Canllawiau ar enwi eich gwasanaeth neu declyn ar LLYW.CYMRU.
Mae’r enw a ddewiswch ar gyfer eich gwasanaeth neu eich offeryn yn bwysig i’w lwyddiant.
Drwy ddewis yr enw cywir, gall defnyddwyr:
- ddod o hyd i’ch gwasanaeth yn haws wrth chwilio ar-lein
- deall beth mae eich gwasanaeth yn ei wneud a phenderfynu’n hawdd a ydynt am ei ddefnyddio
Pryd i enwi eich gwasanaeth neu offeryn
Dylech geisio enwi eich gwasanaeth neu eich offeryn erbyn diwedd y cyfnod darganfod. Erbyn y cam hwn dylech fod wedi:
- diffinio’r broblem rydych yn ceisio’i datrys
- dysgu mwy am gyd-destun y dasg mae eich defnyddwyr yn ceisio ei gwneud
Sut i enwi eich gwasanaeth neu eich offeryn
Mae enwau gwasanaethau neu offerynnau da yn:
- defnyddio’r geiriau y mae defnyddwyr yn eu defnyddio
- seiliedig ar ddadansoddeg ac ymchwil defnyddwyr
- disgrifio tasg, nid technoleg
- nid oes angen ei newid pan fydd polisi neu technoleg yn newid
- yn ferfau
- nid ydynt yn cynnwys enwau adrannau’r llywodraeth neu asiantaethau
- nid ydynt yn cael eu gyrru gan frand nac yn canolbwyntio ar farchnata
Problemau wrth enwi eich gwasanaeth
Os ydych yn cael trafferth enwi eich gwasanaeth, efallai nad ydych wedi creu cwmpas eich gwasanaeth yn gywir. Yn yr achos hwn, dylech adolygu eich anghenion defnyddiwr a chynnal ymchwil ar y dasg y mae defnyddwyr yn ceisio ei wneud.
Efallai y byddwch am ymestyn neu leihau cwmpas eich gwasanaeth os yw’n cynnwys sawl gwasanaeth cysylltiedig (er enghraifft, os yw’n wasanaeth treth neu grant).
Enghreifftiau o enwau gwasanaeth neu offeryn
Gallwch ddefnyddio’r enwau rhain fel enghreifftiau da o enwau gwasanaethau:
- Gwneud cais am Fathodyn Glas neu adnewyddu
- Dod o hyd i brentisiaeth
Gallwch weld sut mae’r enw’n perfformio
Dylech edrych sut mae enw eich gwasanaeth neu offeryn yn perfformio cyn ac ar ôl mynd yn fyw.
Defnyddio ymchwil a phrofi
Dylech ddefnyddio ymchwil a phrofion i wneud yn siŵr bod yr enw’n galluogi defnyddwyr i wybod yn gyflym beth mae’r gwasanaeth yn ei wneud.
Gallwch ddefnyddio tree testing (ar Wikipedia) i weld os yw defnyddwyr yn gallu:
- llywio o hafan at eich gwasanaeth
- gwahaniaethu rhwng eich gwasanaeth chi a gwasanaethau cysylltiedig eraill
Edrych ar dermau chwilio
Dylech edrych ar ddata chwilio i weld pa dermau y mae defnyddwyr yn chwilio amdanynt sy’n ymwneud â’ch gwasanaeth chi.
Defnyddio metrigau
Gallwch edrych ar fertigau i gael syniad o sut mae enw gwasanaeth yn perfformio. Er enghraifft, gallwch weld:
- faint sydd wedi edrych ar y dudalen o chwiliadau organig
- cyfradd clicio at fotwm ‘cychwyn;
- faint o chwiliadau allanol a geir ar gyfer yr hen enw a’r enw newydd
- nifer is o chwiliadau ar y dudalen am y gwasanaeth
- nifer y defnyddwyr sy’n cysylltu i ofyn ‘Sut ydw i yn...?’