Adolygiad Ffyrdd Cymru: adroddiad panel cychwynnol
Mae’r adroddiad hwn yn egluro sut y bydd y Panel Adolygu Ffyrdd yn cynnal ei adolygiad a pha brosiectau y mae’n eu hystyried.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Rhagair
Ym mis Medi 2021 gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i ni ddod at ein gilydd fel Panel Adolygu Ffyrdd i wneud argymhellion mewn perthynas â’r cynlluniau ffyrdd sydd ar y gweill ac i roi cyngor ar yr adegau pan fydd ffyrdd newydd yn cynnig ateb priodol i broblemau trafnidiaeth.
Mae penderfynu ble i fuddsoddi er mwyn helpu i gyflawni nodau polisi, a darparu arweiniad ynghylch yr adegau pan fydd cynlluniau ffyrdd yn briodol neu beidio, yn dasg heriol iawn.
Mae hyn yn fwy pwysig oherwydd y camau brys sy’n ofynnol i ymateb i’r argyfwng hinsawdd, fel oedd yn amlwg o’r trafodaethau diweddar ar yr hinsawdd yn ystod COP26 yn Glasgow. Bydd y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan wneuthurwyr polisi yn ystod y degawd hwn, ac a fydd yn effeithio ar batrymau trafnidiaeth rhwng nawr a 2030, yn pennu p’un a fydd y byd yn aros o fewn lefelau diogel o wresogi byd-eang neu’n mynd y tu hwnt i’r terfynau hynny.
Ond mae hanes datblygu hir yn perthyn i gynlluniau ffyrdd ac efallai y bydd cydberthynasau cymhleth â chymunedau a rhanbarthau gwledig a threfol yng Nghymru.
Rydym yn gwerthfawrogi pwysigrwydd mynd drwy broses feddwl ofalus a chadarn i wneud argymhellion. Mae ein Hadroddiad Cychwynnol yn nodi sut mae’r Panel yn mynd i’r afael â’r her hon.
Dr Lynn Sloman MBE, Cadeirydd y Panel Adolygu Ffyrdd
1. Cyflwyniad
1.1 Cyd-destun ar gyfer yr Adolygiad
Ar 22 Mehefin 2021, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, mewn datganiad i’r Senedd y byddai’r holl gynlluniau ffyrdd newydd yn cael eu gohirio tra bo’r llif presennol o gynlluniau’n cael ei adolygu.
Cyd-destun yr adolygiad yw bod Llywodraeth Cymru, a llawer o awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi datgan argyfwng hinsawdd. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gyllideb Garbon 2 Cymru Sero Net (Hydref 2021) yn ddiweddar, sy’n nodi’r angen i leihau allyriadau CO2 ar draws yr economi gyfan 63% erbyn 2030. Yn y sector trafnidiaeth, mae Cymru Sero Net wedi gosod nod i leihau nifer y milltiroedd a deithir gan bob unigolyn mewn car 10% erbyn 2030 (o 2019), a chynyddu cyfran y teithiau a wneir drwy ddefnyddio dulliau cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol) i 35% erbyn 2025 a 39% erbyn 2030. Roedd allyriadau trafnidiaeth yn cyfrif am 17% o allyriadau CO2 Cymru ac roedd wedi gostwng 6% yn unig o’i gymharu â llinell sylfaen 1990 yn 2019, sy'n amlygu’r ffaith y bydd cyrraedd y targedau yn heriol iawn.
Mae Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Mawrth 2021), yn nodi sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau nifer y teithiau sy’n cael eu gwneud mewn ceir preifat yn ogystal â chynyddu nifer y bobl sy’n cerdded, yn beicio ac yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Mae’n mabwysiadu Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i lywio penderfyniadau ar fuddsoddi mewn seilwaith, sy’n rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio, yna trafnidiaeth gyhoeddus, cerbydau allyriadau isel iawn, ac yn olaf cerbydau modur preifat eraill.
Mae’r polisi cynllunio, fel y nodir yn Cymru’r Dyfodol (Chwefror 2021), yn gosod nod i bobl fyw mewn mannau lle mae teithio’n cael effaith amgylcheddol isel ac allyriadau isel, gyda llai o ddibyniaeth ar gerbydau preifat.
Cafodd y rhan fwyaf o’r cynlluniau ffyrdd sy’n cael eu datblygu yng Nghymru ar hyn o bryd eu llunio cyn mabwysiadu Cymru Sero Net, Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a Cymru’r Dyfodol. Pwrpas yr Adolygiad Ffyrdd yw edrych ar y llif presennol o fuddsoddi mewn ffyrdd gan Lywodraeth Cymru er mwyn asesu a yw’n cyd-fynd â’r polisïau newydd hyn. Mae nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn hysbysu’r adolygiad.
1.2 Aelodau'r Panel
Penodwyd yr aelodau canlynol i’r Panel Adolygu Ffyrdd ar 15 Medi 2021:
- Dr Lynn Sloman MBE (Cadeirydd)
- Julie Hunt
- Yr Athro Glenn Lyons
- Geoff Ogden
- Yr Athro John Parkin
- Yr Athro Andrew Potter
- Dr Eurgain Powell
- Helen Pye
Mae’r Panel yn cyfuno arbenigedd mewn polisi trafnidiaeth fel y mae’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd; cyflawni prosiectau peirianneg priffyrdd; logisteg cludo nwyddau; cynllunio trafnidiaeth a symud yn y dyfodol; ac ymgysylltu â’r cyhoedd. Mae’n cynnwys aelodau o ogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru, ac o ardaloedd trefol a gwledig. Gweler: Aelodau'r Panel Adolygu Ffyrdd.
1.3 Amcanion a Chylch Gorchwyl ar gyfer yr Adolygiad
Gellir crynhoi amcanion yr Adolygiad Ffyrdd fel a ganlyn:
- sicrhau bod buddsoddiad ar y ffyrdd yn cyd-fynd yn llwyr â chyflawni uchelgeisiau a blaenoriaethau Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a Cymru Sero Net
- datblygu cyfres o feini prawf sy'n nodi amgylchiadau priodol lle dylid gwario cronfeydd Llywodraeth Cymru ar ffyrdd
- defnyddio’r meini prawf hyn i wneud argymhellion ar ba un o'r prosiectau ffyrdd presennol y dylid eu cefnogi, eu haddasu neu y dylai cymorth gael ei dynnu’n ôl
- darparu canllawiau ar gyfer ailddyrannu gofod ffyrdd ar rannau o'r rhwydwaith ffyrdd a allai elwa yn y dyfodol o gael eu gwella
- ystyried sut y gellid dyrannu unrhyw arbedion, er mwyn sicrhau yr eir i'r afael â phroblemau ar y rhwydwaith ffyrdd, ac yn benodol gwneud argymhellion ar sut i fynd i’r afael â’r holl waith cynnal a chadw ffyrdd sydd wedi cronni.
Wrth symud ymlaen, bydd Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG), sy'n cael ei adolygu ar hyn o bryd, yn sicrhau bod yr holl brosiectau trafnidiaeth yn cyd-fynd â chyflawni uchelgeisiau a blaenoriaethau Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae’r Cylch Gorchwyl yn nodi, yn y dyfodol, yn unol â Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, y bydd y flaenoriaeth a’r ffocws ar gyfer buddsoddi ar y ffyrdd ar:
- osgoi gweithredu sy'n cynyddu allyriadau carbon o weithredu, cynnal a gwella'r rhwydwaith ffyrdd, yn enwedig yn y 15 mlynedd
- nesaf pan fydd y rhan fwyaf o gerbydau yn dal i ddefnyddio tanwydd ffosil
- ailddyrannu'r gofod ffyrdd presennol er mwyn symud i fathau cynaliadwy a hygyrch o drafnidiaeth
- addasu'r seilwaith ffyrdd presennol i ymdopi â'r newid yn yr hinsawdd
- buddsoddi sy'n cynnal diogelwch a gwasanaeth y rhwydwaith ffyrdd presennol yn unol â dyletswyddau statudol, a
- gwella bioamrywiaeth ochr yn ochr â llwybrau trafnidiaeth mawr
1.4 Statws a chynnwys yr adroddiad hwn
Mae’r Cylch Gorchwyl yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel Adolygu Ffyrdd wneud adroddiad cychwynnol o fewn tri mis i’w benodi, gan nodi sut y mae’n bwriadu cynnal yr Adolygiad a’r buddsoddiad arfaethedig ar y ffyrdd y mae’n ystyried sydd o fewn cwmpas y Cylch Gorchwyl, i’w gymeradwyo gan y Gweinidogion. Mae’r adroddiad hwn yn cyflawni’r gofyniad hwnnw.
Mae cynnwys yr adroddiad fel a ganlyn:
- Adran 2: Cwmpas yr Adolygiad
- Adran 3: Meini Prawf a’r Broses Adolygu
- Adran 4: Adolygiad Cychwynnol o'r Cynllun, ac
- Adran 5: Y Camau Nesaf
Mae’r Cylch Gorchwyl hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i’r Panel Adolygu Ffyrdd ddarparu’r Adroddiad Terfynol i’r Gweinidogion gan nodi canfyddiadau’r Adolygiad cyn pen naw mis i’r penodiad.
2. Cwmpas yr Adolygiad
2.1 Sail resymegol ar gyfer cynlluniau o fewn, neu’r tu allan, i’r cwmpas
Mae Gweinidogion Cymru yn dymuno i’r Adolygiad hwn fod yn ymarfer mor eang ag sy’n rhesymol bosibl fel y gall ddatblygu meini prawf sy’n ddefnyddiol ar gyfer llunio cynlluniau yn y dyfodol a chefnogi diweddariadau i WelTAG. Cwmpas cyffredinol yr Adolygiad yw cynnwys yr holl fuddsoddiad ffyrdd arfaethedig, boed yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol neu’n anuniongyrchol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Lleol, yn amodol ar y canlynol:
- gwaith cynnal a gweithredol arferol i sicrhau bod diogelwch a gwasanaeth y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn parhau yn ystod cyfnod yr Adolygiad. Bydd yr holl ddyletswyddau statudol a'r rhwymedigaethau cytundebol presennol yn parhau i gael eu cadw;
- bydd cynlluniau a ariennir yn gyfan gwbl neu'n rhannol gan Lywodraeth Cymru ble mae’r gwaith adeiladu wedi mynd yn rhy bell i’w ddirwyn i ben y tu allan i gwmpas yr adolygiad; a
- bydd ffyrdd mynediad sydd â'r prif ddiben o gysylltu safle neu fangre ar gyfer diwydiant trwm â'r briffordd gyhoeddus, neu o fewn ffin safle datblygu diwydiant trwm, yn cael eu heithrio o'r Adolygiad. Dylid oedi o ran ffyrdd mynediad gyda'r prif ddiben o wasanaethu datblygiadau preswyl, manwerthu a swyddfeydd / diwydiant ysgafn yn y porth penderfynu nesaf i'w galluogi i gael eu hystyried gan y Panel adolygu.
Er mwyn pennu cynlluniau sydd o fewn cwmpas yr Adolygiad, aeth Ysgrifenyddiaeth yr Adolygiad ati yn y lle cyntaf i nodi buddsoddiad ffyrdd sy'n cael ei ariannu’n uniongyrchol o is-adrannau Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Casglwyd gwybodaeth am brosiectau ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a phrosiectau sy’n cael eu harwain gan awdurdodau lleol ac sy’n cael eu hariannu drwy’r Gronfa Trafnidiaeth Leol a’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth. Roedd y Panel o’r farn bod prosiectau y tu allan i gwmpas yr Adolygiad os bodlonwyd un neu fwy o’r rhesymau canlynol:
- mae’r gwaith adeiladu wedi mynd yn rhy bell neu wedi’i ymrwymo i gontract.
- mae’r prosiect yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus neu deithio llesol yn unig ac ni fydd capasiti cerbydau preifat yn cynyddu.
- mae’r buddsoddiad at ddibenion ansawdd aer neu liniaru sŵn yn unig, neu ddiogelwch cymunedol a rheoli cyflymder.
- mae’r buddsoddiad ar gyfer ymchwiliadau rhagarweiniol i faterion ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, ac nid oes unrhyw gynllun wedi’i ddiffinio eto.
- mae'r Gweinidogion eisoes wedi gwneud datganiad penodol i nodi na fyddai’r prosiect yn destun yr Adolygiad.
Os, yn ystod yr Adolygiad Ffyrdd, y bydd unrhyw gynlluniau yn deillio o’r ymchwiliadau cychwynnol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, mae’r Panel yn bwriadu ystyried a ddylid cynnwys y rhain yn ei adolygiad a bydd yn darparu cyngor yn ôl yr angen.
Roedd Ysgrifenyddiaeth yr Adolygiad hefyd wedi cysylltu â swyddogion y llywodraeth mewn portffolios ar wahân i'r adran Drafnidiaeth i gasglu gwybodaeth ynghylch ffyrdd mynediad sy'n ymwneud â'r canlynol:
- prosiectau datblygu economaidd
- prosiectau addysg (Ysgolion)
- prosiectau iechyd
- prosiectau tai (Cymdeithasol a Phreifat)
Mae’r rhan fwyaf o ffyrdd mynediad ar gyfer prosiectau datblygu economaidd wedi’u dylunio’n bennaf i gysylltu safle diwydiant trwm â’r briffordd gyhoeddus neu maen nhw o fewn ffin safle datblygu diwydiant trwm. Yn unol â’r Cylch Gorchwyl, roedd y Panel yn ystyried bod y rhain y tu allan i gwmpas yr Adolygiad. Ystyriwyd bod tri chynllun ffordd yn ymwneud â phrosiectau datblygu economaidd yn briodol i’r Panel graffu arnyn nhw ymhellach, ac felly byddant yn cael eu trin fel rhai sydd ‘o fewn cwmpas’.
Oherwydd y nifer fawr o brosiectau tai, iechyd ac ysgolion sy’n cynnwys elfen o adeiladu ffyrdd, mae angen dull gweithredu gwahanol. Yn hytrach nag adolygu cynlluniau unigol, mae’r Panel yn bwriadu darparu cyngor cyffredinol ac argymhellion yn seiliedig ar archwilio sampl o gynlluniau.
2.2 Rhestr o gynlluniau sy'n bodloni’r Cylch Gorchwyl
Mae’r cynlluniau y mae’r Panel yn ystyried sy’n bodloni’r Cylch Gorchwyl ar gyfer Adolygiad wedi’u rhestru yn atodiad A, i’w cymeradwyo gan y Gweinidogion.
2.3 Cynlluniau sy’n destun adolygiad cynnar
Roedd y Cylch Gorchwyl yn gwneud cais penodol am adolygiad cyflym o gynllun ffordd fynediad Llanbedr o fewn pedair wythnos i benodi Cadeirydd y Panel.
Nododd y Cylch Gorchwyl, yng ngoleuni’r ffaith na fyddai’r Panel wedi penderfynu ar ei fethodoleg arfarnu erbyn hynny, y dylai’r Adolygiad gael ei strwythuro o amgylch y cwestiynau canlynol:
- a roddwyd digon o ystyriaeth i atebion nad ydynt yn rhai trafnidiaeth ac atebion ar wahân i’r rhai sy’n cynyddu capasiti ceir preifat ar y rhwydwaith ffyrdd?
- a roddwyd digon o ystyriaeth i weld a fydd y cynnig ar gyfer y ffordd yn arwain at fwy o allyriadau CO2 ar y rhwydwaith ffyrdd, neu’n achosi rhwystr sylweddol i gyflawni ein targedau datgarboneiddio?
Gwnaed cais penodol pellach mewn perthynas â chynllun Gwelliannau Cyffordd 14/15 a Chyffordd 16/16a yr A55. O ystyried yr angen dybryd am wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid mynd â’r prosiect hwn ymlaen i Ymchwiliad Lleol Cyhoeddus ai peidio, gofynnwyd i’r Panel roi ei farn ar y prosiect hwn fel blaenoriaeth, tua thri mis ar ôl ei benodi.
3. Meini prawf a'r broses adolygu
3.1 Cyflwyniad
Un o dasgau cyntaf y Panel oedd datblygu ein meini prawf ar gyfer adolygu’r cynlluniau ffyrdd. Bydd y meini prawf hyn yn golygu bod modd ystyried mewn ffordd strwythuredig i ba raddau mae pob cynllun yn cyd- fynd â pholisi Llywodraeth Cymru ac yn bodloni’r nodau llesiant cenedlaethol. Nid dull ‘ticio blwch’ yw hwn: bydd y Panel yn defnyddio doethineb barn wrth wneud argymhellion, gan adlewyrchu cydbwysedd y dystiolaeth.
Mae ein naw maen prawf wedi’u crynhoi isod. Mae meini prawf 1-3 yn edrych ar broses datblygu’r cynllun; mae maen prawf 4 yn edrych ar effaith y cynllun ar allyriadau CO2; mae maen prawf 5-8 yn ymwneud â nodau llesiant Cymru; ac mae maen prawf 9 yn archwilio a yw’r cynllun yn ddigon cadarn i ddelio â senarios gwahanol posibl yn y dyfodol.
3.2 Meini prawf
Maen prawf 1: A yw’r achos dros newid wedi’i gyflwyno?
Bydd yr adolygiad o bob cynllun yn dechrau drwy ystyried dibenion y briffordd yn lleoliad y cynllun. Bydd y Panel yn adolygu’r problemau, y cyfleoedd a’r cyfyngiadau, fel y nodir yn arfarniad y cynllun a dogfennau eraill ac yn ystyried i ba raddau mae’r problemau a’r cyfleoedd a nodwyd adeg yr arfarniad yn dal i fod yn ddilys. Edrychir ar berthynas y cynllun â datblygiadau defnydd tir. Bydd y Panel yn ystyried a fydd y cynllun yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at nodau llesiant a pholisi a strategaeth Llywodraeth Cymru.
Maen prawf 2: A yw amcanion y cynllun yn cyd-fynd â’r polisi cyfredol?
Bydd y Panel yn ystyried a yw amcanion y cynllun yn cyd-fynd â blaenoriaethau ac uchelgeisiau Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Cymru Sero Net a Cymru’r Dyfodol. Bydd yn ystyried a yw’r cynigion buddsoddi yn adlewyrchu’r Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy, ac i ba raddau. Bydd y cyfleoedd a gyflwynir gan y cynllun ar gyfer cynyddu symudiadau cludo nwyddau yn gynaliadwy yn cael eu hadolygu. Yn olaf, mae’r graddau y bydd y cynllun yn helpu i gyflawni’r targed rhannu dulliau trafnidiaeth gynaliadwy yn ffactor pwysig.
Maen prawf 3: A wnaeth proses datblygu’r cynllun archwilio pob un o’r opsiynau priodol?
Bydd y Panel yn adolygu’r opsiynau a ystyriwyd wrth ddatblygu’r cynllun. Bydd yn ystyried a roddwyd digon o ystyriaeth i opsiynau nad ydynt yn rhai trafnidiaeth, opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy, opsiynau rheoli galw neu gyflymder, a dulliau sy’n osgoi cynyddu capasiti ceir preifat. Byddir yn archwilio p’un a fydd y cynllun yn ategu buddsoddiadau eraill mewn trafnidiaeth (fel teithio llesol), ac i ba raddau. Yn olaf, bydd y Panel yn gofyn a fyddai’r ateb arfaethedig wedi dod i’r fei petai amcanion y cynllun wedi’u cysoni’n agosach â’r polisi presennol, a phetai ystod lawn o opsiynau wedi’u hystyried.
Maen prawf 4: Beth yw’r effaith ar allyriadau CO2?
Mae’r Cylch Gorchwyl yn nodi’r angen i fuddsoddi ar y ffyrdd yn y dyfodol er mwyn osgoi cynyddu allyriadau CO2, gan adlewyrchu’r ymrwymiadau a’r targedau heriol iawn yn Cymru Sero Net. Mae’r Panel o’r farn y bydd cynlluniau ffyrdd sy’n cynyddu allyriadau CO2 yn annhebygol o fod yn briodol, oni bai fod amgylchiadau arbennig, er enghraifft mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd. Os felly, bydd y Panel yn ceisio sicrwydd fel rhan o’i adolygiad bod effaith CO2 y cynllun wedi’i lleihau i’r eithaf.
Bydd y Panel yn ystyried a aseswyd effaith y cynllun ar allyriadau CO2, ac i ba raddau, ac a yw’r asesiad hwnnw’n gadarn. Bydd yn ystyried a fydd y cynllun yn cynyddu neu’n lleihau allyriadau CO2 ai peidio o ganlyniad i glirio’r tir; adeiladu; gweithredu a chynnal a chadw; traffig teithwyr a chludo nwyddau a achosir; a newidiadau o ran cyflymder a llif cerbydau. Yn olaf, bydd yn penderfynu a yw effaith net y cynllun yn fwy tebygol o helpu neu lesteirio’r broseso o gyflawni targedau a chyllidebau allyriadau carbon Llywodraeth Cymru yn ystod y 15 mlynedd nesaf (y cyfnod pan fydd y rhan fwyaf o gerbydau ar y ffordd yn dal i ddefnyddio petrol neu ddisel).
Maen prawf 5: Fydd y cynllun yn dda i bobl a chymunedau?
Adolygir y cynllun am ei gyfraniad at system drafnidiaeth sy’n dda i bobl a chymunedau, fel y nodir yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Bydd y Panel yn ystyried pa ddadansoddiad sydd wedi’i wneud, a pha effeithiau a allai fod, o safbwynt cydraddoldeb ac iechyd. Ystyrir effaith y cynllun ar allgáu cymdeithasol. Adolygir effaith y cynllun ar ansawdd yr aer, sŵn, diogelwch ar y ffyrdd a gwahanu.
Maen prawf 6: Fydd y cynllun yn dda i’r amgylchedd?
Bydd y cynllun yn cael ei asesu o ran ei effeithiau ar yr amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys effaith y cynllun ar ansawdd dŵr, perygl llifogydd, bioamrywiaeth a chadernid ecosystemau, a’i effaith ar safleoedd sy’n cael eu gwarchod oherwydd eu pwysigrwydd amgylcheddol.
Maen prawf 7: Fydd y cynllun yn dda i leoedd a’r economi?
Bydd y Panel yn edrych ar sut mae effaith pob cynllun ar les economaidd lleol a chenedlaethol wedi’i hasesu ac a yw’r effaith honno’n debygol o fod yn fanteisiol, ac i ba raddau. Bydd yn ystyried a fydd y cynllun yn cyfrannu’n gadarnhaol at greu lleoedd lleol y gall pobl fyw ynddynt; ac a allai wella effeithlonrwydd a dibynadwyedd cerbydau cludo nwyddau. Yn olaf, bydd y Panel yn ystyried a yw’r cynllun yn cynnig gwerth da am arian drwy gynnig ffordd gost-effeithiol o gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru.
Maen prawf 8: Fydd y cynllun yn dda i ddiwylliant a’r Gymraeg?
Ystyrir effaith bosibl y cynllun ar ddefnydd o’r Gymraeg. Bydd y Panel hefyd yn ystyried a fyddai cynllun yn galluogi mwy o bobl i deithio’n gynaliadwy ar gyfer gweithgareddau celfyddydol, chwaraeon, hamdden neu ddiwylliannol, ac i ba raddau, ac a fyddai’n gwarchod yr amgylchedd hanesyddol a diwylliannol ai peidio.
Maen prawf 9: Pa mor gadarn yw’r achos dros y cynllun ar gyfer senarios gwahanol posibl yn y dyfodol?
Mae meddal am y tymor hir yn allweddol at weithio o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Bydd y Panel yn edrych ar gadernid pob cynllun mewn perthynas â senarios gwahanol posibl yn y dyfodol. Bydd hyn yn cynnwys a yw’r cynllun yn gadarn yn erbyn effeithiau niweidiol newid yn yr hinsawdd (e.e. llifogydd); ac a fyddai’n briodol, ac i ba raddau, i ddyfodol lle mae polisïau neu dueddiadau cymdeithasol eraill wedi arwain at ostyngiad sylweddol yn y defnydd o geir. Bydd y Panel hefyd yn edrych ar werth am arian y cynllun a sut y gallai newidiadau economaidd, demograffig a newidiadau eraill nad ydynt yn cael eu rhagweld adeg y gwerthusiad effeithio ar hyn. Edrychir ar rwymedigaethau hirdymor ar gyfer cynnal ac adnewyddu, ac effeithiau carbon dilynol. Bydd unrhyw fesurau eraill a fyddai’n angenrheidiol er mwyn gwireddu manteision y cynllun hefyd yn cael eu hadolygu.
3.3 Proses Adolygu
Mae adolygiadau’r cynllun yn cael eu cynnal gan ddefnyddio proses systematig y mae aelodau’r Panel wedi cytuno arni, gyda chymorth yr Ysgrifenyddiaeth a chymorth technegol.
Yn gyntaf, gofynnwyd am wybodaeth am y cynllun a’i chasglu gan noddwyr y cynllun (naill ai swyddogion Llywodraeth Cymru neu swyddogion awdurdodau lleol). Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys adroddiadau ac astudiaethau, fel arfer yn cynnwys adroddiadau Cam 1-3 WelTAG, datganiadau amgylcheddol, asesiadau economaidd a dadansoddiad data, fel y maent ar gael.
Yn dilyn adolygiad cychwynnol o’r ddogfen, efallai y bydd Aelodau’r Panel yn ymweld â safle’r cynlluniau ar eu pen eu hunain. Byddant hefyd yn cwrdd â noddwyr y cynllun, ochr yn ochr â’r Ysgrifenyddiaeth, er mwyn helpu i ddatrys unrhyw ymholiadau sy’n codi o’r wybodaeth a ddarparwyd ac i gael dealltwriaeth drylwyr o’r cynllun.
Yna, bydd Aelodau’r Panel yn adolygu’r cynllun yn erbyn y meini prawf ac yn paratoi argymhellion. Trafodir cynlluniau gan y Panel cyfan, a bydd adroddiad cryno o’r argymhellion terfynol yn cael ei ddrafftio a’i gymeradwyo i’w gynnwys yn yr adroddiad terfynol.
3.4 Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae pob un o’r cynlluniau yn yr Adolygiad eisoes wedi bod yn destun ymarferion ymgysylltu â rhanddeiliaid amrywiol, fel digwyddiadau ymgynghori anffurfiol â’r gymuned a gweithdai i randdeiliaid. Mae rhai cynlluniau hefyd wedi bod yn destun ymgynghoriadau statudol a phenderfyniadau sy’n gysylltiedig â’r broses caniatâd cynllunio yn ogystal â gorchmynion prynu gorfodol i adeiladu ffyrdd dan Ddeddf Priffyrdd 1980.
Mae polisïau Llywodraeth Cymru y bydd y cynlluniau’n cael eu hadolygu yn eu herbyn hefyd wedi bod yn destun ymgynghori helaeth.
Gan adeiladu ar hyn, byddwn yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn ystod yr adolygiad er mwyn:
- hybu ymwybyddiaeth o’r Adolygiad o’r Cylch Gorchwyl
- sicrhau bod y Panel yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth berthnasol fel sail ar gyfer asesu cynlluniau, gan gynnwys adroddiadau sy’n crynhoi canlyniadau'r ymgysylltu blaenorol
- rhoi cyfle i noddwyr y prosiectau roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Panel ynghylch unrhyw ystyriaethau newydd
- hwyluso cyflwyniadau gan randdeiliaid allweddol a allai fod yn sail i’r Adolygiad cyffredinol
Mae Cadeirydd y Panel a'r Ysgrifenyddiaeth yn gallu cwrdd â phartïon sydd â diddordeb fel awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ehangach ar gyfer cyrff trafnidiaeth, diwylliant, cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a chenedlaethol er mwyn egluro ein dull gweithredu a thrafod yr Adolygiad cyffredinol.
Mae gwybodaeth am yr Adolygiad Ffyrdd ar gael i’r cyhoedd ar wefan Llywodraeth Cymru ynghyd â chyfeiriad e-bost cyswllt.
4. Adolygiad cychwynnol o’r cynllun
4.1 Ffordd Fynediad Llanbedr
Cafodd yr Adolygiad o Ffordd Fynediad Llanbedr mewn perthynas â’r ddau gwestiwn a ofynnwyd yn y Cylch Gorchwyl ei gyhoeddi ar 1 Tachwedd 2021.
Mae’r casgliadau a’r argymhellion ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru: Panel Adolygu ffyrdd: ffordd osgoi a ffordd fynediad Llanbedr.
4.2 Cyffordd 14/15 a 16/16a yr A55
Mae’r Panel wedi cynnal adolygiad o’r cynllun gan ddefnyddio’r meini prawf a’r fethodoleg a amlinellir yn Adran 3. Darperir adroddiad yr Adolygiad ar wahân i’r Gweinidogion ei ystyried a’i gyhoeddi ar y wefan.
5. Y camau nesaf
Mae’r Panel Adolygu Ffyrdd nawr yn dechrau craffu’n fanwl ar y cynlluniau yr ystyrir eu bod o fewn cwmpas yr Adolygiad hwn. Byddwn yn defnyddio’r meini prawf a’r fethodoleg a nodir yn Adran 3 o’r adroddiad hwn i ddatblygu ein hargymhellion.
Bydd argymhellion ar gynlluniau yn nodi a yw’r Panel yn cefnogi cynnydd y cynllun, neu a ddylid rhoi’r gorau i’r cynllun neu a gefnogir parhau â’r cynllun gydag addasiadau.
Bydd y Panel hefyd yn darparu cyngor strategol hirdymor ac argymhellion ar gyfer cynlluniau ffyrdd yn y dyfodol ynghyd â’r prosesau ar gyfer datblygu a gwerthuso, pan fydd themâu perthnasol yn codi o’r Adolygiad.
Nod y Panel yw darparu ei Adroddiad Terfynol i Weinidogion Cymru yn ystod yr Haf 2022. Bydd diweddariadau cyfnodol yn cael eu darparu ar ei waith yn ystod y broses drwy’r dudalen we ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Atodiad A – Rhestr o gynlluniau a ystyriwyd gan y Panel i fodloni’r cylch gorchwyl
Noder nid yw’r rhain wedi’u rhestru yn y tabl isod:
- Prosiectau tai sy’n destun adolygiad sampl.
- Ffordd fynediad Llanbedr gan fod y Panel wedi cwblhau’r argymhellion.
Rhwydwaith Ffyrdd Strategol |
De-orllewin Cymru |
M4: Cyffordd 43-47 Abertawe |
M4: Cyffordd 38-43 Port Talbot |
A487: Abergwaun i Aberteifi |
A40: Coridor Caerfyrddin i Landeilo |
A40: Caerfyrddin i Sanclêr |
A4076: Hwlffordd |
A48: Coridor Cross Hands i Bensarn |
A48: Gwella Cyffordd Nant-y-caws |
De-ddwyrain Cymru |
M4: Cyffordd 35-38 Pen-y-bont ar Ogwr |
A4042: Coridor Deheuol, Pont-y-pŵl i’r M4 |
Coridor Cludiant Dwyrain Caerdydd |
M4: Cyffordd 32-35 ac A470 Ymyriadau Amrywiol Coridorau Coryton i Ferthyr |
Canolbarth Cymru |
A487: Dorglwyd Comins-coch |
A40: Fferm Millbrook, Aberhonddu |
A44: Llangurig i Aberystwyth |
A470: Alltmawr (Fferm Chapel House) |
A470: Caersŵs |
A470: Llangurig |
A470: Llanidloes |
A470: Pont y Bat (Felin-fach) |
A487: Llanrhystyd |
A487: Machynlleth |
A494: Gwella Cyffordd Ffordd Maesgammedd |
A487: Gogledd o Aberarth |
A487: Rhiwstaerdywyll |
Gogledd Cymru |
A494: Lôn Fawr Rhuthun/ Ffordd Corwen |
A487: Llwyn Mafon |
A483: Ffordd Osgoi Wrecsam Cyffordd 3 i 6 |
A5/ A483: Cylchfan Halton |
A55: Adolygiad o groesfan un-lefel |
A55: Cyffordd 33b Ewloe i’r A494 Queensferry - astudiaeth o goridor y gyfnewidfa |
A55: Cyffordd 23 i 24 - Astudiaeth o’r Coridor |
A55: Cyffordd 24 i 29 - Astudiaeth o’r Coridor |
A55: Cyffordd 30 i 32a - Astudiaeth o’r Coridor |
A55: Cyffordd 15 a 16 |
A55: Cyfyngiadau o ran mynd heibio i gerbydau sy’n symud yn araf |
A55 / A494: Astudiaeth Cadernid Rhwydwaith |
Gwella Coridor Sir y Fflint |
Trydedd Bont y Fenai |
Datblygiad economaidd |
Warren Hall, Sir y Fflint (gogledd Cymru) |
Llanfrechfa, Cwmbrân (de-ddwyrain Cymru) |
Parc Busnes Celtic, Abergwaun (oe-orllewin Cymru) |
Y Gronfa Trafnidiaeth Leol / Y Gronfa Ffyrdd Cydnerth |
De-orllewin Cymru |
Gwelliannau i’r Rhwydwaith o Leiniau Trefol ac Arfordirol Llanelli |
Coridorau Trafnidiaeth Gyhoeddus Strategol Sir Gaerfyrddin |
Gwelliannau i Gerbytffordd Cymer, Castell-nedd Port Talbot |
Cynllun Addasu Arfordirol Niwgwl a dargyfeirio’r A487 |
Coridor Cludiant Cynaliadwy Cyswllt Dinas y Gogledd, Abertawe |
De-ddwyrain Cymru |
Heol Aberbîg, Blaenau Gwent |
A4119: Deuoli Coed Elái |
A469: Troedrhiwfuwch |
Gogledd Porth Cynon |
Ffordd Osgoi Llanharan |
Mynediad i Gyffordd Twnnel Hafren |
Gogledd Cymru |
Metro Gogledd Cymru – Gwella Tagfeydd yng Nghanol Tref Abergele |
Metro Gogledd Cymru – Gwella Tagfeydd yn Llandudno, Cam 4 |
Arall |
Coridor Twf Caer-Broughton (gogledd Cymru) |
Atodiad B: Cyd-destun polisi a gwerthuso
Cyflwyniad
Wrth ddatblygu methodoleg ar gyfer yr Adolygiad, mae’r Panel wedi ystyried y dogfennau polisi a’r cyd-destun gwerthuso a ddisgrifir isod.
Polisïau Allweddol
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2021, sy’n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer sut gall y system drafnidiaeth helpu i gyflawni blaenoriaethau ar gyfer Cymru.
Datblygwyd y Strategaeth gan ddefnyddio'r pum ffordd o weithio a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a chydag ymgysylltiad gan ddefnyddwyr trafnidiaeth, defnyddwyr gwasanaethau a phartneriaid allweddol.
Mae’r strategaeth yn amlinellu tair blaenoriaeth ar gyfer y pum mlynedd nesaf:
- Blaenoriaeth 1: Dod â gwasanaethau i bobl er mwyn lleihau'r angen i deithio
- Blaenoriaeth 2: Galluogi pobl a nwyddau i symud yn hawdd o ddrws i ddrws gan ddefnyddio gwasanaethau a seilwaith trafnidiaeth hygyrch, cynaliadwy ac effeithlon
- Blaenoriaeth 3: Annog pobl i newid i drafnidiaeth fwy cynaliadwy
O dan Flaenoriaeth 2, lle mae angen seilwaith trafnidiaeth newydd, defnyddir yr Hierarchaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy i lywio penderfyniadau.
Hierarchaeth teithio cynaliadwy
Byddwn yn parhau i wneud y defnydd gorau o'r seilwaith trafnidiaeth presennol trwy ei gynnal a'i reoli'n dda. Byddwn hefyd yn ei addasu ar gyfer hinsawdd sy'n newid ac yn ei uwchraddio i gefnogi dulliau teithio. Lle mae angen seilwaith newydd, byddwn yn defnyddio'r hierarchaeth teithio cynaliadwy.
Mae'r hierarchaeth teithio cynaliadwy yn rhoi blaenoriaeth i gerdded a beicio a trafnidiaeth gyhoeddus, wedyn cerbydau allyriadau isel iawn neu gerbydau diallyriadau ac yn olaf cerbydau preifat.
Uchelgeisiau llesiant
Mae gan Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru bedair uchelgais hirdymor o ran llesiant dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae’r rhain yn dangos sut dylai trafnidiaeth gyfrannu at uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru ac at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:
- Buddiol i Bobl a Chymunedau – System drafnidiaeth y mae gan bawb yr hyder i’w defnyddio, sy’n cyfrannu at Gymru fwy cyfartal a Chymru iachach.
- Buddiol i’r Amgylchedd – System drafnidiaeth sy’n sicrhau gostyngiad sylweddol mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn cynnal bioamrywiaeth ac yn gwella cadernid ecosystemau, ac yn lleihau gwastraff.
- Buddiol i'r Economi a Lleoedd yng Nghymru – System drafnidiaeth sy’n cyfrannu at ein huchelgeisiau economaidd ehangach, ac yn helpu cymunedau lleol, yn cefnogi cadwyn gyflenwifwy cynaliadwy, yn defnyddio’r datblygiadau arloesol diweddaraf ac yn mynd i’r afael â fforddiadwyedd trafnidiaeth.
- Buddiol i Ddiwylliant a’r Iaith Gymraeg – system drafnidiaeth sy’n cefnogi’r Gymraeg, yn galluogi mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gynaliadwy i fynd i weithgareddau diwylliannol, celfyddydol a chwaraeon, ac yn gwarchod ac yn gwella’r amgylchedd hanesyddol.
Mae Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn gosod targed i 45% o deithiau gael eu gwneud gyda dulliau cynaliadwy erbyn 2040.
Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Cymru’r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040, ym mis Chwefror 2021. Mae Cymru'r Dyfodol yn nodi'r cyd-destun gofodol ar gyfer galluogi datblygiadau yng Nghymru dros yr ugain mlynedd nesaf. Ei ddiben yw arwain buddsoddiad cyhoeddus a phreifat a chyfrannu at amcanion ehangach Llywodraeth Cymru; cynnal a datblygu economi fywiog, sicrhau datgarboneiddio a chadernid hinsawdd, datblygu ecosystemau cryf a gwella iechyd a llesiant cymunedau ledled Cymru.
Mae strategaeth ofodol Cymru’r Dyfodol yn ceisio cyfuno patrymau anheddu a chyflogaeth presennol â gweledigaeth o dueddiadau ehangach y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt. Mae Cymru’r Dyfodol yn nodi 11 o ganlyniadau allweddol sy’n uchelgeisiau cyffredinol sy’n seiliedig ar yr egwyddorion cynllunio cenedlaethol a’r canlyniadau cenedlaethol creu lleoedd cynaliadwy a nodir ym Mholisi Cynllunio Cymru. Mae’r 11 canlyniad sydd wedi’u nodi ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf wedi’u crynhoi yn y blwch isod.
Canlyniadau Allweddol Cymru’r Dyfodol |
|
Cymru lle mae pobl yn byw... |
|
1 |
...ac yn gweithio mewn lleoedd cysylltiedig, cynhwysol ac iach |
2 |
...mewn llefydd gwledig llewyrchus lle y gallant gael cartrefi, gwaith a gwasanaethau. |
3 |
…mewn rhanbarthau nodedig sy’n mynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd ac anghydraddoldebau economaidd- gymdeithasol drwy dwf cynaliadwy. |
4 |
…mewn lleoedd lle mae’r iaith Gymraeg yn ffynnu. |
5 |
…ac yn gweithio mewn trefi a dinasoedd sy’n ganolbwynt ac yn sbardun i dwf cynaliadwy. |
6 |
…mewn lleoedd lle y caiff ffyniant, arloesedd a diwylliant eu hyrwyddo. |
7 |
…mewn lleoedd lle mae teithio yn gynaliadwy. |
8 |
…mewn lleoedd â seilwaith digidol o’r radd flaenaf. |
9 |
…mewn lleoedd sy’n rheoli eu hadnoddau naturiol yn gynaliadwy ac yn lleihau llygredd. |
10 |
…mewn lleoedd ag ecosystemau bioamrywiol, cadarn a chysylltiedig. |
11 |
…mewn lleoedd sydd wedi’u datgarboneiddio ac sy’n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd. |
Cymru Sero Net
'Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2: 2021-25' - cyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Hydref 2021 ac mae’n cyd-fynd ag addewidion a dogfen astudiaeth achos ‘Gweithio gyda'n gilydd i gyrraedd sero net: Cynllun Cymru Gyfan 2021-25’. Mae Cymru Sero Net yn tynnu sylw at yr Adolygiad Ffyrdd fel Cynnig 4:
“Gohirio ac adolygu cynigion ffyrdd presennol a methodoleg newydd i asesu pa mor briodol yw cynlluniau ffyrdd yn y dyfodol”.
Mae'r sector trafnidiaeth yn cynnwys allyriadau trafnidiaeth yng Nghymru ynghyd â chyfran Cymru o allyriadau hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol. Gyda lefel o 6.6 MtCO2e, roedd trafnidiaeth yn cyfrif am 17% o allyriadau Cymru yn 2019, y trydydd sector mwyaf o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr. O hyn, daw 55% o geir, 17% o loris ysgafn a 14% o loris trwm a bysiau. Allyriadau carbon deuocsid yw'r holl allyriadau trafnidiaeth, fwy neu lai (99%).
Mae’r adroddiad yn nodi er mwyn cyrraedd Cyllideb Garbon 2 a rhoi Cymru ar lwybr tuag at sicrhau allyriadau sero net erbyn 2050 bydd angen cymryd camau mewn tri maes eang ar gyfer cludo teithwyr a llwythi:
- lleihau'r galw a newid dulliau teithio – sut y gallai newidiadau mewn ymddygiad a chymdeithas leihau neu newid y galw am deithio.
- yr opsiynau technolegol sydd ar gael a mabwysiadu trafnidiaeth allyriadau isel neu ddi-allyriadau.
- gwelliannau i effeithlonrwydd tanwydd mewn cerbydau confensiynol.
Defnyddiwyd y rhain i bennu llwybr Cymru 2050 ar gyfer cludo teithwyr a llwythi, ac i lywio datganiad uchelgais Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector trafnidiaeth.
Datganiad Uchelgais y Sector Trafnidiaeth
Rydym yn anelu at leihau allyriadau ym maes cludo teithwyr 22% yn 2025 (o gymharu â 2019) a 98% yn 2050 drwy leihau'r galw, newid dulliau teithio a mabwysiadu technolegau carbon isel.
Ein nod yw lleihau nifer y milltiroedd car a deithir y pen 10% erbyn 2030 a chynyddu cyfran y teithiau drwy ddull teithio cynaliadwy (trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol) i 35% erbyn 2025 a 39% erbyn 2030.
Erbyn 2025, bydd 10% o deithiau car gan bobl yn digwydd mewn ceir di- allyriadau a bydd 48% o geir newydd a werthir yn rhai di-allyriadau, bydd gennym rwydwaith cynhwysfawr o fannau gwefru cerbydau trydan, a bydd cyfran fawr o'n fflyd bysiau, tacsis a cherbydau hurio preifat bellach yn gerbydau di-allyriadau.
Polisïau Perthnasol Eraill
Yn dilyn datganiad gan y Prif Weinidog yn 2019 am fanteision parthau 20mya, ffurfiwyd Grŵp Tasglu 20mya Cymru. Cyhoeddodd y grŵp adroddiad ym mis Hydref 2020, a oedd yn cynnwys 21 o argymhellion ar gyfer cyflwyno’r terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya ar ffyrdd cyfyngedig. Cafodd pob un eu derbyn gan Lywodraeth Cymru.
Ffyrdd ‘cyfyngedig’ yw ffyrdd lle darperir goleuadau stryd ar ffurf lampau sydd ddim mwy na 200 llath oddi wrth ei gilydd. Maen nhw fel arfer mewn ardaloedd preswyl ac ardaloedd adeiledig lle ceir llawer o bobl yn cerdded. Y terfyn cyflymder safonol ar gyfer ffyrdd o’r fath ar hyn o bryd yw 30mya, er y gall awdurdodau lleol ddefnyddio gorchmynion rheoleiddio traffig i osod terfyn cyflymder arall mewn achosion priodol.
Mae’r bwriad wedi cael ei gefnogi yn y Senedd ac fe ddaeth yr ymgynghoriad i ben ar 1 Hydref 2021.
Cyhoeddwyd Strategaeth Gwefru Cerbydau Trydan Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2021. Mae’n nodi’r angen dybryd i ddatgarboneiddio ein systemau trafnidiaeth ac mae’n nodi bod angen gwneud mwy i gefnogi’r pontio i gerbydau trydan. Cyflwynir Gweledigaeth ar gyfer Gwefru yng Nghymru,
“Erbyn 2025, bydd pawb sy’n defnyddio ceir a faniau trydan yng Nghymru yn hyderus y gallant gael at seilwaith gwefru cerbydau trydan ar yr adeg ac yn y man lle y mae arnynt ei angen.
Mae maes polisi posibl arall yn ymwneud â Chodi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd, gydag adroddiad annibynnol a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2020 yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yng Nghymru. Roedd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu fframwaith ar gyfer codi tâl teg a chyfartal ar ddefnyddwyr y ffyrdd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo yn Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru i ddiweddaru ei Fframwaith Diogelwch Ffyrdd, gan adeiladu ar fersiwn flaenorol y fframwaith diogelwch ffyrdd a baratowyd yn 2013.
Cyd-destun yr Arfarniad
Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru
WelTAG yw’r Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru, sy'n darparu'r fframwaith ar gyfer gwneud penderfyniadau ac arferion da ar gyfer datblygu, arfarnu a gwerthuso ymyriadau trafnidiaeth arfaethedig. Cyhoeddwyd fersiwn gyfredol arweiniad WelTAG yn 2017 ac mae’n cyd-fynd â chanllawiau atodol ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Pwrpas WelTAG yw sicrhau bod cyllid cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi mewn ffordd sy’n sicrhau y gwneir y cyfraniad mwyaf posibl at lesiant Cymru.
Yn ogystal ag ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, mae WelTAG hefyd yn cyfuno egwyddorion Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Mawrhydi a'r Model Pum Achos ar gyfer Achosion Busnes Gwell ag arferion gorau TAG ar gyfer arfarnu trafnidiaeth.
Mae 5 cam WelTAG, o Achos Amlinellol Strategol i ar ôl gweithredu. Bydd y cynlluniau a ystyriwyd yn yr Adolygiad Ffyrdd wedi bod yn destun un neu fwy o Gamau Un i Dri.
Cam 1 | Achos strategol amlinellol |
Cam 2 | Achos busnes amlinellol |
Cam 3 | Achos Busnes llawn |
Cam 4 | Gweithredu |
Cam 5 | Ar ôl gweithredu |
Ar bob cam, bydd y 5 Achos yn cael eu hystyried yn unol â’r canllawiau:
- achos strategol: yr achos dros newid, cyd-fynd â pholisïau ac amcanion llesiant.
- achos trafnidiaeth: a yw'r cynnig yn cynnig gwerth da am arian i'r cyhoedd ac yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl at y nodau llesiant?
- achos ariannol: a yw'r gwariant arfaethedig yn fforddiadwy?
- achos masnachol: sut y gellir caffael y cynllun, a yw'n hyfyw?
- achos rheolaeth: a yw'r cynllun yn gyfiawnadwy? A ellir ei gwblhau?
Mae WelTAG yn cael ei adolygu ar hyn o bryd i’w ddiweddaru yn unol â’r polisïau diweddaraf ac i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau.
Mae’r Adolygiad Ffyrdd yn mynd rhagddo ochr yn ochr â gwaith diweddaru arweiniad WelTAG a bydd yn cael ei lywio ganddo; gall yr Adolygiad hefyd arwain at argymhellion ar gyfer diweddaru’r arweiniad.
Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
Roedd Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn cyd-fynd ag Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI). Roedd yr ACI yn gwerthuso cynnwys Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn erbyn 13 o amcanion cynaliadwyedd, a restrir yn y blwch, er mwyn helpu i hyrwyddo datblygu cynaliadwy a phrofi Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru cyn iddi ddod i rym.
Amcanion yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig
- cyfrannu at welliant i iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a chymdeithasol pawb, gan gynnwys cyfrannu at leihau anghydraddoldebau iechyd ledled Cymru
- creu’r amodau lle gellir sicrhau gwelliant i gydlyniant cymdeithasol a chydraddoldeb
- cefnogi datblygiad economaidd cynaliadwy ac amrywiaeth
- diogelu a hybu diwylliant Cymru a gwella mynediad at fannau diwylliannol a hamdden
- annog camau i ddiogelu a hybu’r Gymraeg
- lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o drafnidiaeth
- galluogi cydnerthedd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd
- diogelu a gwella ansawdd aer
- diogelu a gwella nodweddion unigryw lleol ein tirweddau a’n trefluniau
- hybu camau i warchod a gwella asedau treftadaeth
- hybu camau i warchod a gwella bioamrywiaeth a geoamrywiaeth
- sicrhau’r defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol
- galluogi camau i ddiogelu ardaloedd tawel ac atal llygredd sŵn a golau
Gwnaed yr ACI drwy gydol y gwaith o baratoi Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, gan fwydo argymhellion yn ôl drwy broses asesu ailadroddol, i wella perfformiad datblygu cynaliadwy Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Roedd yr ACI yn lefel uchel ac yn ystyried effeithiau cadarnhaol a negyddol.
Un o’r ‘ffyrdd o weithio’ sy’n rhan o egwyddor datblygu cynaliadwy Llywodraeth Cymru yw’r angen i fabwysiadu dull integredig. Mae’r ACI, felly, yn cynnwys nifer o asesiadau statudol ac anstatudol eraill, fel effaith ar iechyd, cydraddoldebau, yr iaith Gymraeg a Hawliau’r Plentyn. Roedd hyn yn caniatáu i olwg fwy cyflawn gael ei chymryd ar y goblygiadau a’r cyfleoedd cynaliadwyedd sy’n deillio o Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Mae’r ACI yn cynnwys gwybodaeth ac yn cyd-fynd â’r Adolygiad Ffyrdd. Fel proses werthuso statudol, mae wedi profi blaenoriaethau a chanlyniadau Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru o ran cynaliadwyedd a deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru. Felly, gall yr Adolygiad Ffyrdd ddibynnu ar flaenoriaethau a chanlyniadau Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru fel dull cynaliadwy a brofwyd wrth ystyried cynlluniau ffyrdd.
Mae ACI o’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth hefyd yn mynd rhagddo. Bydd hwn yn gwerthuso cynlluniau a rhaglenni buddsoddi o fewn y cynllun cenedlaethol yn erbyn amcanion cynaliadwyedd a bydd yn brawf pellach o gadernid i sicrhau cynaliadwyedd cyffredinol y rhaglen drafnidiaeth.