Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Gorffennaf, lansiais grant gwerth £10m, sef y Grant Caledi i Denantiaid, ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat sydd mewn ôl-ddyledion rhent dybryd oherwydd y pandemig. Yn dilyn trafodaethau gydag awdurdodau lleol a sefydliadau partner eraill, rwyf wedi penderfynu gwneud y newidiadau canlynol i’r Grant Caledi i Denantiaid.
Bydd y cyfnod cymwys ar gyfer ôl-ddyledion yn cael ei estyn i gynnwys ôl-ddyledion a gronnwyd oherwydd Covid rhwng 1 Gorffennaf 2021 a 31 Rhagfyr 2021, yn ogystal â’r ôl-ddyledion a ganiatawyd o’r blaen a gronnwyd oherwydd Covid rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Gorffennaf 2021. Mae hyn yn golygu y bydd tenantiaid a gollodd eu swyddi ar ôl dileu’r cynllun ffyrlo ym mis Medi, neu sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol yn ei hincwm wedi i Lywodraeth y Deyrnas Unedig dynnu’r cynnydd i’r Credyd Cynhwysol, ac nad oeddent yn cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai, yn cael eu cynnwys.
Rwyf wedi penderfynu hefyd i ymestyn y grant i gynnwys yr holl denantiaid tai cymdeithasol nad oeddent yn cael budd-daliadau sy’n gysylltiedig â thai pan aethant i ôl-ddyledion a gronnwyd oherwydd Covid.
Bellach, gall pob tenant yng Nghymru sydd ag ôl-ddyledion oherwydd Covid, wneud cais am gymorth ariannol i fynd i’r afael â’r ôl-ddyledion hynny, naill ai trwy’r Grant Caledi i Denantiaid neu’r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Nod y Grant Caledi i Denantiaid yw caniatáu i denantiaid sy’n wynebu bygythiad o gael eu troi allan i aros yn eu cartref. Mae colli cartref yn cael effaith enfawr ar bobl a theuluoedd, gan gynnwys colli rhwydweithiau cymorth, plant yn gorfod symud ysgol ac iechyd meddwl a lles teuluoedd yn dioddef. Yn ychwanegol at yr effeithiau personol ar oedolion a phlant, mae’r costau o ddelio ag effeithiau digartrefedd i wasanaethau cyhoeddus yn sylweddol uwch na’r costau o atal digartrefedd yn y lle cyntaf. Dylai’r grant ddarparu arbedion sylweddol o ran costau i bob awdurdod lleol wrth atal digartrefedd a helpu pobl i aros yn eu cartrefi a chynnal eu tenantiaethau.
Bydd arian ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac yn benodol i ymateb i’r pandemig, ac mae’n bwysig pwysleisio na fydd y Grant Caledi i Denantiaid yn cael ei estyn eto. Felly, rwy’n annog tenantiaid sydd yn wynebu caledi o ganlyniad i ôl-ddyledion oherwydd Covid i wneud cais i’w hawdurdod lleol am y Grant Caledi i Denantiaid neu’r Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Gall pobl sy’n gymwys am y Grant Caledi i Denantiaid wneud cais trwy eu hawdurdod lleol: Grant Caledi i Denantiaid ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat: y coronafeirws
Hoffwn ddiolch i awdurdodau lleol am barhau i gydweithio â ni i gefnogi pobl y mae pandemig y coronafeirws wedi effeithio arnynt.