Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae trethi datganoledig a rhannol-ddatganoledig Cymru yn cefnogi’r blaenoriaethau gwariant sydd wedi’u nodi yn y Gyllideb ddrafft yr wyf wedi’i chyhoeddi heddiw. Mae ein polisïau trethi hefyd yn creu cyfle i weithredu blaenoriaethau polisi ehangach y Llywodraeth o ran sicrhau Cymru gryfach, decach, werddach.
Mae’r datganiad hwn yn nodi fy nghynlluniau ar gyfer trethi sydd wedi’u cynnwys yn y Gyllideb ddrafft.
Cyfraddau Treth Incwm Cymru
Mae’r Gyllideb ddrafft yn rhagdybio y bydd tair Cyfradd Treth Incwm Cymru (sylfaenol, uwch ac ychwanegol) yn parhau ar 10% (10c y bunt) ar gyfer 2022-23. Bydd angen i’r Senedd gymeradwyo hyn drwy Benderfyniad, a bydd yn golygu bod trethdalwyr Cymru yn parhau i dalu’r un cyfraddau â phobl yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru tra gwelir effaith economaidd y pandemig.
Ochr yn ochr â’r Gyllideb ddrafft hon, rwy’n cyhoeddi canllaw cyflym diwygiedig i Gyfraddau Treth Incwm Cymru. Mae hwn yn rhoi amcangyfrif o’r effaith bosibl o ran refeniw yn sgil newidiadau i bob un o dair Cyfradd Cymru.
Treth Gwarediadau Tirlenwi
O 1 Ebrill 2022, rwy’n bwriadu codi cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn unol â’r chwyddiant a ragwelir (mesur y Mynegai Prisiau Manwerthu). Mae hyn yn gydnaws â chyfraddau treth tirlenwi’r DU ar gyfer 2022-23, i gefnogi amcan y polisi o leihau’r gwastraff y ceir gwared arno mewn safleoedd tirlenwi, ac i helpu i gyrraedd ein nod o fod yn genedl ddiwastraff.
Mae wedi bod yn bwysig cadw’r cyfraddau hyn yn sefydlog yng ngoleuni’r ansicrwydd a grewyd gan y pandemig ac ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd.
Drwy bennu cyfraddau sy’n gyson â threth tirlenwi’r DU, bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar refeniw’r dreth, gan leihau’r risg ar yr un pryd o weld gwastraff yn cael ei symud ar draws ffiniau.
Caiff y Rheoliad sy’n ofynnol er mwyn gwneud y newidiadau hyn yn weithredol ei osod yn y Senedd ar 22 Rhagfyr 2021.
Mae’r newidiadau a wneir i’r cyfraddau o 1 Ebrill 2022 i’w gweld yn Atodiad 1.
Treth Trafodiadau Tir
Rwy’n cadw’r cyfraddau a’r trothwyon presennol ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ac amhreswyl.
Treth Trafodiadau Tir Cymru fydd yn dal i fod â’r trothwy uchaf yn y DU o ran cychwyn talu’r prif drethi ar eiddo preswyl, a bydd y rhan fwyaf o bobl sy’n prynu cartref yng Nghymru naill ai’n talu’r un faint neu lai o gymharu â threth dir flaenorol y dreth stamp. Treth Trafodiadau Tir Cymru fydd yn dal i fod â’r trothwy uchaf yn y DU o ran cychwyn talu trethi ar eiddo amhreswyl hefyd.
Rwy’n cydnabod y rôl y gallai cyfraddau uwch y Dreth Trafodiadau Tir ar eiddo preswyl ei chwarae o ran ein hagenda ehangach i fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi a llety gwyliau mewn rhannau o Gymru. Rwyf heddiw yn lansio ymgynghoriad ar amrywio’r Dreth Trafodiadau Tir yn lleol mewn perthynas ag ail gartrefi a llety gwyliau.
Adroddiad ar y Polisi Trethi
Ochr yn ochr â’r Gyllideb ddrafft, rwyf wedi cyhoeddi’r Adroddiad Polisi Trethi cyntaf yn erbyn Cynllun Gwaith 2021-26. Mae’r Adroddiad yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran yr amrywiol weithgarwch rydym ynghlwm ag ef, wrth weithredu ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu o ran trethi, gan gynnwys ym meysydd diwgio trefniadau cyllid llywodraeth leol, ac wrth baratoi ymgynghoriad ar ddeddfwriaeth i ganiatáu i awdurdodau lleol godi treth dwristiaeth.
Atodiad 1:
Tabl 1: Cyfraddau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi o 1 Ebrill 2022
Cyfradd |
2022-23 |
Cyfradd safonol |
£98.60 y dunnell |
Cyfradd is |
£3.15 y dunnell |
Cyfradd gwarediadau anawdurdodedig |
£147.90 y dunnell |