Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn helpu i greu, adfer ac yn ehangu coetiroedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Awst 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Bydd y Grant Buddsoddi mewn Coetir yn darparu cyllid i greu, adfer a gwella coetiroedd. Mae’n rhan o’r rhaglen Coedwig Cenedlaethol i Gymru.

Cafodd y rhaglen ei hariannu ar y cyd gennym ni a Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol.

Bu’r rhaglen yn darparu cymorth ariannol i bobl:

  • greu coetiroedd newydd
  • gwella ac ehangu coetiroedd presennol

yn unol â Safon Coedwigaeth y DU.

Rhaid bod gan y coetiroedd hyn botensial i fod yn rhan o rwydwaith y Goedwig Genedlaethol yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu coetiroedd sy'n:

  • cael eu rheoli'n dda
  • yn hygyrch i bobl
  • yn rhoi cyfle i gymunedau lleol gyfrannu at goetiroedd a natur

Nodweddion allweddol

Cynigiodd y cynllun:

  • grantiau rhwng £40,000 – £250,000 (gan ystyried prosiectau eithriadol sy’n costio mwy)
  • hyd at 100% o gyllid
  • hyd at 2 flynedd i gyflawni’r prosiect
  • cyllid cyfalaf a refeniw
  • cyllid y gellid ei gyfuno â mathau eraill o grantiau a ffynonellau cyllido,
  • cyngor a chymorth i gynllunio eich prosiect a sut i ymgeisio

Roedd y cynllun yn agored i berchnogion tir a rheolwyr gan gynnwys sefydliadau dielw.

Gallwch ddod o hyd i fwy o fanylion yn: Y Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) ( ar Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol).

Rhagor o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: CoedwigGenedlaetholCymru@llyw.cymru.