Ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi: Ebrill i Mehefin 2021
Y datganiad ystadegol chwarterol ar gyfer Treth Gwarediadau Tirlenwi a gyhoeddir gan Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'r data’n cynnwys y pwysau a’r dreth sy'n ddyledus ar wastraff sy'n cael ei waredu i safleoedd tirlenwi.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif bwyntiau
O ran gwastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi yn y cyfnod Ebrill i Fehefin 2021:
- bu 319 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn yn cynnydd o 29% o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei yrru'n bennaf gan y ffigur chwarterol uchaf a welwyd hyd yma ar gyfer pwysau gwarediadau cyfradd is. Roedd cynnydd llai mewn gwarediadau cyfradd safonol hefyd yn ffactor
- roedd y gwarediadau hyn yn golygu bod £12.0 miliwn o dreth yn ddyledus. Mae’n cynnydd 16% ers yr un cyfnod yn 2020
- efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data. Mae dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Fodd bynnag, mae'r patrwm hwn yn cael ei gymhlethu ymhellach gan effaith coronafirws yn 2020-21
- roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth yn cyfrif 85% yr holl dreth yn ddyledus
- mae 17 o weithredwyr safleoedd tirlenwi awdurdodedig yn cwmpasu 20 safle
Gellir cael mwy o wybodaeth am y gweithredwyr safleoedd tirlenwi hyn ar wefan Awdurdod Cyllid Cymru.
Ynglŷn â’r ystadegau yma
Cyflwyniad o Dreth Gwarediadau Tirlenwi
O fis Ebrill 2018, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn newid y Dreth Tirlenwi yng Nghymru. Rydym, Awdurdod Cyllid Cymru, yn casglu a rheoli’r Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae'r dreth wedi'i llunio a'i gwneud yng Nghymru a bydd y refeniw a gesglir yn cefnogi gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Fel Treth Tirlenwi, mae Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dreth ar waredu gwastraff i dirlenwi a chodir y dreth yn ôl pwysau. Mae gweithredwyr safleoedd tirlenwi yn talu’r treth a maent yn trosglwyddo’r costau hyn i weithredwyr gwastraff eraill drwy eu ffi glwyd.
Diben y dreth yw:
- lleihau faint o wastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi
- annog dulliau llai niweidiol o reoli gwastraff fel ailgylchu a llosgi
Gwerth ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Mae ystadegau Treth Gwarediadau Tirlenwi’n ffynhonnell ddata werthfawr ar lefel y gwastraff sy'n cael ei dirlenwi.
Rhagweld refeniw’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar gyfer Cymru yn y dyfodol yw defnydd pwysig o ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yw. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cynhyrchu rhagolygon TGT i gyd-fynd â chyllidebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Data ar gael dros Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Mae'r holl ddata a ddefnyddir yn y datganiad ystadegol hwn ar gael mewn taenlen ar y dudalen ystadegau cryno.
Mae ddata ar gael hefyd ar wefan StatsCymru.
Tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau
Gwelwch y datganiad ystadegol hwn dylai defnyddwyr gyfeirio at y tudalennau rhestr termau a’r gwybodaeth allweddol am ansawdd a gyhoeddir ar wahân:
- rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termaufel y’u defnyddir yn y datganiad
- mae ein tudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd
Diwygiadau i ystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Mae'r amcangyfrifon chwarterol yn y datganiad hwn yn seiliedig ar y cyfnod cyfrifyddu o dri mis diweddaraf ar gyfer pob gweithredwr safle tirlenwi. Gall pob ffurflen Treth Gwarediadau Tirlenwi yn dilysu fel rhan o waith lliniaru ac adfer a wneir fel mater o drefn gan Awdurdod Cyllid Cymru ac a all, o’r herwydd, gael ei ddiwygio yn y dyfodol.
Yn yr adran ganlynol, rydym yn disgrifio y dulliau yr ydym yn defnyddio i ganfod yr ystadegau o’r data a ddarparwyd yn y ffurflenni.
Dulliau a ddefnyddiwyd yn y datganiad hwn
Cyfnodau cyfrifyddu
Mae gan y rhan fwyaf o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru yn defnyddio cyfnodau cyfrifyddu safonol. Mae'r rhain yn cyd-fynd â diwedd ein chwarteri adrodd.
Mae nifer fach o weithredwyr safleoedd tirlenwi yn defnyddio dyddiadau dechrau a gorffen gwahanol ar gyfer adrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Rydym yn egluro yma sut yr ydym yn ymdrîn â’r mater hwn wrth gynhyrchu amcangyfrifon ar gyfer y chwarteri adrodd cyfredol a blaenorol.
Yn yr eisampl yn ddangos yr isod:
- mae gan Weithredwr 1 gyfnod cyfrifyddu safonol
- mae Gweithredwr 2 wedi cytuno ar gyfnod cyfrifyddu gwahanol gydag Awdurdod Cyllid Cymru. Mae amser cychwyn a gorffen yn wahanol i’n chwarteri adrodd yn ôl safonol
A + B: Defnyddir dwy ran o dair o’r ffurflen flaenorol ac un ran o dair o’r ffurflen ddiweddaraf i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter blaenorol.
C: Caiff cyfran y ffurflen sy’n rhoi sylw i’r cyfnod diweddaraf ei chodi i roi amcangyfrifon ar gyfer y chwarter cyfredol. Mae’r codi’n digwydd ar sail pro rata o ran nifer y dyddiau yn y chwarter presennol sy’n berthnasol i’r ffurflen.
Rhyddhad a disgowntiau
Pan gyfeirir at wastraff gan nodi ei fod wedi derbyn rhyddhad, mae gweithredwyr y safleoedd tirlenwi yn gofnodi’n wreiddol hyn fel gwastraff lefel is yna’i dynnu i ffwrdd mewn rhan ddilynol o’r ffurflen. Mae’r datganiad hwn yn adrodd ar y gwastraff sy’n cael rhyddhad o fewn y categori rhyddhad neu ddisgownt ond nid yn rhan o’r categori cyfradd is. Hefyd, mae pwysau unrhyw wastraff y rhoddwyd disgownt mewn perthynas ag ef oherwydd disgownt dŵr wedi’i gynnwys yn y categori rhyddhad neu ddisgownt yn unig.
Gwarediadau heb awdurdod
Does dim data ar gael eto ar warediadau heb awdurdod. Byddwn yn cadw’r hyn dan adolygiad. Pan fydd gennym ddigon o ddata, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein dull o gyhoeddi gwybodaeth am warediadau heb awdurdod.
Ansolfedd cwsmer
Mae’r system Treth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu rhoi credyd yn erbyn y dreth sy’n ddyledus ar gyfer ansolfedd cwsmer. Mae hyn pan fydd cwsmer gweithredwr safle tirlenwi wedi mynd allan o fusnes ac yn methu â thalu'r gweithredwr am y gwastraff a gafodd ei waredu i dirlenwi.
Yn flaenorol, cafodd swm bychan iawn o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr yn ystod chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2018. Fodd bynnag, gwrthododd Awdurdod Cyllid Cymru y cais hwn ac roedd treth yn ddyledus ar y swm hwn.
Cafodd swm bach o gredyd ei hawlio gan un gweithredwr ar gyfer y chwarter adrodd Gorffennaf i Fedi 2019. Cymeradwyodd Awdurdod Cyllid Cymru yr hawliad. Yn y datganiad ystadegol hwn, rydym wedi tynnu y swm wedi’I hawlio o gyfanswm y dreth sy’n ddyledus.
Gwarediadau esempt
Gall rhai enghreifftiau o waredu deunyddiau gael eu hystyried yn esempt rhag Dreth Gwarediadau Tirlenwi ac felly ni fyddant yn cael eu hadrodd i Awdurdod Cyllid Cymru. Nid ydym yn casglu data ar y gwarediadau esempt hyn.
Dadansoddiad
Cyfraddau treth sy’n berthnasol i Dablau 1a a 1b
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfraddau sy'n cyfateb i'r rhai yng ngweddill y DU ar gyfer 2018-19 i 2021-22.
Cyfradd safonol | Cyfradd is | Cyfradd gwarediadau heb eu hawdurdodi (ddim yn Nhablau 1a a 1b) |
|
---|---|---|---|
2018-19 | £88.95 y dunnell | £2.80 y dunnell | £133.45 y dunnell |
2019-20 | £91.35 y dunnell | £2.90 y dunnell | £137.00 y dunnell |
2020-21 | £94.15 y dunnell | £3.00 y dunnell | £141.20 y dunnell |
2021-22 | £96.70 y dunnell | £3.10 y dunnell | £145.05 y dunnell |
Tabl 1a: Pwysau o wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]
Rhyddhad neu ddisgownt [3] (r) | Cyfradd is (r) | Cyfradd safonol | Cyfanswm [4] | ||
---|---|---|---|---|---|
2019-20 | 142 | 427 | 392 | 962 | |
Ebr-Meh | 32 | 106 | 110 | 248 | |
Gor-Med | 23 | 139 | 116 | 277 | |
Hyd-Rhag | 31 | 95 | 80 | 206 | |
Ion-Maw | 56 | 87 | 87 | 230 | |
2020-21 | 141 | 521 | 323 | 984 | |
Ebr-Meh | 46 | 84 | 54 | 184 | |
Gor-Med | 42 | 139 | 104 | 285 | |
Hyd-Rhag | 30 | 164 | 90 | 284 | |
Ion-Maw | 23 | 134 | 74 | 231 | |
2021-22 hyd yn hyn (p) | 24 | 177 | 119 | 319 | |
Ebr-Meh (p) | 24 | 177 | 119 | 319 |
Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)
Nodiadau
[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2] Mae’r pwysau a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r 1,000 tunnell agosaf.
[3] Mae hyn yn cynnwys pwysau dŵr a dynnwyd o wastraff a waredwyd, ar gyfradd sero, a phwysau’r holl wastraff sy’n destun unrhyw ryddhad Treth Gwarediadau Tirlenwi.
[4] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[5] Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
(p) Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r) Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Sylwadau ar Dabl 1a
Yn Ebrill i Fehefin 2021, roedd 319 mil tunnell o warediadau awdurdodedig. Mae hyn 29% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019. Rydym yn cymharu â 2019 ac nid 2020 oherwydd effeithiau’r coronafeirws (COVID-19) yn y flwyddyn honno.
O fewn y cyfanswm hwn, y 177 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd is oedd y ffigur chwarterol uchaf a welwyd hyd yma. Mae hyn yn rhannol oherwydd cynnydd mewn busnes mewn rhai gweithredwyr safleoedd tirlenwi.
Yn Ebrill i Fehefin 2021, roedd 119 mil tunnell o warediadau ar y gyfradd safonol. Mae hyn 8% yn uwch na'r un cyfnod yn 2019. Mae'n bosibl bod gwarediadau cyfradd safonol yn dychwelyd i'r patrymau tymhorol a welwyd cyn i bandemig COVID-19 ddechrau. Fodd bynnag, bydd angen i ni aros am chwarteri pellach o ddata i asesu hyn.
Tabl 1b: Treth ddyledus ar wastraff a waredwyd i safleoedd tirlenwi [1] [5]
Cyfradd is (r) | Cyfradd safonol | Cyfanswm [3] | Swm y dreth a ryddhawyd [4] (r) | ||
---|---|---|---|---|---|
2019-20 | 1.2 | 35.8 | 37.0 | 0.3 | |
Ebr-Meh | 0.3 | 10.0 | 10.3 | 0.1 | |
Gor-Med | 0.4 | 10.5 | 10.9 | ~ | |
Hyd-Rhag | 0.3 | 7.3 | 7.6 | 0.1 | |
Ion-Maw | 0.3 | 7.9 | 8.2 | 0.1 | |
2020-21 | 1.6 | 30.4 | 31.9 | 0.3 | |
Ebr-Meh | 0.3 | 5.1 | 5.4 | 0.1 | |
Gor-Med | 0.4 | 9.8 | 10.2 | 0.1 | |
Hyd-Rhag | 0.5 | 8.5 | 9.0 | 0.1 | |
Ion-Maw | 0.4 | 7.0 | 7.4 | ~ | |
2021-22 hyd yn hyn (p) | 0.5 | 11.5 | 12.0 | 0.1 | |
Ebr-Meh (p) | 0.5 | 11.5 | 12.0 | 0.1 |
Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn ôl cyfnod adrodd, cyfradd treth a mesur ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)
Nodiadau
[1] Nid yw’r tabl hwn yn cynnwys unrhyw wybodaeth am warediadau heb awdurdod gan nad oes unrhyw ddata ar gael eto.
[2] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf
[3] Mae’r cyfanswm a gyflwynwyd wedi’i gyfrifo ar sail y gwerthoedd heb eu talgrynnu.
[4] Dyma’r gostyngiad mewn treth o ganlyniad i'r ceisiadau am ryddhad. Nid yw'r swm yn cynnwys unrhyw elfen am ddisgownt dŵr, nad yw’n cael ei drethu.
[5] Nid yw'r tabl yn cynnwys nifer fach o ddiwygiadau i ffurflenni treth a dderbyniwyd gennym. Mae hyn oherwydd ein bod yn asesu'r risg o ddatgelu gwybodaeth am drethdalwr unigol.
(p) Mae'r gwerthoedd yn rhai dros dro a byddant yn cael eu diwygio mewn cyhoeddiad yn y dyfodol.
(r) Mae'r gwerthoedd wedi cael eu diwygio yn y cyhoeddiad hwn.
Sylwadau ar Tabl 1b
Arweiniodd y gwarediadau hyn ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021 at £12.0 miliwn o dreth yn ddyledus. Dyma'r ffigur chwarterol ail uchaf a welwyd hyd yma ac mae'n cynrychioli cynnydd o 16% o'r un cyfnod yn 2019. Mae hwn yn newid mwy na'r codiad o 8% a welwyd ym mhwysau gwarediadau rhwng y cyfnodau hyn, oherwydd y codiadau blynyddol mewn cyfraddau treth.
Efallai bod tystiolaeth o batrwm tymhorol yn y data, gyd dyddiau byrrach misoedd y gaeaf yn ffactor o bosib. Yn y dyfodol, efallai y byddwn yn gallu cadw’r effeithiau yma ar wahan i’r tueddiadau mwy cyffredinol yn y data. Ond byddwn angen gwerth sawl blwyddyn o ddata cyn i hynny fod yn bosibl, ac mae effaith coronafeirws (COVID-19) bellach yn gymhlethdod ychwanegol yn hyn o beth.
Ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021, roedd y pum gweithredwr safle tirlenwi oedd yn talu’r swm mwyaf o dreth i gyfrif am 85% yr holl dreth a dalwyd. Mewn cyfnodau o dri mis cyn hyn, mae'r ffigur wedi amrywio rhwng 80-90%.
Mae’r gwerth ar gyfer swm y dreth a ryddhawyd yn cynrychioli faint o dreth fyddai wedi bod yn ddyledus pe nad fyddai’r rhyddhad wedi’i ganiatáu.
Derbyniadau o Dreth Gwarediadau Tirlenwi
Mae Tabl 2 isod yn dangos derbyniadau chwarterol ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn seiliedig ar y dyddiad y cafwyd y taliad, a elwir yn 'ar sail arian parod' weithiau.
Tabl 2: Treth Gwarediadau Tirlenwi a dalwyd i Awdurdod Cyllid Cymru [1]
Gwerth taliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (£ miliwn) | ||
---|---|---|
2019-20 | 37.2 | |
Ebr-Meh | 9.2 | |
Gor-Med | 10.1 | |
Hyd-Rhag | 10.9 | |
Ion-Maw | 7.1 | |
2020-21 | 33.9 | |
Ebr-Meh | 2.5 | |
Gor-Med | 9.9 | |
Hyd-Rhag | 11.6 | |
Ion-Maw | 10.0 | |
2021-22 hyd yn hyn (p) | 8.6 | |
Ebr-Meh | 8.6 |
Ystadegau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi ar dreth a dalwyd, ar StatsCymru (yn cynnwys data ar gyfer 2018-19, heb ei gyflwyno uchod)
Nodiadau
[1] Mae’r gwerthoedd a gyflwynwyd wedi’u talgrynnu i’r £0.1 miliwn agosaf.
Sylwadau ar Tabl 2
Yn Ebrill i Fehefin 2021, cawsom £8.6 miliwn o daliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi. Mae hyn yn 6% yn is na'r un cyfnod yn 2019. Fel mewn tablau cynharach, rydym yn cymharu hyn â 2019 ac nid 2020 oherwydd effeithiau’r coronafirws (COVID-19) y flwyddyn honno.
Mae'r tueddiadau yn y data yma ychydig yn arferol wahanol i'r data treth sy'n ddyledus. Mae hyn oherwydd bod yr union gyfnodau cyfrifyddu y cytunwyd arnynt gyda'r gweithredwyr Treth Gwarediadau Tirlenwi a'r dyddiadau talu sy'n deillio o hynny yn dylanwadu ar y tueddiadau yma. Gall hyn olygu bod taliadau’n disgyn mewn gwahanol chwarteri i'r gweithgareddau perthnasol. Fel rheol gyffredinol, mae ffigurau derbyniadau arian parod yn cyd-fynd yn fras â'r cyfanswm sy'n ddyledus ar gyfer y chwarter blaenorol.
Dolenni i’r tudalennau gwybodaeth allweddol am ansawdd a rhestr termau
Mae'r dudalen gwybodaeth allweddol am ansawdd yn disgrifio sut mae eing hystadegau’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn bodloni'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau ynghyd â dimensiynau gwerth, dibynadwyedd ac ansawdd.
Rydym yn diffinio termau perthnasol yn y rhestr termau fel y’u defnyddir yn y datganiad.
Adborth a manylion cyswllt
Byddem yn ddiolchgar iawn o’ch adborth ar yr ystadegau hyn, er mwyn ein helpu i'w gwella. Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r manylion isod.
Ystadegydd: Dave Jones
Rhif ffôn: 03000 254 729
E-bost: data@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 03000 254 770
E-bost: newyddion@acc.llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.