Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, byddaf yn cyhoeddi fersiwn ddiweddaraf ein diweddariadau ar raglen frechu COVID-19.
Mae’n bleser gennyf gadarnhau ‘cyntaf’ arall ar gyfer y rhaglen frechu COVID-19 yng Nghymru. Ddydd Iau yr wythnos diwethaf, ni oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddechrau brechu plant agored i niwed rhwng 5 ac 11 oed y mae mwy o berygl iddynt, a hynny gyda’r brechlyn pediatrig. Mae plant 5 i 11 oed sy’n byw ar yr un aelwyd â rhywun â system imiwnedd gwan hefyd yn gymwys i gael y brechlyn, a bydd angen llenwi ffurflen i roi gwybod i fyrddau iechyd bod angen apwyntiad arnynt. Mae’r ffurflen ar gael yma. Rwy’n falch bod gan bawb dros 5 oed yn y teuluoedd hyn nawr fynediad at y brechlyn. Rwyf wedi cael llythyrau gan rieni pryderus felly rwy’n falch y gellir diogelu’r plant hyn.
Unwaith eto, hoffwn annog unrhyw un sydd angen dos cyntaf, ail ddos neu bigiad atgyfnerthu i fanteisio arno nawr. Mae pobl sydd heb eu brechu yn fwy tebygol o fod angen gofal critigol mewn ysbytai o ganlyniad i COVID gan gynnwys yr amrywiolyn Omicron, ac mae eu canlyniadau fel arfer yn waeth na chanlyniadau pobl sydd wedi’u brechu. Felly peidiwch ag oedi cyn cael eich dos cyntaf, eich ail ddos na’ch pigiad atgyfnerthu. Mae sesiynau galw i mewn ar gael ar draws Cymru ar gyfer dosau cyntaf, ail ddosau a phigiadau atgyfnerthu a gall y timau brechu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y brechlyn a’ch cefnogi i gael eich brechu.
Fel canllaw i bwy sy’n gymwys i gael y brechlyn, gan gynnwys y bwlch a argymhellir rhwng dosau, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth yma.
Yn ogystal, mae manylion cyswllt ar gyfer byrddau iechyd yma ynghyd â gwybodaeth am eu cyfryngau cymdeithasol. Mae pob brechlyn a roddwn yn helpu i Ddiogelu Cymru.