisio cyngor yr Uned Hawl i Wybodaeth.

Os daw cais i law cyn 14 Ebrill am wybodaeth sy'n ymwneud â materion ym maes llywodraeth leol, yr egwyddor gyffredinol yw y bydd yr Uned Hawl i Wybodaeth a'r Gwasanaethau Cyfreithiol yn ystyried sut y dylid ymdrin â'r cais hwnnw ac yn rhoi cyngor fel y bo’n briodol.  Os oes unrhyw geisiadau am wybodaeth y bernir eu bod yn debygol o ddylanwadu ar ganlyniadau’r etholiadau yn dod i law ar 6 Ebrill neu ar ôl y dyddiad hwnnw, ni ddylid anfon ateb llawn tan 6 Mai.

Er hynny, yn ystod cyfnod yr ymgyrch, dylai swyddogion barhau i ystyried a yw hi'n briodol rhyddhau unrhyw wybodaeth y bernir ei bod yn effeithio ar ganlyniadau'r etholiadau, a hynny er mwyn iddynt fedru anfon atebion llawn cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiadau.

Atodiad B: Canllawiau ar Gyfathrebu i bob aelod o staff yn y cyfnod cyn yr etholiadau

Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i’r holl staff sy’n ymwneud â chyfathrebu a marchnata ac mae’n ategu’r canllawiau cyffredinol ar gyfer staff Llywodraeth Cymru. Daw i rym ar 14 Ebrill 2022, sef tair wythnos cyn y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai 2022.

Mae’r canllawiau’n ymwneud â’r gweithgareddau isod:

  • y cyfryngau: darlledu, print ac electronig
  • sianeli mewnol, sianeli cyfryngau cymdeithasol neu sianeli electronig eraill
  • cyfryngau y telir amdanynt
  • cyfathrebu â rhanddeiliaid ac unrhyw gyfathrebu uniongyrchol arall, digwyddiadau, ymweliadau
  • unrhyw weithgareddau cyfathrebu eraill a allai  roi’r argraff eu bod yn effeithio ar ganlyniadau’r etholiadau

Bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflawni eu swyddogaethau yr un fath ag o’r blaen yn ystod y cyfnod cyn-etholiadol. Ond rhaid cofio y gallai rhai o weithgareddau Llywodraeth Cymru effeithio ar ymgyrchoedd etholiadol lleol.

Dylid bod yn arbennig o ofalus i osgoi materion a allai effeithio ar ganlyniad etholiadau lleol. Diffinnir y rhain yn benodol fel:

  1. Cyhoeddiadau polisi ynghylch gwasanaethau awdurdodau lleol
  2. Cyllido awdurdodau lleol neu’r gwasanaethau y maent yn eu darparu
  3. Fframwaith polisi o ran llywodraeth leol
  4. Cyfarwyddiadau neu benderfyniadau ffurfiol sy’n effeithio ar awdurdodau lleol neu eu gwasanaethau
  5. Materion yn ymwneud â’r Cyngor Partneriaeth Llywodraeth Leol
  6. Materion sy'n gysylltiedig ag ymddygiad a lwfansau aelodau
  7. Materion sy'n gysylltiedig ag arolygiadau statudol neu archwiliadau o'r awdurdodau lleol neu o'r gwasanaethau y maent yn eu darparu

Gweithgareddau Cyfathrebu

Rhaid cymryd cryn ofal wrth ddefnyddio holl sianeli cyfathrebu Llywodraeth Cymru yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Mae'r rhestr uchod yn nodi'n glir lle na ddylid ymgymryd â gweithgareddau cyfathrebu allanol o dan unrhyw amgylchiadau.

Fodd bynnag, bydd is-set o fathau arferol o gyfathrebu gan y llywodraeth a allai gyffwrdd yn anuniongyrchol â materion yn y meysydd hyn, neu y byddai perygl iddynt gael eu gweld fel rhai a fyddai’n dylanwadu ar ganlyniad yr etholiad. Nid yw hyn yn atal Llywodraeth Cymru rhag gwneud cyhoeddiadau neu gynnal gweithgarwch cyfathrebu arall yn ystod y cyfnod hwn, ond dylid craffu'n ofalus arnynt a thrin pob achos yn ôl ei deilyngdod. Dylid ystyried yn arbennig unrhyw gyfathrebu ynghylch polisïau sydd ag effeithiau lleol neu gymunedol penodol.

Mewn rhai achosion, efallai y byddai’n well gohirio ymgyrch, ymweliad neu ddatganiad i’r wasg tan ar ôl yr etholiad, ond mater o grebwyll ym mhob achos unigol yw hyn.

Iechyd y cyhoedd

Mae'n iawn ac yn ddymunol i weithgarwch cyfathrebu Llywodraeth Cymru barhau i gydgysylltu â chydweithwyr cyfathrebu mewn awdurdodau lleol ar faterion sy'n ymwneud yn bendant â negeseuon iechyd y cyhoedd yn ystod cyfnod yr etholiad, os oes angen. Fodd bynnag, dylid craffu’n fanylach ar unrhyw gynnwys i sicrhau nad yw'n cyffwrdd yn anfwriadol â materion sy'n cael eu trafod fel rhan o'r ymgyrch etholiadol.

Mae awdurdodau lleol hefyd yn cynnal cynlluniau fel rhan o'r ymateb ehangach i'r pandemig, megis grantiau i fusnesau. Dylai cyfathrebu ynghylch y rhain yn ystod yr ymgyrch etholiadol, os oes angen, fod yn ffeithiol ac yn ymarferol, er enghraifft cyfeirio at y cyllid sydd ar gael.

Ymhlith yr ystyriaethau eraill o ran gweithgareddau cyfathrebu, mae ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd y telir amdanynt. Ni ddylai’r rhain fod yn agored i feirniadaeth eu bod yn cael eu cynnal at ddibenion plaid wleidyddol. Gall ymgyrchoedd sydd ar y gweill barhau ar yr amod nad ydynt yn perthyn i'r categorïau uchod. Gall ymgyrchoedd i annog pleidleiswyr i gofrestru barhau yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

  • Dylid bod yn ofalus wrth drin ymweliadau arfaethedig gan Weinidogion. Yn amlwg, ni ddylai swyddogion gynorthwyo ag ymweliadau a digwyddiadau a gynhelir gan bleidiau at ddiben gwleidyddol neu er mwyn ymgyrchu.
  • Yn achos ymgyngoriadau,  byddai’n well peidio gwneud dim byd sy’n cystadlu â’r ymgeiswyr am sylw’r cyhoedd. I bob pwrpas, felly, mae hynny’n golygu peidio â chynnal gweithgareddau cyhoeddusrwydd na digwyddiadau ar gyfer ymgyngoriadau sy’n dal ar y gweill.
  • Ni ddylai gwefannau swyddogol a sianeli ar-lein (er enghraifft tudalennau newyddion a negeseuon trydar Llywodraeth Cymru) gynnwys unrhyw destun a allai gael ei ystyried yn ddeunydd ymgyrchu eholiadol. 
  • NI ddylid cyhoeddi datganiadau i’r wasg ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru ac unrhyw awdurdod lleol yn y cyfnod cyn-etholiadol. Dylid cofio y bydd awdurdodau lleol eu hunain yn cadw at reolau cyn-etholiadol llym yn ystod y cyfnod hwn hefyd.
  • Rhaid bod yn hynod ofalus wrth gyfrannu dyfyniadau gan y Gweinidogion i’w cynnwys mewn datganiadau i’r wasg gan sefydliadau eraill. Dylai’r Pennaeth Newyddion weld pob datganiad i’r wasg a anfonir atom gan sefydliadau eraill.
  • Ni ddylai dyfyniadau gweinidogol sydd i’w defnyddio mewn datganiadau trydydd parti gael eu cymeradwyo cyn gweld drafft terfynol o’r datganiad cyfan. Mae angen inni weld pwy arall sy’n cael ei ddyfynnu a beth maen nhw’n ei ddweud, ac mae angen inni wybod ym mha gyd-destun yn union y mae’r Gweinidog yn cael ei ddyfynnu.

Defnyddio safleoedd a deunyddiau Llywodraeth Cymru, neu safleoedd a deunyddiau sy’n perthyn i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru:

  • Ni ddylai sefydliadau’r Llywodraeth gael eu defnyddio at unrhyw ddibenion etholiadol.
  • Ni ddylai deunyddiau a gynhyrchir gan y Llywodraeth gael eu defnyddio mewn unrhyw fodd i gefnogi’r ymgyrchu, e.e. ar wefannau ac mewn taflenni.
  • Yn achos eiddo’r GIG, mater i’r Ymddiriedolaeth GIG berthnasol fydd penderfynu. Ond os caniateir ymweliadau ag ysbytai, er enghraifft, ni ddylid amharu ar y gwasanaethau a dylai’r un cyfleusterau gael eu cynnig i’r ymgeiswyr eraill. Fodd bynnag, cynghorir peidio â chaniatáu i gyfarfodydd etholiadol gael eu cynnal ar eiddo’r GIG.
  • Rhaid i benderfyniadau ar ddefnyddio eiddo arall yn y sector cyhoeddus neu eiddo cysylltiedig gael eu gwneud gan y rhai sy’n gyfrifol yn gyfreithiol am yr eiddo dan sylw. Er enghraifft, yn achos ysgolion, y Llywodraethwyr neu’r Awdurdod Addysg Lleol neu Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ac yn y blaen. Os bydd y rhain yn cysylltu ag Adrannau, dylid dweud wrthynt mai eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud y penderfyniad ond y bydd disgwyl iddynt fel rheol drin ymgeiswyr pob plaid yn gyfartal.

Casgliad

Os oes gennych unrhyw amheuaeth, y peth gorau i’w wneud bob amser yw holi’r Pennaeth Newyddion neu’r Cyfarwyddwr Cyfathrebu cyn ymgymryd ag unrhyw weithgareddau cyfathrebu a allai fynd yn groes i God y Gwasanaeth Sifil neu arwaiin at gyhuddiadau bod adnoddau Llywodraeth Cymru yn cael eu defnyddio mewn ffordd a allai effeithio ar broses yr etholiad neu ar y canlyniadau.

Atodiad C: canllawiau ar weithgarwch ystadegol ac arolygon yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad

Dyma ganllawiau i'r holl staff sy'n ymwneud â gweithgarwch ystadegol ac arolygon. Mae'n cynnwys staff yn y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, ond mae hefyd yn berthnasol i staff mewn rhannau eraill o Lywodraeth Cymru. Hefyd, dylai'r cyrff sy'n bartneriaid inni ac eraill sy'n cynhyrchu ystadegau swyddogol yng Nghymru, e.e. Iechyd a Gofal Digidol Cymru a'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, dalu sylw i'r canllawiau hyn. Maent yn ategu'r canllawiau cyffredinol ar yr Etholiadau Llywodraeth Leol. Bydd y canllawiau'n berthnasol o 14 Ebrill 2022 tan y diwrnod pleidleisio ar 5 Mai 2022, a chan gynnwys y diwrnod hwnnw.

Nid yw'r canllawiau yn ymdrin â phob posibilrwydd, ac os bydd unrhyw faterion eraill yn codi yn ystod yr ymgyrch dylech eu codi yn gyntaf gyda'r Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol a fydd naill yn rhoi canllawiau i chi.

I grynhoi:

Ar gyfer ystadegau swyddogol – fel arfer, sicrhewch eu bod yn cydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau a'r Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009.

Ar gyfer ymchwil – mae cod Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth a'r protocol cyhoeddi yn parhau’n berthnasol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad.

Rhaid osgoi, mewn perthynas â deunydd yn ymwneud ag un neu fwy o’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru, neu ar Awdurdodau Lleol Cymru yn gyffredinol:

  • Rhyddhau cyhoeddiadau ystadegol neu ymchwil ad hoc
  • Cynnal arolygon neu ymchwil arall a allai fod yn ddadleuol
  • Dosbarthu deunydd a allai gael ei ddefnyddio at ddibenion ymgyrchu.

Os oes unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r Pennaeth Polisi a Safonau Ystadegol, y Prif Ystadegydd neu'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol (manylion cyswllt isod).

Egwyddorion

1. Dylech bob amser ddilyn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, y Gorchymyn Gweld Ystadegau Swyddogol cyn eu Rhyddhau (Cymru) 2009 a chod ymarfer a phrotocol cyhoeddi Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.

2. Peidiwch â chystadlu â phleidiau ac ymgeiswyr am sylw'r cyhoedd.

3. Peidiwch â chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth plaid na chael eich defnyddio at ddibenion gwleidyddiaeth plaid na rhoi eich hun mewn sefyllfa lle bo'n ymddangos eich bod yn gwneud hynny.

Cyhoeddi ystadegau

4. Dylid cyhoeddi deunydd ystadegol y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cyn yr etholiad. Peidiwch â chyhoeddi unrhyw ddeunydd ystadegol ad hoc na roddwyd rhag-hysbysiad amdanynt a pheidiwch â gohirio cyhoeddi unrhyw ddeunydd y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt, gan y gallai'r cymhelliad dros wneud hynny gael ei gwestiynu.

5. Os na ellir osgoi gohirio, byddwch yn dryloyw am y rhesymau dros ohirio mewn unrhyw ohebiaeth gyhoeddus ac, os oes modd, dylech ddatgan pryd y mae’n debygol y bydd yr ystadegau gohiriedig yn cael eu cyhoeddi. Dylech osgoi gohirio pan fydd hynny’n golygu bod ystadegau’n cael eu cyhoeddi ar ôl y diwrnod pleidleisio yn lle cyn hynny.

6. O ystyried sut y mae pandemig COVID-19 wedi esblygu, a'r angen i ddarparu ystadegau perthnasol ac amserol sy'n ymwneud ag ef, efallai y bydd angen eithriadol i gyhoeddi ystadegau newydd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, heb fod wedi rhoi hysbysiad o hynny ymlaen llaw. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Prif Ystadegydd yn penderfynu a ddylid rhyddhau'r ystadegau ai peidio. Mae hyn wedi'i gyfyngu'n llym i ystadegau sy'n gysylltiedig â’r pandemig COVID-19 a'i ganlyniadau.

7. Dylid parhau i gyhoeddi negeseuon trydar yn ymwneud â chyhoeddi deunydd ystadegol trwy gyfrifon @ystadegaucymru a @statisticswales. Fodd bynnag, yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, dylid osgoi cynhyrchu ffeithluniau neu siartiau newydd ar gyfer cyfryngau cymdeithasol nad ydynt wedi'u llunio na'u cyhoeddi yn flaenorol.

8. Cymerwch ofal mawr drwy'r amser i fod yn ddiduedd ac yn wrthrychol yn y modd y byddwch yn cyflwyno ac yn disgrifio ystadegau ac mewn cyfarfodydd briffio wyneb-yn-wyneb.

9.Dylid osgoi blogiau ystadegol newydd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad os yw’r pwnc yn ymwneud ag un neu fwy o awdurdodau lleol.

Cyhoeddi Adroddiadau Ymchwil

10. Dylid cyhoeddi unrhyw adroddiadau y rhoddwyd rhag-hysbysiad amdanynt cyn dechrau'r cyfnod cyn yr etholiad. Fodd bynnag, gan ystyried y cyfnod rhag-hysbysiad byr (pythefnos) ar gyfer ymchwil, y disgwyliad cyffredinol yw na fydd ymchwil yn cael ei chyhoeddi yn ystod y cyfnod. Er hyn, os oes rhesymau dros gyhoeddi yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad dylid rhoi cyfnod rhag-hysbysiad hirach a chlirio'r mater â'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol. Gallwch ofyn am gyngor ar achosion penodol hefyd gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol.

Caffael ymchwil

11. Ni ddylid ymgymryd â gweithgarwch caffael ar gyfer ymchwil newydd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Dylid gofyn am gyngor gan y Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol os oes amgylchiadau eithriadol sy'n golygu na fyddai'n bosibl aros tan ar ôl yr etholiad i ddechrau'r broses gaffael.

Ceisiadau am wybodaeth neu gyngor

12. Dylid ymdrin â cheisiadau am wybodaeth ffeithiol yn unol â'r canllawiau i staff Llywodraeth Cymru. Os nad yw'r wybodaeth y gofynnir amdani yn ffeithiol, cyfeiriwch y person at Swyddfa Breifat y Gweinidog priodol.

13. Byddwch yn deg wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth ffeithiol gan ymgeiswyr - er enghraifft o ran manylder yr wybodaeth y byddwch yn ei rhoi ac o ran prydlondeb eich ateb.

14. Dylech barhau i ymateb i geisiadau am arweiniad ffeithiol ar fethodoleg.

15. Cymerwch ofal mawr wrth ymdrin â cheisiadau am gyngor ar ddehongli neu ddadansoddi ystadegau, yn arbennig ceisiadau sy'n ymwneud â pholisïau neu addewidion maniffesto pleidiau. Peidiwch â chostio polisïau nac addewidion heb ymgynghori'n gyntaf â'r ag Is-adran y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth.

16. Bydd y deunydd sy'n cael ei lunio'n rheolaidd mewn ymateb i geisiadau am wybodaeth ystadegol bob pythefnos yn parhau i gael ei gyhoeddi trwy'r cyfnod cyn yr etholiad. Dylid sicrhau y rhoddir gwybod i'r tîm cyhoeddiadau ystadegol (Stats.web) am geisiadau o'r fath gan ei bod yn bwysig y gwneir hyn yn systematig gan osgoi'r argraff o ddethol.

Ceisiadau am ddeunydd sydd wedi’i gyhoeddi

17. Gallwch ddarparu niferoedd bach o daflenni, papurau cefndir neu gyhoeddiadau am ddim a oedd ar gael cyn cyfnod yr etholiad, mewn ymateb i geisiadau amdanynt. Peidiwch â chaniatáu archebion mawr heb ganiatâd y Prif Ystadegydd, oherwydd mae'n bosibl mai'r bwriad yw eu defnyddio at ddibenion ymgyrchu.

Arolygon

18. Gallwch barhau i gynnal cyfrifiadau ac arolygon rheolaidd, arolygon parhaus ac arolygon sydd ar y gweill eisoes. Gall arolygon ad hoc sy'n rhan o gyfres ystadegol barhaus gael eu cynnal hefyd.

19. Gall arolygon ad hoc eraill fynd yn destun dadl neu fod yn gysylltiedig â mater yn ymwneud â'r etholiad. Lle bo hyn yn debygol, dylech ystyried eu gohirio neu eu canslo. Petai hyn yn anodd neu'n gostus, gofynnwch i Dîm Cyngor Arolygon y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi am gyngor.

Ymchwil maes

20. Yn gyffredinol, ni ddylid gwneud gwaith maes sy'n ymwneud â phrosiect ymchwil yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad, er y gall fod yn amhosibl osgoi'r cyfnod cyn yr etholiad ar gyfer gwaith arolwg parhaus neu waith ymchwil lle mae amser yn hollbwysig. Dylid gofyn i'r Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol am gyngor ar achosion penodol.

Cyngor

21. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, cysylltwch â'r bobl isod neu â’r enwau cyswllt yn y canllawiau cyffredinol ynghylch yr etholiad.

Enwau cyswllt yn y Gwasanaeth Gwybodaeth a Dadansoddi

  • Penaethiaid Polisi a Safonau Ystadegol - Rebecca Gillard – 03000 258124 a Rachel Lloyd – 03000 253357
  • Prif Ystadegydd – Stephanie Howarth – 03000 251154
  • Prif Swyddog Ymchwil Gymdeithasol – Steven Marshall - 03000 255868