Neidio i'r prif gynnwy

1. Rhagair gan y gweinidog 

Mae’n rhaid i bob un ohonom ni wynebu profedigaeth rywbryd yn ystod ein bywydau. Efallai bydd gan rai ohonom gefnogaeth o’n cwmpas i’n helpu i ymdopi â’r galar rydyn ni’n ei deimlo pan fyddwn yn colli rhywun annwyl; efallai na fydd gan rai ohonom gefnogaeth ac efallai bydd angen rhywfaint o help ychwanegol ar rai ohonom. 

Ein gweledigaeth yw Cymru dosturiol lle mae gan bawb fynediad cyfartal at ofal a chymorth o ansawdd uchel mewn profedigaeth er mwyn diwallu eu hanghenion yn effeithiol pan fydd angen hynny. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid inni adeiladu ar yr enghreifftiau rhagorol o ofal mewn profedigaeth sy’n bodoli ledled Cymru a mynd i’r afael â’r bylchau a’r heriau rydyn ni’n gwybod sy’n bodoli o ran darparu gwasanaethau. 

Mae’r fframwaith profedigaeth hwn yn disgrifio sut gallwn ymateb i’r heriau hynny yng Nghymru ac mae’n ceisio arwain ein comisiynwyr a’n darparwyr gwasanaethau profedigaeth i sicrhau bod eglurder ynghylch y math a’r safon o gymorth yr hoffem ei weld ar gyfer pobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru. 

Mae’r fframwaith wedi cael ei ddatblygu yn unol â’r pum ffordd o weithio, yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a’r blaenoriaethau yn y Rhaglen Lywodraethu, i ddarparu gofal iechyd effeithiol, cynaliadwy o ansawdd uchel ac yn benodol i wella mynediad at wasanaethau ac integreiddio. Mae’n disgrifio gweledigaeth tymor hirach ynghyd â chamau gweithredu tymor byr i ganolig sy’n gofyn am ddull gweithredu cydweithredol ar draws iechyd, gofal cymdeithasol a’r trydydd sector.

Mae cynnwys y cyhoedd wedi bod yn allweddol i lunio’r fframwaith, ac mae’n hanfodol i ddarparu gofal mewn profedigaeth. Mae’r fframwaith hefyd yn canolbwyntio’n gryf ar weithgarwch ataliol drwy gydnabod galar rhagflaenol a chymorth i deuluoedd, ffrindiau a gofalwyr.

Er mwyn cyflawni’r ymrwymiad hwn, mae £1.4m o gyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu i fyrddau iechyd a’n partneriaid yn y trydydd sector i gefnogi’r gwaith o weithredu’r fframwaith a’r safonau profedigaeth. Bydd y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth yn gweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a’r trydydd sector i sicrhau bod y fframwaith yn cael ei roi ar waith yn gyflym, gyda chefnogaeth galluogwyr allweddol fel seilwaith digidol a gweithlu medrus. Bydd system gadarn o fonitro a gwerthuso yn sicrhau y bydd y fframwaith yn cyflawni’r manteision disgwyliedig i bobl Cymru. 

Yn olaf, hoffwn ddiolch i’r holl unigolion (llawer ohonynt yn wirfoddolwyr) a mudiadau sy’n gwneud cymaint i ddarparu gofal a chymorth mewn profedigaeth ledled Cymru. Mae eu hymroddiad a’u hymrwymiad i gefnogi pobl pan fo angen hynny arnynt, yn eithriadol ac yn ein hatgoffa o’r tosturi a’r caredigrwydd rydyn ni eisiau eu rhoi i bawb sydd mewn profedigaeth yng Nghymru.  

Eluned Morgan AS                    
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol           

Lynne Neagle AS
Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant

2. Nodau a chyd-destun y polisi

Nod y ddogfen

Mae’r fframwaith hwn yn ceisio nodi sut y gallwn ni yng Nghymru ymateb i’r rheini sy’n wynebu profedigaeth ar hyn o bryd, neu sydd wedi wynebu profedigaeth yn y gorffennol. Dylai cymorth da fod ar gael i bawb sydd ei angen mewn profedigaeth. I ryw raddau, ein cyfrifoldeb ni yw hyn, p’un a yw’n cael ei ddarparu gan ein ffrindiau, ein teuluoedd, yn ein cymunedau, yn ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol, yn y sector gwirfoddol, yn ein gwaith neu mewn mannau eraill. 

Mae’n seiliedig ar awydd i sicrhau ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl mewn profedigaeth.  Gallai hyn fod yn ystod y cyfnod sy’n arwain at farwolaeth, neu ar ôl marwolaeth rhywun pwysig yn eu bywydau. Y bwriad yw y bydd y fframwaith hwn yn gosod y safon ac yn gwella ansawdd, darpariaeth ac argaeledd cymorth mewn profedigaeth ledled Cymru.

Datganiad o weledigaeth

Ein gweledigaeth yw Cymru Dosturiol lle mae gan bawb fynediad cyfartal at ofal a chymorth o ansawdd uchel mewn profedigaeth pan fydd angen hynny.

Pwy sy’n gallu defnyddio’r fframwaith hwn?

Mae’r fframwaith yn bennaf ar gyfer comisiynwyr (byrddau iechyd ac awdurdodau lleol lle bo hynny’n berthnasol) a darparwyr gwasanaethau profedigaeth, ond bydd hefyd o ddiddordeb i Gofrestryddion, Trefnwyr Angladdau, Archwilwyr Meddygol ac unrhyw un sy’n cefnogi rhywun sy’n galaru, neu sy’n galaru ei hun. Rydyn ni’n gwybod y bydd bron i bawb sydd mewn profedigaeth yn dibynnu ar gyswllt â phobl yn eu cymunedau eu hunain yn y lle cyntaf am y math o gymorth tosturiol mae pawb yn gallu ei ddarparu. Rydyn ni’n credu bod cydnabod hyn, ac annog a helpu pobl yn briodol i gynnig y cymorth hwn yn flaenoriaeth bwysig i bob cymuned ac rydyn ni eisiau i’r fframwaith fod yn rhan o’r ymdrech i sicrhau bod y waelodlin hon o wybodaeth a help caredig yn cael ei gwerthfawrogi ac yn cael adnoddau.

Pam mae’r canllawiau hyn wedi cael eu datblygu?

Mae’r fframwaith hwn yn ceisio helpu comisiynwyr a darparwyr i ddeall eu cyfrifoldebau o ran sicrhau bod y boblogaeth leol yn gallu cael mynediad teg ac amserol at ofal a chymorth profedigaeth o ansawdd uchel. Mae angen i wasanaethau profedigaeth ddiwallu anghenion gwahanol gymunedau a phobl o bob oed. Mae’r fframwaith hwn yn cynnwys set o safonau profedigaeth (Atodiad 1) ac mae’n cynnig cymorth cyffredinol sy’n canolbwyntio ar gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau profedigaeth.

Mae’r ddogfen hon wedi’i pharatoi gan y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, sy’n cynnwys asiantaethau statudol a gwirfoddol sy’n gweithio gyda phobl sy’n marw, a’r rheini sy’n galaru yng Nghymru. Mae’r asiantaethau hyn wedi cymryd camau i gynnwys y rheini sydd â phrofiad uniongyrchol o brofedigaeth i fynegi eu hanghenion penodol ac i helpu i ddylunio gwasanaethau. Mae rhestr o aelodau’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth ynghlwm yn Atodiad 2.

Ymgynghoriad profedigaeth

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y fframwaith drafft rhwng 22 Mawrth a 17 Mai 2021. Cafwyd 65 o ymatebion gan unigolion preifat ac amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd, y Colegau Brenhinol, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, ac amrywiaeth o fudiadau yn y trydydd sector.

3. Cyflwyniad

Mae profedigaeth yn rhywbeth sy’n effeithio ar fywydau pob un ohonom ni, weithiau sawl gwaith. Mae galar, sef ein hymateb pan fydd rhywun yn marw, yn naturiol ac yn broses unigryw. Nid yw’n salwch ond mae’n gallu cael effaith ofnadwy ar bobl weithiau. 

Gall ddigwydd i bobl o unrhyw oed, drwy farwolaeth person o unrhyw oed, ac mewn unrhyw le. Gall pobl alaru ar ôl marwolaeth sydyn neu gall ddigwydd yng nghyd-destun salwch sydd wedi gwaethygu. Gellir profi galar cyn marwolaeth ac yn ystod y salwch ei hun, yn syth ar ôl marwolaeth, neu ar unrhyw adeg ym mywyd y person mewn profedigaeth, waeth beth yw perthynas yr unigolyn â’r person fu farw. Bydd rhai darparwyr cymorth profedigaeth yn dod ar draws pobl sy’n profi mathau penodol o brofedigaeth, ond bydd angen i ddarparwyr eraill, yn enwedig comisiynwyr gofal profedigaeth, fod yn ystyriol o bawb sy’n cael profedigaeth i wneud yn siŵr nad oes neb yn cael ei adael allan. Yn yr ystyr hwnnw, er bod y fframwaith hwn yn cael ei gyfeirio at gomisiynwyr a darparwyr gofal profedigaeth, mae hefyd ar gyfer y bobl y mae wedi’i lunio ar eu cyfer, sef pobl sy’n cael profedigaeth.

Gall nifer o ffactorau ddylanwadu ar y ffordd rydym yn profi galar, gan gynnwys oedran, credoau diwylliannol a chrefyddol/ysbrydol, a’n perthynas â’r rheini sydd wedi colli eu bywydau. Mae pob profiad o brofedigaeth wedi’i gynnwys yng nghylch gwaith y fframwaith hwn. P’un ai a oes gennym rwydwaith o deulu a ffrindiau i’n cefnogi, neu os ydym yn teimlo’n ynysig ac yn gorfod delio â thensiynau teuluol, rydyn ni’n cydnabod bod pob un o’r rhain yn gallu cael effaith fawr ar ein llesiant yn y tymor canolig i’r hirdymor. Efallai bydd rhai pobl yn cael cysur o’u credoau ysbrydol neu grefyddol, yn enwedig cyn ac ar ôl angladd. Mae’r cymorth hwn yn gallu bod yn amhrisiadwy iddynt yn ystod y cyfnod anodd iawn hwn ac wedyn. 

Gall profedigaeth gael effaith ddifrifol ar iechyd ac ymddygiad cyffredinol person. Mae’n gallu sbarduno amrywiaeth o emosiynau a symptomau corfforol nad ydym o bosibl wedi’u profi o’r blaen, sy’n arwain atom ni’n teimlo ar goll ac yn methu â gweithredu. Mae costau, yn aml yn y tymor hir, yn gysylltiedig â chuddio galar a pheidio â chael cymorth. Gall unrhyw un o unrhyw oed ddioddef yr effeithiau negyddol hyn, o blant ifanc iawn i aelodau hynaf ein cymdeithas. Mae gofal mewn profedigaeth yn rhan o waith craidd iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae enghreifftiau o ofal da mewn profedigaeth mewn rhannau o Gymru.  Fodd bynnag, mae bylchau a chyfyngiadau yn y ddarpariaeth. Mae mwy o ofal yn cael ei ddarparu mewn rhai rhannau o Gymru nag mewn rhannau eraill, ac nid yw rhai grwpiau o bobl sy’n profi profedigaeth mewn cyd-destunau penodol neu ar adegau penodol o’u bywyd wedi gallu cael y cymorth priodol ar yr adeg iawn.  

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n anodd i rai grwpiau o bobl a chymunedau gael gafael ar gymorth. Mae hi’n bwysig bod comisiynwyr a darparwyr gwasanaethau mewn profedigaeth yn deall sut gellid gwella’r gwasanaethau cymorth mewn profedigaeth a ddarperir i Gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, a phobl sydd â nodweddion gwarchodedig, a gwella’r mynediad at y gwasanaethau hynny. Mae’r gofyniad i hyn ddigwydd wedi cael ei gynnwys fel safon ar gyfer comisiynwyr gwasanaethau profedigaeth.

Mae’r fframwaith hwn yn ceisio mynd i’r afael ag annhegwch yr ymateb i brofedigaeth yng Nghymru a bydd yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu rhwydweithiau o wasanaethau ac ymatebion eraill i helpu pobl ni waeth ble maent yng Nghymru ac ar draws yr amrywiaeth lawn o brofiadau o brofedigaeth.  

Mae pobl yng Nghymru bob amser wedi ceisio gofalu am y rheini sy’n wynebu marwolaeth rhywun agos atynt. Y nod yw gwneud hyn yn well ac yn decach ledled Cymru, er mwyn i fwy o bobl gael yr hyn sydd ei angen arnynt.

4. Cyd-destun strategol

Mae Cymru Iachach (2018)  yn nodi gweledigaeth tymor hir ar gyfer y dyfodol, sef ‘dull system gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol’ ac roedd yn galw am fodelau newydd mentrus ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol lleol di-dor ar lefel leol ar lefel leol a rhanbarthol. Roedd yn ein herio i weithio’n wahanol, nid yn unig ar draws portffolios o fewn y Llywodraeth, ond hefyd gyda’n partneriaid a’n rhanddeiliaid. 

Mae’r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn rhoi dehongliad clinigol o Gymru Iachach ac mae’n disgrifio system iechyd a gofal sy’n dysgu, sy’n canolbwyntio ar lwybrau clinigol sy’n canolbwyntio ar y claf ac sy’n seiliedig ar ddull gydol oes. 

Mae ein rhanddeiliaid yn y trydydd sector a’r sector annibynnol yn gwneud cyfraniad pwysig ac mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi cyfraniad y sectorau hyn yn y tymor hir i lesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ei phobl a’i chymunedau. Yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’r fframwaith hwn yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill feddwl am effeithiau tymor hir y penderfyniadau rydym yn eu gwneud heddiw i gael yfory gwell. Mae’r ddeddfwriaeth hon yn hanfodol i ddatblygu ymateb cydlynol, cyfannol a thymor hir i ofal profedigaeth yng Nghymru.

Sefydlodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol i wella llesiant y boblogaeth a gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal yn cael eu darparu. Mae’r Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn allweddol i sicrhau bod cynigion yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â sefydliadau’r trydydd sector a’r sector annibynnol, awdurdodau lleol a’r GIG er mwyn diwallu anghenion y boblogaeth leol. Mae Grant Cymorth mewn Profedigaeth newydd yn cael ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o roi’r fframwaith ar waith a bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn cael eu gwahodd i roi sylwadau ar y ceisiadau a ddaw i law ar gyfer eu priod ardaloedd.

Mae Fframwaith Cynllunio’r GIG, sydd hefyd yn gyfarwyddyd y Gweinidog i’r GIG, bob amser yn ceisio cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a pharhau i gryfhau sut mae sefydliadau’n gweithio i gyflawni eu cynlluniau gan ddefnyddio’r pum ffordd o weithio (tymor hir, atal, integreiddio, cydweithio a chynnwys). 

Mae COVID-19 wedi cael effaith fawr ar y ffordd mae gwasanaethau’r GIG a gofal cymdeithasol yn cael eu darparu. Mae hefyd wedi newid y ffordd mae’r cyhoedd yn cael gofal iechyd. Fodd bynnag, mae’r weledigaeth a nodwyd gennym yn Cymru Iachach ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol di-dor yn dal yn gadarn, gyda llawer o’r ffyrdd newydd o weithio a’r dulliau arloesol wedi’u cyflwyno mewn ymateb i gynnydd cyflym y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo o hyd i gyflawni’r trawsnewid sydd ei angen.

Ers dechrau pandemig COVID-19, bu ffocws cryf hefyd ar osgoi’r niwed sef y cyd-destun ansawdd allweddol y mae’n rhaid darparu gwasanaethau a gofal o’i mewn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Edrych tua’r Dyfodol i helpu iechyd a gofal cymdeithasol i ddod allan o’r pandemig, gan ddisgrifio’r her fel adeiladu’r gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol integredig rydyn ni am ei gael yn y dyfodol a delio ag effeithiau hirdymor COVID-19. Dyma gyfle i newid er gwell, gan gydnabod bod COVID-19 yn dal gyda ni.

Un agwedd allweddol ar yr adferiad hwn yw sicrhau bod gofal mor ddiogel â phosibl, a bod niwed yn cael ei leihau i’r eithaf. Dyma’r pum niwed rydyn ni’n eu disgrifio ym maes iechyd a gofal yng Nghymru:

  1. Niwed uniongyrchol o COVID-19 ei hun
  2. Niwed anuniongyrchol o COVID-19 o ganlyniad i system iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cael ei llethu a gostyngiad mewn gweithgareddau gofal iechyd o ganlyniad i hynny
  3. Niwed o fesurau diogelu iechyd i’r boblogaeth hy niwed addysgol
  4. Niwed economaidd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o ganlyniad i COVID-19, hy diweithdra o ganlyniad i’r cyfyngiadau symud
  5. Niwed o ganlyniad i waethygu neu gyflwyno anghydraddoldebau newydd mewn cymdeithas.

Mae Fframwaith Cynllunio’r GIG yn disgwyl y bydd dull eang o atal yn cael ei ddefnyddio ym mhob agwedd ar gynllunio. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan bolisi Llywodraeth Cymru sydd wedi’i nodi o safbwynt ataliol.

Yn y pen draw, bydd dulliau ataliol o ymdrin â phob math o heriau iechyd corfforol a meddyliol a chymorth llesiant yn atal cyflyrau a salwch rhag gwaethygu. Dylai darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ystyried cyfleoedd a fydd yn cefnogi cenedlaethau’r dyfodol ac yn sail ar gyfer darparu gwasanaethau yn y dyfodol.  

Ein nod yw cymryd camau sylweddol i newid ein hagwedd o drin i atal. Ar gyfer profedigaeth, yn ogystal â darparu’r profiad gofal diwedd oes gorau posibl, mae hyn yn golygu darparu gofal a chymorth priodol ac amserol i bobl sydd mewn profedigaeth, gan fod oedi’n gallu cyfrannu at ddatblygu galar mwy cymhleth.

Mae’r blaenoriaethau a fydd yn cael eu cyflawni drwy’r fframwaith profedigaeth yn parhau i gefnogi egwyddorion gofal iechyd darbodus sy’n seiliedig ar werth, gan ganolbwyntio ar ofal integredig sy’n cael ei gydgynhyrchu, sy’n canolbwyntio ar y person ac sy’n cael ei ddarparu mewn ffordd sydd wedi cael ei llywio gan ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr.

5. Cwmpas

Mae profedigaeth yn digwydd mewn perthynas â marwolaeth person lle bynnag a phryd bynnag y bydd yn digwydd. At ddibenion y fframwaith hwn, mae’n cynnwys profedigaeth cyn marwolaeth (ymateb â galar cyn i rywun farw, sydd weithiau fel galar rhagflaenol) ac mae’n cynnwys profiad unrhyw un o brofedigaeth, beth bynnag fo’i berthynas â’r sawl sy’n marw. Mae’n cynnwys profedigaeth oherwydd marwolaeth unrhyw unigolyn, gan gynnwys y rheini sy’n marw cyn geni am unrhyw reswm ac ym mhob cyfnod beichiogrwydd. Efallai na fydd pobl sy’n galaru bob amser yn teimlo bod eu profedigaeth wedi cael ei chydnabod, a allai arwain at alar wedi’i difreinio, lle gallai eu galar aros yn gudd oherwydd eu bod yn teimlo nad yw pobl eraill yn ei dderbyn na’i gydnabod. 

Mae’n cynnwys pob math o brofedigaeth a phrofedigaeth cyn marwolaeth, lle bynnag a phryd bynnag y digwyddodd y brofedigaeth, a beth bynnag fo amgylchiadau’r farwolaeth. 

Mae cysylltiad rhwng y gofal a ddarperir i bobl ar ddiwedd eu hoes, pa un a oes cyfleoedd a pharodrwydd ai peidio gan deuluoedd i gael sgyrsiau am ddymuniadau person a “beth sydd bwysicaf” iddynt. Mae’r sgyrsiau hyn yn gallu bod yn ddefnyddiol iawn i deuluoedd yn ystod proses profedigaeth, ac yn gallu tawelu meddwl y sawl sy’n cyrraedd diwedd ei oes.

Pan fydd modd rhagweld marwolaeth, dylai gwasanaethau weithio gyda theuluoedd i’w helpu i wneud pa bynnag baratoadau sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw, gan gyfathrebu’n agored ac yn onest am eu hanghenion ac unrhyw bryderon sydd ganddynt am ofal y sawl sy’n cyrraedd diwedd ei oes, a’r teulu ehangach. Gall hyn gynnwys trafodaeth am unrhyw ddibynyddion sydd ganddynt, yn oedolion neu’n blant, ac os yw’n briodol, gwneud atgyfeiriad diogelu yn amserol cyn i’w hiechyd ddirywio ymhellach, er mwyn sicrhau diogelwch a llesiant y dibynyddion hynny.

Mae sicrhau bod teuluoedd yn gwybod am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt o fannau eraill, gan gynnwys cyngor ariannol/budd-daliadau, cefnogaeth ymarferol yn ogystal â chefnogaeth emosiynol yn rhan hanfodol o helpu teuluoedd yn yr amgylchiadau hyn. 

Mae angen i staff sy’n delio â theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth sydyn, a hynny’n aml mewn amgylchiadau trawmatig, gydnabod bod amgylchiadau’r farwolaeth yn gallu golygu bod eu hanghenion uniongyrchol am gefnogaeth a chymorth yn wahanol, i fathau eraill o brofedigaeth. Bydd angen iddynt sicrhau bod y teulu’n derbyn arweiniad priodol ynghylch ble i gael rhagor o gefnogaeth. 

Bydd cymorth yn cael ei ddarparu i blant, pobl ifanc ac oedolion o bob oed heb gyfyngiadau, a rhaid iddo ddiwallu anghenion pobl o bob cymuned a chefndir. Rhaid hefyd cefnogi anghenion pobl ag anableddau, gan gynnwys paratoi ar gyfer marwolaeth rhywun annwyl ac ar ôl hynny.

Rhaid i gymorth fod ar gael yn Gymraeg bob amser a dylai’r holl wybodaeth gyfeirio, asesiadau y gellir eu cynnal, taflenni a deunyddiau cefnogi fod ar gael yn Gymraeg a Saesneg yn yr un modd fel rhan o’r cynnig craidd i bobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru.

Dylid darparu cymorth mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain (BSL). Mae gan staff gyfrifoldeb tuag at gleifion, y cyhoedd a’i gilydd i hyrwyddo cydraddoldeb a sicrhau bod cleifion yn cael gwasanaeth o safon ragorol sy’n deg, sy’n diwallu anghenion unigolion ac sy’n trin pawb ag urddas a pharch. Mae hi’n allweddol mynd ati’n effeithiol i gofnodi anghenion cyfathrebu cleifion sydd â nam ar eu synhwyrau.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda byrddau iechyd i sicrhau bod anghenion cyfathrebu, gwybodaeth ac iechyd pobl sydd â nam ar eu golwg a/neu nam ar eu clyw yn cael eu diwallu yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 ac fel y nodir yn Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl â Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy. 

Dylid hefyd gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cymorth sy’n cael ei gynnig yn cydnabod diwylliant a chredoau’r person sy’n cael profedigaeth, gan gynnwys cydnabod arwyddocâd y ffydd, neu’r credoau crefyddol neu ysbrydol, sydd gan yr unigolyn neu’r teulu.

6. Egwyddorion

Dylai Cymru fod yn wlad:

  • Lle mae pobl sy’n cael profedigaeth yn cael eu trin â thosturi, empathi a charedigrwydd, ac yn wlad lle mae pawb yn ystyried, parchu ac yn gwrando ar eu dymuniadau, eu dewisiadau a’u credoau. Lle mae profedigaeth cyn marwolaeth yn cael ei gydnabod hefyd, er mwyn cynnig cymorth cyn y farwolaeth lle bynnag y bo modd.
  • Lle mae anghenion pobl a’r ffordd maent yn ymateb i alar yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sy’n wahanol ar wahanol adegau (ee yr angen am gymorth ymarferol a/neu gymorth emosiynol). Efallai y bydd angen i bobl ddychwelyd sawl gwaith i gael y mathau gwahanol hyn o gymorth ar ôl profedigaeth.
  • Lle mae cymorth ar gael i wybod ble i droi am gymorth ychwanegol pan fydd ei angen. Dylai hyn fod ar gael i bobl y mae unrhyw achos o farwolaeth yn effeithio arnynt, ar adeg ac mewn man lle gallant gael gafael arno’n hawdd.
  • Lle mae anghenion pobl sy’n galaru a phobl sydd â nodweddion gwarchodedig, fel yr amlinellir yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol) yn cael eu cydnabod.

7. Yr angen am gymorth mewn profedigaeth

Mae profiad pob person o brofedigaeth yn wahanol, ond i rai, mae’r emosiynau eithafol y gallant eu teimlo wrth alaru, gan gynnwys sioc, dicter, euogrwydd, gwacter a diffyg pwrpas, ynghyd â theimladau corfforol sy’n cynnwys newidiadau yn eu hawydd am fwyd, colli pwysau neu roi pwysau ymlaen, diffyg cwsg, a phyliau emosiynol yn gallu eu llethu. Gwyddom fod problemau galar heb eu datrys yn gallu arwain at anawsterau iechyd meddwl difrifol i rai pobl ac mae’n ffactor risg ar gyfer hunanladdiad. Mae helpu pobl sy’n cael profedigaeth i ddeall y teimladau hyn a dysgu sut mae ymdopi â nhw o ddydd i ddydd yn rhan bwysig o’u helpu ar yr adeg anoddaf yn eu bywydau.

Mae llawer o bobl yn ystyried y gallai cefnogaeth teulu a ffrindiau, ysgol neu gydweithwyr fod yn ddigon i’w galluogi i oresgyn ymdeimlad dinistriol o golled dros amser. Ar gyfer rhai, efallai y bydd angen cymorth profedigaeth ychwanegol a/neu fwy arbenigol. Efallai fod rhesymau amlwg dros yr angen hwn, fel amgylchiadau’r brofedigaeth, natur y berthynas â’r person sydd wedi marw, neu straen yn yr amgylchedd economaidd a achosir gan densiynau teuluol neu deimlo’n unig. 

Ar gyfer rhai teuluoedd, yn enwedig y rheini sydd â phlant a phobl ifanc, gall hyn fod oherwydd bod y teulu’n cael trafferth cyfathrebu am yr hyn sydd ar fin digwydd, pan fydd gan blentyn neu aelod arall o’r teulu gyflwr sy’n cyfyngu ar fywyd, neu os yw’n dod i ddiwedd oes, neu os yw hynny wedi digwydd, a deall sut mae plant yn ymdopi â galar.  Ar gyfer rhai, ni fydd rheswm clir ond bydd dal angen cymorth arnynt.

Cydnabyddir bod galar rhagflaenol, pan fydd rhywun yn gallu teimlo galar cyn i rywun farw, efallai pan roddir diagnosis, yn faes lle gallai fod angen cymorth ar bobl. Efallai fod llawer o achosion lle nad yw pobl sydd â salwch terfynol yn cael diagnosis ffurfiol, ac eto mae eu dirywiad yn achosi trallod emosiynol mawr i deuluoedd.

Dylai pawb fod yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael a dylent allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt, ar adeg ac mewn ffordd sydd orau iddynt. Ar gyfer rhai, gall methu â chael gafael ar y cymorth hwn yn brydlon arwain at alar estynedig ac anhwylderau iechyd meddwl, gan gynnwys iselder, gorbryder, camddefnyddio sylweddau (yn cynnwys alcohol), hunan-niweidio a risg uwch o hunanladdiad. I blant a phobl ifanc, gall arwain at ymddygiad peryglus, problemau ymddygiad, gwrthod mynd i’r ysgol, anhwylderau bwyta a chanlyniadau iechyd meddwl gwael. Rhaid inni hefyd ystyried sut rydyn ni’n cefnogi unigolion sy’n profi marwolaeth neu brofedigaeth fel rhan o’u gwaith fel staff iechyd a gofal, darparwyr trydydd sector eraill, gweithwyr “golau glas”, swyddogion carchar a staff angladdau.

Gall cael effaith aruthrol ar fywyd teuluol a pherthnasoedd y person mewn profedigaeth hefyd, a dylai'r teulu cyfan, sef pawb y mae’r brofedigaeth yn effeithio arnynt, gan gynnwys ffrindiau agos neu ofalwyr personol, gael mynediad at gymorth pan fydd ei angen arnynt. (Gall gofalwyr hefyd brofi effeithiau ariannol ac emosiynol hirdymor ar ôl marwolaeth y sawl roedden nhw’n gofalu amdano).

8. Modelau cymorth profedigaeth

Mae nifer o fodelau/fframweithiau profedigaeth ar gyfer oedolion a phlant sy’n nodi amrywiaeth o ddulliau o ddarparu gofal a chymorth mewn profedigaeth. Mae’r Arolwg Cwmpasu Profedigaeth a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Prifysgol Caerdydd, a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru wedi defnyddio model tair cydran isod y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE). 

Y model tair cydran 

Mae NICE yn amlinellu model tair cydran ar gyfer cymorth mewn profedigaeth, wedi’i ategu gan ddull iechyd cyhoeddus o ymyriadau cyffredinol/dethol neu wedi’u targedu:

  • Cydran 1 (cyffredinol): lle cynigir gwybodaeth am brofiad o brofedigaeth a lle mae pobl yn cael eu cyfeirio at gymorth pellach y gellir ei ddarparu fel rhan o sgwrs, yn ysgrifenedig (taflenni/taflenni ffeithiau) neu drwy adnoddau ar-lein. Y bwriad yw helpu pobl mewn profedigaeth i ddeall, er bod taith galar pawb yn unigryw, mae rhai emosiynau a nodweddion corfforol yn ymateb cwbl arferol i’r golled maent wedi’i phrofi. Dylai’r adnoddau hyn helpu i godi ymwybyddiaeth a helpu person i wybod pryd i ofyn am gymorth pellach. Dylai’r cymorth a ddarperir dan Gydran 1 fod ar gael i bawb sydd ei angen.
  • Cydran 2 (dethol neu wedi’i dargedu): yn rhoi cyfleoedd i bobl fyfyrio ynghylch eu galar mewn ffordd fwy ffurfiol. Gall gynnwys sesiynau unigol neu grŵp, cefnogaeth gan gymheiriaid, grwpiau o ffrindiau, a/neu grwpiau penodol sy’n ymwneud â’r math o brofedigaeth, ee hunanladdiad.
  • Cydran 3 (dynodedig): yn cynnwys ymyriadau arbenigol a allai gynnwys gwasanaethau iechyd meddwl, cymorth seicolegol a chwnsela arbenigol.

Mae’r fframwaith hwn yn cwmpasu’r holl gydrannau hyn o ran y gofal sydd ei angen ar bobl sydd wedi cael profedigaeth yng Nghymru. Mae’n bwysig nodi sut mae pob categori’n dibynnu ar ei gilydd ac os nad oes digon o gapasiti ar gael ym mhob cydran, gallai’r cydrannau eraill gael eu llethu.

Modelau neu raglenni cymorth eraill

Mae rhaglenni neu fodelau cymorth tebyg yn bodoli, yn enwedig mewn perthynas ag anghenion plant, pobl ifanc a’u teuluoedd/gofalwyr sydd mewn profedigaeth. Mae nifer o’r enghreifftiau hyn sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar gael yn Atodiad 3.

9. Gofal mewn profedigaeth i ddiwallu anghenion ein poblogaeth 

Er bod gofal anffurfiol ffrindiau, teuluoedd ac aelodau o'r gymuned yn amhrisiadwy, rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn byw ac yn galaru mewn sefyllfaoedd lle nad yw’r cymorth hwn ar gael iddynt neu lle nad yw’r cymorth yn gallu diwallu eu hanghenion. Un agwedd ar ddull iechyd y cyhoedd o gefnogi profedigaeth yn well yng Nghymru yw annog gwerthoedd ac egwyddorion cymuned dosturiol.

Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud gan Cymru Garedig, ein cydweithwyr yn y GIG a llawer o rai eraill ledled Cymru i hyrwyddo sgwrs ehangach am ofalu am bobl ar ddiwedd eu hoes, cynllunio gofal ymlaen llaw, a sgyrsiau 'beth sydd bwysicaf', marw a phrofedigaeth. Mae’r fframwaith hwn yn rhan o’r gweithgareddau cyffredinol hynny.

Mae’r gofal y mae pobl sy’n cyrraedd diwedd eu hoes a’r rheini sy’n gofalu amdanynt yn ei gael yn rhan allweddol o Gymru Garedig  ac mae cefnogi’r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o’r gwaith hwn.

Mae Clymu Cymunedau – strategaeth ar gyfer mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol a chreu cysylltiadau cymdeithasol cryfach (2020)  Llywodraeth Cymru yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru ymhellach, gan weithio gyda phartneriaid statudol a phartneriaid yn y trydydd sector i wneud Cymru'r Wlad Dosturiol gyntaf y byd. 

Mae’n cydnabod yr angen, fel un o’i Blaenoriaethau ar gyfer Gweithredu, i godi proffil unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol fel rhan o Gronfa Unigrwydd ac Arwahanrwydd Cymdeithasol £1.4 miliwn dros y tair blynedd nesaf. Mae hefyd yn nodi sut gall profedigaeth fod yn un o’r digwyddiadau mewn bywyd sy’n arwain at bobl yn teimlo’n unig neu’n profi arwahanrwydd cymdeithasol.

Mae Grŵp Llywio Cymru Garedig, sy’n cynnwys amrywiaeth o sefydliadau statudol a thrydydd sector, yn ymgysylltu ag amrywiaeth o fentrau allweddol gan gynnwys Cymunedau Ymarfer, rhagnodwyr cymdeithasol, cysylltwyr cymunedol a gwaith gan y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus a sefydliadau eraill i ddatblygu modelau cymuned dosturiol. 

Mae cysylltiadau clir rhwng sefydlu Cymru Garedig a darparu cymorth cymunedol i bobl mewn profedigaeth yng Nghymru. Bydd rôl y Fforymau Gwerth Cymdeithasol, gyda chefnogaeth y Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol, yn allweddol wrth geisio canfod, gwella a chynnal y cymorth mae cymunedau’n gallu ei gynnig i’w trigolion mewn profedigaeth. Mae pwysigrwydd cefnogi ymatebion anffurfiol fel hyn yn glir yn y dystiolaeth sydd eisoes ar gael ynghylch y ffyrdd mae llesiant yn cael ei wella drwy gysylltiad cymdeithasol. Bydd manteision y gwaith hwn yn cynnwys y gallu i dargedu a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael gan wasanaethau statudol a gwasanaethau arbenigol. Ar ben hynny, gall hybu digwyddiadau ac adnoddau sy’n cefnogi ac yn darparu gwybodaeth am farw, marwolaeth a phrofedigaeth helpu i feithrin hyder mewn grwpiau cymunedol lleol i gefnogi ei gilydd mewn profedigaeth a helpu i gael gwared ar unrhyw stigma, sy’n peryglu parodrwydd pobl i ofyn am gymorth a’i gynnig mewn profedigaeth. Mae hyn yn rhan o rôl Cymru Garedig.

Dylai gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fod yn gyfannol a chynnwys dimensiwn ysbrydol, bugeiliol a chrefyddol lle mae hynny’n ofynnol gan y person (Safonau Iechyd a Gofal Cymru 2015, t.8). Mae gofal ysbrydol yn mynd i’r afael â’r dimensiwn salwch, anabledd, dioddefaint, ac yn fwyaf pwysig, profedigaeth sy’n mynd y tu hwnt i’r presennol a’r corfforol. Mae caplaniaeth yn darparu gofal ysbrydol arbenigol (Safonau ar gyfer Gwasanaethau Gofal Ysbrydol yn y GIG yng Nghymru 2010) ond, yn bwysicach, mae’n rhaid cysylltu neu gysylltu â gwasanaethau sefydliadau gofal iechyd a chymunedau ffydd/bugeiliol yng Nghymru.

10. Y ddarpariaeth resennol - arolwg cwmpasu gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru 

Yn 2019, roedd Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, Prifysgol Caerdydd a Chanolfan Ymchwil Canser Cymru wedi cynnal Arolwg Cwmpasu Profedigaeth yng Nghymru, a ariannwyd gan y Bwrdd Gofal Diwedd Oes yng Nghymru. 

Canfu’r arolwg bod y cymorth profedigaeth sydd ar gael yn amrywio’n sylweddol ledled Cymru. Yn ôl y canfyddiadau, roedd bylchau yn y ddarpariaeth o wasanaethau profedigaeth i oedolion, plant a phobl ifanc, yn enwedig ar ôl colli plant, babanod, colli babi yn ystod beichiogrwydd a marw-enedigaeth. Mae bylchau hefyd yn y ddarpariaeth o gymorth ym mhob un o gydrannau NICE uchod, gan gynnwys mynediad at gymorth arbenigol.

Roedd y prif bwyntiau fel a ganlyn:

Fframwaith Cenedlaethol: datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal mewn profedigaeth yng Nghymru. Byddai hyn, yn ei dro, yn hwyluso'r canlynol:
Blaenoriaethu Gofal mewn Profedigaeth: blaenoriaethu cymorth profedigaeth ar lefel sefydliadol a rhanbarthol.

Tegwch a mynediad at gymorth priodol: argaeledd mathau a lefelau priodol o gymorth sy’n ymateb i anghenion lleol ac sy’n cynnwys cydbwysedd effeithiol o ddarpariaeth gymunedol anarbenigol ac ymyrraeth broffesiynol arbenigol.

Atgyfeirio ac Asesu Risg: Sefydlu llwybrau cyfeirio clir a dulliau o asesu risg/anghenion. Gallai datblygu a chynnal cyfeiriadur o’r ddarpariaeth profedigaeth sydd ar gael i wella’r broses atgyfeirio a mynediad at gymorth lleol priodol.

Hyfforddi a Dysgu: Gwell mynediad at hyfforddiant i staff a gwirfoddolwyr a rhannu arbenigedd ac arfer da rhwng darparwyr gwasanaethau lleol Gwerthuso ac Asesu: Gwella sut mae gwasanaethau’n cael eu gwerthuso a’u hasesu, a nodi goblygiadau o ran gwella a buddsoddi mewn gwasanaethau. Gellid ystyried setiau priodol o safonau i’w defnyddio fel offer archwilio a gwella ansawdd, a phennu mesurau a dulliau addas ar gyfer gwerthuso sut mae gwasanaethau’n effeithio ar ddefnyddwyr gwasanaeth.

11. Dysgu o COVID-19 

Mae effaith COVID-19, gyda grwpiau 'agored i niwed' yn cael eu gwarchod yn ystod y don gyntaf, cyflwyno cyfyngiadau symud lleol a chyfyngiadau angenrheidiol ar gwrdd â ffrindiau a theulu wedi achosi lefelau uwch o orbryder. 

Ar ben hynny, mae newidiadau i bolisïau ymweld ar draws lleoliadau gofal a chleifion mewnol wedi cyfyngu ar eu cyswllt ag anwyliaid cyn ac yn ystod marwolaeth, gan gymhlethu gofal diwedd oes a chyfrannu at drawma’r rhai sydd mewn profedigaeth. Mae’r cyfyngiadau hefyd wedi effeithio ar y ffordd mae gofal mewn profedigaeth yn cael ei ddarparu, gan gynnwys ar draws gwasanaethau amenedigol. 

Mae’r pandemig wedi tynnu sylw at yr unigrwydd a oedd yn cael ei deimlo gan bobl mewn profedigaeth, ar adeg pan oedd angen cymorth arnynt. Mae hefyd wedi pwysleisio’r angen i deuluoedd mewn profedigaeth mewn ysbyty gael rhywfaint o urddas a gallu treulio rhywfaint o amser gyda’r ymadawedig, heb deimlo bod y teulu’n cael eu rhuthro i ffwrdd.

Mae Prifysgol Caerdydd yn arwain ymgyrch ledled y DU, sef Astudiaeth ‘Supporting People Bereaved during COVID-19’, sy’n ymchwilio i brofiadau o brofedigaeth, anghenion cymorth a darpariaeth cymorth yn ystod y pandemig. Mae canlyniadau interim wedi dangos natur eithriadol o anodd profedigaeth mewn pandemig a’r gyfres unigryw o heriau y mae pobl sy’n galaru yn ystod y pandemig hwn yn eu profi. Gall peidio â threulio amser gyda’u hanwyliaid cyn iddynt farw, y cyfyngiadau ar faint o bobl sy’n gallu mynd i angladdau a pheidio â gallu cysuro rhywun fod yn dorcalonnus i bobl sy’n galaru a’u teuluoedd. Mae galar, sydd eisoes yn broses unig, yn dod yn rhywbeth y mae pobl yn gorfod ei brofi ar eu pen eu hunain heb gyswllt gan ffrindiau a theulu. Ar gyfer llawer o gymunedau, mae cyswllt cymdeithasol yn elfen hanfodol o ddefodau profedigaeth sy’n caniatáu i bobl fynegi galar a chefnogi’r rheini sydd mewn profedigaeth. Mae hyn wedi bod yn anodd iawn yn ystod y pandemig.

Roedd rhai pobl mewn profedigaeth yn credu y byddai marwolaeth eu hanwyliaid wedi gallu cael ei hosgoi. Mae hyn, ynghyd ag amrywiaeth o emosiynau gan gynnwys dicter a rhwystredigaeth, ac euogrwydd mewn rhai achosion y gallent nhw eu hunain fod wedi trosglwyddo’r clefyd i’w hanwyliaid, yn achosi mwy o drallod. 

Mae’r holl ffactorau hyn yn cael effaith barhaol ar alar pobl ac mae perygl y gallai’r unigrwydd hwn y mae llawer o bobl yn ei brofi yn yr amgylchedd presennol arwain at unigrwydd cronig. Dangosodd ychydig dros hanner y cyfranogwyr yn yr astudiaeth lefelau 'difrifol' (28%), neu 'uchel' (23%) o fregusrwydd mewn galar, ynghyd ag angen uchel/gweddol uchel am gymorth mewn 6 maes seico-emosiynol. Roedd y rhain yn cynnwys; delio â theimladau am fod heb eu hanwyliaid (50%) a’r ffordd y bu iddynt farw (60%); teimladau o orbryder ac iselder (53%); mynegi teimladau a chael eu deall gan eraill (53%); teimlo’n gyfforddus ac yn dawel eu meddwl (52%) ac unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol (52%).

Mae’r ffenomena hyn wedi amlygu’r angen am gymorth mewn profedigaeth yn fwy nag erioed. Fodd bynnag, gwyddom fod pobl hefyd wedi cael trafferth cael gafael ar gymorth, am resymau fel rhestrau aros hir, diffyg cymorth priodol a theimlo’n anghyfforddus yn gofyn am gymorth neu ddim yn gwybod sut mae cael gafael ar gymorth. Wrth geisio gwella gofal mewn profedigaeth, mae’n rhaid i ni ddysgu o’r profiadau hyn.

Yn ystod y pandemig, mae llawer o ddarparwyr cymorth mewn profedigaeth wedi newid i ddarparu cymorth dros y ffôn neu ar-lein yn hytrach nag wyneb yn wyneb neu mewn grwpiau. Efallai nad hwn yw’r model sy’n cael ei ffafrio gan bobl mewn profedigaeth, ond dyma’r model cymorth ar gyfer y dyfodol agos er mwyn atal a rheoli'r haint ar gyfer y person mewn profedigaeth a’r sawl sy’n darparu’r cymorth. Mae Adroddiad y National Bereavement Alliance, COVID-19: the response of voluntary sector bereavement services hefyd yn tynnu sylw at effaith y pandemig ar alar a phrofedigaeth. Mae’r prif ganfyddiadau’n cynnwys y cynnydd mewn cymhlethdod o ran marwolaethau, ac o ganlyniad, cynnydd yn lefelau trallod y bobl mewn profedigaeth, anawsterau o ran cael mynediad at lefelau cyffredin o gymorth (ee teulu a ffrindiau) oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol sy’n arwain at fwy o arwahanrwydd ac unigrwydd, a diffyg capasiti mewn gwasanaethau profedigaeth.

Yn ystod y pandemig, rydym wedi dysgu bod y rheini sydd â chyflyrau isorweddol a’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd sydd â lefelau uchel o amddifadedd wedi dioddef yn anghymesur. Dylai’r hyn a ddysgwn o COVID-19 ddarparu’r sylfeini i weithredu mentrau ataliol sy’n gallu dylanwadu ar leihau’r pedwar niwed. Mae angen i gymorth profedigaeth fod yn un o'r elfennau craidd mewn strategaeth sydd wedi’i chydlynu’n genedlaethol ar yr ymateb i bandemig.

12. Cymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig

Canfu adroddiad Is-grŵp Economaidd-gymdeithasol COVID-19 BAME, a gadeiriwyd gan yr Athro Emmanuel Ogbonna, er bod pandemig y coronafeirws wedi codi ofn ac wedi arwain at risgiau eang i fywydau a bywoliaethau cymunedau ledled Cymru ac ar draws y byd, mae’r effeithiau ar grwpiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi bod yn arbennig o ddifrifol. Mae aelodau cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn dal clefyd COVID-19 ac yn marw ohono i raddau anghymesur mae'r ystadegau sydd ar gael yn awgrymu bod grwpiau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ym Mhrydain hyd at ddwywaith yn fwy tebygol o farw o'r clefyd na phobl wyn ym Mhrydain. 

Mae’r marwolaethau hyn wedi cynyddu yn sgil y tarfu a achosir gan gyfyngiadau COVID-19 o ran yr adnoddau cymunedol a fyddai ar gael iddynt fel arfer i gael cymorth anffurfiol. Nid yw llawer o deuluoedd wedi gallu ymweld ag anwyliaid sy’n marw, maent wedi gorfod galaru ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfyngiadau symud ac wedi profi tarfu poenus i angladdau a defodau marwolaeth traddodiadol. 

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar hosbisau a gofal lliniarol wedi clywed yn uniongyrchol gan ddarparwyr gwasanaethau profedigaeth ac arweinwyr o gymunedau pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ledled Cymru yn eu cyfarfod ar 20 Ionawr 2021. 

Roedd y neges gan arweinwyr cymunedol yn glir: nid yw gwasanaethau profedigaeth bob amser yn cael eu hystyried yn hygyrch i bobl o gymunedau amrywiol, er gwaethaf ymdrechion gwasanaethau profedigaeth i sicrhau bod eu gwasanaethau ar gael i bawb. Dywedodd arweinwyr cymunedol fod angen gwasanaethau profedigaeth ac iechyd meddwl wedi’u teilwra yn aml i gefnogi pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig ac y dylai pobl o gymunedau lleiafrifoedd ethnig fod yn rhan o’r broses o ddylunio gwasanaethau profedigaeth, gan ddefnyddio dull cydgynhyrchiol. 

Mae safbwyntiau a phrofiadau tebyg yn cael eu disgrifio mewn cyhoeddiad diweddar gan BAMEStream, sy’n adrodd ar ganlyniadau arolwg o wasanaethau iechyd meddwl pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y DU yn ystod y pandemig. Mae’r adroddiad yn nodi’r galw cynyddol am gymorth profedigaeth a ddarperir gan fudiadau pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, yn ogystal â’r angen i therapyddion Profedigaeth a darparwyr gwasanaethau gael hyfforddiant cymhwysedd diwylliannol gyda sicrwydd ansawdd. Nodir hefyd yr angen i rannu ymchwil ac arferion da yng nghyswllt darpariaeth cymorth ethnigrwydd a phrofedigaeth.

Nod yr Astudiaeth ‘Supporting People Bereaved during COVID-19’ y cyfeirir ato yn adran 9 uchod yw deall mwy am brofiadau o brofedigaeth ac anghenion cymorth pobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig. Cymerodd tri deg pedwar o gyfranogwyr o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig ran yn yr arolwg, gyda chyfweliadau dilynol wedi’u trefnu i archwilio profiadau’n fwy manwl. Bydd ymchwil gyda gwasanaethau profedigaeth y sector gwirfoddol hefyd yn edrych ar y ddarpariaeth gymorth yng nghyswllt grwpiau lleiafrifol. Un o brif nodau’r astudiaeth yw nodi argymhellion i sicrhau bod cymorth teg ar gyfer profedigaeth yn cael ei ddarparu ledled y DU.

Mae angen i ddarparwyr a Chomisiynwyr gwasanaethau profedigaeth ymgysylltu â chymunedau lleiafrifoedd ethnig er mwyn mynd i’r afael â’r annhegwch o ran gofal ac i drafod pa lefel o gymorth profedigaeth sydd ei hangen. Rhaid i gomisiynwyr sicrhau bod yr ymgysylltiad a’r mewnbwn hwn i’r cymorth mewn profedigaeth sydd ei angen yn digwydd. Mae safon profedigaeth wedi cael ei gyflwyno i fonitro hyn.

13. Hyfforddiant, dysgu a goruchwylio unigolion sy’n darparu cymorth mewn profedigaeth

Dylai’r holl wirfoddolwyr a staff ffurfiol sy’n dod i gysylltiad â phobl mewn profedigaeth feddu ar yr hyfforddiant a’r profiad perthnasol ar gyfer lefel y cymorth maent yn ei darparu (gweler Atodiad 1, adran 1.2 i gael rhagor o fanylion am y mathau o gymorth a’r safonau gofynnol). Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant cychwynnol mewn sgiliau gwrando, cefnogi’r rhai sydd mewn profedigaeth, canfod a darparu’r lefel gywir o gymorth ar yr adeg honno, canfod lle gallai fod angen rhagor o gymorth arbenigol, ee ar gyfer galar mwy cymhleth a chyflyrau iechyd meddwl eraill fel Anhwylder Straen Wedi Trawma. Rhaid darparu hyfforddiant diogelu i’r holl staff a gwirfoddolwyr.

Mae angen cydnabod y dylai hyfforddiant cymorth mewn profedigaeth (a chymorth mwy arbenigol mewn profedigaeth/gofal diwedd oes arall fel sy’n ofynnol yn ôl y rôl) hefyd fod ar gael yn ehangach i’r staff anghlinigol hynny sy’n delio â’r cyhoedd ar y 'rheng flaen'. 

Dylid nodi’r anghenion hyfforddi i sicrhau bod staff a gwirfoddolwyr yn meddu ar y sgiliau a’r arbenigedd angenrheidiol, gan gydnabod y gallai hyn alw am hyfforddiant mewn sgiliau eraill, nid dim ond sgiliau cwnsela. 

Dylai fod gan bob darparwr fecanweithiau ar waith i adolygu sgiliau a chymhwysedd eu staff a’u gwirfoddolwyr yn rheolaidd, ynghyd â rhaglen reolaidd o Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus i roi sgiliau newydd iddynt, datblygu’r ddarpariaeth gymorth mewn profedigaeth, ac er mwyn nodi lle mae angen rhagor o hyfforddiant. Mae Safonau Gwasanaeth Gofal Profedigaeth (datganiad 4) hefyd yn tynnu sylw at yr angen i ddarparu mynediad at gymorth a goruchwyliaeth i sicrhau arferion gweithio diogel a rhoi’r cyfle i staff a gwirfoddolwyr gydnabod effaith y gwaith hwn arnynt.

Gan ddibynnu ar lefel y gwasanaeth a ddarperir a sgiliau’r darparwr, dylid goruchwylio’n unol â’r cyrff rheoleiddio ac yn unol â Safonau Gwasanaeth Gofal Profedigaeth.

Fel rhan o’r gwaith o weithredu’r Fframwaith Profedigaeth a pharhau i’w gefnogi, bydd fforwm yn cael ei sefydlu i rannu profiadau, syniadau, arferion da a’r dysgu.

14. Cael gafael ar gymorth mewn profedigaeth – yr angen am lwybrau cyfeirio clir

Mae angen i bobl mewn profedigaeth a’u teuluoedd sy’n chwilio am gymorth allu cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amrywiaeth o gymorth sydd ar gael, mewn fformat sy’n gweithio iddynt. Mae pobl sy’n cael profedigaeth yn aml yn cael eu gadael yn 'ddi-glem' heb syniad o ble gellir troi am help, felly mae gwybodaeth amserol a chywir ynghylch sut mae cael gafael ar ragor o gymorth yn bwysig dros ben.

Efallai fod darparwyr unigol yn darparu un lefel neu fwy o gymorth ond dylai comisiynwyr sicrhau bod pob un o’r tair lefel ar gael ac yn cael eu cyfleu’n glir i weithwyr proffesiynol a’r cyhoedd.

Wrth gysylltu â sefydliad, mae angen i’r dull atgyfeirio i’r gwasanaeth fod yn glir gyda dealltwriaeth o’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, gan gynnwys amcangyfrif o’r amser aros am y cymorth hwnnw, lle mae rhestr aros yn bodoli.

Mae angen i’r darparwr sicrhau bod y broses asesu ar gyfer atgyfeirio i’w gwasanaeth yn glir ac yn ddealladwy, gan gasglu’r wybodaeth sydd ei hangen yn unig i sicrhau asesiad llawn o anghenion y person mewn profedigaeth. 

Ar ôl casglu’r wybodaeth hon a thrafod canlyniad yr asesiad gyda’r person, os yw’n glir y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu’n well gan ddarparwr arall (o ran cymhlethdod yr angen, arbenigedd, math o wasanaeth sydd ar gael, neu gymorth mwy amserol), yna dylid cynnig atgyfeirio’r person mewn profedigaeth ymlaen at sefydliad arall.

Gellid atgyfeirio’r person ymlaen ar ddechrau’r cymorth profedigaeth neu’n ystod y camau cychwynnol, er enghraifft, ar ôl gweld y person mewn profedigaeth am y tro cyntaf neu ar ôl ychydig o sesiynau. 

Er enghraifft, os oes angen darpariaeth iechyd meddwl mwy arbenigol, dylai’r atgyfeiriad i’r gwasanaeth hwnnw gael ei hwyluso gan ofal sylfaenol, er y gallai fod angen rhagor o wybodaeth glinigol gan gynnwys asesiad iechyd meddwl gan y tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol. (Gweler Atodiad 1. Adran 1.2 mewn perthynas â chyfrifoldebau comisiynwyr a darparwyr).

Mewn unrhyw achos lle bydd person yn cael ei gyfeirio ymlaen, bydd yn bwysig i’r ddau sefydliad (yr un sy’n atgyfeirio a’r un sy’n derbyn yr atgyfeiriad), sicrhau bod y broses yn cael ei rheoli’n briodol, nad yw’r person mewn profedigaeth yn teimlo ei fod 'wedi cael ei anghofio', a’i fod yn dal i allu cael cymorth yn ystod y cyfnod pontio. 

Bydd adegau hefyd (fel drwy gydol y pandemig neu ar ôl profedigaeth fawr) lle dylai gwasanaethau fynd ati’n rhagweithiol i estyn allan at gymunedau i gynnig gofal a chymorth mewn profedigaeth. Mae hyn yn arbennig o bwysig i’r cymunedau hynny a allai ei chael hi’n anodd cael gafael ar gymorth, gweler Adran 10.

15. Hunan-reolaeth/gofal

Mae iechyd, gofal cymdeithasol, partneriaid yn y trydydd sector a defnyddwyr gwasanaeth yn ganolog i’r gwaith o gynllunio, dylunio a darparu gwasanaethau profedigaeth. 

Mae dulliau sy’n grymuso pobl i reoli eu profedigaeth eu hunain, fel canllawiau hunan-gymorth, yn gallu bod yn effeithiol iawn. Bydd angen i staff iechyd a gofal fabwysiadu’r dulliau hyn er mwyn gwella ansawdd y canlyniadau a’r profiad i unigolion a sicrhau’r mynediad gorau posibl at adnoddau a lleihau amrywiadau ar draws gwasanaethau. Bydd angen i wasanaethau asesu a chynllunio i flaenoriaethu’r rheini sydd â’r angen mwyaf dybryd ac ystyried diwallu’r galw cynyddol posibl. Bydd sicrhau bod profedigaeth yn 'fusnes i bawb' yn cefnogi defnyddio hunanreolaeth ac adnoddau cymunedol ehangach i wella iechyd a llesiant yn gyffredinol. Dylai cyfeirio at ffynonellau cymorth fod yn rhan o’r holl ofal ar ôl profedigaeth, a dylai gweithwyr proffesiynol fod yn ymwybodol o’r amrywiaeth o wasanaethau ar-lein a gwasanaethau eraill sydd ar gael ynghyd â’r grwpiau cymunedol amrywiol sy’n gallu cynnig cymorth.  

Bydd angen i weithwyr proffesiynol sy’n awgrymu hunanreolaeth sicrhau bod asesiad priodol wedi cael ei gynnal o’r risg ac nad oes angen ymyriad clinigol.

16. Sicrhau canlyniadau

Er bod galar yn gallu bod yn gymhleth beth bynnag oedd cam olaf bywyd y person, gwyddom fod profiadau a chanfyddiadau o gyfathrebu gwael, gofal gwael, neu ofid heb ei reoli yn gallu gwneud profedigaeth yn anos o lawer. Mae lliniaru trallod y rheini sydd mewn profedigaeth yn un rheswm dros ddarparu gofal da ar ddiwedd oes, ac mae’r rhan fwyaf ohono y tu hwnt i gwmpas y fframwaith hwn, ond mae’n rhaid i’r ffordd o drin profedigaeth gael ei gyfateb gan roi sylw i ofal y rheini sydd â salwch cronig a chynyddol sy’n byrhau bywyd a gofalu am bobl sy’n marw. Mae cynnwys teuluoedd a chreu atgofion ar hyd bob cam o’r llwybr gofal, yn ogystal ag yn ystod gofal diwedd oes, yn arbennig o bwysig ochr yn ochr â gofalu’n dda am y sawl sy’n cyrraedd diwedd ei oes.

Er mwyn optimeiddio canlyniadau profedigaeth bydd angen gofal da mewn profedigaeth drwy'r system, a hynny’n seiliedig ar gymunedau cefnogol, i gyd-fynd â’r gofal clinigol da hwn. Bydd gwaith partneriaeth a rhyngddisgyblaethol cryf drwy iechyd, gofal cymdeithasol, y trydydd sector a’r sector annibynnol yn golygu bod yr adnoddau sydd ar gael yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau. 

Bydd gweithredu’r fframwaith hwn yn golygu mabwysiadu mesurau canlyniadau y rhoddir gwybod amdanynt gan unigolion ar sail tystiolaeth a ffyrdd eraill o fesur gwasanaethau. Bydd y rhain yn helpu i ganfod bylchau ac annhegwch a byddant yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau sy’n deg ac yn ymateb i anghenion pobl.

17. Cysylltiadau â gwaith/rhaglenni eraill

Dylid darllen a gweithredu’r fframwaith hwn ar y cyd â nifer o raglenni gwaith cysylltiedig eraill. Mae nifer o’r rhaglenni hyn yn cael eu rhestru yn Atodiad 4.

18. Rôl y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth

Er mwyn i Gymru ddiwallu anghenion y boblogaeth o ran profedigaeth, mae angen gweithredu ar lefel genedlaethol, ranbarthol a lleol. 

Y Bwrdd Gofal Diwedd Oes sy’n bennaf gyfrifol am ofal a chymorth mewn profedigaeth yng Nghymru a thrwy’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, bydd yn darparu’r arweinyddiaeth a’r oruchwyliaeth barhaus sydd eu hangen i roi’r fframwaith hwn ar waith ac i gefnogi cynllunio rhanbarthol a lleol. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Monitro gweithrediad y safonau profedigaeth (Atodiad 1) a chynghori Llywodraeth Cymru ynghylch y camau/adnoddau pellach sydd eu hangen.
  • Gweithio gyda byrddau iechyd, awdurdodau lleol, byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyrff cyhoeddus eraill i wella gofal a chymorth mewn profedigaeth.
  • Ystyried anghenion profedigaeth penodol cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a chymunedau eraill y mae anghydraddoldebau iechyd yn fwy tebygol o effeithio arnynt.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu a/neu weithredu llwybrau cyfeirio clir ar gyfer grwpiau penodol o gleientiaid.
  • Cefnogi darparwyr profedigaeth i gyflwyno mesurau canlyniad profedigaeth cenedlaethol a nodwyd ar gyfer oedolion a phlant/pobl ifanc.
  • Datblygu safonau ansawdd ar gyfer cynllunio a chyflwyno rhaglenni hyfforddi, addysg a gwybodaeth cenedlaethol i sicrhau bod profedigaeth yn 'fusnes i bawb', gan hyrwyddo dull grymusol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n cael ei fabwysiadu gan bawb.
  • Gwreiddio datblygiadau mewn technoleg a ffyrdd mwy clyfar o weithio i gefnogi’r galw cynyddol am gymorth mewn profedigaeth a gwella mynediad, canlyniadau a phrofiad.
  • Hyfforddi ac uwchsgilio’r timau amlddisgyblaethol ac amlasiantaethol ehangach, hyrwyddo hunanreolaeth a chyd-gynhyrchu gofal ochr yn ochr â mynediad at amrywiaeth o ddarpariaeth arbenigol ar gyfer profedigaeth.

Hyrwyddo a hybu cydnabyddiaeth o bwysigrwydd dulliau cymunedol o gynnig cymorth a gwybodaeth fel yr adnodd cyntaf sydd ar gael i bawb.

Atodiad 1 – Safonau profedigaeth

Mae’r angen am gymorth mewn profedigaeth (gan gynnwys galar rhagflaenol/cyn profedigaeth) eisoes wedi cael ei nodi. Mae’n bwysig i’r rheini sy’n comisiynu gwasanaethau profedigaeth, y rheini sy’n darparu’r gwasanaeth, ac i bobl mewn profedigaeth a fydd yn derbyn y gwasanaeth hwnnw yn y pen draw, fod ganddynt ffydd bod mesurau ar waith i sicrhau (a) bod cymorth ar gael iddynt a (b) ei fod yn cwrdd â’r safon ofynnol. Mae’r Gynghrair Profedigaeth Genedlaethol, yn ei dogfen A Guide to Commissioning Bereavement Services in England yn rhoi disgrifiad o sut beth yw darpariaeth leol dda ar gyfer plant mewn profedigaeth a’u rhieni a’u gofalwyr (a ddangosir yma i ddangos modelau darparu):

Image
Bereavement programme diagram

1.1 Llywodraeth

Bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am fonitro gweithrediad y safonau profedigaeth a restrir yn 1.2. 

1.2     Comisiynwyr

(a) Dylai comisiynwyr sicrhau y gellir darparu gofal a chymorth o’r safon briodol i blant, pobl ifanc ac oedolion, fel y gellir diwallu eu hanghenion o ran profedigaeth gan ystyried eu ffydd, eu diwylliant, eu rhywedd, eu statws economaidd a’u lleoliad yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cynorthwyo pobl sydd mewn profedigaeth i ddeall sut mae plant yn galaru.

(b) Dylai comisiynwyr sicrhau bod unrhyw un sy’n profi profedigaeth yn cael gwybodaeth gyfredol, amserol a pherthnasol am y cymorth sydd ar gael iddynt. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod pobl sydd mewn profedigaeth yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth sydd ar gael iddynt yn Gymraeg.

(c) Dylai comisiynwyr sicrhau bod cymorth mewn profedigaeth ar gael i’r bobl hynny a allai ei chael hi’n anodd cael gafael ar gymorth mewn profedigaeth (ee oherwydd anabledd, gan gynnwys pobl sydd â nam ar eu golwg a/neu â nam ar eu clyw) neu sydd mewn grwpiau sydd, yn hanesyddol, wedi cael eu tangynrychioli (ee LGBTQ+), aelodau o Gymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Bydd comisiynwyr yn gyfrifol am ymgysylltu â’r cymunedau a’r grwpiau hyn i sicrhau bod y cymorth mewn profedigaeth sydd ar gael yn diwallu eu gofynion. 

(d) Dylai comisiynwyr sicrhau bod risg pobl o ganlyniadau profedigaeth andwyol yn cael ei hasesu ar y pwynt asesu cyntaf mewn gwasanaeth.

(e) Dylai comisiynwyr sicrhau bod gwasanaethau profedigaeth a all fodoli eisoes o fewn Cyfarwyddiaethau eu Byrddau Iechyd unigol yn cael eu cydlynu’n briodol i ddarparu lefel gyson o wasanaeth i bobl mewn profedigaeth.

(f) Dylai comisiynwyr sicrhau bod yr holl gymorth mewn profedigaeth ar gael yn Gymraeg bob amser, gan gynnwys yr holl wybodaeth ar y pwynt cyswllt cyntaf, unrhyw sgyrsiau am atgyfeirio a’r wybodaeth a gesglir, asesiadau y gellir eu cynnal, taflenni, deunyddiau a sesiynau cymorth, boed rheini’n cael eu darparu wyneb yn wyneb neu dros y we. 

(g) Dylai comisiynwyr sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu mewn ieithoedd eraill, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain, lle bo angen. Mae hyn yn cynnwys comisiynu mynediad at wasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd er mwyn sicrhau bod modd darparu’r cymorth.

(h) Dylai comisiynwyr ddangos bod digon o gymorth ar gael dan bob un o’r categorïau canlynol:

Table 1

Categori

Math o Gymorth

Safon Ofynnol

Ar gael i’r holl

bobl mewn profedigaeth

(NICE cydran 1 Cyffredinol)

 

Cyfrifoldebau’r Comisiynwyr:
Sicrhau bod digon o ofal anffurfiol, rhwydweithiau cefnogi a gwasanaethau gwybodaeth ar gael, a bod yr wybodaeth a ddarperir bob amser yn gyfredol, ac ar gael mewn amrywiaeth o fformatau ac ieithoedd.

Cyfrifoldebau Darparwyr:

Gwybodaeth am brofedigaeth a’r cymorth sydd ar gael, a amlinellir fel rhan o sgwrs â’r unigolyn sydd mewn profedigaeth neu aelod o’r teulu.

 

Darperir deunyddiau drwy daflenni neu rhoddir manylion adnoddau ar-lein. Dysgu pa gymorth byddai modd ei ddarparu drwy rwydweithiau cymdeithasol anffurfiol. Efallai bydd rhai darparwyr hefyd yn galluogi cymorth gan gymheiriaid/cymdeithasol drwy gynnnal grwpiau neu weithgareddau cymdeithasol.

Yn gywir ac yn amserol

Gwybodaeth am sut mae delio â materion ymarferol.

Gwybodaeth am alar ac ymdopi â phrofedigaeth ar gael

Cyfeirio ar sut

Mae cael gafael ar fathau eraill o gefnogaeth yn cael ei ddeall.

Ar gael i rai pobl mewn profedigaeth

(NICE cydran 2 Dethol/Wedi'i dargedu)

Cyfrifoldebau’r Comisiynwyr:

Sicrhau bod capasiti ar gael i gefnogi pobl mewn profedigaeth sy’n gofyn am hynny, yn enwedig ar gyfer y bobl hynny a allai fod mewn perygl o ddatblygu anghenion mwy cymhleth.

Cyfrifoldebau Darparwyr:

Mae pobl yn cael eu cefnogi i fyfyrio ynghylch eu galar nhw/galar eu plant, yn unigol neu mewn amgylchedd grŵp.

Cefnogaeth drwy grwpiau cyfeillio/grwpiau ffydd/grwpiau cymunedol eraill, fel sy’n briodol i’r amgylchiadau unigol; gweithwyr cymorth profedigaeth wedi’u hyfforddi.

Gweler safonau craidd, a1.3 isod ac a1.4 mesurau manwl

Ar gael i nifer fach o

bobl mewn profedigaeth

(NICE cydran 3 Dynodwyd)

Cyfrifoldebau’r Comisiynwyr:

Sicrhau bod cymorth arbenigol ar gael, ac yn hygyrch.

Dod o hyd i’r bobl hynny a allai fod mewn perygl oherwydd anghenion cymhleth neu oherwydd effeithiau galar hirdymor neu gymhleth.

Byddai hyn yn cynnwys effaith galar ar ddatblygiad niwroseicolegol emosiynol plentyn/person ifanc).

Cyfrifoldebau Darparwyr:

Sicrhau bod y lefel briodol o arbenigedd yn ei lle i ddiwallu’r lefel uchel hon o angen, lle mae angen ymyriadau arbenigol.

Gweler safonau craidd, a1.3 isod ac a1.4 mesurau manwl

1.2.1 Nodi safonau sylfaenol

Gofynnir i gomisiynwyr am eu barn gychwynnol am eu cynlluniau i fonitro’r safonau profedigaeth ar ôl cyhoeddi’r fframwaith. Bydd gofyn iddynt hefyd nodi lefel eu cydymffurfiaeth â’r safonau ar hyn o bryd drwy ddefnyddio’r mesurau canlynol yn flynyddol:

(a) safon ddim ar waith

(b) safon eisoes ar waith

(c) safon ar y gweill

Pan fydd safon eisoes ar waith, gofynnir i'r Comisiynwyr am y mesurau sydd eisoes ar waith, maen nhw’n eu defnyddio i ddangos eu bod yn cydymffurfio, gan gynnwys adborth meintiol ac ansoddol gan ddefnyddwyr. 

1.2.2 Monitro safonau

Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r strwythurau rheoli perfformiad presennol sydd ar waith i fonitro cydymffurfiaeth y Comisiynydd â’r safonau hyn. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy Fframwaith Cyflawni’r GIG, y Fframwaith Canlyniadau Cenedlaethol i’r dyfodol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a bydd yn mynnu bod sefydliadau’r GIG yn asesu eu hunain a bydd hyn yn arwain at gynhyrchu adroddiadau ar gyfer Prif Weithredwyr y GIG. 

1.3 Safonau craidd ar gyfer darparwyr gwasanaethau pofedigaeth

(a) Mae’r canlynol yn safonau craidd y disgwylir i ddarparwyr cymorth mewn profedigaeth eu dilyn, a gallu eu dangos fel rhan o adolygiad rheolaidd o wasanaethau. Fe’u cynlluniwyd i fod yn glir, yn gryno ac yn gynhwysfawr a dylid eu defnyddio ar gyfer cynllunio, darparu ac adolygu ansawdd yr holl ofal profedigaeth.

Fe’u cymerwyd o Safonau Gwasanaeth Gofal Profedigaeth, 2014 a gynhyrchwyd gan y Gymdeithas Gwasanaethau Profedigaeth a Gofal Galar Cruse, ac a gymeradwywyd gan y Gynghrair Galar Genedlaethol, yn dilyn nawdd gan yr Adran Iechyd. Dyma yw’r Egwyddorion Sylfaenol ar gyfer darparu gwasanaethau gofal mewn profedigaeth.

Cyfrinachedd: dylai gwasanaethau barchu cyfrinachedd a phreifatrwydd pob person mewn profedigaeth ac unrhyw wybodaeth a rennir ganddynt, gan roi sylw dyledus i ddiogelu, cydsynio a diogelu data.

Parch: dylai gwasanaethau barchu unigolrwydd galar ac anghenion pob person mewn profedigaeth, gan drin pob unigolyn â thosturi a sensitifrwydd.

Cydraddoldeb ac Amaywiaeth: dylai gwasanaethau fod yn anwahaniaethol a heb ragfarn, gan gydnabod ac ymateb i gredoau personol a sefyllfaoedd unigol gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) oedran, diwylliant, anabledd, rhywedd, rhywioldeb, hil, crefydd ac ysbrydolrwydd (Deddf Cydraddoldeb 2010).

Ansawdd: dylai gwasanaethau sicrhau bod pawb sy’n darparu cymorth i bobl sydd mewn profedigaeth, boed hynny’n gyflogedig neu’n wirfoddol, yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth, yr hyfforddiant, yr oruchwyliaeth a’r gefnogaeth sy’n berthnasol i’w rôl, a bod gwasanaethau’n gweithio i wella’r hyn maent yn ei gynnig.

Diogelwch: dylai gwasanaethau fod â phrosesau recriwtio cadarn, gan gynnwys lefelau priodol o glirio gyda’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a datblygiad parhaus i staff/gwirfoddolwyr. Mae angen rhoi sylw priodol i arferion diogel a moesegol er mwyn amddiffyn pobl sydd mewn profedigaeth a’r rheini sy’n gweithio gyda nhw. Rhaid i’r prosesau diogelu angenrheidiol fod ar waith a rhaid cael tystiolaeth o atebolrwydd drwy drywydd archwilio.

Mae cymorth mewn profedigaeth yn seiliedig ar amrywiaeth o safonau, gan gynnwys safonau proffesiynol a osodir gan eu sefydliad eu hunain, neu gan gorff proffesiynol. Hefyd, efallai y bydd safonau a mesurau canlyniadau eraill i fodloni gofynion lleol, neu fel sy’n ofynnol gan gyllidwyr neu fel rhan o gytundebau lefel gwasanaeth neu ddogfennau comisiynu eraill.

1.4 Mesurau manwl ar gyfer darparwyr cymorth profedigaeth

Dylai darparwyr cymorth mewn profedigaeth ystyried mabwysiadu rhai neu’r cyfan o’r mesurau canlynol, neu unrhyw fesurau eraill y cytunir arnynt gyda’u cyllidwyr.

1.4.1 Mynediad at y gwasanaeth

(a) Cofrestru/atgyfeirio: yn dilyn ymholiad gan unigolyn mewn profedigaeth, dylid cysylltu am y tro cyntaf o fewn pum niwrnod gwaith.

(b) Asesu risg: rhaid cynnal asesiad cynhwysfawr o anghenion yr unigolyn mewn profedigaeth ac mae’n rhaid i unigolyn wedi’i hyfforddi sy’n meddu ar y sgiliau angenrheidiol gyflawni asesiad risg. Gall hyn gynnwys trefnu cymorth blaenoriaeth uwch ar gyfer y bobl hynny y pennir eu bod yn wynebu’r risg fwyaf, neu atgyfeirio’r cleient i gael rhagor o gymorth arbenigol yn rhywle arall.

(c) Amseroedd aros am gymorth: dylid rhoi amcangyfrif o’r amser aros yn fras wrth gofrestru â’r gwasanaeth am y tro cyntaf. Bwriad hyn yw rhoi canllaw cyffredinol yn unig ar yr amser y gall gymryd i ddarparu cymorth.

(d) Cadw mewn cysylltiad: lle mae pobl sydd mewn profedigaeth ar restr aros am gymorth, dylid cadw cysylltiad rheolaidd er mwyn rhoi tawelwch meddwl iddynt a gwneud yn siŵr nad yw eu sefyllfa wedi newid. Dylai hyn ddigwydd bob pedair wythnos o leiaf, ac os gwelir y gallai darparwr arall ddarparu cymorth mwy amserol, yna dylid trafod hyn a chyfeirio ymlaen at y gwasanaeth arall a gynigir.

(e) Adolygu: os bydd rhywun yn dal i ddisgwyl am gymorth ar ôl cyfnod o ddeuddeg wythnos, dylid cynnal trafodaeth gyda’r person mewn profedigaeth i drafod ei sefyllfa bresennol, ei anghenion ar ôl tri mis ac a ellir darparu cefnogaeth ac a oes modd darparu cymorth o ffynhonnell arall.

1.4.2 Monitro’r gwasanaeth a ddarperir

(a) Goruchwylio a monitro: rhaid monitro’r holl wasanaethau a ddarperir i sicrhau diogelwch y cleient a darparwr y cymorth hwnnw, a’u bod yn gweithredu’n foesegol.

b) Gwerthusiad diwedd y cymorth: rhaid cael proses ar waith i fonitro ansawdd y gwasanaeth a ddarperir gyda mesurau meintiol (ee defnyddio adnoddau gwerthuso cydnabyddedig fel y Canlyniadau Clinigol mewn Gwerthusiad Rheolaidd CORE-10) ac ansoddol (ee holiaduron i’w llenwi yn y sesiwn cymorth olaf). Mae offer eraill y gellir eu defnyddio yn ôl yr angen (nid yw CORE 10 yn briodol ar gyfer plant ifanc, felly rhaid defnyddio dulliau gwerthuso eraill).

(c) Mesurau gwerthuso: dylai’r rhain gynnwys canfyddiad y cleient o amseroedd aros, rhwyddineb y cyswllt cychwynnol a/neu’r atgyfeiriad dilynol, dealltwriaeth o anghenion y cleient a lefel yr empathi a ddangoswyd, digonolrwydd y cymorth a roddwyd, dealltwriaeth o’r camau nesaf a/neu atgyfeirio at gymorth arall lle bo hynny’n briodol.

Atodiad 2 – Aelodau’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth

Members

Aelod

Teitl

Sefydliad

Dr Idris Baker (Cadeirydd)

Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Gofal Lliniarol/Diwedd Oes

Bwrdd Gofal Diwedd Oes

Gareth Hewitt

Pennaeth Iechyd Pobl Hŷn

Llywodraeth Cymru

Alison Lott

Uwch Reolwr, Iechyd Pobl Hŷn

Llywodraeth Cymru

John Moss

Arweinydd Profedigaeth Cenedlaethol

Llywodraeth Cymru

Vivienne Collins

Rheolwr Polisi, Iechyd Pobl Hŷn

Llywodraeth Cymru

Gareth Howells

Swyddog Nyrsio

Llywodraeth Cymru

Yr Athro Lesley Bethell

Cadeirydd

Grŵp Llywio Compassionate Cymru

Daisy Shale

Swyddog Arweiniol yr Archwilydd Meddygol

Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol, Cymru

Janette Bourne

Cyfarwyddwr

Gofal Galar Cruse Cymru

Anita Hicks

Arweinydd Clinigol

Elusen Profedigaeth Plant Sandy Bear

Helen French

Cynrychiolydd Hosbiau

Hosbis y Ddinas

Claire Cotter

Cydlynydd Cenedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niwed

Rhaglen Gydweithredol GIG Cymru

Jessica Reeves

Rheolwr Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd

SANDS (Cymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddanedigion)

Jessica Evans

Cynrychiolydd profiad cleifion

Triniaeth Deg i Ferched Cymru

Sue Phelps

Cyfarwyddwr

Alzheimer’s Society

Ian Stevenson

Cadeirydd ac Uwch Nyrs

Grŵp Iechyd a Lles Ysbrydol Cymru Gyfan

Dr Emily Harrop

Cydymaith Ymchwil. Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie.

Prifysgol Caerdydd

Dr Anthony Byrne

Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie.

Prifysgol Caerdydd

Josie Anderson

Rheolwr Ymgyrchoedd a Pholisi

Bliss

Alex Walsby

Uwch Nyrs Profedigaeth

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Rocio Cifuentes

Prif Swyddog Gweithredol

Tîm Cymorth Ieuenctid a Lleiafrifoedd Ethnig Cymru

Melanie Lewis

Cydlynydd Gofal Diwedd Oes

Rhaglen Gydweithredol GIG Cymru

Charity Garnett

Nyrs Gofal Lliniarol Gogledd Powys a Chydlynydd Prosiect Profedigaeth

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Jane Brewin

Prif Swyddog Gweithredol

Tommy’s

Rhian Mannings, MBE

Syflaenydd a Phrif Swyddog Gweithredol

2 Wish upon a Star

Dr Anne Johnson

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Pediatreg Gyffredinol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Liz Gregory

Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Sally Rees

Hwylusydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Trydydd Sector Cenedlaethol

CGGC

Marika Hills

Rheolwr Partneriaeth Strategol, Cymru

Cymorth Canser Macmillan

Yr Athro Stuart Todd

Yr Adran Gwyddorau Bywyd ac Addysg

Prifysgol De Cymru

Dr Karen Pardy

Meddyg Teulu

Clwstwr De Orllewin Caerdydd

Dr Rachel Lee

Meddyg Teulu

Clwstwr De Orllewin Caerdydd

Atodiad 3 – Modelau profedigaeth

Mae’r atodiad hwn yn rhoi enghreifftiau o fodelau a fframweithiau profedigaeth sydd ar waith yn y DU ar hyn o bryd.

3.1 Profedigaeth plant

Mae’r modelau canlynol yn amlinellu’r gwahanol anghenion sydd gan 'y rhan fwyaf o blant' 'rhai plant' ac 'ychydig o blant' a’r ffordd orau o ddiwallu’r anghenion hyn, a chan bwy.

Mae’r Rhwydwaith Profedigaeth Plant, ar y cyd â Biwro Cenedlaethol y Plant, wedi cyhoeddi canllawiau ar sut beth yw darpariaeth dda, yn ogystal â beth yw cymorth o ansawdd uchel.

Mae’r Irish Childhood Bereavement Framework: yn annog oedolion sy’n gofalu am blant mewn profedigaeth i ddeall, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, y gellir cefnogi plant drwy ddarparu gwybodaeth gywir a chefnogaeth emosiynol drwy eu teulu a’u cymuned: Safonau ar gyfer cefnogi plant a phobl ifanc mewn profedigaeth.

3.2 Profedigaeth mewn beichiogrwydd a babanod

Mae’r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gofal mewn Profedigaeth (NBCP) ar gyfer Colli Beichiogrwydd a Cholli Babi yn llwybr i wella’r gofal mewn profedigaeth y mae rhieni yn Lloegr yn ei gael ar ôl colli beichiogrwydd neu golli babi. Lansiwyd naw o safonau gofal mewn profedigaeth NBCP yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth o Golli Plant 2018. Y rhain yw’r sail ar gyfer sefydlu’r rhaglen gyflwyno yn Lloegr.

National bereavement care pathway

National bereavement care pathway - safonau

3.3      Profedigaeth drwy hunanladdiad

Mae datblygu a darparu gwasanaethau cymorth profedigaeth lleol yn adnodd a gynhyrchwyd gan y Gynghrair Atal Hunanladdiad Cenedlaethol a’r Bartneriaeth Cymorth ar ôl Hunanladdiad, a gefnogir gan Public Health England. Mae’r dogfennau hyn yn rhoi arweiniad ar gyfer datblygu a darparu gwasanaethau cymorth profedigaeth lleol, ac arweiniad ar werthuso gwasanaethau profedigaeth lleol.  Adnodd cyffredin a ddefnyddir ledled y DU i gefnogi pobl sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yw ‘Help Llaw’, sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg ar wefan Dewis Cymru.

National suicide prevention alliance

Dewis Cymru

Canllawiau NICE sy’n benodol i brofedigaeth drwy hunanladdiad

Plant sydd mewn profedigaeth trawmatig (UK Trauma Council)

Atodiad 4 - Dolenni i ganllawiau/fframweithiau/dogfennau ategol eraill:

Atodiad 5 – Rhestr termau

Rhestr termau

Termau

Disgrifiad

Anhwylder Straen Wedi Trawma

Mae Anhwylder Straen Wedi Trawma yn gyflwr iechyd meddwl sy’n datblygu ar ôl digwyddiad trawmatig. Mae ei nodweddion yn cynnwys meddwl am y digwyddiad drwy'r amser, trallod/gorbryder drosodd a throsodd, ôl-fflachiau ac osgoi sefyllfaoedd tebyg.

Archwilwyr Meddygol

Mae archwilwyr meddygol yn uwch feddygon sy’n cyflawni dyletswyddau archwilydd meddygol, y tu allan i’w dyletswyddau clinigol arferol. Maen nhw wedi cael eu hyfforddi yn elfennau cyfreithiol a chlinigol prosesau ardystio marwolaethau.

Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus

Mae Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn gwella cydweithio ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru. Rhaid i bob bwrdd gynnal asesiad llesiant a chyhoeddi cynllun llesiant lleol bob blwyddyn. Mae’r cynllun yn nodi sut byddant yn cyflawni eu cyfrifoldebau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol

Mae Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn dod â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector at ei gilydd i ddiwallu anghenion gofal a chymorth pobl yn eu hardal

CORE

Mae’r system Canlyniadau Clinigol mewn Gwerthusiad Rheolaidd (CORE) yn cynnwys offer a syniadau i gefnogi’r gwaith o fonitro newid a chanlyniadau mewn ymarfer arferol ym maes seicotherapi, cwnsela ac unrhyw waith arall sy’n ceisio hybu adferiad seicolegol, iechyd a llesiant.

Galar rhagflaenol

Pan fydd rhywun yn gallu bod mewn galar cyn y farwolaeth, efallai pan dderbynnir diagnosis.

Galar wedi’i ddifreinio

Pan fydd galar rhywun efallai’n aros yn gudd oherwydd ei fod yn teimlo nad yw pobl eraill yn derbyn nac yn cydnabod y galar.

GIG

Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yw'r term ymbarél ar gyfer systemau gofal iechyd y Deyrnas Unedig sy'n cael arian cyhoeddus.

Gweithwyr golau glas

Gwasanaethau brys fel yr heddlu, staff tân ac ambiwlans sy’n defnyddio goleuadau glas sy’n fflachio i naill ai ymateb i alwad frys neu fynd â rhywun i ysbyty.

Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Mae Iaith Arwyddion Prydain (Iaith Arwyddion) yn ffordd weledol o gyfathrebu drwy ddefnyddio ystumiau, mynegiant yr wyneb ac iaith y corff. Mae’n cael ei defnyddio’n bennaf gan bobl sy’n fyddar neu sydd â nam ar eu clyw.

LGBTQ+

Lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsrywiol, cwiar (neu weithiau’n cwestiynu), ac eraill. Mae’r “plws” yn cynrychioli’r hunaniaethau rhywiol eraill gan gynnwys panrywiol a Dau-Enaid.

NBCP

Mae’r Llwybr Cenedlaethol ar gyfer Gofal mewn Profedigaeth (NBCP) yn ceisio cynyddu ansawdd y gofal mewn profedigaeth sy’n cael ei roi i rieni yn Lloegr gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol a lleihau’r anghydraddoldeb yn y gofal hwn.

NICE

Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth (NICE) yn sefydliad sy’n ceisio gwella canlyniadau i bobl sy’n defnyddio’r GIG a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol cyhoeddus eraill drwy gynhyrchu canllawiau sy’n seiliedig ar dystiolaeth a safonau ansawdd a metrigau perfformiad.

Profedigaeth

Mae’n digwydd mewn perthynas â marwolaeth person lle bynnag a phryd bynnag y bydd yn digwydd.