Araith 'Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd' gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg.
Ar 10 Chwefror 2022, bu Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS yng Nghanolfan M-Sparc ar Ynys Môn er mwyn rhannu o’i weledigaeth am y Gymraeg, wrth nodi chwe deg mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi’i ddarlith, Tynged yr Iaith yn 1962.
Rhagair gan Ned Thomas, golygydd, beirniad llenyddol a sylwebydd diwylliannol
Rwy'n hynod falch o'r cyfle i gyflwyno sgwrs Jeremy Miles, ein Gweinidog Addysg sydd hefyd â chyfrifoldeb dros y Gymraeg ac yn dehongli'r briff hwnnw'n eang iawn - fel y dylid gwneud gan fod gwaith pob adran o Lywodraeth Cymru yn effeithio ar yr iaith. Mae sgwrs Jeremy Miles yn galw am ddeialog – ac o'r ysbryd hwnnw daw fy nghyfle i ddweud gair ar y cychwyn – ond mwy na hynny mae'n gofyn am ymateb fydd wedyn yn troi'n weithredu.
Y cyd-destun cyfyng heddiw yw bod hi'n drigain mlynedd ers i Saunders Lewis draddodi ei ddarlith radio Tynged yr Iaith a bod hynny'n pery inni ystyried cymaint o dir enillwyd ers 1962 ac mewn cymaint o feysydd. Mewn brawddeg, trawsnewidiwyd sefyllfa'r Gymraeg a hefyd agweddau'r Cymry at yr iaith. Nes ymlaen ddaeth yn iaith swyddogol o fewn tiriogaeth sydd bellach â'i Senedd a'i llywodraeth ei hun.
Canlyniad y trawsnewid yw bod trafod yr iaith heddiw yn digwydd mewn cyd-destun llawer mwy cymhleth nag yn amser Saunders. Yn aml mae'n rhaid ymgyrchu i amddiffyn yr hyn enillwyd amser yn ôl a hynny yn sgil toriadau cyffredinol neu newidiadau polisi megis polisi darlledu Llundain. Collwyd rheolaeth ieithyddol ar rai gwasanaethau wrth iddynt symud o'r sector gyhoeddus i gwmnïau preifat; daeth technoleg cyfathrebu â rhai cyfleoedd newydd ond fe olygodd hefyd symud gwaith i'r seiberofod fyddai wedi digwydd yn Gymraeg mewn swyddfeydd lleol. Rydym yn fwy soffistigedig ein dealltwriaeth o gynllunio iaith erbyn hyn ond adweithio yn hytrach na chynllunio sydd rhaid yn aml iawn.
Mae un cwestiwn trafodwyd yn ddi-baid am hanner canrif dan wahanol enwau a heb gael atebion, sef yr iaith yn colli tir yn yr ardaloedd Cymreiciaf, a hynny oherwydd gwendid yr economi, prisiau tai, allfudo a mewnfudo. Mae hyn yn golled ieithyddol i'r wlad gyfan ac yn tanseilio'r enillion wnaed mewn meysydd eraill. Mynegais yr hunllef dwbl yn rhy slic o lawer unwaith fel hyn: “Mae mwy a mwy o arwyddbyst Cymraeg yn cyfeirio at llai a llai o lefydd Cymraeg”. Gellir hollti blew wrth geisio diffinio “lle Cymraeg” ond fe wyddom natur y broblem. Mae arddel yr iaith yn rhoi bri arni, ac mae medru iaith arall yn cyfoethogi bywyd yr unigolyn, ond arfer yr iaith sy'n ei chadw'n hyfyw ac mae hynny'n gofyn am gymunedau Cymraeg y gall y Cymry newydd ymuno â nhw.
A dyma ni heddiw yn flinedig yn sgil y pandemig, yn wynebu toriadau yn y safon byw, yn ansicr o dynged y blaned heb sôn am yr iaith. Mae'r sefyllfa'n gofyn am glosio at ein gilydd, am wytnwch ac am wneud yr iaith yn rhan o'r gwytnwch hwnnw. Mae gwytnwch yn fwy na gwrthsefyll, mae'n golygu gwthio'n ôl, newid ger yng ngeiriau'r Gweinidog. Mi welwch bod pwyslais yn ei sgwrs hefyd ar gynlluniau cydweithredol, ar syniadau yn tarddu o lawr gwlad. Rwy'n credu bod hynny'n gweddu i'r amseroedd. Deuthum i werthfawrogi'r filltir sgwâr yn fwy, a ni sydd yn deall patrwm ieithyddol ein hardaloedd a'u gofynion yn well na neb o'r tu allan.
Araith gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Gwyliwch araith y Gweinidog ar YouTube
Gwrandewch ar ffurf podlediad (Spreaker)
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd Chwe deg mlynedd yn ôl i’r wythnos hon, cafodd caredigion y Gymraeg eu hysgwyd wrth i Saunders Lewis draddodi un o ddarlithoedd pwysicaf ein hiaith ni.
Sôn ydw i wrth gwrs am Tynged yr Iaith, wnaeth danio dychymyg am genedlaethau, ac sy’n dal i wneud hynny hefyd.
Ddeuddydd cyn y ddarlith eiconig ‘na, cafodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, Jim Griffiths, ei gyfweld ar gyfer rhaglen i’r BBC gafodd ei ddarlledu yn ddiweddarach.
Ac yn y cyfweliad ‘na, wedodd e:
“Prif broblem Cymru heddiw yw achub yr iaith. Rwy’n credu mai dyma’r brif broblem dros y deg i’r ugain mlynedd nesaf.”
‘Tynged yr iaith’ meddai Saunders Lewis. ‘Achub yr iaith’ meddai Jim Griffiths. Beth yw’r gair fydden ni’n ei ddefnyddio heno, union 60 mlynedd yn ddiweddarach?
Ond er hyn, ni wedi dal ein tir, ry’n ni yn dal ein tir, ac yng nghyd-destun y ffaith fod yr heriau i’r Gymraeg wedi dwysáu dros y 60 mlynedd diwetha’, mae hynny’n rhywbeth i fod yn falch ohono fe wrth gwrs
Ond ein nod yw gwneud cynnydd sylweddol er gwaetha’r heriau hynny, a ‘dyn ni heb lwyddo i wneud hynny—eto.
19% o bobl Cymru sy’n medru’r Gymraeg, a ffigurau Cyfrifiad 2021 ar eu ffordd cyn hir.
Beth bynnag fydd canlyniadau’r Cyfrifiad ymhen ychydig, mae ‘na gyfle gwirioneddol i weithredu, ac mae ‘na dipyn o waith o’n blaenau ni.
Bydd rhaid i ni neud rhai newidiadau dewr a chael sgyrsiau gonest, cefnogi’n gilydd i lwyddo a pheidio bod ofn neud pethau anodd.
Mae’n bwysig edrych ymlaen, a dyna hoffwn i neud heno. Edrych ar lle ry’n ni heddiw ac edrych at y dyfodol wrth i mi gyflwyno fy ngweledigaeth bersonol i.
Ac mae gyda ni i gyd yn yr ystafell ‘ma, a’r rhai ohonoch sy’n gwrando o bell—gyfle gwirioneddol i ddylanwadu ar lwybr ein hiaith at y dyfodol.
Roedd Saunders Lewis, fel dw i heno, yn annerch ei gynulleidfa ychydig cyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad am y Gymraeg
Cyn bo hir, felly, byddwn ni’n gwybod faint o bobl Cymru wedodd eu bod nhw’n medru’r iaith yn 2021.
Byddwn ni’n gwybod ble r’ŷn ni o ran ein taith at filiwn o siaradwyr.
Yn 1962 roedd Saunders yn rhagweld y bydden nhw’n “sioc ac yn siom”. Ry’n ni’n gobeithio nad hynny fydd ein profiad ni eleni.
Ond bydd y ffigurau newydd a’r heriau newydd, yn rhan o’r tirwedd ar gyfer ein polisi yn y dyfodol.
A dyna gyd-destun y sgwrs, felly. Ond wrth gwrs, mae’n llawer ehangach na’r Cyfrifiad:
Dwi isie edrych ar ble ry’n ni nawr ac ystyried beth sy’n bwysig ar gyfer dyfodol y Gymraeg—dwi’n credu bod angen edrych o’r newydd.
A dw i isie trafod ‘y ngweledigaeth i fel Gweinidog ar gyfer y Gymraeg a gofyn i chi gefnogi’r weledigaeth honno yn ogystal â’i herio hi’n greadigol.
Os gofynnwn ni’r cwestiwn a ydyn ni wedi bod yn canolbwyntio ar y pethe cywir: dwi eisiau dadlau bod pethe allai wneud gwahaniaeth sydd heb eto gael digon o bwyslais.
Ac wrth ofyn i chi gefnogi’r weledigaeth, dwi hefyd eisiau’n herio ni i gyd i ofyn sut gallwn ni sicrhau bod pawb yn rhan o’r sgwrs, nid jyst y rhai ohonon ni sydd â diddordeb mewn polisi iaith (er mor bwysig yw’r drafodaeth honno hefyd).
A rhan o’r weledigaeth ‘na yw pwysleisio er bod rhai pethe’n gweithio’n dda, bod rhaid i ni ar y cyfan
- Newid y ffordd ni’n gweithio
- Newid y pethe ni’n neud
- a Newid ein syniad ni o pwy sydd â rhan i’w chwarae yn hyn i gyd
Newid. Beth sydd angen i ni ei newid?
Wel, os yw’r byd wedi newid dros y chwe deg mlynedd diwetha, wel mae’di trawsnewid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Ry’n ni i gyd wedi gorfod newid sut ry’n ni’n gweithio. A does dim ond rhaid i mi edrych o gwmpas y stafell yma heno i weld prawf o hynny fy hun, lle mae pawb yn eistedd ar wahân, a chynifer o’r rheini y bydden ni am iddyn nhw fod yma yn MSparc gyda ni yn gorfod gwylio o bell.
Mae cyd-destun ein gwaith ni i gyd wedi newid: COVID-19, Brexit, y cynnydd mewn mewnfudo dros y Pandemig a chyn hynny.
Ry’n ni angen deall beth sydd wedi digwydd i ni yn sgil hyn i gyd.
Nôl nawr at y ‘ni’ ‘ma. Pwy yw ‘ni’? Un peth sy’n sicr—mwy na jyst ni yn Llywodraeth Cymru sydd ‘da fi dan sylw. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd—felly mae gan bawb gyfraniad i’w wneud i ddiogelu dyfodol ffyniannus iddi hi
A dyma dwi’n ei olygu pan dwi’n dweud bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.
Mae’n golygu pawb sy’n byw yn y cymunedau Cymraeg sy’n ffynnu.
Y cymunedau twf hynny lle mae potensial iddi dyfu
Mae’r iaith yn perthyn i bobl sydd isie ei dysgu hi. Dewch—ymunwch â ni: byddwch chi’n agor y drws i fyd newydd, gyda ffrindiau newydd, cyfleoedd newydd a diwylliant unigryw;
Mae’n golygu estyn croeso nôl i bobl dyw’r Gymraeg ddim ‘di bod yn rhan o’u rwtîn ers sbel a’r rheini sy’n ofni cael eu cywiro: dwi’n dweud “defnyddiwch ba Gymraeg bynnag sy gyda chi ble bynnag cewch chi gyfle.” A chredwch chi fi, sdim shwt beth â Chymraeg perffeth.
Ond yn fwy na’r pethe hollol amlwg ‘na, mae’n golygu bod mwy o sefydliadau ac arweinwyr cyhoeddus yn gorfod cymryd cyfrifoldeb am Cymraeg 2050.
Felly, pan dwi’n dweud bod y Gymraeg yn perthyn i ‘ni’:
Dwi’n golygu ni fel pobl Cymru—nid jyst ni sy’n treulio amser yn meddwl am bolisi iaith.
Ni fel un gwasanaeth cyhoeddus—nid jyst ni fel Llywodraeth Cymru.
Mae hynny’n mynd y tu hwnt i greu hawliau, ac yn wir y tu hwnt i greu siaradwyr—er mor bwysig yw’r ddau beth ‘na.
Dwi’n golygu bod yn rhaid i ni i gyd gymryd rhan er mwyn gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yma ar gyfer y cenedlaethau sy’n dod ar ein hôle ni.
Felly dyna’r ddadl rwy am ei gwneud. Ac o ystyried ble r’yn ni heddiw wrth edrych tua’r dyfodol, mae’na lot fawr o bethe positif eisoes da ni i’w dathlu:
- Mae mwyafrif ein gwlad ni (86% o oedolion Cymru) yn cytuno bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi hi
- Mae nifer yr oedolion sy’n dysgu Cymraeg yr ucha’ erioed
- Mae tair deddf iaith ‘di bod;
- Mae sianel deledu Gymraeg ‘da ni
- Mae gwasanaethau Cymraeg rhif y gwlith ar gael ac mae’r Gymraeg wedi hawlio lle yn y byd digidol.
- A hyn, ar ôl i ni hen basio dechrau’r unfed ganrif ar hugain, yr adeg soniodd Saunders Lewis y byddai ‘terfyn ar y Gymraeg yn iaith fyw’.
Felly mae rhyw fath o dro ar fyd wedi bod ers Tynged yr Iaith
Nôl yn 1962:
- Pwy fyddai ‘di meddwl y byddai cymaint wedi newid?
- Y byddai gyda ni ein Senedd ein hunain?
- Y byddai gyda ni ein Gweinidog ein hunain dros y Gymraeg?
Mae’n talu i ni gofio hefyd bod un iaith yn marw bob pythefnos ar hyn o bryd : pwy fyddai’n meddwl fod y Gymraeg wedi tynnu’n groes i dueddiadau byd-eang a goroesi?
Dwi am fod yn onest gyda chi. Dyw’r newidiadau mawr ma ddim i gyd wedi digwydd oherwydd gwaith Llywodraethol yn unig. Falle fod rhai ohonoch chi’n synnu clywed hynny.
Fe allwn i fynd ymhellach a dweud bod llawer ohonyn nhw wedi digwydd er gwaethaf Llywodraeth y dydd dros y degawdau
Ac mae’n dyled ni’n fawr i bob un nath ymgyrchu, protestio a gwirfoddoli a dylanwadu er mwyn i ni fod lle ŷn ni heddiw.
Fydden ni ddim i gyd yma heno heblaw amdanyn nhw.
Mae rhai ohonoch chi yn yr ystafell hon heno ac yn gwylio heno.
Diolch i bob un ohonoch chi. Mae eich llwyddiant chi yn rhan annatod o lwyddiant y Gymraeg.
Ond dyw llwyddiant y gorffennol ddim yn golygu’n anorfod y bydd llwyddiant yn y dyfodol.
Ydy’r agweddau cadarnhaol welwn ni, y niferoedd uchel o ddysgwyr a gwasanaethau Cymraeg yn ddigon ynddyn nhw eu hunain? Nag ydyn.
Mae’n rhaid i ni fynd lot dyfnach na hynny.
Mae gyda ni 100 mil yn llai yn siarad Cymraeg erbyn hyn nag oedd adeg traddodi Tynged yr Iaith.
Mae’r Fro Gymraeg—’cadarnleoedd’ y Gymraeg wedi disgyn o ran canran y siaradwyr.
Mae problem gyda ni o ran ail gartrefi yn yr ardaloedd ‘na.
Mae allfudo pobl ifanc yn broblem
Ac er bod cymuned ddaearyddol yn bwysig mae COVID-19 a Brexit wedi herio cysyniad cymuned ddaearyddol, patrymau byw a phatrymau gweithio.
Maen nhw wedi newid y tirwedd ry’n ni’n gweithio ynddo fe.
Ac mae’n rhaid i ni ymateb i’r datblygiadau hyn, adeiladu ar yr hyn sy’n gweithio, gwthio ffiniau ac arbrofi gyda dulliau newydd o weithio.
Ac os na fydd y dulliau newydd hynny’n gweithio, rhaid i ni fod yn ddewr: rhaid i ni fod yn agored am hynny, dysgu o hynny, ac addasu eto beth ry’n ni’n neud.
Proses o ddysgu parhaol yw sicrhau ffyniant iaith.
Felly ry’n ni’n dweud yn aml fel Llywodraeth fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd—bod ein hiaith ni yn perthyn i bob un ohonon ni sy’n byw yng Nghymru heddi.
Ond allwn ni ddweud yn gwbl onest ein bod ni’n gwneud digon i sicrhau fod pawb yn deall hyn a bod pawb yng Nghymru yn teimlo hyn?
Beth yn fwy ni’n gallu neud er mwyn cynnwys pobl sy’n dysgu’n hiaith ni yn ein bywydau ni?
Ro’n i’n lwcus iawn. Ces i fy magu ar aelwyd hollol Gymraeg ym Mhontarddulais yn y saithdegau a’r wythdegau—ychydig o flynyddoedd ar ôl i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gael ei ffurfio yno!
Ond a fyddai’r bachgen ‘ma o’r Bont yn teimlo bod y Gymraeg yn perthyn gymaint iddo fe petase’r iaith ddim yn rhan o’i fywyd o’r cychwyn?
Wn i ddim, ond dwi’n gwybod mod i’n hynod ddiolchgar i fy mam a ‘nhad am rannu’r Gymraeg gyda fi. Doedd sawl un o’n ffrindie ddim wedi cael y Gymraeg yn y cartref, er bod yr iaith gan eu rhieni.
Ac a fyddai’r bachgen o’r Bont yr un mor debygol o siarad Cymraeg pe bai e’n cael ei eni heddi?
Falle ddim. Felly mae rhaid taclo hynny, ac ar sail tystiolaeth gadarn.
Felly mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. I fi, mae’n fwy na pherthyn, mae’n fwy na siarad, mae’n rhywbeth dwi’n ei deimlo: dyna pwy ydw i.
Ac un o’r cwestiynau anodd sy gyda fi yw sut mae cael rhagor o bobl i deimlo fel dwi’n ei deimlo—fel ry’n ni’n teimlo. Rhywbeth at y sgwrs wedyn, efallai.
Ac wrth i ni sôn fod yr iaith yn perthyn i ni gyd a bod gan bawb gyfraniad i’w wneud, mae hyn yn ein gorfodi i wynebu canfyddiad arall—efallai fod na demtasiwn naturiol i feddwl fod ffawd yr iaith yn ganlyniad i weithgaredd sefydliadol boed yn llywodraeth, yn ysgolion neu’n fentrau iaith efallai.
Ond rhan yn unig o’r darlun yw hyn, beth am i ni ofyn i’n hunain:
- Beth yn fwy allwn ni ei wneud ein hunain?
- Be gallen ni, fel unigolion, pob un ohonon ni, sy’n caru’r Gymraeg, ei gyfrannu’n wahanol ar ôl heno?
Does dim amheuaeth bod yr her yn enfawr, a bod sefyllfa’r Gymraeg o le i le yn wahanol iawn.
Ein cyfrifoldeb ni yw ei gwarchod hi a’i chefnogi hi ym mhob rhan o Gymru.
Yn wleidyddol, rwy’n amlwg yn Llafurwr ond rwy’n gydweithredwr hefyd.
Dwi’n un sy’n credu yn fawr bod hi’n bwysig cefnogi pobl i gymryd rheolaeth o’u bywydau i’r graddau eitha’ posibl, drwy feithrin dyheadau, cynyddu sgiliau, a sicrhau mynediad hafal at gyfleoedd ac ati.
Ac felly hefyd yn maes iaith ry’n ni am rymuso pobl i wneud mwy drostyn nhw eu hunain, ac nid jyst darparu gweithgareddau ar eu cyfer nhw.
Dyna pam hefyd, ry’n ni’n mynd i greu mwy o fudiadau cydweithredol—cooperatives—lle bydd pobl yn gallu gweithio a defnyddio eu Cymraeg heb rwystrau. ‘Gofodau uniaith’ fel ma rhai yn eu galw nhw.
A defnyddio iaith sydd bwysica’.
Mae dau nod yn strategaeth Cymraeg 2050.
Ac mae’r nod cynta’ o gyrraedd miliwn o siaradwyr wedi gafael yn nychymyg y cyhoedd mwy’r na’r ail nod o ddyblu defnydd dyddiol o’r iaith.
Ac mae’r pwyslais naturiol ddigon hyd yn hyn wedi bod ar y nod cyntaf. Ond nawr yw’r amser i rhoi’r un pwyslais ar yr ail—ar ddefnydd iaith.
Dwi ddim am ganolbwyntio ar ddefnydd ar draul dim byd arall; nage defnydd versus hawliau yw lle dwi mo’yn bod.
A dwi sicr ddim yn cytuno gyda chyhuddiad ambell un ein bod ni’n creu “deuoliaeth ffug, beryglus” pan fyddwn ni’n trafod defnydd a darpariaeth neu reoleiddio.
Felly dwi’n ailadrodd heno bod popeth dwi’n ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg yn mynd i fod yn seiliedig ar gynnal neu gynyddu’r defnydd o’n hiaith ni.
Mae hynny’n anodd dwi’n gwybod. Ond does dim byd da nad yw’n anodd.
Tybed felly, ydyn ni’n trefnu, dylunio ac yn darparu pethe, ambell waith heb edrych ar be fydde’n helpu i’n cyd-siaradwyr ddefnyddio’r pethe ‘na?
Mae dylunio gyda’r defnyddiwr yn ganolog (user-centred Design) yn gyffredin iawn mewn meysydd eraill.
Odyn ni’n neud digon ohono fe ym maes y Gymraeg?
Odyn ni’n ofni beth fydd ymateb y defnyddiwr?
Odyn ni’n ddigon dewr i fod eisie newid?
- Felly defnydd, nid jyst darpariaeth yw fy neges.
- A hefyd, siarad nid jyst creu sefydliadau.
Tybed ydyn ni hefyd yn y gymuned polisi iaith yn canolbwyntio gormod ar atebion brics a mortar (neu falle clics a morter yn y dyddiau diweddar ‘ma, yn enwedig gan ein bod ni yma ym M-Sparc), yn galw am greu sefydliadau i ‘hybu’ neu i ‘hyrwyddo’.
Nage creu un sefydliad yw’r ateb—ond edrych ar sut ry’n ni’n gweithio gyda’n gilydd i greu atebion deallus, ar sail tystiolaeth o be sy’n gweithio.
Na i gadw’r pwynt ma’n fyr: mae’r syniad o drafod ‘hybu’ neu ‘hyrwyddo’ heb ei ddiffinio wedi bod yn syniad cyfforddus i rai. Hynny yw, mae’n syniad eang iawn, a dyw e ddim yn benodol.
Dyw hybu ddim yn rhywbeth sy’n digwydd ar wahân i weddill ein gwaith ni—dyna yw ein gwaith ni. Does dim diffiniad cytûn o beth yw ‘hybu’—fy niffiniad i yw cynyddu defnydd o’n hiaith ni.
Dwi am droi nawr at rai o’r pethe penodol newydd ni’n neud yn y Llywodraeth o ran polisi iaith. Yn ein trafodaeth nes mlaen, licen i gael sgwrs ar sail beth dwi ‘di ddweud yn barod, sef beth allwn ni yn y Llywodraeth a gweddill ohonon ni ei wneud yn wahanol hefyd?
Ni di dweud ers sbel bod Cymraeg 2050 yn ymdrech i’r Llywodraeth gyfan. Mae hynny’n golygu bod e’n debyg i faterion eraill fel cydraddoldeb a newid hinsawdd ac yn y blaen.
Ond er bo ni’di dweud hynny ers sbel, ma rhoi hynny ar waith yn golygu bod pob un ar draws Llywodraeth Cymru yn cymryd perchnogaeth am bolisi iaith. Ac mae hynny’n beth newydd i rai.
Felly, yn ddiweddar, dwi di dechrau cyfres reolaidd o gyfarfodydd rhyng-weinidogol er mwyn sicrhau bod Cymraeg 2050 ar agenda pob un ohonon ni.
Prif-ffrydio’r Gymraeg ar draws pob elfen o’n gwaith ni yn Llywodraeth Cymru. Sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei hystyried yng nghyd-destun gwaith pob tîm, ym mhob adran ar draws y Llywodraeth, bob tro.
Ry’n ni’n gwbod bod hyn yn mynd i gymryd sbel, ac mae gyda ni enghreifftiau o ble mae adrannau eraill, gyda help fy adran i, eisoes wedi datblygu gwaith da i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Er enghraifft:
Busnes Cymru
Academi Wales
Ein gwaith ar draws y Llywodraeth i daclo problem ail gartrefi
Ein gweinyddiaeth fewnol, lle ni’di datgan y bydd pob un o’n swyddogion yn Llywodraeth Cymru yn deall Cymraeg erbyn 2050, a lot mwy yn ei siarad
Ac fel model gwahanol, cyfle i adeiladu ar waith Arfor yn y Llywodraeth yma fel mae’r cytundeb gyda Phaid Cymru yn ei ddatgan.
Fy mwriad i yw y bydd lot mwy o bethe polisi pellgyrhaeddol yn deillio o’r cyfarfodydd Cabinet ’na.
A dwi’n pwysleisio’r angen am ystyried y Gymraeg mewn polisi.
Ac mae polisi iaith yn llawer mwy na chydymffurfiaeth.
Felly byddwn ni yn Llywodraeth Cymru’n mynd ymhellach na sicrhau ein bod ni jyst yn cydymffurfio gyda dyletswyddau ieithyddol.
Ac mae gan y Llywodraeth eisoes ystod o amcanion polisi uchelgeisiol yn y Rhaglen Lywodraethu ac yn Rhaglen Waith dros y tymor Senedd hwn.
Ond rwy’n falch hefyd bod y polisïau yma yn rhan mor flaenllaw o’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wnes i sôn amdano fe.
Drwy gyd-weithio strategol mae gwneud cynnydd o ran y Gymraeg ac mae’r cytundeb yn fy marn i yn enghraifft da o hwnnw—yn cynnwys gwaith ar y meysydd pwysig hynny rwy newydd gyfeirio atyn nhw—yr argyfwng ail gartefi, yr her economaidd i’r iaith, —a llawer mwy. Ond mwy am hynny yn y man.
Ac mae gweithio i ddiogelu’r Gymraeg fel iaith gymunedol gyda’r pethe pwysica gallen ni neud fel cymuned.
Mae beth yw ‘cymuned’ yn destun lot o drafod academaidd, ac af i ddim ar ôl hynny i gyd heno, ond mae’r syniad o beth yw cymuned wedi newid ers 1962!
Bryd ‘ny, roedd y chwyldro digidol ymhell i ffwrdd y tu hwnt i’r gorwel.
Mae technoleg bellach yn ein galluogi ni i siarad gyda ffrindiau ledled y byd fel sen nhw yn yr un stafell â ni—a dyna wych odd hynny wrth gwrs i ni gyd yn ystod COVID-19!
Ond dyw syllu mewn i sgrin ddim cystal â bod wyneb yn wyneb â phobl. Siwr gallwn ni i gyd gytuno ar hynny heno.
A dyw technoleg ddim yn cymryd lle cymunedau corfforol. Na daearyddol.
Ond dyw cymunedau daearyddol ddim beth ‘roedden nhw chwaith.
Cyn y pandemig, roedden ni’n teithio i’r gwaith, roedden ni’n teithio i siopa.
Prin yw’r rheini ohonon ni sy jyst yn byw yn ein milltir sgwâr yn gorfforol neu’n dechnolegol.
Ac mae beth yw natur y Gymraeg ledled Cymru’n amrywio. Dyw beth sy’n gweithio ym Mlaenau Ffestiniog ddim o reidrwydd yn mynd i weithio ym Menllech neu ym Mlaenrhondda.
Felly byddwch chi’n gweld ffocws daearyddol newydd yn ein gwaith ni o hyn allan. Ac er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dwi ddim yn sôn am greu Gaeltacht, er bod da ni wersi i’w dysgu o Iwerddon.
Ond falle ystyried rhai ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol arbennig. Allwn ni ddim defnyddio yr un ‘approach’ ledled Cymru yn ddiwahân.
Ry’n ni’n ymgynghori ar y syniad ‘ma o sensitifrwydd ieithyddol fel rhan o’r Cynllun Cymunedau Tai Cymraeg ar hyn o bryd, ac mae ‘na gyfle o hyd i chi gael dweud eich dweud. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwneud—ry’n ni mo’yn clywed gan bob un ohonoch chi.
A chyn i ni symud mla’n, cymerwch eiliad nawr i feddwl am eich cymuned chi gartre.
Meddyliwch amdani yng nghyd-destun y Gymraeg, a meddwl be allen ni a chi ei wneud yn wahanol yn yr ardaloedd ‘ma?
Ydyn ni’n cymryd digon o gyfrifoldeb yn lleol yn ein cymunedau ein hunain?
Dwi ‘di codi cwestiwn yn barod am newid iaith y gymuned le ces i ngeni. Gades i Bontarddulais yn ddeunaw oed a byw i ffwrdd am bum mlynedd ar hucen.
A dwi’n angerddol falch o fod nôl yng Nghymru, a dwi wrth fy modd cael defnyddio cymaint o Gymraeg bob dydd yn y gwaith.
Fe nath y cyfnod ‘na i ffwrdd—wrth gadw cyswllt agos gyda nheulu wrth gwrs—roi cyfle i mi edrych o bell ar beth sy’n digwydd ‘na . A gweld y gymuned lle ges i nghodi’n newid.
Er bod cymuned Gymraeg yna o hyd—fy nheulu wrth gwrs—dyw’r gymuned ‘na jyst ddim mor gryf ei hiaith â dwi’n ei chofio’n hi’n blentyn.
A dwi’n gwybod bod yr un peth, am lot o resymau, yn digwydd mewn llefydd eraill.
A dwi’n gwybod hefyd eich bod chi, mewn rhannau o Sir Fôn, lle ŷn ni heno, yn profi pethe tebyg.
A dyna pham ni’n mynd i wneud lot o waith ar hyn.
A hwn odd un o’r pethe cynta’ o’n i am weithredu arno fe pan ddes i’n Weinidog oedd hyn. A dwi wedi gweithredu’n barod, (1) o ran cymunedau Cymraeg (2) ym maes ail gartrefi, a (3) o ran ehangu Addysg Gymraeg a dysgu’r iaith.
O ran y cynta’n benodol, dwi isie sôn am beth mae’n Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn mynd i’r afael ag e.
Dwi’n gwybod bod ‘na alwadau i ni weithio’n gyflym ar y Cynllun ‘ma, ond ma angen i ni weithio ar ‘pace’ sy’n rhoi sicrwydd i ni bod beth ni’n neud yn cael yr effeth ni’n mo’yn iddo fe gael.
Treialu, ambell waith yw’r peth iawn i wneud er mwyn gweithredu hyd yn oed yn fwy.
Yn y lle cynta’—a dwi ‘di cyfeirio at hyn yn barod—mae cyfle i ni gefnogi pobl i greu mentrau cymdeithasol neu gymunedol: er enghraifft, helpu pobl leol yn ariannol ac yn ymarferol i brynu tafarn leol neu swyddfa bost ac yn y blaen
a’u troi’n nhw’n llefydd ni’n gallu defnyddio’n Cymraeg ni ynddyn nhw. Hynny yw, rhoi’r pŵer yn nwylo’r gymuned.
Byddan nhw hefyd yn llefydd sy’n creu incwm i’r Gymuned, yn llefydd i bobl gael blas ar ein hiaith. Yn llefydd i’r gymuned ddod ynghyd yn y Gymraeg.
Neu efallai sefydlu busnes gwyliau cydweithredol lle mae’r elw’n mynd nôl i’r ardal. Neu fusnes cydweithredol o fath arall.
Mae rhain yn enghreifftiau o be ma rhai yn eu galw yn ‘ofodau uniaith’, a dwi’n sôn am ofodau o’r fath wrth ymateb i argyfwng COVID-19 nol ym mis Gorffennaf y llynedd. Maen nhw’n hollbwysig.
A chael ein harwain gan bobl leol sydd yn bwysig fan hyn. Gan eu realiti nhw. Cael ein harwain gan beth sy’n dda i’n hiaith fyddwn ni. Gan realiti’r sefyllfa ieithyddol.
A neud yn siŵr fel ‘ny bod tai, datblygu economaidd, a’r Gymraeg yn gweithio mewn cytgord.
A gweithio i neud yn siŵr bod cartrefi i bobl yn yr ardal gethon nhw eu magu ynddi ar gael am bris maen nhw’n gallu ei fforddio.
Ac mae sawl peth arall hefyd fel rhan o’r Cynllun y’n ni’n ymgynghori arno fe, fel “llysgenhadon diwylliannol” (fydd yn gweithio i sicrhau bod pobl yn gwybod bod ein hiaith yn bodoli, pa mor bwysig y mae hi a beth yw ei chyfraniad hi i ddiwylliant a threftadaeth ardal) i bethe fel amddiffyn ein henwau lleoedd.
Rwy’n edrych mlaen at glywed eich hymatebion i’r cynigion hyn fel y gallwn ni yn y Llywodraeth, yn cyd-weithio gyda Phlaid Cymru gymryd y camau nesaf yng ngoleuni beth mae’n cymunedau yn dweud wrthom ni.
A sôn am lefydd gwahanol, dewch ‘da fi ar ymweliad bach â’n cefndryd Celtaidd â’r Alban, ac Iwerddon a sôn am peth gwaith sy’di cael ei wneud yna.
Odych chi’di clywed am lyfr o’r enw The Gaelic Crisis in the Vernacular Community? Mae’r casgliadau’n taro rhywun yn galed, rhaid dweud.
Dwi’n meddwl bod angen rhywbeth tebyg yng Nghymru. Mae peth o’r hyn mae’r tîm ymchwil yn ei ddweud yn codi mwy o gwestiynau i fi.
Maddeuwch yr iaith academaidd, ond dwi’n credu bod angen i ni edrych ar hyn yng nghyd-destun ein hiaith ni hefyd:
Combined with the lack of targeted scrutiny of the contraction of the Gaelic speaking collective, an ideological vaccum was filled by the civic promotion of Gaelic which conforms with an individualist ethic and continues to confine Gaelic to a secondary, optional identity…in fact, promoting high status symbolic interventions can dissipate resources and energy from targeted community support efforts and it is quite common in threatened language scenarios. (Rhif tudalen: 384)
Mewn geiriau mwy cryno, llai academaidd, mae’n rhaid peidio ffocysu ar bethau ieithyddol symbolaidd neu statws ar draul gwirionedd sosio-ieithyddol.
Gadwch i mi fod yn gwbl glir: os ŷn ni’n methu â chadw’n cymunedau Cymraeg, mae’na risg i’r Gymraeg droi i mewn i beth ddywedodd un sylwebydd am y Wyddeleg, sef y bydd hi’n iaith ‘hobi’ eilradd.
Bydd, mi fydd pobl yn ei dysgu, ond falle ddim yn ei defnyddio mewn ffordd ystyrlon—neu o gwbl.
Byddai’n talu i ni fod yn wyliadwrus o sefyllfa’r Wyddeleg.
Ond wrth gwrs, seiliedig ar be wedodd 1.77 miliwn o bobl yng Nghyfrifiad 2016 yw hyn, sef bo nhw’n gallu siarad Gwyddeleg, ond dim ond 78,000 yn ei siarad hi bob dydd tu fa’s i’r ystafell dosbarth.
Saith. Deg. Wyth. Mil.
Ond wrth gwrs, seiliedig ar waith ga’th ei neud yn yr Alban ac Iwerddon o’dd y pethe dwi newydd eu trafod. Siawns bod pethe’n fwy gobeithiol yng Nghymru, falle?
Ydyn, wrth gwrs. Ond mae’r cyfle i ni, a’r uchelgais yn fwy hefyd.
Mae angen i ni wybod beth yw cyflwr ein cymunedau Cymraeg. Ydy, mae’n dyheadau ni ar gyfer ein hiaith ni yn uchelgeisiol, ond bydda i’n gwreiddio’r dyheadau ‘na mewn realiti.
- Yn realiti bywydau’r bobl sy’n defnyddio’n hiaith ni.
- Yn realiti’r anawsterau ni’n gorfod eu hwynebu.
Felly, fel dwi eisoes wedi ei ddweud mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd—dwi am greu Cymru lle ma’ pawb yn rhan o’r ateb i gefnogi a chryfhau’n hiaith.
Mae adnabod a chefnogi ardaloedd le mae’r Gymraeg ar gynnydd yn ganolog i’r weledigaeth. Ond mae’r Gymraeg hefyd, wrth reswm—ac mae’n talu i bwysleisio hyn wrth drafod cymunedau Cymraeg—yn perthyn i’r bobl sy’n ei siarad hi bob dydd, i’r bobl hynny ac eraill sy’n byw mewn llefydd lle mae canran y siaradwyr yn uchel.
Dyna pam dwi’n mynd i sefydlu Comisiwn dan ofal Dr Simon Brooks i edrych ar sefyllfa’r Gymraeg ar lefel gymunedol. Nid adeilad yw hwn, ond grŵp o arbenigwyr i roi’r gwir—a’r caswir—i ni.
Ga i droi fy sylw nawr i fyd addysg? Gan fy mod i’n Weinidog y Gymraeg ac Addysg wrth gwrs.
Heb os, dwi’n gwybod cymaint yw dylanwad ysgol ar iaith cymuned, yn enwedig lle mae’r Gymraeg yn llai cryf, neu ddim yn bodoli yn y gymuned honno fel iaith bob dydd.
Ysgolion yw’r teclyn mwya’ effeithiol sy gyda ni i greu siaradwyr newydd at y dyfodol. A gwych o beth bod cynifer o rieni di-Gymraeg yn rhoi eu ffydd yn y system addysg Gymraeg. Diolch i bob un ohonoch chi.
A dwi isie rhoi cyfle i fwy o hynny ddigwydd! Dwi isie i addysg Gymraeg fod yn fwy hygyrch. Dwi isie i’r Gymraeg gael ei pharchu a’i dysgu o ddifri’ i blant yn ein hysgolion Saesneg.
Dwi’n gwybod nad yw pawb o blaid y polisi categoreiddio nes i gyflwyno cyn Nadolig, ond rwy’n gwbl argyhoeddedig ei fod e’n rhoi cyfle go iawn i ni wthio pob ysgol ar hyd y continwwm iaith, er mwyn i bob un roi cyfle i’n holl blant ifanc ddod yn ddinasyddion dwyieithog sy’n falch o’u hunaniaeth a’u Cymreictod.
Felly, byddwn ni’n creu Bil newydd fydd yn sicrhau bod gan bob un plentyn yng Nghymru fynediad cyfartal at addysg cyfrwng Cymraeg.
Hefyd am fod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, fe welsoch chi yn y datganiad Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru [y bore ma] y byddwn ni’n rhoi cyfle i bob un gyrraedd ei botensial ar ba lefel bynnag o allu sy’n gweithio iddyn nhw, gan wneud hynny yn rhad ac am ddim hyd at 25 oed.
Bydd hyn yn sicrhau bod ni’n rhoi ail gyfle i lawer o bobl a chyfle cynta i rai—a bod miloedd o’n pobl ifanc ni’n cael cyfle i ddod yn ddinasyddion hyderus ddwyieithog erbyn eu bod nhw’n bump ar hugain oed.
Dwi am i Gymru fod yn genedl le ma pawb yn cael ail gyfle. Fydd neb yn cael ei adael ar ôl.
Ond wrth gwrs, rhaid cael athrawon ar gyfer y pethe ‘ma, ac fel dwi wedi sôn yn gyhoeddus, byddwn ni’n cyflwyno cynllun gweithlu deng mlynedd fydd yn mynd i’r afael â’r rhai o’r heriau dyrys yma.
Ac ynghyd â hyn, rwy’n falch o allu dweud ein bod ni hefyd yn bwriadu darparu gwersi Cymraeg am ddim i’r gweithlu addysg—boed athrawon neu gynorthwywr—o fis Medi mlaen, fel y gallwn ni sicrhau fod rhifau cynyddol yn medru rhywfaint o Gymraeg a helpu tywys ein hysgolion dros amser ar hyd y llwybr tuag at fwy o ddarpariaeth yn y Gymraeg.
Un peth dwi heb sôn amdano fe eto yw rôl Llywodraeth leol. Ac roedd gan Saunders Lewis dipyn i’w ddweud amdanyn nhw!
Dwi ‘di sôn am y gwaith ry’n ni’n ei wneud yn Llywodraeth Cymru’n barod. Ry’n ni ar daith, ac ry’n ni am weld beth mae pawb arall yn gallu ei wneud hefyd.
Mae ‘na gamau pwysig wedi’u cymryd o fewn awdurdodau lleol, ac mae’r daith mae rhai wedi’u cymryd o fewn eu cynlluniau strategol addysg nhw’n wych—ond mae llawer mwy i’w wneud.
Ac wrth gwrs, mae ‘na le i ni i gyd gefnogi ein gilydd, felly dwi’n dweud heno y bydda i am gyfarfod arweinwyr cabinet sy’n gyfrifol am y Gymraeg ym mhob awdurdod lleol bob tymor o hyn ymlaen, er mwyn rhannu arfer dda, cydlynu ein gwaith ni a dysgu oddi wrth gilydd.
Efallai bod ein ‘dulliau chwyldro’ ni’n wahanol i’r hyn oedd ym meddwl Saunders Lewis chwe deg mlynedd yn ôl, ond mae’n hangerdd ni at ein hiaith yr un mor real, yr un mor ddidwyll a’r un mor bwerus.
Ry’n ni wedi ymrwymo'n ddiweddar i gytundeb cydweithredu â Phlaid Cymru ac ry’n ni’n edrych mlaen at weithio gyda’n gilydd dros ein hiaith ni.
Mae’r cytundeb yn uchelgeisiol ac yn arwydd o’r uchelgais sy gyda ni fel pleidiau dros y Gymraeg.
Mae’n cynnwys gwaith i gynyddu’r defnydd o’n hiaith mewn rhagor o leoedd, ar Fil Addysg Gymraeg arloesol, i gynyddu nifer ein hathrawon all ddysgu yn y Gymraeg, ac ar sicrhau bod mwy o sefydliadau’n dod o dan safonau’r Gymraeg.
Byddwn ni hefyd yn gweithio gyda’n gilydd i ddiogelu henwau lleoedd ac ar nifer o bethau eraill.
Ac rwy’n falch iawn o weld Rhun ap Iorwerth yma - dwi yn ei etholaeth e, felly diolch am y croeso i Ynys Môn. Ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Siân Gwenllïan a Cefin Campbell sy'n arwain ar y meysydd yma fel rhan o’r cytundeb. Rwy’n ffyddiog iawn bydd ein gwaith ar y cyd yn gynhyrchiol.
Ac rwy’n addo i bob un ohonoch chi sydd ‘ma heno, tra bod gen i’r fraint o arwain ar warchod ein hiaith yn Llywodraeth Cymru, nid ‘iaith ar encil’, chwedl Saunders Lewis, fydd y Gymraeg.
Ac i sicrhau hyn, mae rhaid i ni ymddiried yn ein gilydd. Chi sydd yma heno, a chithe sy’n gwylio o bell.
Nawr yn fwy nag erioed, mae angen i ni weithio gyda’n gilydd, gyfrannu at a dathlu llwyddiannau’n gilydd; cynnig help llaw i’n gilydd pan ddaw heriau, dysgu oddi wrth ein gilydd a chyda’n gilydd—ac fe fydd ein cenhadaeth yma’n parhau.
Fe sonies i ar y cychwyn am ‘Tynged’ ac ‘Achub’—geiriau Saunders Lewis a Jim Griffiths chwe deg mlynedd yn ôl a gofyn pa air fydden ni’n ei ddefnyddio heno.
Dwi am fod yn hy a gofyn am fwy nag un gair, a dyma nhw—ffydd, dysgu a pherthyn.
Ffydd, oherwydd bod rhaid i ni i gyd gael ffydd yn ein gilydd, ac yn ein cenhadaeth er mwyn llwyddo.
Dysgu, oherwydd mai dyma sut ry’n ni am newid pethau—drwy ddysgu gyda’n gilydd.
A pherthyn.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Mae hi ym mêr ein hesgyrn ni. Mae’n rhan o beth sy’n ein gwneud ni’n ‘ni’. Felly, ydy mae’n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i ddod at ein gilydd i sicrhau ei dyfodol, ond mae hefyd yn gyfle i ni gofio fod gan bawb ei ran, mae gan bawb ei lais—mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd.