Mae pobl sy’n berchen ar ffuredau ac aelodau eraill teulu’r wenci (Mustelinae) yng Nghymru’n cael eu hannog i ymuno â chofrestr wirfoddol newydd all helpu i atal lledaeniad y feirws sy’n achosi COVID-19 ac i gael cyngor ar sut i gadw eu hanifeiliaid a nhw eu hunain yn ddiogel.
Yn Hydref 2020 yn Nenmarc, gwelwyd bod mincod yn gallu heintio pobl â SARS-CoV-2, y feirws sy’n achosi COVID-19. Er bod ffermio mincod wedi’i wahardd yn y DU, rydym yn gwybod bod anifeiliaid eraill yn nheulu’r wenci, fel ffuredau, yn gallu dal SARS-CoV-2.
Mae ymchwil wedi dangos hefyd bod amrywiolion newydd yn gallu ymddangos mewn ffuredau ac aelodau eraill y teulu a lledaenu’r haint o fewn eu rhywogaeth.
I helpu perchenogion, mae Cofrestr Ffuredau (a Mustelinae eraill) Prydain Fawr yn agor heddiw a bydd y rheini sy’n ymuno â hi yn cael cyngor a gwybodaeth oddi wrth Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA), yn arbennig ynghylch sut i ddelio ag achosion o COVID-19 mewn ffuredau a Mustelinae dof eraill.
Cofrestr wirfoddol yw hi ar hyn o bryd, ar gyfer perchenogion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Cymru, Christianne Glossop:
“Bydd y gofrestr hon yn bwysig ar gyfer diogelu iechyd pobl os bydd amrywiolion newydd o SARS-CoV-2, y feirws sy’n achosi COVID-19, yn ymddangos yn yr anifeiliaid hyn.
“Mesur rhagofalus yw hwn, i ni allu rhoi cyngor yn gyflym i berchenogion os bydd angen. Trwy ymuno â hi, bydd perchenogion yn cael gwybod sut i leihau’r risg o ledaenu’r feirws, i’w ffuredau ac iddyn nhw eu hunain. Bydd yn ein helpu hefyd i ddysgu mwy am y ffuredau sy’n cael eu cadw yng Nghymru.
“Rwy’n annog pawb sy’n cadw ffuredau ac anifeiliaid fel ffwlbartiaid, carlymod, mincod a hybridau ohonynt i ymuno â’r gofrestr.”
Gall perchenogion ffuredau ac aelodau eraill teulu’r wenci yng Nghymru gofrestru trwy fynd i: Cyngor i berchnogion anifeiliaid anwes: coronafeirws (COVID-19)