Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Cymru’n arwain y ffordd fel y wlad gyntaf o bedair gwlad y Deyrnas Unedig i’w gwneud yn ofyniad i addysgu disgyblion am brofiadau a hanes Pobl Dduon, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol fel rhan orfodol o’r cwricwlwm. Bydd hyn yn sicrhau bod ein pobl ifanc yn datblygu dealltwriaeth o hunaniaethau eraill ac yn meithrin cysylltiadau â phobl, lleoliadau a hanesion mewn rhannau eraill o Gymru a thros y byd. Bydd hynny hefyd yn atgyfnerthu pwysigrwydd addysgu disgyblion am gyfraniadau pobl ethnig leiafrifol yn y gorffennol a’r presennol fel rhan o stori Cymru ar draws y cwricwlwm.
Ym mis Mawrth 2021, cyflwynwyd adroddiad terfynol i’r Gweinidog Addysg bryd hynny gan y Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Charlotte Williams OBE. Mae gweithredu ar yr argymhellion sydd yn yr adroddiad hwnnw yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Mae’r ffaith bod cryn gynnydd wedi ei wneud mewn perthynas â gweithredu’r argymhellion yn destun balchder i mi, a bydd y cynnydd hwn yn cefnogi’r gwaith o weithredu ein cwricwlwm newydd, sydd yn cael ei gyflwyno o fis Medi 2022. Rwy’n awyddus i sicrhau bod y gwaith hwn yn cyd-fynd â’r camau gweithredu a gymerir gan Lywodraeth Cymru ac yn eu cefnogi, a hynny drwy’r Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol. Mae’r canfyddiadau a’r argymhellion yn adroddiad thematig Estyn ar “Addysgu hanes Cymru gan gynnwys hanes, hunaniaeth a diwylliant Pobl Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig” yn adleisio’r argymhellion sydd yn adroddiad y Grŵp, ac yn ein helpu i gael gwell dealltwriaeth o natur yr her sydd yn wynebu athrawon, dysgwyr ac arweinwyr. Bydd yn bwysig i ni ymdrin â’r argymhellion hyn fel rhan o weithredu ar adroddiad y Grŵp. Wrth wneud y cysylltiadau hyn, rydym yn sicrhau bod hanes Cymru, hunaniaeth Cymru a diwylliant Cymru, yn amrywiol yng ngwir ystyr y gair, ac rydym yn galluogi ein dysgwyr i ddeall a datblygu synnwyr cryf o’u hunaniaeth a’u lles fel rhan o’u cynefin.
Hyd yn hyn mae cyhoeddi’r categori newydd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, sef Gwobr Betty Campbell MBE wedi bod yn un o’n prif lwyddiannau. Mae’n wobr am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, ac yn hyrwyddo a dathlu cynhwysiant, ac yn cydnabod ymwybyddiaeth wych o bwysigrwydd addysg gynhwysol fel rhan o gymdeithas sy’n herio ac yn mynd i’r afael â phob agwedd ar hiliaeth. Rwy’n annog pob unigolyn, pob tîm, a phob ysgol sydd wedi dangos yr ymwybyddiaeth honno a/neu sydd wedi datblygu mentrau sy’n cyfrannu at ddulliau gweithredu ysgol gyfan mewn perthynas â chynnwys profiadau pobl o gymunedau ethnig lleiafrifol – a Sipsiwn, Roma a Theithwyr – i wneud cais yma.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi cyhoeddi ein cynllun i gynyddu'r nifer o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol sy’n cael eu recriwtio i’r rhaglen Addysg Gychwynnol i Athrawon. Y cynllun hwn fydd y cam cyntaf mewn strategaeth ehangach i recriwtio mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol i'r gweithlu Addysg, a’u cadw yno. Rydym hefyd yn cyflwyno, am y tro cyntaf, gymhellion ariannol i helpu i recriwtio mwy o athrawon o grwpiau ethnig leiafrifol.
Er bod y gwaith wedi mynd rhagddo’n dda iawn, bydd angen rhagor o drafodaethau gyda phartneriaid er mwy’n sefydlu’r newid diwylliannol mawr hwn, yn achos rhai o’r argymhellion. Mae gwaith da wedi ei wneud ym maes dysgu proffesiynol, mentora ac adnoddau, ac mae angen trafodaethau pellach â rhanddeiliaid. Yng ngwanwyn 2022, mae disgwyl i sgyrsiau’r Rhwydwaith Cenedlaethol ganolbwyntio ar amrywiaeth er mwyn datblygu adnoddau a deunyddiau ategol ar hanes Cymru a chyd-destunau lleol. Dros amser, bydd angen proses adolygu a datblygu barhaus. Fy mlaenoriaeth ar hyn o bryd yw parhau i symud ymlaen â’r gwaith hwn.
Hoffwn hefyd ddiolch i’r Athro Williams, sydd wedi bod yn allweddol yn cefnogi Llywodraeth Cymru yn y gwaith o weithredu’r argymhellion. Rwy’n ddiolchgar iawn am yr arweiniad gwerthfawr y mae’n ei roi i’m swyddogion, ac am y trafodaethau pwysig y mae’n eu cynnal gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allanol. Rwy’n falch ei bod wedi derbyn y gwahoddiad i barhau mewn rôl gynghori a gweithredu, tan ddechrau’r flwyddyn academaidd nesaf ym mis Medi 2022, wrth i ni fwrw ati i gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru.