Canllawiau ar greu cynnwys clir a hawdd eu deall ar gyfer gwasanaethau ac offerynnau LLYW.CYMRU.
Cynnwys
Byddwch mor glir a chryno â phosib a defnyddiwch yr un iaith â'ch defnyddwyr. Mae hyn yn helpu:
- lleihau faint o amser yr ydych yn delio gyda chamgymeriadau
- gwneud yn siŵr bod eich gwasanaeth yn gynhwysol ar gyfer pobl sy'n cael trafferth darllen neu sydd heb fawr o Gymraeg neu Saesneg
- gwneud eich gwasanaeth yn hygyrch
Defnyddiwch enw hawdd ei ddeall a'i ddefnyddio ar gyfer eich gwasanaeth
Mae'n arbennig o bwysig dewis enw hawdd ei ddeall a'i ddefnyddio ar gyfer eich gwasanaeth. Os yw eich teitl yn defnyddio ieithwedd eich defnyddwyr, byddant yn gallu dod o hyd i'ch gwasanaeth a dell beth mae'n gwneud.
Gallwch anwybyddu rheolau gramadeg llym os yw hyn yn gwneud pethau'n gliriach.
Meddyliwch am opsiynau gwahanol cyn ychwanegu mwy o eiriau
Ar y we mae pobl yn dueddol o sganio yn hytrach na darllen. Mae hyn hyd yn oed yn fwy gwir pan fyddant yn defnyddio gwasanaeth drafodiadol.
Felly dechreuwch gyda llai. Os ydych yn creu ffurflen, dechreuwch gyda chwestiynau syml ac ychwanegwch destun help os yw'r ymchwil defnyddwyr yn dangos bod ei angen.
Dylech ddylunio eich gwasanaeth neu offeryn i ystyried na fydd nifer o bobl yn darllen y cynnwys yn fanwl. Er enghraifft, gofynnwch gwestiynau i sefydlu cymhwysedd, yn hytrach na rhoi rhestr hir o amodau cymhwysedd ar y dudalen gyntaf.
Os ydych yn gorfod esbonio sut mae'r rhyngwyneb defnyddiwr yn gweithio, mae'n amlwg bod rhywbeth o'i le. Trwsiwch y rhyngwyneb fel nad oes angen ei esbonio.
Cadwch y copi'n fyr ac uniongyrchol
Rhannwch y copi i frawddegau byrion. Un syniad i bob brawddeg. Rhowch y geiriau pwysig yn gyntaf, gadewch unrhyw eiriau diangen allan.
Er enghraifft, os ydych yn ysgrifennu testun cymorth does dim angen dweud 'Dyma gyfanswm y gost' fel arfer. Rhowch 'Cyfanswm cost'. Os ydych yn ysgrifennu neges gwall, peidiwch â rhoi 'Rydych wedi rhoi'r cyfrinair anghywir'. Rhowch 'Cyfrinair anghywir'.
Fel arfer, does dim angen i chi ddefnyddio'r gair 'nawr'. Er enghraifft, rhowch 'ymgeisiwch' yn hytrach na 'ymgeisiwch nawr' (heblaw eich bod yn rhoi dau ddewis i'r defnyddiwr: ymgeisio nawr neu ymgeisio wedyn).
Tôn
Byddwch yn gyfeillgar a defnyddiol, ond peidiwch â bod yn rhy gyfarwydd. Cofiwch mai'r llywodraeth sy'n 'siarad'.
Ymddiheurwch os yw rhywbeth mawr wedi mynd o'i le, er enghraifft, os yw'r gwasanaeth wedi peidio â gweithio’n gyfan gwbl. 'Ymddiheuriadau, mae problem dechnegol. Rhowch gynnig eto mewn ychydig funudau.'
Does dim angen ymddiheuro mewn negeseuon gwall dilysu.
Fel arfer does dim angen dweud 'os gwelwch yn dda' na 'nodwch'.
Fel arfer does dim angen dweud diolch. Er enghraifft, mae'n iawn dweud 'Cais wedi ei gwblhau' yn hytrach na 'Diolch am eich cais'.
Osgowch bethau fel negeseuon gwall doniol. Mae pobl yn aml yn defnyddio gwasanaethau llywodraeth ar gyfer pethau difrifol neu pan eu bod dan bwysau.
Os nad yw pobl yn sylwi ar eich copi, rydych chi'n ei ysgrifennu'n gywir.
Byddwch yn gynhwysol
Ni ddylid defnyddio siâp, maint, lliw na lleoliad ei ddefnyddio ar ei ben ei hun i gyfathrebu gwybodaeth, gan na fydd pob defnyddiwr yn rhannu'r pwyntiau cyfeirio hynny. Mae esiamplau’n cynnwys:
- ‘cliciwch y botwm gwyrdd’
- 'defnyddiwch y gwymplen ar y chwith'
- 'mwy o wybodaeth yn y blwch sgwâr'
Defnyddiwch benawdau i rannu tudalennau hirion. Mae'n ei gwneud yn haws sganio a darllen. Dylai penawdau ddisgrifio diben y testun sy'n ei ddilyn. Ni ddylai fod yn rhan o'r testun.
Yn aml mae defnyddwyr darllenydd sgrin yn darllen rhestrau o ddolenni heb gyd-destun, felly gwnewch ddiben y ddolen yn glir o destun y ddolen yn unig. Er enghraifft, nid yw 'cliciwch yma' yn destun dolen hygyrch.
Weithiau bydd yn rhaid i chi fyrhau testun dolen i osgoi dyblygu. Os gwnewch chi hynny, gwnewch yn siŵr bod eich dolenni yn hygyrch i ddarllenydd sgrin.
Arddull
Dilynwch ganllaw arddull LLYW.CYMRU ar sut i ysgrifennu amseroedd a dyddiadau, sillafiadau, atalnodi, acronymau a chonfensiynau eraill.
Penawdau a theitlau <title>
Mae'n iawn cael penawdau fel cwestiynau. Gall helpu gael gwared ar ddyblygu.
Ond cofiwch wneud yn siŵr fod gan bob blwch testun, set o fotymau radio neu feysydd mewnbwn, gwestiwn yn gysylltiedig iddo yn yr html, fel ei fod yn gwneud synnwyr i ddarllenwyr sgrin. Er enghraifft gan ddefnyddio tagiau <legend> neu <label>.
Dylai pob tudalen gael un <h1>. Dylai'r <h1> ddisgrifio beth mae'r dudalen yn ei wneud.
Dylai'r tag <title> fod wedi ei seilio ar yr <h1>, a dilyn y fformat yma:
Darganfod sut mae cyfradd Gymreig treth incwm yn cael ei wario yng Nghymru | LLYW.CYMRU
Rhagenwau (ni, chi/ti, fi, fy)
Mae ffurflenni fel sgwrs rhwng y gwasanaeth a'r defnyddiwr.
Os mai'r gwasanaeth sy'n 'siarad' yna 'chi' neu 'eich' yw'r defnyddiwr (nid 'ti' na 'dy'), a'r gwasanaeth yw 'ni' ac 'ein' ac yn y blaen.
Os mai'r defnyddiwr sy'n 'siarad' defnyddiwch 'fi' neu 'fy' ac ati.
Mae hyn yn berthnasol ar gyfer meicro-gopi, gan gynnwys penawdau, labeli mewnbwn a thestun dolenni.
Defnyddiwch 'nhw' yn hytrach na 'fe neu hi' neu 'fe/hi'. Mae'n haws, ac yn gweithio ar gyfer pobl nad ydynt yn uniaethu fel dyn neu fenyw.
Priflythrennau ac atalnodi
Defnyddiwch briflythyren ar ddechrau brawddeg yn unig, heblaw ar gyfer enwau.
Mae penawdau a labeli meysydd mewnbwn yn cychwyn gyda phrif lythyren, ond does dim atalnod ar y diwedd. Ysgrifennwch unrhyw gopi arall mewn brawddegau llawn, gydag atalnod llawn ar y diwedd.
Acronymau
Rhaid i chi esbonio talfyriad neu acronym yn llawn y tro cyntaf i chi ei ddefnyddio ar bob tudalen, heblaw ei fod yn un cyffredin fel y DU, y GIG neu'r BBC. Mae hyn yn cynnwys adrannau neu gynlluniau'r llywodraeth. Yna cyfeiriwch ato gan y blaenlythrennau.
URLs
Gwnewch yn siŵr bod eich URLs yn glir a darllenadwy. Bydd hyn yn helpu defnyddwyr i ddeall ble maen nhw o fewn y gwasanaeth.
Peidiwch â chynnwys gwybodaeth bersonol (fel enw neu ddyddiad geni defnyddiwr) ym maes <title> URL, dydych chi ddim am iddo ymddangos yn analyteg eich safle.
Cynnwys cyfreithiol
Dylai iaith fod mor syml â phosibl i ddeall, gan gynnwys polisïau preifatrwydd a datganiadau. Mae esbonio hawliau defnyddwyr a rhwymedigaethau yn glir yn arfer cyfreithiol da, yn ogystal â bod yn dda ar gyfer pa mor hawdd yw i'w ddefnyddio.