Ymgynghoriad ar y trothwyon incwm ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion
Rydym yn gofyn am eich barn ar y cynnig i ddiweddaru'r trothwyon enillion ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion fel eu bod yn cyd-fynd â’r lefelau incwm presennol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn
Mae Llywodraeth Cymru'n ceisio safbwyntiau ar y cynnig i ddiwygio trothwyon enillion ar gyfer Gorchmynion Atafaelu Enillion (AEO), offeryn a ddefnyddir gan awdurdodau lleol ar gyfer casglu treth gyngor heb ei thalu.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gymwys i Gymru’n unig.
Beth yw gorchymyn atafaelu enillion?
Pan fydd gorchymyn dyled wedi'i roi i awdurdod bilio, gall yr awdurdod gyfarwyddo cyflogwr i adennill treth gyngor heb ei thalu o gyflog cyflogai gan ddefnyddio Gorchymyn Atafaelu Enillion (AEO). Nodir y swm y gall cyflogwyr ei ddidynnu o gyflog cyflogai o dan AEO mewn tablau yn Atodlen 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992. Seilir y ganran a ddidynnir ar lefel enillion net y cyflogai.
Cyd-destun
Nid yw'r trothwyon enillion a ddefnyddir i bennu'r cyfraddau didynnu ar gyfer talu'r dreth gyngor yn adlewyrchu newidiadau diweddar yng nghost byw. Diwygiwyd y tablau ddiwethaf yn 2007, gan Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) (Diwygio) 2007, pan gafodd y trothwyon eu huwchraddio yn unol â'r Mynegai Enillion Cyfartalog (AEI). Roedd hyn yn adlewyrchu cynnydd o 36.5% mewn enillion rhwng mis Ebrill 1998 a mis Ebrill 2006. Ym mis Ionawr 2010, disodlwyd yr AEI gan y mesur Enillion Wythnosol Cyfartalog (AWE), gan ddarparu prif ddangosydd enillion tymor byr.
Dull gweithredu arfaethedig
Er mwyn cadw tegwch yn y system, rydym yn cynnig uwchraddio'r trothwyon fel bod lefel yr enillion a gymerir i ystyriaeth at ddibenion trethi'n adlewyrchu newid mewn termau real. Bydd cynyddu'r terfynau enillion yn amddiffyn talwyr y dreth gyngor sy'n gorfod ildio cyfran uwch o'u hincwm ar hyn o bryd i dalu dyled y dreth gyngor nag a oedd yn wir pan gafodd y trothwyon eu cynyddu ddiwethaf.
Mae data AWE yn nodi cynnydd o 41.8% mewn enillion cyfartalog rhwng mis Ebrill 2006 a mis Mawrth 2021. Mae'r ffigur hwn wedi'i defnyddio i uwchraddio'r trothwyon enillion cyfartalog yn y tablau isod wedi'u talgrynnu i'r £1, £5, £10 agosaf ar gyfer terfynau dyddiol, wythnosol, misol yn eu trefn.
Nid oes gofyniad ar hyn o bryd i'r trothwyon gael eu diweddaru'n rheolaidd. Fel rhan o'r ymgynghoriad hwn byddai o ddiddordeb inni gael safbwyntiau ynghylch a ddylid uwchraddio'r trothwyon fel rhan o'r drefn, ac os felly, pa mor aml.
Gorchmynion Atafaelu Enillion: tablau cymharu (Cyfraddau cyfredol ac arfaethedig ar gyfer trothwyon enillion cyfartalog)
Cyfraddau didynnu ar gyfer enillion misol
Enillion cyfartalog cyfredol | Wedi'u huwchraddio yn ôl enillion cyfartalog | Canran y gyfradd ddidynnu gyfredol ac arfaethedig % (hy ddim newid) |
Heb fod yn fod yn uwch na £300 | Heb fod yn fod yn uwch na £430 | 0 |
£300-£550 | £430-£780 | 3 |
£550-£740 | £780-£1,050 | 5 |
£740-£900 | £1,050-£1,280 | 7 |
£900-£1,420 | £1,280-£2,010 | 12 |
£1,420-£2,020 | £2,010-£2,860 | 17 |
Yn uwch na £2,020 | Yn uwch na £2,860 | 17 am y £2,860 cyntaf, wedyn 50% ar y gweddill |
Cyfraddau didynnu ar gyfer enillion wythnosol
Enillion cyfartalog cyfredol | Wedi'u huwchraddio yn ôl enillion cyfartalog | Canran y gyfradd ddidynnu gyfredol ac arfaethedig % (hy ddim newid) |
Heb fod yn fod yn uwch na £75 | Heb fod yn fod yn uwch na £105 | 0 |
£75-£135 | £105-£190 | 3 |
£135-£185 | £190-£260 | 5 |
£185-£225 | £260-£320 | 7 |
£225-£355 | £320-£505 | 12 |
£355-£505 | £505-£715 | 17 |
Yn uwch na £505 | Yn uwch na £715 |
17 am y £715 cyntaf, wedyn 50% ar y gweddill |
Cyfraddau didynnu ar gyfer enillion beunyddiol
Enillion cyfartalog cyfredol | Wedi'u huwchraddio yn ôl enillion cyfartalog | Canran y gyfradd ddidynnu gyfredol ac arfaethedig % (hy ddim newid) |
Heb fod yn fod yn uwch na £11 | Heb fod yn fod yn uwch na £16 | 0 |
£11-£20 | £16-£28 | 3 |
£20-£27 | £28-£38 | 5 |
£27-£33 | £38-£47 | 7 |
£33-£52 | £47-£74 | 12 |
£52-£72 | £74-£102 | 17 |
Yn uwch na £72 | Yn uwch na £102 | 17 am y £102 cyntaf, wedyn 50% ar y gweddill |
Y camau nesaf
Ar ddiwedd yr ymgynghoriad, byddwn yn ystyried yr holl ymatebion ac a ddylid diwygio'r trothwyon, er mwyn i unrhyw newidiadau deddfwriaethol ddod i rym o 1 Ebrill 2022.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
A ydych yn cytuno â'r bwriad polisi i uwchraddio'r trothwyon enillion a ddefnyddir i bennu'r symiau y gellir eu didynnu trwy orchymyn dyled? Rhowch resymau am eich ymateb.
Cwestiwn 2
A ydych yn cytuno bod y dull gweithredu arfaethedig o uwchraddio'n dull gweithredu priodol ar gyfer pennu'r cyfraddau terfynau enillion newydd? Rhowch resymau am eich ymateb.
Cwestiwn 3
Pa mor aml rydych yn credu y dylai'r trothwyon enillion gael eu huwchraddio? Rhowch resymau am eich ymateb.
Cwestiwn 4
Hoffem wybod eich barn ar yr effeithiau y byddai’r polisi arfaethedig yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Beth fyddai’r effeithiau yn eich barn chi? Sut y byddai modd cynyddu’r effeithiau cadarnhaol, neu liniaru’r effeithiau negyddol?
Cwestiwn 5
Eglurwch hefyd sut rydych chi'n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif neu gynyddu effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 6
Os hoffech godi unrhyw bwyntiau am y mater hwn, manteisiwch ar y cyfle hwn i'w cofnodi yma.
Sut i ymateb
Mae'r cyfnod ymgynghori'n dechrau ar 8 Hydref 2021 ac yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2021. Gwnewch yn siŵr bod eich ymateb yn ein cyrraedd cyn y dyddiad cau.
Cewch gyflwyno'ch sylwadau mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- cwblhau ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb ac e-bostio LGFR.Consultations@llyw.cymru
- lawrlwytho, cwblhau ein ffurflen ymateb a phostio i:
Cangen Polisi'r Dreth Gyngor
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol sy’n cael eu cadw amdanoch chi, ac i gael gweld y data hynny
- i fynnu ein bod yn cywiro gwallau yn y data hynny
- i wrthwynebu neu atal prosesu (mewn rhai amgylchiadau penodol)
- i’ch data gael eu ‘dileu’ (mewn rhai amgylchiadau)
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gofnodi cwyn gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os byddai'n well gennych i'ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym. I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei chadw a sut mae’n cael ei defnyddio, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan y GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data y DU
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymdrin â nhw, neu sy'n cynllunio ymgynghoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o’r ymatebion i’r ymgynghoriad, efallai y bydd trydydd parti achrededig yn cael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn (ee sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghorol). Dim ond o dan gontract y gwneir unrhyw waith o’r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a cadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, caiff enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn eu golygu cyn eu cyhoeddi.
Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau perthnasol
Rhif: WG 43636
Mae'r ddogfen hon ar gael yn Saesneg hefyd. Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd eraill. Os oes arnoch ei hangen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.